Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

Hygyrchedd

 

Rydyn ni wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y wefan hon yn hygyrch ac yn hawdd i bawb ei defnyddio, pa borwr bynnag y dewiswch ei ddefnyddio, beth bynnag yw cyflymder eich cysylltiad â’r rhyngrwyd, a ph’un a oes anabledd arnoch chi neu beidio.

Dylai pob tudalen ar y wefan hon fod yn ddilys i HTML 4.01 Transitional. Mae’r wefan hefyd yn defnyddio CSS (Taflenni Arddulliau Rhaeadru) dilys.

Mae’r wefan hon yn defnyddio CSS dilys!

Mae’r wefan hon yn defnyddio HTML 4.01 dilys!

Cysylltau
Lle bynnag y bydd modd, fe ysgrifennir y cysylltau posibl fel eu bod nhw’n gwneud synnwyr allan o’u cyd-destun. Bydd hynny’n fodd i borwyr fel JAWS, Lynx neu Opera dynnu rhestr o gysylltau ar dudalen. Lle bynnag y bydd hi’n bosibl, ni fydd testun cyswllt i’w weld fwy nag unwaith ar dudalen.

Ni fydd unrhyw gyswllt yn agor mewn ffenestr newydd.

Delweddau

Mae pob delwedd o ran cynnwys a ddefnyddir yn y wefan hon yn cynnwys priodoleddau ALT disgrifiadol. Nid yw graffigwaith cwbl addurniadol yn cynnwys unrhyw briodoleddau ALT.

Y Dyluniad Gweledol
Mae’r wefan yn defnyddio dalennau arddull rhaeadru ar gyfer y drefn weledol. Nid yw’r wefan yn defnyddio ond meintiau ffont cymharol sy’n gydnaws â’r dewis ‘maint testun’ a bennir gan y defnyddiwr mewn porwyr gweledol. Gallwch newid eich gosodiadau testun drwy ddewisiadau’r porwr: yn Internet Explorer, ewch i View > Text size a dewiswch osodiad sy’n chwyddo neu’n lleihau maint y testun; ym mhorwyr Netscape ewch i View > Text size. Dewiswch ‘ganran’ fwy neu lai neu cliciwch ar 'larger’ (neu ‘smaller’) i fynd un maint i fyny neu i lawr.

Maint y Ffeiliau
Mae maint ffeiliau’r gwe-dudalennau wedi’i gyfyngu i 100kb ar y mwyaf. Cyfyngir maint uchaf y ffeiliau y gellir eu llwytho i lawr (mewn fformat PDF) i 500kb. Mae eithriadau i hynny. Os cewch chi broblem wrth lwytho ffeiliau sy’n fwy na 500kb i lawr, cysylltwch â ni ac fe geisiwn ni gynnig ffordd arall i chi gael gafael ar y ddogfen.


Gair i Gall i’r Defnyddwyr sy’n Darllen y Sgrin

Sut olwg sydd ar we-dudalennau Diogelwch Ffyrdd Cymru
Yr un ‘olwg a theimlad’ sydd i bob tudalen ar y wefan. Dyma sut olwg sydd arnyn nhw o’r bôn i’r brig:

Ar frig y tudalen fe welwch chi faner Diogelwch Ffyrdd Cymru. Gallwch chi bob amser glicio arni i ddychwelyd i’r Hafan. Mae cyswllt i’r Hafan yno hefyd.

O dan hynny, mae’r tudalen yn hollti’n ddwy:

1. I lawr ochr chwith y tudalen fe welwch chi enwau’r adrannau. Fe ân nhw â chi i brif is-adrannau a thudalennau’r rhan honno o’r wefan.

2. Yn y gweddill (Cynnwys) cewch chi destun y tudalen rydych chi wedi pori iddo.

Er enghraifft, os porwch chi i’r hafan Addysg:

1. Bydd yr ochr chwith yn cynnwys eitemau’r ddewislen Addysg fel: Cyn-Ysgol, Cynradd ac Uwchradd.

2. Bydd gweddill y tudalen yn dangos cynnwys ynghylch Addysg.

 

Chwilio’r wefan
Ar bob tudalen cewch gyfleuster chwilio, sef label sy’n dweud “Chwilio”, blwch golygu i chi deipio iddo’r geiriau yr hoffech chi chwilio amdanyn nhw, a botwm ‘Ewch!’.


Bysellau Cyrchu
Mae set o fysellau cyrchu safonol wedi’u defnyddio er mwyn i’r rhai nad ydyn nhw’n gallu defnyddio llygoden, neu y mae’n well ganddyn nhw ddefnyddio’r bysellfwrdd i symud rhwng prif adrannau’r wefan, a thrwy ddogfennau.

I ddefnyddio’r bysellau hynny yn Internet Explorer, daliwch y fysell Alt a bysell y tudalen perthnasol yr un pryd. Mewn rhai porwyr, gall fod angen i chi wedyn bwyso’r fysell ‘Enter’. Ar Macintosh, gallwch bwyso Ctrl a’r fysell gyrchu.

0 – Hygyrchedd

1 – Hafan

2 – Cysylltwch â Ni

3 – Hawlfraint  


Ymholiadau ynghylch Hygyrchedd
Os cewch chi unrhyw drafferth wrth ddefnyddio’r wefan hon ac os credwch chi y gallen ni roi sylw iddo, rhowch wybod. Byddai’n ddefnyddiol petai’ch e-bost yn cynnwys hyn:

  • gwe-gyfeiriad(au) y tudalen(nau) sy’n achosi trafferth i chi
  • natur eich anabledd
  • disgrifiad o’r broblem
  • Os bydd gennych chi ateb i’w gynnig, bydd croeso i chi wneud hynny.

Cysylltwch â’r Gwe-Reolwr yn Niogelwch Ffyrdd Cymru.



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.