Diogelwch Ffyrdd Cymru
18/12/07
Mewn seremoni wobrwyo yn Llundain mae Cymdeithas Ceffylau Prydain (y BHS) wedi dangos ei gwerthfawrogiad i’r unigolion a’r mudiadau sydd wedi cefnogi gwaith yr elusen flaenllaw hon. Yn y seremoni yn Neuadd y Cyfrwywyr yn Ninas Llundain fe gyflwynodd y BHS 26 o wobrau i unigolion neu fudiadau sydd wedi cyfrannu’n aruthrol i’w gwaith. Tynnodd y gwobrau nodedig hynny – a gyflwynwyd gan Desi Dillingham, Llywydd y Gymdeithas – sylw at y gwaith rhyfeddol sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni ar ran ceffylau a marchogion Prydain.
Meddai Patrick Print, Cadeirydd a Chymrawd o Gymdeithas Ceffylau Prydain: “Enillwyr y gwobrau hyn yw glewion di-sôn-amdanyn nhw byd ceffylau – y bobl sy’n bwrw ati’n dawel a di-baid i weithio er lles pob marchog a gyrrwr. Maen nhw’n cyflawni camp aruthrol ac fe ddiolchwn iddyn nhw am bopeth y maen nhw wedi’i wneud.”
Eleni, ym Mlwyddyn Jiwbilî Ddiemwnt Cymdeithas Ceffylau Prydain, fe anrhydeddwyd Terry Jones (Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd Sir Ceredigion) â’r Wobr Diogelwch yn y Gymuned am ei ymroddiad i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd. Mae aelodau Diogelwch Ffyrdd Cymru’n llongyfarch Terry’n gynnes ar y gamp nodedig hon.
 |
Desi Dillingham, Llywydd Cymdeithas Ceffylau Prydain, yn cyflwyno’r Wobr Ddiogelwch i Terry Jones |
Yn ogystal, cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wobr fel yr Awdurdod Lleol sydd fwyaf gweithgar wrth agor llwybrau i geffylau a’u marchogion. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wrthi’n hyrwyddo buddiannau marchogion ers rhai blynyddoedd. Ers iddynt gymryd ffrwyth arolwg Cyfrif Pennau y BHS (arolwg y bu iddynt gymryd rhan weithgar ynddo) i ystyriaeth, maent wedi ceisio darparu llwybrau marchogaeth newydd mewn llawer ardal yn y sir, yn ogystal â gwella’r rhwydwaith presennol o lwybrau ceffyl.