Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

Archif Newyddion

Gyrwyr

Alcohol: Mwy o brofi gyrwyr
5/8/09

North Wales Breath Test Mae un o heddluoedd Cymru wedi cynnal 20,772 o brofion anadl ar bobl mewn mis gan rybuddio'r cyhoedd eu bod yn targedu'r rhai sy'n yfed a gyrru a hynny yn "ddidostur". Mae Heddlu Gwent wedi mabwysiadu profion sylweddol i ganfod y rhai sy'n gyrru o dan ddylanwad diod ac alcohol.


Ym mis Mehefin eleni cafodd 18,817 yn fwy o yrwyr eu stopio na'r un cyfnod y llynedd ac roedd 124 o bobl (0.59%) yn bositif.
Dywedodd y llu bod hyn wedi arwain at 54% yn llai o ddamweiniau ar y ffordd.
Mae cymdeithas foduro'r RAC yn cefnogi'r profion.
Profion bob dydd
Yn ystod y mis roedd bob un o heddluoedd Cymru wedi gweld cynnydd yn y nifer o brofion.
O'r 35,347 o yrwyr gafodd brofion gan y pedwar llu, roedd 651 yn bositif neu wedi gwrthod neu fethu rhoi sampl.


Yn ystod yr ymgyrch eleni:
Yn ardal Heddlu De Cymru cafodd 4,188 o brofion eu cynnal gyda 283 yn bositif (6.75%)
Yn ardal Heddlu Gwent cafodd 20,772 o brofion eu cynnal gyda 124 yn bositif (0.59%)
Yn ardal Heddlu Dyfed-Powys cafodd 3,426 o brofion eu cynnal gyda 119 yn bositif (3.47%)
Yn ardal Heddlu Gogledd Cymru cafodd 6,961 o brofion eu cynnal gyda 125 yn bositif (1.79%)


Heddlu Gwent oedd wedi stopio'r nifer mwya o yrwyr gan ddweud bod hyn yn ddull newydd o brofi lle'r oedd gyrwyr yn cael eu stopio ar bob ffordd ac eithrio'r M4 yn yr ardal, drwy'r dydd, bob dydd.
"Rydym yn gwneud mwy o brofion yn rheolaidd, drwy'r dydd," meddai llefarydd.
"Mae'n ymgyrch amlwg ac mae'n ymddangos ei fod yn gweithio.
"Ym mis Mehefin fe wnaethom stopio mwy o yrwyr nag erioed o'r blaen.
"Dwi'n credu bod y ffaith bod gyrwyr yn gweld eraill yn cael eu stopio yn gwneud iddyn nhw ailfeddwl."
Gweld gwahaniaeth
Fe wnaeth mwyafrif o'r 20,722 o yrwyr gymryd prawf yn wirfoddol gan addo dweud wrth ffrindiau a chyd-weithwyr.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Mick Giannasi ei fod yn gweld budd o'r ymgyrch eisoes.
"Mae 'na ostyngiad o bron i hanner yn nifer y gwrthdrawiadau,"
"Yn ystod yr ymgyrch ym mis Mehefin dim ond 151 o wrthdrawiadau fu ar ffyrdd Gwent o'u cymharu â 326 dros yr un cyfnod y llynedd."
Dywedodd yr RAC eu bod yn cefnogi'r ymgyrch i leihau nifer y rhai sy'n yfed a gyrru.
"Eleni, mae'r hyn mae Heddlu Gwent wedi ei wneud i brofi dros 20,000 o yrwyr wedi bod yn llwyddiant," meddai llefarydd.
"Does 'na ddim llawer wedi mentro yfed a gyrru ac mae'r RAC yn gobeithio y bydd hyn yn adlewyrchu yn nifer y damweiniau."
Y lefel cyfreithiol ucha o alcohol wrth yrru yw 35mg mewn 100ml o anadl.
Yn ystod ymgyrch yr haf y llynedd cafodd 12,085 o yrwyr eu profi drwy Gymru gyda 507 yn bositif ac yn 2007, cafodd 7,970 o bobl eu profi.


Cyfle Gwych i Brentisiaid!

24/7/09

Pass Plus Cymru ChevronRhoddwyd cyfle i griw o brentisiaid Chevron i wella eu sgiliau gyrru. Gyda chymorth Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Penfro fe fu'r 37 o brentisiaid yn cymryd rhan mewn cwrs gyrru uwch fel rhan o wythnos ddiogelwch blynyddol y cwmni olew'n ddiweddar.

Hanfod y Cwrs Pass Plus Cymru yw sesiwn dwy awr a hanner o theori gyrru ac yna naw awr o yrru wedi'i rannu gyda hyfforddwr gyrru cydnabyddedig Pass Plus Cymru.

Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys gyrru ar y draffordd, gyrru yn y ddinas ac adolygiad o sgiliau gyrru. 

Chevron yw'r cwmni cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio Pass Plus Cymru i wella sgiliau gyrru ei brentisiaid ifanc.

"Mae Cyngor Sir Penfro a Chevron yn annog gyrwyr ifanc i gymryd y cwrs hwn am fod cyfartaledd uchel o'r rheiny sy'n cael damweiniau ar y ffyrdd, yn lleol ac yn genedlaethol, yn yr ystod oed hwn," meddai'r Cynghorydd Jamie Adams, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Chynllunio.

"Rydym, felly, yn awyddus i wella sgiliau gyrru'r bobl ifanc."

Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n noddi'r cwrs gyrru uwch trwy'r grant diogelwch ffyrdd lleol tra bo Chevron hefyd yn cyfrannu 50% tuag at gost y cynllun.

Gall unrhyw yrrwr lleol rhwng 17 a 25 oed gymryd y cwrs ar yr amod fod ganddo drwydded gyflawn. Sybsideiddir y cwrs gan y Cyngor Sir ac fe gyst £20 i'r sawl sy'n cymryd rhan.

Os am fwy o wybodaeth am y Cwrs Pass Plus Cymru, cysylltwch ag uned diogelwch ffyrdd y Cyngor ar 01437 775144 neu 0845 050 4255.


Cystadleuaeth Amlgyfrwng Wrth-Yfed a Gyrru 2009

20/7/09

Anti Drink Drive Competition I hyrwyddo’r neges wrth-yfed a gyrru, gwahoddir ysgolion a mudiadau ieuenctid i ddyfeisio, perfformio a recordio cyflwyniad amlgyfrwng byw i rybuddio pobl o beryglon a/neu ganlyniadau yfed a gyrru.

Canllawiau’r gystadleuaeth:
1. Gellir cynnwys hyd at 6 o berfformwyr.
2. Rhaid i aelodau’r tîm fod rhwng 11 a 25 oed.
3. Dylai’r cyflwyniad bara llai na 3 munud, a cheir defnyddio amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys unrhyw rai o’r rhain:
· Perfformiad cerddorol
· Drama/Sgets
· Barddoniaeth/Araith
· Animeiddiad
· Rhaglen ddogfen
· Comedi
· Dawns
4. Rhaid i’r cyflwyniad gael ei ffilmio a’i gyflwyno ar fideo neu DVD a rhaid darparu manylion cysylltu.
5. Caiff y cyflwyniad ei farnu ar sail y meini prawf hyn (nad ydynt yn nhrefn eu blaenoriaeth):
a. Gwreiddioldeb
b. Neges
c. Perfformiad
d. Effaith

Caiff yr ymgais fuddugol ym mhob Sir wobrau gan eu hawdurdod lleol. Yna, cyflwynir yr ymgais fuddugol i’r Gystadleuaeth Ranbarthol. Caiff enillwyr y Gystadleuaeth Ranbarthol £500 i’r ysgol/mudiad y maent yn ei chynrychioli/ei gynrychioli, a chyflwynir gwobrau i aelodau unigol y tîm. Yn genedlaethol, gwahoddir y pedair ymgais Ranbarthol fuddugol i gael eu gwobr a rhoi’r cyflwyniad adeg lansio ymgyrch Wrth -Yfed a Gyrru Cymru-Gyfan yng Nghaernarfon ddydd Iau 3 Rhagfyr (telir yr holl dreuliau).

Cynhelir y beirniadu ar y gystadleuaeth genedlaethol ddydd Llun 9 Tachwedd

Gall grwpiau sydd â diddordeb gysylltu â’u Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd cliciwch yma

I weld cynigion cystadleuaeth 2008 cliciwch yma


Ymgyrch Yfed a Gyrru Cymru Gyfan 2009: Peidiwch ag yfed a gyrru a pheryglu eich bywyd

1/6/09
Breath Test Bydd swyddogion ar draws y pedwar llu heddlu yng Nghymru yn ymuno ar gyfer ymgyrch haf 2009 i daclo gyrwyr sy'n peryglu eu bywydau drwy yfed a gyrru.


Bydd Ymgyrch Haf Yfed a Gyrru Cymru Gyfan, sy'n cael ei gefnogi gan Heddlu'r Gogledd, Heddlu Gwent, Dyfed Powys a De Cymru yn dechrau ar Fehefin y 1af, a bydd yn parhau am fis cyfan.

Bydd yr ymgyrch, a lansiwyd gan Heddlu'r De ar ddydd Mawrth, y 26ain o Fai, yn gweld cynnydd yn y nifer o geir a fydd yn cael eu stopio er mwyn taclo'r broblem o yrwyr yn diystyru'r gyfraith.

Fel mae'r haf yn agosáu bydd llawer iawn o bobl yn cael eu temtio i yfed fwy, boed hynny mewn barbiciw neu wrth yfed alcohol yn ystod y prynhawn, ac wedyn yn gyrru heb feddwl am y canlyniadau.

Meddai'r Prif Arolygydd Gary Ashton o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Ar yr adeg yma o'r flwyddyn, mae'r temtasiwn i yfed a gyrru'n llawer iawn gwaeth gan fod pobl yn cael eu hudo i yfed wrth gymdeithasu gyda ffrindiau. Nid ydynt yn meddwl am y peryglon o fynd y tu ôl i'r llyw ar ôl bod yn yfed.

"Ond, nid oes unrhyw esgus ar gyfer yfed a gyrru ac fe all y canlyniadau fod yn ddinistriol."

Ychwanegodd: "Byddem allan ar y ffordd yn targedu modurwyr gan ganolbwyntio'n arbennig ar yrwyr ifanc a ddrwgdybir o fod o dan ddylanwad alcohol. Maen nhw'n cynrychioli oddeutu 10% o'r holl yrwyr sy'n dal trwydded ond maen nhw'n gyfrifol am 38% (neu, yn fras, 4 ymhob 10) o bobl sy'n cael eu harestio am yfed a gyrru yng Ngogledd Cymru.

"Nid yn unig yr ydych yn mewn perygl o ladd eich hun, neu anafu eich hun neu unrhyw berson arall yn ddifrifol, ond mi wnewch chi ymddangos o flaen y Llys a derbyn gwaharddiad am flwyddyn, gallwch golli eich trwydded, wynebu cyfnod yn y carchar neu ddirwy hyd at £5,000. Byddech â record droseddol ac fe allech golli eich swydd.

"Meddyliwch cyn mynd allan, gwyliwch beth yr ydych yn ei yfed, trefnwch sut y byddwch yn mynd adref, a sylweddolwch y gall yfed a gyrru dod a chanlyniadau marwol yn ei sgil.

"Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gadw ffyrdd yr ardal yn rhai diogel ac fe fyddem yn parhau i dargedu modurwyr sydd yn cael eu hamau o fod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau."

Yn ystod Ymgyrch Haf Yfed a Gyrru 2008 cafodd dros 12,000 o yrwyr eu profi gan y pedwar llu heddlu yn ystod yr ymgyrch rhwng y 1af a'r 30ain o Fehefin, o'i gymharu â 7,970 yn 2007.

Yn ystod ymgyrch y llynedd, cafodd 4,262 o yrwyr eu profi a arweiniodd at 149 o bobl yn cael eu harestio. O'r rhain, bu 959 o brofion ar bobl o dan 25-oed gyda 40 yn cael eu harestio.

Ychwanegodd Mr Ashton: "Os ydych chi'n gwybod am unrhyw un sy'n yfed a gyrru cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, ar 0845 607 1001 (llinell Gymraeg) 0845 607 1002 (llinell Saesneg) neu Taclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111. Wrth wneud hyn, efallai y byddwch yn arbed bywyd."


Gwasanaeth Patrol Swyddogion Traffig Newydd ar gyfer yr M4

29/5/09

Gwasanaeth Patrol Swyddogion Traffig Newydd ar gyfer yr M4 Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n talu am swyddogion traffig sifil a fydd yn teithio ar hyd y draffordd mewn cerbydau â’u harwyddion newydd neilltuol fydd â’r awdurdod i atal, rheoli a chyfarwyddo trafnidiaeth. Bydd y gwaith a wnânt yn golygu y bydd ymateb cyflymach i ddigwyddiadau sy’n atal traffig rhag llifo - ac yn rhyddhau adnoddau’r heddlu i ganolbwyntio ar faterion mwy difrifol.

Er y bydd y cerbydau patrôl yn helpu mewn sefyllfaoedd o argyfwng, ni fyddant yn gerbydau ymateb brys. Bydd yr heddlu’n parhau i ddod i sefyllfaoedd neu achosion o argyfwng lle gall fod angen ymchwiliad troseddol, gan arwain yr ymateb i’r sefyllfaoedd hyn.

Fodd bynnag, amcangyfrifir y bydd y gwasanaeth newydd - unwaith y bydd yn gweithredu’n llawn - yn haneru’r amser y mae’n ei gymryd fel arfer i ddelio ag achosion arferol o oedi i draffig, Bydd hyn felly’n cael effaith sylweddol iawn ar leihau tagfeydd ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn Ne Cymru.

Wrth gyhoeddi’r gwasanaeth newydd hwn ar y cyd â Phrif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru Colette Paul, meddai’r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones y bydd y trefniadau newydd yn treialu dull o gydweithredu a gafodd ei deilwra’n benodol i anghenion yr M4 a rhwydwaith cefnffyrdd y De.

Meddai Mr Jones:

“Rwy’n llwyr werthfawrogi’r rhwystredigaeth a’r gost economaidd a achosir gan yr oedi ar y llwybr hanfodol hwn. Mae’r treialu hwn yn un enghraifft yn unig o benderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i wella effeithlonrwydd yr M4 yn y dyfodol. Mae f’adran yn cydweithio’n agos â’r heddlu i wella’r broses o fonitro a rheoli – a bydd y gwasanaeth newydd hwn yn galluogi i weithrediadau a digwyddiadau cyffredinol gael eu rheoli’n fwy effeithiol.”

Meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Colette Paul:

“Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cynulliad Cymru dros y misoedd diwethaf ac rydym wrth ein bodd bod camau sylweddol wedi’u cymryd ar daith a fydd yn arwain yn y pen draw at gyfrifoldeb dros reoli’r M4 a’i brif lwybrau yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

“Bydd hyn yn rhyddhau swyddogion yr heddlu i ganolbwyntio ar sefyllfaoedd brys, a dal troseddwyr gan ddefnyddio’r ffyrdd i gadw De Cymru’n ddiogel.”


Disgyblion Yn Cael Gwers Goryrru!
28/5/09
Pupils Take a Speeding Lesson! Mae pobol ifanc mewn ysgol yn Sir Benfro wedi bod yn cadw golwg ar yrwyr sy'n goryrru.

Yn ddiweddar bu ugain o ddisgyblion yn Nosbarth 6, Ysgol Gynradd Gymunedol Roch yn cynnal arolwg cyflymder ar y ffordd A487 ger yr ysgol. Gan ddefnyddio gynau cyflymder a ddarparwyd gan Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Penfro, brawychwyd y disgyblion gan y cyflymder uchel a gofnodwyd.

Er gwaethaf y ffaith eu bod mewn ardal cyfyngu i 40mya, fe welon nhw fod nifer fawr o geir yn teithio ar gyflymdra o 60mya. Bydd y disgyblion nawr yn defnyddio'r data ar gyfer prosiect dosbarth

Digwyddodd y profion yn dilyn pryderon cynyddol ynglyn â chyflymdra cerbydau sy'n teithio trwy'r pentref yn ymyl Hwlffordd.

Dywedodd y Cynghorwr Jamie Adams, Aelod o'r Cabinet ar gyfer Traffyrdd a Chynllunio, ac a fynychodd yr arolwg, ei fod yn falch i weld y plant yn cymryd rhan mewn pryder cymunedol mor bwysig.

Dywedodd, "Mae'r darn arbennig hwn o'r ffordd yn achosi pryder gan fod nifer o farwolaethau wedi digwydd yma yn ystod y 12 mis diwethaf. Allwn ni ddim gorbwysleisio fod angen i yrwyr dalu sylw i'r slogan ‘Mae Goryrru'n lladd' a gostwng eu cyflymder."

Dywedodd John Gobbi, Swyddog Addysg Diogelwch ar Ffyrdd y Sir, fod mwy na 60% o farwolaethau yn dilyn damweiniau ar y ffyrdd yn digwydd ar ffyrdd gwledig a bod goryrru yn cyfrannu at nifer ohonynt.


Annog Gyrru Gofalus yn y Coleg

21/5/09

Annog Gyrru Gofalus yn y Coleg

Mynychodd 300 o fyfyrwyr sesiwn cymell diogelwch ffordd yn ddiweddar wedi'i anelu i wneud ieuenctid yn fwy ymwybodol o'r peryglon ar y ffyrdd. Am y tro cyntaf cynhaliwyd yr achlysur Top Drive, a fwriedir ar gyfer lleihau'r nifer o wrthdrawiadau ar y ffyrdd sy'n ymwneud â phobl ifanc, yng Ngholeg Sir Benfro.

Dros gyfnod o bedwar diwrnod yn gynharach yn y mis, rhoddwyd cyngor i fyfyrwyr ar sut i fod yn yrwyr a theithwyr cyfrifol gan gynrychiolwyr o'r gwasanaethau brys a mudiadau diogelwch ffyrdd eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Adams, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Chynllunio, fod y Cyngor wedi ymrwymo i leihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn Sir Benfro a bod yr achlysur Top Drive blynyddol yn rhan o'r strategaeth hon.

"Mae'n allweddol sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o'r peryglon ar y priffyrdd p'un a ydyn nhw'n yrwyr neu'n deithwyr," meddai.

"Achosir y rhan fwyaf o ddamweiniau gan yr un ffactorau - cyflymdra, yfed, cyffuriau, defnyddio ffons mudol, gyrru ar ôl blino neu ddim yn gwisgo gwregys sedd - a thynnwyd sylw'r myfyrwyr at y peryglon hyn yn ystod yr achlysur."

Rhoddwyd gwybodaeth hefyd am yr hyn ddylid ei wneud pan ddigwydd damwain ffordd tra roedd yr achlysur hefyd yn cyflwyno gwybodaeth am yswiriant cerbydau gan swyddfa yswiriant Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn Hwlffordd a chyngor am brynu cerbyd sy'n gymwys i fod ar y ffordd gan Gerbydau Gareth Hughes yn Sardis.

Trefnwyd yr achlysur gan Uned a Fforwm Diogelwch Ffordd Cyngor Sir Penfro ac yn cymryd rhan roedd Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Asiantaeth Safonau Gyrru, Academi Gyrru Lleol, Gwasanaeth Ambiwlans, a Sudds.

Dywedodd Pennaeth Coleg Sir Benfro, Glyn Jones, fod yr achlysur Top Drive yn hynod o berthnasol i yrwyr ifanc.

Os ydych am fwy o wybodaeth am faterion diogelwch ffordd, yna, cysylltwch â John Gobbi ar john.gobbi@pembrokeshire.gov.uk


Cydweithio gyda’r AA

19/5/09
Driving Heddlu Gogledd Cymru yw’r llu cyntaf ym Mhrydain i gydweithio â’r AA mewn menter sydd â’r nod o daclo’r nifer o bobl ifanc sy’n cael eu lladd ar ein ffyrdd. Mae’r llu yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Elusennol yr AA* mewn cynllun fydd yn targedu gyrwyr â risg uchel gyda hyfforddiant diogelwch yn gwbl rhad ac am ddim.

Wedi ei ariannu gan yr AA, a’i ddatblygu’n benodol i gynorthwyo gyrwyr newydd, mae’r cynllun Drive Smart yn cynnwys dau sesiwn awr o hyd gyda hyfforddwr cymwysedig o Ysgol Ddreifio'r AA. Mae’r fenter, a gefnogir gan weinidogion trafnidiaeth, yn canolbwyntio ar wella diogelwch yn ogystal â thechnegau eco-yrru sy’n lleihau’r defnydd o danwydd.

Bydd yr Heddlu’n cysylltu â gyrwyr ifanc sydd â hanes o wrthdrawiadau a throseddau fel gyrru heb wisgo gwregys, defnyddio ffôn symudol wrth yrru neu oryrru, er mwyn eu cynnig ar gyfer hyfforddiant.

Os ydynt yn penderfynu cymryd rhan yn y cwrs, bydd llyfryn cefnogol yn cael ei anfon iddynt, a bydd disgwyl iddynt ymarfer cyn sesiynau er mwyn cael y gorau o’u hyfforddiant.

Meddai’r Dirprwy Prif Gwnstabl, Ian Shannon: “Mae Heddlu Gogledd Cymru’n falch o fod y llu cyntaf i gydweithio â’r AA er mwyn sicrhau y bydd Drive Smart yn llwyddiant.

“Gyrwyr ifanc, yn enwedig y rhai sydd â hanes o yrru gwael, yw’r rhai sydd â’r risg mwyaf o fod mewn gwrthdrawiad lle y bydd rhywun yn marw neu yn cael eu hanafu’n ddifrifol. Trwy dargedu’r hyfforddiant at y bobl iawn, mi wnawn ni achub bywydau.”

Meddai Edmund King, Cyfarwyddwr yr elusen a Llywydd yr AA, “Mae gyrru yn achosi mwy o farwolaethau ymysg pobl ifanc na chyffuriau neu achosion o drywanu, gyda gyrwyr newydd a’u teithwyr yn cyfrif am un o bob pump o farwolaethau sy’n ymwneud â cheir. Trwy gydweithio â’r Heddlu i dargedu’r rhai sydd â’r risg mwyaf, fe allwn ddechrau mynd i’r afael â’r lladdfa.

“Gall Drive Smart gynorthwyo’r rhai sydd â’r risg mwyaf i ddod yn yrwyr saffach, mwy cyfrifol, gan leihau’r perygl y maent yn eu gosod iddynt eu hunain ac eraill ar ein ffyrdd.”

Meddai’r Uwch Arolygydd Simon Shaw, Pennaeth Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Ni allwn dderbyn y lefel o yrwyr ifanc a’u teithwyr sy’n cael eu hanafu a’u lladd ar ein ffyrdd.

“Mae’r cynllun Drive Smart yn cynnig cyfle i’r heddlu arwain gyrwyr ifanc sydd mewn perygl i dderbyn hyfforddiant gyrru o safon uchel.

“Yng Ngogledd Cymru, bydd swyddogion yn ymweld â chartrefi’r rhai y byddwn yn eu cynnig ar gyfer y cwrs i drafod eu hanes gyrru gyda nhw ac i danlinellu’r buddion o ddilyn y cwrs. Rwy’n gobeithio y bydd teuluoedd a ffrindiau'r gyrwyr ifanc yn ymuno â ni i’w hannog i fanteisio ar y cyfle hyfforddi unigryw hwn.”

Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn anfon 150 llythyr at yrwyr sy’n achosi pryder i’w gwahodd i ymuno â’r cwrs. Rhagwelir y bydd y cyrsiau’n dechrau oddi fewn yr wythnosau nesaf.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un sy’n credu fod gyrrwr ifanc mewn perygl o fod yn rhan o wrthdrawiad i gysylltu ag Uned Plismona’r Ffyrdd y llu ar 0845 607 1001 (llinell Gymraeg) neu 0845 607 1002 (llinell Saesneg). Gallwch hefyd anfon neges destun i 66767 neu e-bostiwch – northwalespolice@north-wales.police.uk


ANPR – yn Helpu Eich Cadw’n Ddiogel

22/4/09

Dyfed Powys Police Logo Mae Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio technoleg ANPR (system Adnabod Rhifau Ceir yn Awtomatig) yn rheolaidd i fynd i’r afael a throseddwyr. Mae ANPR yn offeryn effeithiol ar gyfer plismona’r ffyrdd a lleihau trosedd gan ei fod yn gallu adnabod cerbydau o ddiddordeb, waeth beth fo cyflymder y traffig neu’r amgylchiadau o ran tywydd neu oleuni.

Mae’n offeryn gwerthfawr yn yr ymgyrch i gadw ardal ein heddlu’n ddiogel wrth iddo adnabod cerbydau yr amheuir o fod yn gysylltiedig â gweithgaredd troseddol neu drosedd traffig y ffyrdd. Y mae hefyd yn caniatáu i bobl sy’n defnyddio’n ffyrdd yn gyfreithlon i barhau i wneud hynny’n ddirwystr.

Mae profiad wedi dangos bod cysylltiad cryf rhwng defnydd anghyfreithlon o gerbydau ar y ffyrdd a mathau eraill o drosedd difrifol.

Yn ystod mis cyffredin yn ardal Dyfed-Powys mae ANPR yn adnabod dros 127,000 o gerbydau, hynny yw cerbydau sydd o ddiddordeb i’r heddlu ac i asiantaethau eraill. Mae hyn yn cynnwys dros 71,000 i’r DVLA oherwydd diffyg ceidwad cofrestredig a dros 26,888 i’r DVLA oherwydd diffyg treth, 14,500 oherwydd diffyg yswiriant a dros 14,700 o gerbydau a oedd â chudd-wybodaeth yn cyfeirio atynt.

Meddai’r Prif Arolygydd Phil Davies: “Mae ANPR yn arbennig o werthfawr ar gyfer diogelwch y ffyrdd, wrth dynnu sylw at unigolion sy’n gyrru heb yswiriant, trwydded yrru neu MOT.

“O Chwefror 2008-09 atafaelwyd dros 1,500 o geir dan adran 165 Deddf Traffig y Ffyrdd gan nad oedd gan y gyrrwr yswiriant neu drwydded – byddai nifer sylweddol o’r rhain o ganlyniad i gael eu hadnabod gan yr ANPR.

“Mae ANPR hefyd wedi bod yn effeithiol iawn wrth ddal troseddwyr teithiol sy’n dod i Ddyfed Powys.

“Hoffem sicrhau pobl nad yw ANPR yn olrhain pob siwrnai. Y mae wedi ei seilio ar gudd-wybodaeth ac yn tynnu sylw at blatiau sy’n gysylltiedig â gweithgaredd troseddol.”

Roedd ‘Ymgyrch Ffug-Fasnachwr’, a gynhaliwyd ar A487 Brynhoffnant ar 5 Mawrth, yn enghraifft o’r modd y defnyddir ANPR.

Ystyriwyd yr ymgyrch yn llwyddiant gan bob asiantaeth, a daeth amrywiaeth o droseddau i’r amlwg. Defnyddiwyd fan ANPR ar gyfer yr ymgyrch hon ac yr oedd wedi darllen 1876 o blatiau ac adnabod 55.

Arweiniodd hyn at 58 o gerbydau’n cael eu stopio, un hysbysiad cosb benodedig, dau hysbysiad Cynllun Cywiro Nam ar Gerbyd, tri chwiliad dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, dipio 39 tanc tanwydd gan Dollau Ei Mawrhydi, 5 gwaharddiad gan Vosa a 2 atafaeliad cerbyd adran 165 oherwydd diffyg yswiriant/trwydded.

Ar gyfer yr un ymgyrch defnyddiwyd ANPR ar yr A44 ger Gelli Angharad a’r ardal amgylchynol, a darllenwyd 2986 o blatiau ac adnabod 104.

Arweiniodd hyn at chwech o gerbydau’n cael eu stopio i DEFRA, 20 yn cael eu stopio ar gyfer safonau masnach, chwech ar gyfer Asiantaeth yr Amgylched ac Iechyd Cyhoeddus, dau am droseddau MOT, un oherwydd trosedd diffyg yswiriant ac un achos o Atafaelu Cerbyd 165.

Ychwanegodd y Prif Arolygydd Davies: “Mae gan nifer o’n cerbydau heddlu ni hefyd ANPR. Ein neges i droseddwyr yw os ydych yn ystyried troseddu yn ardal Dyfed-Powys peidiwch â thrafferthu - bydd ANPR yn eich olrhain ac yn ein cynorthwyo ni i gadw’n cymunedau’n ddiogel.”


Rhybudd diogelwch i rieni ar y daith i'r ysgol

6/4/09

Mae gofyn i rieni ar y daith i'r ysgol helpu i wneud mynedfeydd ysgolion yn fwy diogel i blant sy'n cerdded i'r ysgol ac oddi yno. image depicting Road Safety Logo

Mae ysgolion ar draws y ddinas yn adrodd am broblemau gyda nifer mawr o geir yn parcio'n union y tu allan i ysgolion gyda llawer o'r ceir hynny wedi parcio'n anghyfreithlon.

Mae Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe a'r Gwasanaeth Gorfodi Parcio Sifil newydd wedi ymuno i geisio gwella pethau mewn ymgais i gadw plant y ddinas yn ddiogel.

Meddai Phil Davies, Rheolwr Gorfodi Parcio Cyngor Abertawe, "Rydym yn parhau i dderbyn cwynion a galwadau gan rieni sy'n pryderu am broblemau parcio anystyriol yn enwedig y tu allan i ysgolion.

"Mae timau o Swyddogion Gorfodi Parcio yn cael eu lleoli mewn cymunedau lleol bob wythnos i fynd i'r afael ag achosion o barcio anghyfreithlon a byddwn yn parhau i fonitro safleoedd â phroblemau a chyflwyno dirwyon sefydlog os oes angen.

"Gyda help ein Tîm Diogelwch Ffyrdd, y gobaith yw y gallwn addysgu rhieni am beryglon parcio yn union y tu allan i ysgolion a'u hannog i barcio ymhellach i ffwrdd os ydynt yn gollwng neu'n codi eu plant."

Gall ysgolion weithio gyda Thîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor i ddatblygu cynlluniau teithio. Gall y rhain helpu'r ysgol i gael mynediad i gyllid y gellir ei ddefnyddio i gyflwyno camau ffisegol ger ysgolion. Bwriad y camau hyn fydd darparu amgylchedd cerdded mwy diogel i ddisgyblion ac i eraill.

Meddai Jeff Green, Swyddog Diogelwch Ffyrdd y Cyngor, "Nid yw parcio y tu allan i ysgolion yn broblem newydd ond mae'n un yr ydym yn awyddus i wella. Mae angen i rieni chwarae eu rôl er lles a diogelwch plant sy'n mynd i ysgolion lleol.

"Efallai bod rhieni'n meddwl eu bod ond yn mynd i barcio am ychydig funudau wrth iddynt ollwng eu plentyn ond eiliad yn unig y mae'n cymryd i ddamwain ddigwydd."

Y cyngor sydd wedi bod yn gyfrifol am orfodi parcio yn y ddinas ers mis Medi 2008. Ers hynny, mae mwy na 11,000 o docynnau wedi'u cyflwyno i fodurwyr sydd wedi parcio'n anghyfreithlon.

Meddai John Hague, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd, "Dylai modurwyr wybod nad ydym yn mynd i adael iddynt barcio'n anghyfreithiol. Yn aml, mae parcio anghyfreithlon yn achosi rhwystr i gerbydau argyfwng ac yn atal plant rhag croesi'r ffordd yn ddiogel."


Llwyddiant diwrnod codi ymwybyddiaeth goryrru yn Amlwch

18/3/09

Speed Check Amlwch Mae diwrnod codi ymwybyddiaeth am oryrru a drefnwyd gan Heddlu Gogledd Cymru ac a gynhaliwyd ym Môn yr wythnos ddiwethaf wedi derbyn ymateb ardderchog, yn ôl y trefnwyr. Yn dilyn cwynion gan drigolion Amlwch a’r cyffiniau, fe drefnodd y Rheolwr Rhawd Cymunedol lleol, PC Dafydd Pritchard, ddiwrnod codi ymwybyddiaeth am oryrru er mwyn ceisio taclo’r broblem o yrwyr yn goryrru.

Yn gweithio mewn partneriaeth â Terfel Jones, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir Ynys Môn, bu PC Pritchard yn cadw golwg ar ffyrdd yr ardal, gan gynnwys Amlwch, Bull Bay, Rhosybol a Phenysarn, gan ddefnyddio gwn llaw sy’n nodi goryrru.

Meddai PC Pritchard: “Pwrpas y diwrnod oedd addysgu gyrwyr sy’n troseddu am eu hagweddau gyda’r gobaith y gwnawn nhw feddwl am yr hyn maen nhw yn ei wneud yn y dyfodol.

“Mae ymateb y cyhoedd wedi bod yn bositif iawn ers i ni ddechrau cynnal diwrnodau o’r math yma. Rydym wedi gweld gostyngiad yn y niferoedd sy’n goryrru yn ystod yr ymarferiad, ac wedi gwneud gyrwyr yn ymwybodol, gobeithio, ein bod yn awr yn monitro’r ffyrdd yn rheolaidd.”

Hwn oedd y pedwerydd diwrnod o’i fath i gael ei gynnal gan y tîm. Yn ystod y dydd, cafodd arwydd electroneg ryngweithiol ei ddefnyddio mewn ardaloedd sydd wedi cael eu nodi fel ‘ardaloedd peryglus’ sy’n achosi pryder i drigolion lleol.

Yn ystod y diwrnod cafodd nifer o gerbydau eu hatal a rhoddwyd cyngor i’r gyrwyr. Roedd newid amlwg mewn cyflymder pan welodd y gyrwyr y swyddogion yn eu siacedi llachar gyda’r gwn goryrru.

Ychwanegodd PC Pritchard: “Mi fydd yr arwyddion electroneg yn cael eu defnyddio o amgylch y dref ac mi fyddem yn dychwelyd i wneud fwy o waith monitro yn y dyfodol agos, er mwyn atgoffa’r lleiafrif sy’n troseddu y byddem yn delio â nhw’n llym os ydynt yn parhau i orr-yrru.”


AYW EICH PLENTYNYNTEITHIO’N DDIOGEL?

4/3/09


PROFIONAR SETI CEIR PLANT YN RHAD AC AM DDIM - Munudau yn unig o’ch amser prin yn gwneud gwahaniaeth i ddiogelwch eich plentynChild car seat

Yng Ngorsafoedd Tân 10am – 4:30 pm
Bangor 23 Mawrth 2009
Caernarfon 23/24 Mawrth 2009
Porthmadog 24 Mawrth 2009
Dolgellau 25 Mawrth 2009
Pwllheli 25 Mawrth2009
Caergybi/Holyhead 26 Mawrth 2009
Llangefni 27 Mawrth 2009

Anglesey logo

Wil Hughes
Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Sirol
Ffôn: 01248 752372
Ffacs: 01248 724839
e-bost:twhht@anglesey.gov.uk

Gwynedd logo

Heather Lynne Jones
Uwch Swyddog Diogelwch y Ffyrdd
Ffôn: 01286 679891
Ffacs: 01286 676119
Symudol: 07867 982518
e-bost: heatherlynnejones@gwynedd.gov.uk


Download Poster here PDF format 295kb Click here to download this document in PDF format.


Defnyddio car clasurol i ddiogelu ein strydoedd

17/2/09

Synnodd pobl ifanc yng Nghoed Duon yn ddiweddar pan yrrwyd car i mewn i’r dref i amlygu negeseuon pwysig am ddiogelwch ar y ffyrdd.Fe arweiniodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, fel aelodau o’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, ar y fenter o’r enw ‘Ymgyrch Criwsio’, mewn partneriaeth â’r cyngor a Heddlu Gwent. Gyrrodd Swyddogion Diogelwch Ffyrdd o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i mewn i ganol dref Coed Duon mewn Aston Martin DB9, a achosodd syndod ymhlith pobl ifanc lleol.

Nod gwreiddiol y fenter, a grëwyd gan Reolwr Grˆwp Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Rob Morris, oedd denu’r bobl ifanc i ddod i weld y car nodedig er mwyn galluogi’r Swyddogion Diogelwch Ffyrdd i ddarparu neges diogelwch ar y ffyrdd addysgiadol trwy gyflwyniad cyfrifiadur addysgiadol. Dywedodd Rob Morris, “Trwy ymgynghoriad â’n asiantaethau partner, cafodd nifer o bryderon eu nodi ynghylch phobl ifanc, gyda cheir yn ymgynnull mewn meysydd parcio cymunedol lleol ac amwynderau tebyg.

Daeth e’n amlwg bod oedran cyfartalog y grˆwp o bobl ifanc sy’n gysylltiedig â’r cynulliadau hyn a’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yr un peth â grˆwp oedran y bobl ifanc y canfuwyd i fod mewn mwyaf o risg o gael eu lladd neu eu niweidio yn ddifrifol mewn damwain ffordd - gwrywod rhwng un deg chwech a dau ddeg pedwar blwydd oed. Gwelsom ni hyn fel cyfle perffaith i ddanfon ein neges diogelwch ffyrdd pwysig at bobl ifanc lleol, gan gynnwys negeseuon am gyflymder, defnyddio ffonau symudol, gwregysau diogelwch, tynnu sylw wrth yrru a phwysau gan gyfoedion - darparodd yr atyniad gwreiddiol o ddod i weld yr Aston Martin DB9 lwyfan dda i ni ddanfon ein neges atynt.”

Mae adborth o’r fenter wedi bod yn bositif iawn, gyda llawer o yrrwr ifanc yn dangos diddordeb mawr yn y negeseuon a ddarparwyd. Yn dilyn ymlaen o lwyddiant y fenter mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, fel rhan o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerffili Saffach, yn bwriadu trefnu ymgyrchoedd tebyg pellach ar draws yr ardal yn y dyfodol agos.


Rhybudd Cyflymdra I Yrwyr

6/2/09

Sign
Gosodwyd arwydd diogelwch ffordd newydd ym Mhenfro mewn ymgais i annog gyrwyr i beidio â gyrru'n gyflym.

Gosodwyd yr arwydd, a oleuir gan gyflymdra, ar waelod Well Hill ger Ysgol Gymunedol Gelli Aur.

Cafodd ei gyllido gan Gyngor Sir Penfro a Chevron ar y cyd.

Dywedodd y Cynghorydd Sir lleol, Aden Brinn, a fu'n ymgyrchu dros osod arwydd diogelwch, ei fod yn ddiolchgar i'r ddau gorff am eu cymorth a'u cefnogaeth.

Yn y llun ger yr arwydd newydd gwelir, o'r chwith i'r dde; y Cynghorydd Jamie Adams, Aelod Cabinet Dros Briffyrdd a Chynllunio, Cynghorydd Aden Brinn, a Phil Thompson o Chevron.


YDI’CH LLYGAID CHI’N DDIGON DA I YRRU?

5/2/09

North Wales Eyesight CampaignMae Grwp Diogelwch Ffyrdd Gogledd Cymru wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth gyrwyr o’r pwysigrwydd o gael profion golwg rheolaidd.

Mae’n edrych yn debyg fod mwy nag un ymhob tri gyrrwr yng Ngogledd Cymru yn peryglu eu hunain ac eraill drwy fod â golwg gwael sydd heb ei gywiro.

Mae’r Optegwyr Specsavers wedi bod yn cynnal profion yn ddiweddar i fesur golwg pellter hir gyrwyr yng Ngogledd Cymru, fel rhan o’u hymgyrch Gyrru’n Ddiogel. Mae’r canlyniadau’n frawychus. Dengys y profion fod cymaint â 40% o yrwyr yn annhebygol o gyrraedd safon safonol ar gyfer gyrru’n ddiogel, gyda dros hanner (57%) heb dderbyn prawf golwg yn y ddwy flynedd diwethaf, fel sy’n cael ei argymell gan arbenigwyr.

Mae’r canlyniadau yma’n cyd-fynd â chanlyniadau adroddiad blaenorol gan yr RNIB (Royal Institute of the Blind) wnaeth ddarganfod agwedd o “hunanfoddhad am iechyd golwg ymhlith gyrwyr, sy’n ennyn pryder.”

O ganlyniad i’r wybodaeth hon, mae Grwp Diogelwch Ffyrdd Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth Specsavers, yn annog gyrwyr  i gael profion golwg rheolaidd ac i wisgo eu sbectol neu lensys cyffwrdd os oes eu hangen ar gyfer gyrru. Hefyd, mae pobl sy’n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd i yrru yn cael eu cynghori’n gryf i gadw pâr sbâr yn eu car bob amser.

Er ei fod yn anodd ei brofi, credir fod golwg gwael yn cyfrannu at nifer o wrthdrawiadau angheuol a difrifol.

Mae’n  wybyddus y gall y golwg ddirywio’n gyflym ymysg y rhai dros 50-oed ond mae’n bwysig sylweddoli y gall pobl ifanc hefyd gael problemau gyda’u golwg. Does dim gofyn gyfreithiol i yrwyr gael prawf golwg unwaith maent wedi pasio’r Prawf Gyrru ac wedyn dim ond datgan eu bod yn cyrraedd y safon golwg i adnewyddu eu trwydded yn 70 oed.

Wrth lansio’r ymgyrch yn y Galeri yng Nghaernarfon, meddai’r Prif Arolygydd Gary Ashton o Adran Gwasanaethau Gweithredol Heddlu Gogledd Cymru: “Mae golwg da yn hanfodol ar gyfer gyrru diogel. Yn y babell Gyrru’n Ddiogel yn Sioe Amaethyddol Sir Ddinbych a’r Fflint fe fethodd 40% o’r cyhoedd ein prawf golwg, sef prawf i ddangos y gallu i ddarllen rhifau plât cerbydau o bellter 20.5 medr (20.5 medr ar gyfer rhifau cofrestru a ddefnyddiwyd cyn Medi 2001).

Ychwanegodd: “O dan Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988, mae’n anghyfreithlon gyrru â golwg wael. Rydym yn apelio ar bobl i gael profion golwg rheolaidd ac os ydynt yn gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd, mae angen iddynt eu gwisgo wrth yrru.”

Meddai Dafydd Edwards, Cadeirydd Grwp Diogelwch y Ffyrdd yng Ngogledd Cymru: “Rydym yn dibynnu  bron 100% ar ein golwg i gasglu’r holl wybodaeth rydym yn ei defnyddio wrth yrru. Felly, mae’n hollbwysig fod pob gyrrwr yn sicrhau eu bod yn cyrraedd yr anghenion sylfaenol ac yn cael prawf llygaid yn rheolaidd.”

Meddai David Fisher, rheolwr siop Specsavers, Llandudno, sy’n cefnogi’r ymgyrch hon: “Mae’r mwyafrif o’r cleifion rydym yn ei weld eisoes yn ymwybodol o bwysigrwydd cael profion llygaid rheolaidd, felly dim ond lleiafrif bychan sy’n methu â chyrraedd y safon dderbyniol. Y tueddiad yw darganfod mai pobl ifanc yn eu harddegau sydd newydd ddechrau cael gwersi gyrru, neu rai dros 70 oed sydd â’u golwg wedi dirywio’n gyflymach nag oedden nhw’n feddwl, yw’r rhai sy’n methu cyrraedd y safon.

 “Er hynny, y grwp sydd yn perthyn i’r categori risg mwyaf yw’r rhai sydd ddim yn cael profion llygaid rheolaidd, gan nad ydynt yn sylweddoli, efallai, fod eu golwg ddim yn ddigon da, sy’n eu gwneud yn beryglus iddynt eu hunain ac i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd.”

Ychwanegodd: “Drwy gefnogi’r ymgyrch hon rydym yn gobeithio annog gyrwyr i feddwl am gael profion llygaid fel prawf diogelwch angenrheidiol, yn union fel prawf MOT.”

Bydd timau Diogelwch y Ffyrdd yn trefnu sioeau ar y ffordd drwy gydol Gogledd Cymru er mwyn annog gyrwyr i gael prawf golwg yn rheolaidd. Byddant yn gwahodd gyrwyr y gymryd prawf syml o ddarllen rhif plât cerbydau o bellter 20.5 medr ac yn dosbarthu taflenni a chlytiau glanhau sbectol sy’n cynnwys neges yr ymgyrch.


Heb Yswiriant, Heb Gerbyd!

27/1/09

Dyfed Powys PoliceMae Heddlu Dyfed Powys yn gweithredu’n llym yn erbyn pobl sy’n gyrru’n anghyfreithlon. Mae ymgyrch ar waith i rybuddio pobl bod gyrru heb yswiriant yn golygu colli eu cerbydau. Mae’r ymgyrch yn cynnwys posteri mawr a hysbysebion ar fysiau ynghyd â gweithgareddau gorfodi gan yr heddlu.

Rhwng mis Ionawr a mis Tachwedd 2008, cafodd 1,300 o gerbydau eu hatafaelu gan  Heddlu Dyfed-Powys am fod y gyrwyr naill yn gyrru heb yswiriant neu yn gyrru’n groes i amodau eu trwydded.

Dywedodd y Prif Arolygydd Steve Matchett o Uned Blismona’r Ffyrdd: “Ein nod yw gwneud ein ffyrdd yn ddiogel i bobl sy’n parchu’r gyfraith trwy dargedu’r rheiny sy’n eu defnyddio’n anghyfreithlon neu at bwrpas cyflawni troseddau.

“Rydym yn gwybod o brofiad bod pobl sy’n gyrru heb y dogfennau priodol hefyd yn fwy tebygol o dorri cyfreithiau eraill ar y ffyrdd gan, o bosib, beryglu bywydau pobl eraill.

“Os ydych yn gyrru’n anghyfreithlon ac yn cael eich stopio gan yr heddlu, yna bydd eich cerbyd yn cael ei gymryd oddi arnoch.  Bydd rhaid i chi dalu i’w gael yn ôl ac oni fyddwch yn talu o fewn amser penodol, bydd eich cerbyd yn cael ei wasgu.

“Mae rhai gyrwyr yn penderfynu osgoi’r gost o brynu yswiriant.  Fodd bynnag os ydych yn gyrru ar ein ffyrdd, mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod popeth ynglyn â’ch cerbyd, a chi, yn gyfreithlon.  Rhaid i chi gael trwydded yrru ac yswiriant dilys.”


Ystadegau yfed a gyrru: 'Siom'
21/1/09

Breath TestCafodd mwy o yrwyr nag erioed o'r blaen eu profi am alcohol dros gyfnod y Nadolig yng Nghymru. Cafodd mwy na 36,000 o yrwyr eu profi yng Nghymru yn ystod mis olaf 2008. Dim ond 19,554 gafodd eu profi yn 2007.

Cafodd yr ymgyrchu Gymru gyfan ei lansio yng Nghaernarfon gan yr Uwch Gwnstabl Richard Brunstrom, y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, ac Angela a Derek Coulton, rhieni Amanda, merch gafodd ei lladd gan yrrwr dan ddylanwad alcohol ar yr A547 yn Rhuddlan.

Cafodd 142 o bobl eu harestio yn y gogledd ar ôl cynnal 10,749 o brofion.

Roedd 39 o'r rhain yn brofion positif gan bobl dan 25 oed.

'Difetha bywydau'

Dywedodd Ieuan Wyn Jones AC: "Mae yfed a gyrru'n difetha bywydau.

"Mae gormod o yrwyr yn parhau i anwybyddu'r neges glir hon, felly fe fyddwn ni'n parhau i weithio'n galed â'r heddlu i ymdrin â hyn.

Yn 2007, cafodd 6,986 o brofion eu cynnal, gyda 145 o bobl dan ddylanwad alcohol.

Cafodd 4,404 o brofion eu cynnal yn 2006, a 144 yn bositif.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd John Turton o Heddlu'r Gogledd: "Mae'n siomedig bod gyrrwyr yn peryglu eu bywydau eu hunain a gyrwyr eraill, dim ond at ddiben cael diodyn, gyda mwy na 600 o bobl yn cael eu dal gyda lefel uwch o alcohol nag sy'n gyfreithlon yng Nghymru dros gyfnod yr ymgyrch sy'n para mis.

"Dydy pobl ddim yn ymddangos fel pe baen nhw'n gwrando ar y rhybuddion real iawn ynglyn â pheryglon yfed a gyrru - mae'r gyrwyr sydd wedi cael eu dal gan swyddogion ledled Cymru wedi peryglu eu bywydau eu hunain a bywydau eraill.

"Fe fyddwn ni'n parhau i dargedu gyrwyr sy'n yfed a chymryd cyffuriau ar hyd y flwyddyn."


Archif Newyddion - Gyrwyr - 2008

Archif Newyddion - Gyrwyr - 2007



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.