Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

Kerbcraft - Newyddion

Plant yn troi gyda Cochyn ar yr iâ

11/1/10

image depicting Waterfront Winterland Logo Mae grwp o blant ysgol wedi mentro ar yr iâ yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau yn Abertawe, a hynny er mwyn diogelwch ffyrdd.

Enillwyr lwcus cystadleuaeth liwio diogelwch ffyrdd a drefnwyd gan Dîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe oedd y plant ysgol hyn o Flwyddyn 1 yn Ysgol Gynradd Llangyfelach.

Trefnwyd y gystadleuaeth fel rhan o'r fenter Kerbcraft a ariennir gan y Cynulliad ac sy'n darparu addysg diogelwch ffyrdd ymarferol i blant rhwng 5 a 7 oed.

Y wobr ar gyfer enillwyr y gystadleuaeth oedd cael eu trin fel VIPs ar Gylch Iâ Cochyn yng nghwmni Cochyn y Ceiliog Diogelwch Ffyrdd.

Meddai Mike Flynn, Pennaeth Ysgol Gynradd Llangyfelach, "Cafodd y plant ddiwrnod bendigedig a gwnaethant fwynhau eu hunain yn fawr gyda Cochyn.

"Mae cydlynydd Kerbcraft wedi bod yn gweithio yn ein hysgol am bum mlynedd yn helpu i drosglwyddo negeseuon diogelwch ffyrdd hollbwysig i'r plant.

"Mae'n gynllun gwerthfawr iawn a fydd yn helpu i roi'r sgiliau angenrheidiol i'r plant i'w galluogi i gadw'n ddiogel ar ffyrdd."

Mae'r cyngor yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn gwirfoddoli i helpu i gyflwyno Kerbcraft mewn ysgolion ar draws Abertawe.

Meddai Carys Price, Cydlynydd Hyfforddi Cerddwyr sy'n Blant dros Gyngor Abertawe, "Menter bwysig iawn yw Kerbcraft a hoffem ei chynnig i bob ysgol yn y ddinas.

"Mae'r cynllun yn dibynnu ar gymorth gwirfoddolwyr a heb eu cymorth hwy, ni fyddem yn gallu darparu hyfforddiant Kerbcraft i'n holl blant ifanc."

Os ydych yn credu y gallwch helpu, ffoniwch Carys Price neu Lindsey Hill ar (01792) 636142.


Gwirfoddolwyr diogelwch ffyrdd yn derbyn diolch y Nadolig

18/12/09

Mae hyrwyddwyr diogelwch ffyrdd yn Abertawe wedi derbyn diolch Nadoligaidd arbennig gan Gyngor Abertawe. image depicting Rocky The Rooster

Mae'r gwirfoddolwyr lleol sy'n rhedeg menter diogelwch ffyrdd Kerbcraft y Cynulliad yn cael eu hanrhydeddu â chinio Nadolig fel gwobr am eu gwaith caled a'u hymroddiad yn ystod y flwyddyn.

Tîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor sy'n cydlynu'r cynllun ac mae'n dibynnu ar wirfoddolwyr i fynd i ysgolion cynradd i helpu plant rhwng 5 a 7 oed ddysgu am ddiogelwch ffyrdd.

Mae Kingsley McCarthy o Drefansel wedi bod yn helpu, gan ddysgu diogelwch ffyrdd mewn tair ysgol gynradd am y chwe blynedd diwethaf.

Meddai Kingsley, sy'n 73 oed, "Mae Kerbcraft yn gynllun mor hanfodol a gwerth chweil. Dyma un o'r ffyrdd y gallwn help i leihau nifer y damweiniau sy'n digwydd i blant ar ein ffyrdd.

"Fe gynigiodd James, fy ?yr, fy enw ychydig flynyddoedd yn ôl, a dw i ddim wedi 'difaru.

"Rydym ni'n cael amser pleserus a llawer o hwyl gyda'r plant ac mae pawb i weld yn mwynhau eu hunain. Mae gennym hefyd gân diogelwch ffyrdd arbennig rydyn ni'n dysgu i'r plant ar ddiwedd y wers.

"Rwy'n wir obeithio y bydd mwy o bobl yn gwirfoddoli oherwydd mae'n rhaid i ni barhau i gynnal y cynllun."

Dywedodd John Hague, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd, "Rwyf am ddiolch yn bersonol i'r gwirfoddolwyr am eu cymorth, yn ein helpu i gyflwyno addysg diogelwch ffyrdd i blant ledled Abertawe. Heb eu hymdrechion, fydden ni ddim yn gallu cynnal y cynllun.

"Rydym yn gwbl ymroddedig i greu amgylchedd diogel yn ein cymunedau yn enwedig ger ysgolion. Mae hyfforddiant Kerbcraft yn ategu'r camau ffisegol hyn ac yn sicrhau y bydd ein plant yn ddiogel ar y ffyrdd."

I wirfoddolir ar gyfer Kerbcraft a helpu plant i fod yn ddiogel ar ein ffyrdd, cysylltwch â Carys Price neu Lindsey Hill ar (01792) 636142.


Croeso i Gynorthwy-ydd Hyfforddiant newydd Kerbcraft
24/11/09

Sioned Richards

Cafodd Sioned Richards ei phenodi yn Gynorthwy-ydd Hyfforddiant Cerddwyr Ifanc yn ddiweddar. Bydd yn gweithio gydag un ar ddeg o ysgolion cynradd newydd, gan ehangu rhaglen hyfforddiant lwyddiannus Kerbcraft i blant ym mlwyddyn dau.

Mae wedi bod yn gweithio gyda phlant ers iddi fod yn 16 oed a chwblhaodd ei gradd mewn Datblygiad ac Addysg Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol Morgannwg yn 2007.

Ar ôl pasio ei gradd, bu Sioned yn gweithio fel cynorthwy-ydd addysgu mewn sawl ysgol wahanol yn ne Cymru, swydd yr oedd wirioneddol yn ei mwynhau. Mae ganddi brofiad hefyd o weithio mewn cynlluniau chwarae ac â phlant ag anghenion arbennig.

Mae Sioned yn falch iawn o gael cynnig y swydd Cynorthwy-ydd Hyfforddiant Cerddwyr Ifanc ac mae'n edrych ymlaen at ddechrau!
Dyma yrfa yr oedd bob amser am ei dilyn.

Gellir cysylltu â Sioned yn y Ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd Ffôn: 029 2078 8526


Disgyblion Bangor yn dysgu am reolau'r ffordd fawr 

2/7/08

Yr actores Manon Ellis gyda disgyblion Ysgol Glan Cegin, Bangor yn dysgu am reolau’r ffordd fawr

Yr actores Manon Ellis gyda disgyblion

Ysgol Glan Cegin, Bangor yn dysgu am

reolau’r ffordd fawr

Cadw at reolau syml ond pwysig - dyna oedd y neges i ddisgyblion iau Ysgol Glan Cegin, Bangor yn ddiweddar wrth iddyn nhw dderbyn tystysgrifau diogelwch y ffordd fel rhan o gynllun Kerbcraft.

Wrth iddynt gwblhau rhan o gwrs cynllun diogelwch y ffyrdd Kerbcraft gyda chymorth Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd, cafodd disgyblion Ysgol Glan Cegin ymweliad gan yr actores Manon Ellis sy'n chwarae rhan Michelle yn rhaglen deledu boblogaidd "Rownd a Rownd".

Ar ôl bod allan gyda'r disgyblion yn dysgu am y rheolau, cyflwynodd Manon Ellis y tystysgrifau i'r plant. Fel rhan o'r cynllun Kerbcraft, cafodd y disgyblion fudd o fynd allan o gwmpas yr ardal i ddysgu sut i gadw yn ddiogel ar ochr y ffordd, ac mae'r tystysgrifau yn cydnabod eu gwaith da.

Mae cynllun Kerbcraft yn dysgu plant 5-7 oed i gerdded yn ymyl ffordd yn fwy diogel drwy fynd â nhw ar ffyrdd go iawn a dangos iddyn nhw fod gwneud y penderfyniadau cywir, ac ymddwyn yn gywir, yn gallu eu helpu i fod yn ddiogel. Caiff y plant eu cymryd allan o'r ysgol, mewn grwpiau o ddim mwy na thri, gan wirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant.

Fel rhan o'r gwersi cynllun Kerbcraft, mae'r plant yn:

Dewis Lleoedd a Llwybrau Diogel i Groesi'r Ffordd

Caiff y plant eu helpu i adnabod peryglon a dod o hyd i leoedd eraill i groesi.

Croesi'n Ddiogel lle mae Ceir wedi'u Parcio

Caiff y plant eu dysgu i ddefnyddio strategaeth ddiogel i groesi yn ymyl ceir sydd wedi'u parcio - os bydd hi'n amhosibl eu hosgoi.

Croesi'n Ddiogel yn ymyl Cyffyrdd

Caiff y plant eu cyflwyno i broblemau cyffyrdd syml a chymhleth ac fe ddysgan nhw strategaeth i edrych yn systematig i bob cyfeiriad.

I gael gwybod rhagor...


Gydlynydd Kerbcraft

13/5/08

Kerbcraft learners at the presentation ceremony. Also pictured are Karl Napieralla, Director of Education (left) Councillor Arwyn Woolcock (right) and Road Safty Manager Joy Smith (right)

Mae tÎm ymroddedig o wirfoddolwyr Castell-nedd Port Talbot sy'n helpu pobl ifanc i ddysgu am beryglon y ffyrdd, wedi bod yn dysgu hefyd. A nawr maent wedi derbyn tystysgrif ar Ôl cwblhau cynllun hyfforddi unigryw a ddatblygwyd yn y fwrdeistref sirol yn llwyddiannus.

Mae'r 15 gwirfoddolwr wedi bod yn astudio Sgiliau Plant sy'n Gerddwyr sy'n gyfwerth ag NVQ.

Datblygwyd y cymhwyster gan Gydlynydd Kerbcraft ar y cyd  Rhwydwaith y Coleg Agored a Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Castell-nedd Port Talbot ac mae'n unigryw yng Nghymru.

Mae cynllun Kerbcraft, sydd wedi bod yn gweithredu yng Nghastell-nedd Port Talbot am y chwe blynedd ddiwethaf, ar hyn o bryd yn cynnwys 29 o ysgolion a'i nod yw darparu hyfforddiant ar y ffordd i blant rhwng 5 a 7 oed.

Oherwydd eu llwyddiant gyda'r plant, cynigiwyd cyfle i'r gwirfoddolwyr ennill y cymhwyster, a nawr maent wedi derbyn eu tystysgrifau.

Meddai Joy Smith, Rheolwr Diogelwch Ffyrdd: "Rydym wrth ein boddau gyda chyflawniad ein gwirfoddolwyr.

"Rhoeson nhw eu hamser rhydd yn anhunanol i hyfforddi ein plant ifanc agored i niwed ac maent yn hapus ac yn llawen beth bynnag fo'r tywydd. Mae'r cymwysterau cenedlaethol y maent wedi'u hennill yn gwella ein cynllun Kerbcraft ymhellach ac yn gam bach i'w had-dalu am eu hymrwymiad a'u gwaith caled."


Dysgu Am Reolau'r Ffordd Fawr

10/3/08

Cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru gyda plant Ysgol y GorlanCadw at rhai rheolau syml ond pwysig - dyna'r neges y mae cynllun diogelwch y ffyrdd, Kerbcraft yn ceisio ei rannu gyda disgyblion cynradd ar hyd a lled Gwynedd.

Dyna oedd prif neges mewn seminar arbennig a gynhaliwyd ym Mhorthmadog yn ddiweddar i ddathlu cydweithio rhwng Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru wrth iddynt weithio i ehangu cynllun diogelwch y ffyrdd, Kerbcraft i fwy o ysgolion cynradd y sir.

Dywedodd y Cynghorydd R H Wyn Williams, Uwch Arweinydd Portffolio Cyngor Gwynedd:

"Plant heddiw ydy gyrwyr y dyfodol, ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n rhoi'r cyngor gorau i'n pobl ifanc am y peryglon posib sydd ar y ffyrdd. Rydw i'n falch iawn fod tîm Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhannu'r neges bwysig yma gyda phlant ar hyd a lled y sir.

"Mae'r seminar yma wedi bod yn gyfle i ni ddod ynghyd i ddathlu'r hyn sydd eisoes wedi ei gyflawni fel rhan o'r cynllun, a chadarnhau ein hymrwymiad i weithio gyda'n partneriaid i addysgu plant Gwynedd am bwysigrwydd rheolau'r ffordd fawr."

Fel rhan o gynllun Kerbcraft mae plant yn dysgu am reolau'r ffordd fawr, megis dewis llefydd diogel i groesi'r ffordd a dysgu sut i groesi wrth gyffordd. Yn y seminar ym Mhorthmadog, cafodd ddisgyblion Ysgol y Gorlan, Tremadog gyfle i arddangos y sgiliau y maen nhw wedi eu dysgu fel rhan o'u gwersi ymarferol.


Prawf ar Gof Disgyblion Ysgol Rhaglan

14/6/07

Yn ddiweddar, gofynnwyd i ddisgyblion Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Rhaglan alw i gof yr egwyddorion roedden nhw wedi’u dysgu bron i bum mlynedd yn ôl.

kerbcraft_ rhaglan

Pan sefydlwyd Cynllun Kerbcraft yn Sir Fynwy, nhw oedd rhai o’r plant cyntaf i gael yr hyfforddiant. A hwythau’n 5 a 6 oed, gofynnwyd iddyn nhw ble oedd dod o hyd i leoedd mwy diogel i groesi’r ffordd. Os nad oedd lleoedd felly ar gael, fe ddangoswyd iddyn nhw’r ffordd gywir i groesi’n fwy diogel wrth geir a oedd wedi’u parcio ac wrth gyffyrdd.

Y cwestiwn oedd a fydden nhw’n dal i gofio hynny i gyd ar ôl pum mlynedd? Rhoddwyd prawf ar aelodau o’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd, Gwirfoddolwyr Kerbcraft ac, wrth gwrs, y plant eu hunain.

Y dasg a gawson nhw oedd dod o hyd i lwybr diogel drwy’r pentref ac yn ôl i’r ysgol ac arwain yr oedolion yn ddiogel ar hyd y llwybr hwnnw. Yn ogystal â mynd heibio i geir a oedd wedi’u parcio a chadw llygad ar y traffig, fe lwyddon nhw hefyd i achub ci bach a oedd wedi rhedeg allan o ardd ac ar fin rhedeg i’r ffordd. Drwy blymio’n ddwfn i gilfachau’r cof, fe gofion nhw’r holl egwyddorion roedden nhw wedi’u dysgu flynyddoedd ynghynt: fe lwyddon nhw i ddatrys problemau, asesu risgiau, cynllunio’u llwybr, a thywys yr oedolion yn ddiogel yn ôl i’r ysgol.

Camp a hanner!


Plant yng Nghastell-nedd Port Talbot yn Dathlu eu Llwyddiant yn Kerbcraft

4/6/07

kerbcraft ym mharc margamI ddathlu pum mlynedd lwyddiannus o roi hyfforddiant Kerbcraft i blant sy’n cerdded, bu rhyw 1500 o blant o ysgolion Castell-nedd Port Talbot ar daith gerdded 2.5km o hyd o amgylch Parc Gwlad Margam.

Arweiniwyd y daith noddedig gan Henson Hedgehog, masgot diogelwch ar y ffyrdd Castell-nedd Port Talbot.

Mae bron 2,000 o blant lleol wedi cymryd rhan yn y cynllun hyd yn hyn, ac mewn digwyddiad cyflwyno yn Orenfa Margam cafodd pob un o’r 29 o ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun blaciau i’w hanrhydeddu. Ewch i Kerbcraft i gael gwybod rhagor amdano.


Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu’n Gweithredu’n Fyd-eang i wella Diogelwch y Ffyrdd

21/5/07

kercraft_gan_ swyddog_ cymorth_ cymunedol_ yr_ heddluYmunodd tri o swyddogion Cymorth Cymunedol Heddlu Gwent â Catherine Levy, Cydlynydd Kerbcraft Casnewydd, yn Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant i helpu ymgyrch y Cenhedloedd Unedig i hyrwyddo Wythnos Fyd-eang Diogelwch ar y Ffyrdd.

Helpodd y tri swyddog, sef Lowri James, Jamie Cooper a Si Khan, i hyfforddi plant o ddosbarth Blwyddyn 1 drwy ddangos iddyn nhw sut mae dod o hyd i le diogel i groesi’r ffordd, sut mae croesi’n ddiogel wrth gyffordd, a sut mae croesi rhwng ceir sydd wedi’u parcio os nad oes lle diogel arall i groesi.

Meddai Catherine Levy, sy’n rheoli’r Cynllun Kerbcraft yng Nghasnewydd: “Roedd hi’n beth braf iawn cael cymorth y tri swyddog yn Ysgol Gynradd Dewi Sant, a gobeithio y gallan nhw fy helpu i fynd â’r cynllun gwerthfawr hwn ymlaen i ysgolion eraill yn ardal Casnewydd. Am fod Kerbcraft yn gosod sylfeini arferion da o ran diogelwch ar y ffyrdd, gall plant ddilyn yr arferion hynny weddill eu hoes.”



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Go to the English version of this web site.