Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

Archif Newyddion

Beicwyr

Cynllun Hyfforddiant Beicio Safon Cenedlaethol yng Ngwynedd
8/9/09

GwyneddCafodd Blwyddyn 6 Ysgol Llanrug brofiad newydd o ddysgu sgiliau seiclo.
Yn gyntaf cawsant hyfforddiant o sut i gynnal a chadw eu beic.Doedd rhai beics ddim ffit i fynd ar y ffordd!


Yn lle'r gwersi arferol ar iard yr ysgol, roedd yr hyfforddiant ar y ffyrdd oddi amgylch yr ysgol.
Roedd hyn yn eu galluogi i ennyn hyder i reidio eu beics ar lonydd prysur heddiw.Nid yw’r hyfforddiant yn unig am ddysgu sut i reidio beic i safon genedlaethol, mae hefyd yn eu cyflwyno i’r ffaith fod beicio yn rhywbeth hwyliog y gallent wneud yn ddyddiol gyda’u ffrindiau a hefyd yn ffordd arall o deithio.


Y 3 prif gamau a ddysgwyd oedd
1. Arsylwi.
2. Safle diogel ar y ffyrdd.
3. Rhoi arwyddion.


Pontydd newydd gwerth £2 miliwn i hyrwyddo beicio a cherdded

3/7/09

National Bike Week Heddiw, bydd y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i drafnidiaeth gynaliadwy trwy agor yn swyddogol y pontydd newydd gwerth £2m i feicwyr a cherddwyr sy’n cysylltu dwy gymuned yn y Gogledd.

Bydd pontydd Pen-y-Clip, sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn creu llwybr diogel i feicwyr a cherddwyr rhwng Penmaenmawr a Llanfairfechan.

Mae un o’r pontydd yn union i’r dwyrain o dwnnel Pen-y-Clip ar yr A55, ac mae’r llall yn union i’r gorllewin.

Meddai Mr Jones:

“Pleser i mi yw cael agor y pontydd hyn yn swyddogol heddiw. Fy ngobaith yw y bydd y rhan hon o’r Gogledd yn elwa’n fawr arnynt.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i greu mwy o lwybrau beicio ym mhob rhan o Gymru. Gyda’r pontydd hyn, caiff beicwyr a cherddwyr sydd am groesi’r pentir ddefnyddio hen ffordd Telford, sy’n fwy diogel ac yn cynnig golygfeydd gwych. Trwy adeiladu pontydd bob ochr o dwnnel Pen-y-Clip yn lle’r hen fannau croesi, rydyn ni wedi creu llwybr di-dor i gysylltu’r ddwy gymuned, gan wella’r rhan hon o’r rhwydwaith beicio cenedlaethol yn sylweddol.”

“Wrth i ni ddathlu pen-blwydd rhaglen y Llywodraeth Cymru’n Un yn ddwy oed, mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i greu system drafnidiaeth i Gymru sy’n wirioneddol gynaliadwy ac sy’ncynnig cyfle i osgoi defnyddio ceir i deithio. Os bydd mwy o bobl ledled Cymru yn seiclo ac yn cerdded, bydden nhw'n mynd yn llai dibynnol ar eu ceir, ac yn rhyddhau llai o CO2 sy’n achosi’r Newid yn yr Hinsawdd.

Rhaid i ni i gyd leihau’n hôl troed carbon, a gall beicio wneud gwahaniaeth go iawn. Gyda’r gost o redeg car yn codi, mae beicio’n rhad, yn iach ac yn ffordd gynaliadwy o deithio.”

Yn bresennol yn yr agoriad, roedd meiri’r ddau gyngor tref, cynghorwyr lleol a mudiadau beicio, gydag aelodau o glwb beicio lleol yn mynd ar eu beiciau ar draws y bont newydd


Agoriad swyddogol llwybr newydd i Ystradgynlais

30/6/09

Agor llwybr
Yn agor y llwybr newydd mae Anthea Jones Swyddog Seiclo Cyngor Sir Powys, Steve Davies Cadeirydd Cyngor Cymuned Tawe Uchaf, Meryl James Trafnidiaeth Cymru LlCC, Richard Davies Rheolwr Safle Nant Helen, Celtic Energy, Aneurin Davies Cadeirydd Cyngor y Dref, Krishn Pathak Cynghorydd Sir

Mae llwybr newydd gwerth £335,000 wedi cael ei agor yn Ystradgynlais i gael ei ddefnyddio ar gyfer seiclo a cherdded.

Mae’r llwybr, sef Llwybr Tawe Uchaf, yn un heb draffig ar gyfer cerddwyr, seiclwyr a phobl sydd ag anableddau.

Mae’r llwybr, a ddatblygwyd gan Gyngor Sir Powys, mewn partneriaeth â’r cwmni mwyngloddio Celtic Energy, ychydig dros 4 cilomedr o hyd ac yn ymestyn o Benrhos i Goelbren yn y dref. Cafwyd arian ar gyfer y llwybr gan Gronfa Llwybrau Mwy Diogel Mewn Cymunedau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r llwybr, sy’n rhywbeth roedd y gymuned ei eisiau ers amser, yn defnyddio rhan o hen reilffordd sy’n eiddo i Celtic Energy. Gellir mynd i’r llwybr o Benrhos ar hyn o bryd, ond mae’r gymuned yn gobeithio y bydd modd mynd iddo o rannau eraill o’r dref cyn hir.

Dywedodd y Cyng. Gwilym Evans, Aelod y Bwrdd sydd â Chyfrifoldeb am Seiclo a Diogelwch ar y Ffyrdd: “Rydym yn falch fod y llwybr wedi cael ei adeiladu i safon mor uchel, a bod pobl leol eisoes yn defnyddio’r llwybr yn rheolaidd. Mae’n adnodd lleol gwych i hyrwyddo gweithgaredd gorfforol ac adfywio.”


Disgyblion Ffordun yn cerdded a seiclo ar lwybr newydd

1/5/09Llwybr troed wedi’i agor

Mae dros 100 o ddisgyblion a rhieni o Ffordun wedi cerdded a seiclo ar lwybr newydd sydd i’w rannu ar ddiwrnod yr agoriad swyddogol. Cafodd y llwybr gwerth £190,000, a ariannwyd trwy Gronfa Llwybrau Diogel yn y Gymuned Llywodraeth Cynulliad Cymru, ei agor yn gynharach yr wythnos hon (dydd Mercher 29). Aeth 40 o blant ar feic ac ymunodd rhieni gyda 35 o blant pellach i gerdded ar hyd y llwybr.

Wedi’i adeiladu gan Gyngor Sir Powys o fewn ffin y briffordd, mae’r llwybr dau gilomedr yn gwella rhan o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.

Mae’r llwybr newydd, sydd wedi bod yn ddyhead tymor hir i’r gymuned ac yn rhan allweddol o ddigwyddiad Sylw ar Ddyfodol Ffordun a gynhaliwyd y llynedd, wedi creu cysylltiadau gwell rhwng pob rhan o Ffordun a bydd yn galluogi trigolion, yn enwedig plant, i gerdded a seiclo yn ddiogel.

Dywedodd y Cyng Gwilym Evans, Aelod o’r Bwrdd gyda chyfrifoldeb dros Seiclo a Diogelwch ar y Ffyrdd: “Mae’r gymuned wedi bod angen y llwybr hwn ers amser hir. Dyma gyfleuster gwych sy’n rhoi’r cyfle i bobl leol gerdded a seiclo gan fod yn weithgar. Mae cynnydd gyda llwybrau seiclo ym mhob cwr o’r sir yn addawol iawn gyda nifer o lwybrau newydd yn cael eu hadeiladu.”

Dywedodd Mr Simon Newson, Pennaeth Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Ffordun: “Bydd y llwybr newydd hwn yn rhoi cyfle i blant ac oedolion i gerdded neu seiclo o un pen o’r pentref i’r llall yn ddiogel. Nid yn unig y bydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion gerdded i’r ysgol, a fydd yn eu helpu i gadw’n heini a gweithgar, ond bydd hefyd yn help mawr i’r amgylchedd o amgylch yr ysgol gyda llai o draffig.”


Sialens beicio i’r gwaith yn tynnu tua’r terfyn
25/3/09

RoSPA Driving Forward Global Road Safety Week 2007 in Scotland Mae’r sialens beicio i’r gwaith a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Phrofiad Beicio ar ddechrau Mawrth yn tynnu tua’r terfyn. Mae’r sialens i annog gweithwyr ym Mharc Busnes Llanelwy ac Ysbyty Glan Clwyd i adael eu ceir gartref a beicio i’r gwaith yn dod i ben ar ddydd Sadwrn Mawrth 28.


Fe gynhaliwyd diwrnod profi lle daeth 38 o weithwyr dewr i ddarganfod sut y gallent ddod yn ffit, arbed amser, arbed arian a gwneud eu rhan er lles yr amgylchedd.
Fe ddarparwyd popeth am ddim - o gyngor i’r beic ei hun! Y cyfan yr oedd yn rhaid i’r cyfranogwr ei wneud oedd ymglymu i feicio i’r gwaith am o leiaf 50% o’r amser dros gyfnod y sialens o 4 wythnos.


Fe gynhelir y Diwrnod Dychwelyd Beiciau y dydd Sadwrn hwn, Mawrth 28 o 10 i11:30am ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mharc Busnes Llanelwy, lle caiff cyfranogwyr gyfle i brynu beic am bris gostyngedig.
Mae Sir Ddinbych yn cefnogi’r sialens i godi ymwybyddiaeth o nifer y llwybrau beicio sydd yna yn Sir Ddinbych yn awr yn ogystal ag annog pobl i gadw’n heini ac yn actif.
Mae Sir Ddinbych yn ymgymryd â rhaglen eang o waith ar hyn o bryd i gyflwyno llwybrau beicio yng ngogledd y sir. Bydd y rhwydwaith beicio’n darparu cysylltiadau ardderchog i feicwyr o bob safon i drefi fel Y Rhyl/Prestatyn/Rhuddlan a Llanelwy.


Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag alan.hinchcliffe@denbighshire.gov.uk neu 01824 706887.


Angen gwirfoddolwyr ar gyfer hyfforddiant seiclo i ddisgyblion

12/3/09

Mae Cyngor Sir Powys yn chwilio am wirfoddolwyr i hyfforddi disgyblion ysgolion cynradd i seiclo’n ddiogel.

Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn cynnig cwrs hyfforddi seiclo i’r holl blant ym mlynyddoedd pump a chwech yn ysgolion cynradd Powys. Ond mae’r uned yn dibynnu ar wirfoddolwyr hyfforddi seiclo i gynnig yr hyfforddiant mewn ysgolion yn eu hardaloedd hwy.

Mae angen gwirfoddolwyr yn Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed i alluogi i’r plant gael yr hyfforddiant yn ystod y flwyddyn ysgol hon. Byddant yn cael eu talu am eu hamser a chostau teithio, a byddant yn cael hyfforddiant a chefnogaeth lawn gan y Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd Ardal.

Bydd y disgyblion yn cael chwe sesiwn awr dros gyfnod i dair i chwe wythnos, a rhaid iddynt gwblhau pecyn gwaith cartref a fydd yn atgyfnerthu’r hyfforddiant ymarferol. Bydd y cyrsiau un ai’n cael eu cynnal yn ystod y diwrnod ysgol neu’n syth ar ôl ysgol.

Dywedodd y Cyng. Gwilym Evans, aelod o’r bwrdd sy’n gyfrifol am Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Mae dysgu plentyn i seiclo’n ddiogel yn rhan bwysig o’i addysg diogelwch ar y ffyrdd, ac yn helpu seiclwyr ifanc sut i gasglu gwybodaeth ac yna i wneud penderfyniadau ar beth i’w wneud a phryd, wrth iddynt seiclo mewn traffig.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Hyfforddwr, neu os ydych eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Morris, Uwch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01597 826637.

Bydd pob hyfforddwr newydd yn cael archwiliad heddlu cyn iddynt gael hyfforddi’r plant.


Cynllun Gweithredu Cerdded a Beicio 2009 - 2013

4/3/09

clawr: Walking and Cycling Action Plan 2009 - 2013 Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i annog mwy o bobl i gerdded a beicio'n fwy diogel ac yn fwy aml; p’un a ydynt yn mynd ar daith arferol i’r siopau, yn mynd i’r gwaith neu'n hamddena.

 Ein prif amcanion yw:

  • Gwella iechyd a lles y boblogaeth trwy gynyddu gweithgarwch corfforol;
  • Gwella’r amgylchedd lleol i gerddwyr a beicwyr;
  • Annog teithio cynaliadwy fel cam ymarferol i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd;
  • Hyrwyddo cyfleusterau er mwyn annog pobl i gerdded a beicio mwy;
  • Sicrhau bod polisïau, cyfarwyddyd a chyllid trawsbynciol yn rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio;

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn cefnogi nifer o fentrau a chyrff gan gynnwys:

  • Llwybrau Diogel mewn Cymunedau: Helpu awdurdodau lleol i ddatblygu llwybrau cerdded a beicio diogel a gwella hygyrchedd i bawb;
  • Cynllun grant i wella cefnffyrdd a thrafnidiaeth i gynnig seilwaith newydd ar gyfer cerdded a beicio;
  • Cyllid craidd i Sustrans Cymru, elusen trafnidiaeth gynaliadwy;

Ewch i: wefan Sustrans (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)

  • Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Beicio: Cyflwyno’r Safonau Cenedlaethol trwy gynyddu nifer yr hyfforddwyr cymwysedig yng Nghymru, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Elusennol CTC.

Ewch i: wefan CTC (Clwb Teithio Beicwyr) (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)

  • Dewch i Gerdded Cymru: menter Cymru gyfan a ddatblygwyd trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru - ei diben yw cynyddu nifer y bobl sy’n cerdded yn rheolaidd.

Ewch i: wefan Dewch i Gerdded Cymru (cyswllt allanol) 

  • Bike It – menter beilot Sustrans Cymru sy’n anelu at gynyddu nifer y bobl sy’n beicio i’r ysgol trwy hyrwyddo’r manteision; dysgu sgiliau beicio a chynnal digwyddiadau beicio i’r ysgol a theithiau beicio.

Ewch i: wefan Bike It (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)

Dolenni defnyddiol i sefydliadau eraill

Ewch i: wefan Cymdeithas y Cerddwyr (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)

Lawrlwytho Dogfen

PDF Document (MFS) Cynllun Gweithredu Cymru ar Gerdded a Beicio 2009 - 2013


Archif Newyddion - Beicwyr - 2008

Archif Newyddion-Beicwyr - 2007



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.