Diogelwch Ffyrdd Cymru: Addysg
Sefydlwyd Clwb Traffig y Plant i gynnig ffordd strwythuredig i rieni a gofalwyr ddysgu sgiliau sylfaenol diogelwch ar y ffyrdd i’w plant 3-4 oed, a hynny mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol.
Dewiswyd y grwp oedran hwnnw ar sail ymchwil seicolegol i ddatblygiad plant. Dangosodd yr ymchwil fod y mwyafrif o nodweddion personoliaeth ac arferion oes wedi’u sefydlu erbyn i blant fod yn 5 oed. Dyma’r cyfnod, felly, pryd y mae rhaglen fel Clwb Traffig y Plant â siawns dda o lwyddo nid yn unig yn y tymor byr ond hefyd yn y tymor hir.
Gan mai rhieni neu ofalwyr yw’r dylanwadau mwyaf ar blant cyn-ysgol, byddan nhw’n chwarae rhan bwysig yng ngwaith Clwb Traffig y Plant. Caiff eu gwaith gyda’r plentyn unigol ei gefnogi a’i gynorthwyo gan weithwyr proffesiynol fel Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd, Ymwelwyr Iechyd, gwarchodwyr plant, athrawon meithrin ac arweinwyr cylchoedd meithrin.
Mae gan Glwb Traffig y Plant amcanion clir, sef:
· Gostwng cyfraddau anafu neu ladd y grwp oedran sy’n cael ei dargedu.
· Dylanwadu ar ymddygiad tymor-hir y plant sy’n ymaelodi ag ef.
· Cynyddu ymwybyddiaeth y rhieni o faterion diogelwch ar y ffyrdd a rhoi gwybod iddyn nhw am arferion diogel.
· Bod o fudd anuniongyrchol i aelodau eraill o’r teulu, fel plant hyn a’r rhieni eu hunain.
Diolch i arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae aelodaeth o’r clwb yn rhad ac am ddim yn y mwyafrif o Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
I gael gwybod rhagor, ewch i wefan Clwb Traffig y Plant.