Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru

Archif Newyddion

Storïau Eraill

Gostyngiad o fwy na hanner yn nifer y damweiniau ffyrdd sy'n cynnwys plant yn ystod y deng mlynedd diwethaf

8/9/09

Cafwyd gostyngiad o fwy na hanner yn nifer y damweiniau ffyrdd sy'n cynnwys plant yn Abertawe, yn ystod y deng mlynedd diwethaf, yn ôl yr ystadegau diweddaraf. image depicting Rocky The Rooster

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau bod damweiniau ffyrdd sy'n cynnwys plant rhwng 0 a 15 oed wedi gostwng i 82 yn unig yn 2008. Ar gyfartaledd, bu 165 o blant yn yr un categori oedran mewn damweiniau tebyg yn ystod y cyfnod 1994 i 1998.

Mae'r ffigurau diweddaraf hefyd yn dangos gostyngiad cyson yn nifer y damweiniau ffyrdd sy'n cynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Y ffigur yn 2006 oedd 410. Mae hyn wedi gostwng i 300 bellach.

Yn ôl swyddogion diogelwch ffyrdd Cyngor Abertawe, mae'r gostyngiadau yn rhannol oherwydd gwelliannau ffyrdd lle mae'r cyngor wedi cyflwyno mesurau tawelu traffig megis mannau croesi diogel ger ysgolion.

Mae ymagwedd fwy strwythuredig tuag at addysg diogelwch ffyrdd ar gyfer plant wedi helpu i leihau'r ffigur hefyd.

Mae arian a roddwyd i'r cyngor gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi helpu i ddarparu addysg megis y cynllun Kerbcraft mewn ysgolion. Mae'r cynllun yn dysgu sgiliau ymyl ffordd ymarferol i blant rhwng pump a saith oed ac mae wedi cael ei ddarparu yn Abertawe ers nifer o flynyddoedd.

Mae swyddogion diogelwch ffyrdd hefyd yn gweithio gydag ysgolion i gael hyd i arian o gronfa Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau, sy'n gallu helpu i ddarparu llwybrau cerdded a beicio diogel ger ysgolion lleol.

Meddai John Hague, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd Cyngor Abertawe, "Mae'r ffigurau hyn yn dangos yn glir ein llwyddiant wrth ddysgu gwybodaeth hollbwysig am ddiogelwch ffyrdd i gannoedd o blant ifanc yn Abertawe.

"Rydym hefyd wedi cyflwyno cyfyngiadau cyflymder is o 20 milltir yr awr ger ysgolion, sy'n helpu i arafu'r traffig a darparu amgylchedd mwy diogel ar gyfer plant a phobl leol."

Mae Abertawe hefyd wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth annog gyrwyr ifanc i gofrestru ar gwrs Pass Plus Cymru, sy'n gwella sgiliau gyrwyr newydd a chynyddu eu profiad y tu ôl i'r olwyn.

Meddai Jeff Green, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe, "Rydym yn falch iawn bod ein gwaith gyda phobl ifanc ac ysgolion yn cael effaith gadarnhaol.

"Mae'n hollbwysig dysgu gwybodaeth diogelwch ffyrdd effeithiol i blant pan fyddant yn ifanc iawn. Yr unig ffordd y gallwn wneud hyn yw gweithio gydag ysgolion, rhieni ac asiantaethau fel yr heddlu lleol."


CnPT yn gofyn am syniadau I wella diogelwch ar y ffyrdd

27/7/09

Dosbarthwyd mwy na 7,000 o holiaduron yng Nghwm Tawe fel rhan o ymgyrch barhaus Cyngor Castell-nedd Port Talbot i greu ffyrdd diogel mewn cymunedau.

Mae'r awdurdod wedi bod yn datblygu'r prosiect hwn ar draws y sir yn sgil menter gan y Cynulliad.

Y nod yw gwella diogelwch ffyrdd yn y gymuned leol, cynyddu ymwybyddiaeth o faterion teithio ac annog mwy o bobl i gerdded, beicio neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

Bellach maent am roi cyfle i bobl Cwm Tawe leisio eu barn ac esbonio sut y gellir gwella materion diogelwch ffyrdd a theithio yn eu barn hwy.

Yn ogystal Â'r holiaduron, mae'r cyngor hefyd yn trefnu sioeau teithiol yn yr ardal, gan wahodd amryw o sefydliadau, busnesau lleol, ysgolion a'r cyhoedd i gymryd rhan.

Meddai John Flower, Pennaeth Peirianneg: "Rydym yn sicr y bydd trigolion Cwm Tawe yn cydnabod pwysigrwydCouncillor Alun Thomasd cysylltu eu cymunedau, ynghyd  phwysigrwydd gwella diogelwch i bawb, ac mae angen eu help arnom.

Dosbarthwyd mwy na 7,000 o holiaduron yng Nghwm Tawe fel rhan o ymgyrch barhaus Cyngor Castell-nedd Port Talbot i greu ffyrdd diogel mewn cymunedau.

Bwriedir cynnal y sioeau teithiol yn yr wythnos sy'n dechrau 27 Gorffennaf a bydd gwybodaeth am bob un yn cael ei dosbarthu'n lleol.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ali Thomas: "Mae hyn yn hollbwysig i Gwm Tawe. Mae gwella ansawdd bywyd ar gyfer pawb yn flaenoriaeth i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac mae hyn yn rhan bwysig o'r gwaith hwnnw.

"Gobeithio y bydd llawer o bobl yn cymryd rhan ac yn rhannu eu syniadau ynghylch gwella'r materion hyn gyda'r cyngor".


Mwy na 2,500 o blant yn derbyn cyngor ar ddiogelwch cyn gwyliau'r haf

23/7/09

image depicting City and County of Swansea Council LogoAchubwyd dros 2,500 o blant ysgol Abertawe o fws ar dân yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd yn y ddinas. Yn ffodus, dim ond ymarfer diogelwch oedd y gwacáu, a gynhaliwyd yn nigwyddiad Criw Croch eleni.

Cynhelir y digwyddiad gan Gyngor Abertawe bob blwyddyn lle gwahoddir plant o ysgolion Abertawe i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau sy'n llawn hwyl, ond â neges ddifrifol.

Eleni, un o'r gweithgareddau newydd oedd efelychu tân ar fws ysgol, lle arweiniwyd y plant drwy ddull gwacáu cywir gan ddefnyddio'r allanfeydd brys.

Roedd un o'r prif ymarferion eraill yn pwysleisio peryglon chwarae ar safleoedd adeiladu.

Yn ôl John Hague, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, mae digwyddiad Criw Croch wedi darparu cefnogaeth a gwybodaeth amserol i ddisgyblion cyn gwyliau hir yr haf.

"Mae Criw Croch yn ddigwyddiad gwych sydd â'r nod o annog plant i ddeall sut i gadw'n ddiogel a mwynhau'r haf."

Dywedodd Doreen Vanstone, Cydlynydd Criw Coch Cyngor Abertawe, "Dyma'r digwyddiad mwyaf llwyddiannus hyd yma. Daeth 2,650 o blant yn ystod y pythefnos. Rydym hefyd wedi cynyddu'r nifer o asiantaethau sy'n cymryd rhan mewn helpu i roi llawer o gyngor defnyddiol i'r plant.

"Ein nod yw gwneud yr holl weithgareddau mor realistig â phosib, felly os bydd y plant yn wynebu digwyddiad o'r fath, ni fyddant yn brawychu a byddai ganddynt ddigon o wybodaeth ymarferol i ymdopi tan i gymorth eu cyrraedd."


Partneriaeth priffordd yn noddi dillad patrolau croesi ysgolion newydd

1/6/09

Mae patrolau croesi ysgol yn Abertawe wedi cael gwisg newydd ar ôl i'r gwasanaeth gael nawdd newydd.

image depicting school crossing patrol uniform

Mae Partneriaeth Priffyrdd Abertawe, sy'n cynnwys Cyngor Abertawe, Hansons Contracting ac Alun Griffiths Contractors (Ltd), wedi prynu'r dillad pob tywydd arbenigol.

Bydd y rhodd garedig yn helpu i gadw tîm o batrolau croesi ysgol yn Abertawe, sy'n gweithio'n galed, yn dwym ac yn sych trwy'r flwyddyn wrth iddynt helpu miloedd o blant ysgol i groesi heolydd i'r ysgol ac yn ôl adref yn ddiogel.Mae 95 o gotiau pob tywydd newydd wedi'u prynu i batrolau'r ddinas.

Meddai Jamie Bowen, Rheolwr Gwella Busnesau, gyda Phartneriaeth Priffyrdd Abertawe, "Rydym wrth ein boddau yn helpu patrolau croesi ysgol Abertawe i aros yn ddiogel a gwneud eu gwaith, sef cadw plant yn ddiogel, yn enwedig ar ein heolydd.

"Maen nhw'n gwneud gwaith gwych ac mae pobl yn anghofio'n rhy hawdd bwysigrwydd eu rôl wrth wneud ein heolydd yn fwy diogel i bobl eu croesi.

"Rwy'n si?r bod eu rôl yn wobrwyol tra'n eithriadol o straenus ar adegau, ond does dim amheuaeth ei bod yn werthfawr iawn.

"Wrth i ni weithio i helpu gwella priffyrdd a diogelwch ffyrdd yn Abertawe trwy ein contractau ein hunain, bydd yn braf gweld y patrolau croesi'n chwarae eu rôl mewn gwisg a ddyluniwyd i'w manylebau eu hunain ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cyfrannu yn y ffordd hon."

Meddai Joanne Davies, Swyddog Patrolau Croesi Ysgolion Cyngor Abertawe, "Rwyf wrth fy modd bod y bartneriaeth wedi cyfrannu at gostau cyllido'r gwasanaeth gwerthfawr hwn.

"Mae ein Patrolau Croesi Ysgolion yn gwneud gwaith ardderchog, ym mhob math o dywydd er diogelwch y plant. Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth a roddwyd i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn."

Partneriaeth pedair blynedd yw Partneriaeth Priffyrdd Abertawe sy'n werth hyd at £20m. Bydd yn cyflawni effeithlonrwydd gwell a chynllunio gwelliannau priffyrdd mwy effeithiol trwy integreiddio agosach a gweithio fel tîm.


Y Gogledd yw’r cyntaf i gael gwasanaeth traffyrdd arloesol

22/5/09
Defnyddwyr Gwibffordd A55 Gogledd Cymru fydd y cyntaf yng Nghymru i elwa ar wasanaeth swyddogion traffig penodol. Bydd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, yn cyhoeddi treialu Gwasanaeth Swyddog Traffig newydd ar gyfer yr A55, adeg agoriad swyddogol Canolfan Rheoli Traffig newydd Gogledd Cymru ym Morfa ger Conwy, canolfan sy’n werth £2.1 miliwn.

Bydd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Richard Brunstrom, yn ymuno â Mr Jones. Dywed Mr Jones y bydd y trefniadau newydd yn gwella’n aruthrol y modd y caiff y ffordd ei phlismona a gallent gael eu cyflwyno yn y pen draw ar draws ffyrdd pwysicaf Cymru.

“Rwy’n ffyddiog y bydd y system newydd yn helpu i leihau’r amser sydd ei angen i ymateb i achosion ar y ffordd allweddol hon”, meddai Mr Jones, sy’n Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

“Bydd y gwasanaeth yn helpu i ryddhau swyddogion yr heddlu er mwyn iddynt ganolbwyntio ar orchwylion craidd sy’n effeithio ar ddiogelwch pawb sy’n defnyddio’r ffyrdd.

“Mae’r gwasanaeth yn ychwanegu at weithrediadau Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru, a bydd y Gogledd yn ei gyfanrwydd ar ei ennill yn gymdeithasol ac yn economaidd.”

Meddai’r Prif Gwnstabl Richard Brunstrom:

“Heddiw rydym yn lansio datblygiad cyffrous newydd yn y gwaith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a gwasanaeth heddlu Cymru wrth inni geisio bwrw ati mewn modd deinamig i reoli’r rhwydwaith cefnffyrdd.

“Bydd defnyddwyr y ffyrdd yn gweld cerbydau’r swyddogion traffig a’u harwyddion newydd ar yr A55 wrth iddyn nhw ddefnyddio patrolau amlwg a gweladwy iawn. Bydd hyn yn gweddnewid ein dull o fynd ati i reoli tagfeydd, er mwyn lleihau oedi, cynyddu posibiliadau economaidd a thrwy hynny wella diogelwch ar y ffyrdd.”

Bydd gan bob un o’r cerbydau a’u marciau melyn a du Battenberg oleuadau ambr a choch, a bydd gan swyddogion traffig sy’n gweithio yn y cerbydau bwerau cwnstabl yr heddlu i atal, rheoli a chyfarwyddo trafnidiaeth.

Fodd bynnag, nid yw’r cerbydau hyn yn gerbydau ymateb brys – eu nod yw rhoi sicrwydd a hyrwyddo diogelwch y cyhoedd, a bydd yr heddlu yn parhau i ddod i sefyllfaoedd neu achosion o argyfwng lle gall fod angen ymchwiliad troseddol, gan arwain yr ymateb i’r sefyllfaoedd hyn.

“Y nod yw cynorthwyo yn hytrach nag erlid modurwyr sy’n teithio ar ffordd gyswllt Ewrop yr A55 er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn parhau i symud," meddai Richard Brunstrom.

Mae’r Ganolfan Rheoli Traffig wedi bod yn gweithredu’n llawn ers mis Chwefror 2009, a dyma leoliad gwasanaeth gwybodaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Traffig Cymru, sydd wedi bod yn arwain y gwaith o fonitro a rheoli’r rhwydwaith cefnffyrdd.


8 miliwn ar gyfer prosiectau diogelwch ar y ffyrdd

6/4/09

20 mph parthMae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, wedi cyhoeddi heddiw werth £8.1 miliwn o grantiau ar gyfer prosiectau diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru. Bydd cyfran o’r arian yn mynd i awdurdodau lleol i gynnal prosiectau diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys parthau 20 mya, cydgysylltwyr diogelwch ffyrdd lleol a phrosiectau addysgol.

Meddai Mr Jones:

Gyda’r arian hwn, bydd awdurdodau’n gallu bwrw ymlaen â’u gwaith da i wneud ffyrdd Cymru’n fwy diogel.

Yng Nghymru yn 2007, cafodd 30% yn llai o bobl anaf angheuol neu ddifrifol mewn gwrthdrawiad ar y ffordd na’r cyfartaledd ar gyfer 1994-98.  Rydym ar y ffordd felly i gyrraedd ein targed o 40% o ostyngiad erbyn 2010.

Yn ôl yr astudiaethau sydd wedi’u cynnal, mae’n deg dweud bod y mesurau y mae awdurdodau lleol wedi gallu eu cynnal trwy’r grant diogelwch ar y ffyrdd wedi cyfrannu’n fawr at leihau nifer y rhai sy’n cael eu hanafu.

Ym mis Awst 2008, roedd 438 o leoedd yng Nghymru dan gyfyngiad cyflymder o 20mya.  Mae astudiaethau wedi dangos, yn 273 o’r lleoedd hynny, roedd 42% yn llai o wrthdrawiadau a arweiniodd at anafiadau a 40% yn llai o bobl wedi’u hanafu’n angheuol/difrifol.

Mae dyraniad eleni’n cynnwys arian i bob awdurdod allu cyflogi Cydgysylltydd Hyfforddi Cerddwyr Ifanc i helpu i ddysgu plant rhwng 5 a 7 oed i fod yn gyfrifol ar y ffyrdd.  Rhaid defnyddio o leiaf 20% o’r dyraniad ar addysg, hyfforddiant a chyhoeddusrwydd a’r gweddill ar brosiectau diogelwch ar y ffyrdd.

Mae’r cyfanswm o £8.129 miliwn wedi ei rhannu mas i bob awdurdod lleol fel y dangosir isod:

  • Ynys Môn £217,000
  • Blaenau Gwent £217,000
  • Pen-y-bont ar Ogwr £367,000
  • Caerffili £411,000
  • Caerdydd £880,000
  • Sir Gâr £501,000
  • Conwy £288,000
  • Ceredigion £218,000
  • Sir Dinbych £284,000
  • Sir y Fflint £435,000
  • Gwynedd £301,000
  • Merthyr Tudful £217,000
  • Sir Fynwy £217,000
  • Castell-nedd Port Talbot £362,000
  • Casnewydd £346,000
  • Sir Penfro £343,000
  • Powys £325,000
  • Rhondda Cynon Taf £604,000
  • Abertawe £676,000
  • Torfaen £217,000
  • Bro Morgannwg £335,000
  • Wrecsam £368,000

Gwobr i Megan
6/4/09

Roedd gan Henson y Draenog syrpreis mawr i ddisgyblion Ysgol Gynradd Rhos ym Mhontardawe.

Megan yn derbyn ei gwobr gan Henson y Draenog a'r Pennaeth Ceri Roberts

Megan yn derbyn ei gwobr gan Henson y Draenog a'r Pennaeth Ceri Roberts

Pan ymunodd Megan Johnson Â'i chyd-ddisgyblion ar gyfer y gwasanaeth ysgol doedd dim syniad ganddi mai hi fyddai seren y bore.

Roedd Henson wedi dod i gyflwyno beic newydd iddi am ennill cystadleuaeth diogelwch ffyrdd arbennig wedi'i redeg gan DÎm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Erbyn diwedd 2008, roedd y tÎm diogelwch ffyrdd a Henson wedi bod i bob ysgol yn y fwrdeistref gyda'r Brodyr Gregory a'u cynhyrchiad rhyngweithiol wedi'i anelu at godi ymwybyddiaeth materion diogelwch ffyrdd amrywiol.

Gwelodd dros 12,000 o ddisgyblion y cynhyrchiad yn ystod y daith wyth wythnos a chafodd pob disgybl y cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ar Reolau'r Groes Werdd.

Dewiswyd yr enillydd, Megan Johnson, yn annibynnol ac roedd hi'n hapus iawn i dderbyn ei gwobr gan Henson.

Dywedodd llefarydd Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd ar gyfer Gwasanaethau Strydoedd a Phriffyrdd, y Cynghorydd Arwyn Woolcock, "Hoffwn longyfarch Megan am ennill.

"Mae pob disgybl a gymerodd rhan yn y gystadleuaeth yn haeddu clod am eu gwaith caled. Roedd y cynhyrchiad yn gyffrous iawn i'n hawdurdod, gan gynnig cyfle i ddarparu ffordd newydd i blant ysgol gynradd gael gwybodaeth am ddiogelwch ffyrdd a materion yr amgylchedd drwy sioe llawn hwyl gan y Brodyr Gregory."


Cam ymlaen i welliannau gludiant addysg

1/4/09

WAG logoMae cynlluniau ar gyfer gwella cludiant i ddisgyblion a myfyrwyr ledled Cymru wedi’u dadorchuddio heddiw gyda Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi ei chanllawiau ar gyfer awdurdodau lleol. Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, y byddai’r canllawiau’n helpu awdurdodau lleol i reoli’u trefniadau teithio i ddysgwyr ac y byddai hyn yn gam allweddol arall i’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr.

Mae’r Mesur, a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr, yn caniatáu i fwy o blant ysgol gynradd deithio i’r ysgol am ddim, yn gwella’r diogelwch ac yn diffinio’r ddarpariaeth ar gyfer teithio i’r ysgol am ddim.

Mae hefyd yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i hwyluso cludiant i Addysg Cyfrwng Cymraeg, ac yn eu helpu i greu ac i reoli trefniadau teithio i ddysgwyr yn eu hardaloedd.

Mae’r canllawiau, a gafodd eu cyhoeddi heddiw, yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol fedru cynllunio a gwneud trefniadau teithio i ddysgwyr yng Nghymru. Mae’n esbonio sut y gallan nhw newid amserau dechrau a gorffen sesiynau ysgol er mwyn gwella’r trefniadau teithio a lleihau unrhyw dagfa sy’n digwydd ar amserau cau ac agor yr ysgolion.

Meddai Mr Jones:

Ein cred yw na ddylai teithio bod yn rhwystr i addysg plant a phobl ifanc. Gall cludiant effeithiol ac effeithlon wella mynediad i addysg a lleihau tagfeydd ar y ffyrdd.

Y cam nesaf ar gyfer y Mesur yw datblygu cod Ymddygiad Cymru Gyfan ar gyfer pawb sy’n teithio i’w lleoliad dysgu ac yn ôl.

Y bwriad yw y bydd y cod yn dod i rym o Ionawr 2010, a bydd drafft cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ym mis Mai eleni.


Buddsoddiad mawr i ddatblygu trafnidiaeth yng Nghymru

17/3/09

Buddsoddiad mawr i ddatblygu trafnidiaeth yng Nghymru Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth grantiau o fwy na £95 miliwn i wella ffyrdd, datblygu trafnidiaeth gynaliadwy ac annog pobl i gerdded a beicio ledled Cymru. O dan ddyraniad eleni o Grantiau Trafnidiaeth i awdurdodau lleol, mae cynlluniau ffyrdd yn derbyn mwy na £63 miliwn, mae pecynnau trafnidiaeth gynaliadwy yn cael £21 miliwn ac mae £10 miliwn wedi’i ddyfarnu i brosiectau cerdded a beicio.

Meddai Mr Jones:

Bydd y dyraniad hwn yn cefnogi cynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru – gan ein helpu ni i sicrhau datblygu cynaliadwy a chymunedau llewyrchus ym mhob rhan o’n gwlad.

Mae gan Awdurdodau Lleol ran allweddol i’w chwarae i gyflawni ein nod yn Cymru’n Un i gael system Trafnidiaeth Integredig, sy’n addas ar gyfer y 21ain ganrif. Bydd hon yn system sy’n uno ein cenedl ac yn gweithredu ein cynlluniau i ostwng allyriadau carbon.

Rwy’n falch hefyd o gyhoeddi cyllid o £10 miliwn ar gyfer prosiectau cerdded a beicio a’r fenter ‘Llwybrau Diogel mewn Cymunedau’. Bydd hyn yn helpu i greu Cymru iachach drwy wneud cerdded a beicio yn opsiwn gwyrddach a saffach ar gyfer y gymuned gyfan.

Ymhlith y cynlluniau ffordd a fydd yn derbyn grantiau mae cynllun Ffordd Osgoi Gartholwg yn Rhondda Cynon Taf, Ffordd Gyswllt Ceredigion a Ffordd Ddosbarthu’r Cyrion yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae cynllun Trefi Trafnidiaeth Gynaliadwy Caerdydd yn derbyn £6m, mae Abertawe yn cael bron i £6m i wella trafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys datblygu gorsaf fysus y Quadrant ac mae’r gwaith o barhau i ddatblygu Cerdyn Teithio Cymru Gyfan yn cael £2m.

Mae mwy na £10 miliwn wedi’i ddyfarnu i brosiectau i wella cyfleusterau beicio a cherdded, gan gynnwys £2 miliwn pellach ar gyfer parhau â chynllun Arfordirol Afon Clwyd ac £1.6 miliwn ar gyfer datblygu llwybr cerdded a beicio Pont-y-Werin, Caerdydd.

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru hefyd wedi derbyn peth o’r £8.134 miliwn a ddyfarnwyd ar gyfer prosiectau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.


Trafnidiaeth gynaliadwy: Cynllun newydd

11/3/09


Caerdydd sydd wedi'i ddewis fel "tref trafnidiaeth gynaliadwy" cyntaf Llywodraeth Y Cynulliad.

Bydd y cynllun £28.5m yn ceisio darparu beiciau yn rhad ac am ddim, teithiau bysus o gwmpas canol y ddinas a gwella llwybrau cerdded a beicio.


Bydd y ddinas yn derbyn yr arian gan Lywodaeth y Cynulliad a'r cyngor dros y ddwy flynedd nesa.
Bydd yr arian yn talu am welliannau i drafnidiaeth cyhoeddus, gan gynnwys adnodd parcio a theithio newydd.
Os fydd y cynllun yn llwyddiant, bydd yn cael ei ail-adrodd mewn rhannau eraill o Gymru.
Yn rhan o'r cynllun fydd llwybrau bysiau cylch yng nghanol y ddinas a chynllun i hirio beiciau am ddim, ynghyd â phont beiciau a cherddwyr newydd dros afon Elai rhwng pentref chwaraeon Caerdydd a Phenarth.

Wrth gyhoeddi'r cynllun, dywedodd y gweinidog trafnidiaeth Ieuan Wyn Jones:
"Mae'r nifer o gymudwyr yng Nghaerdydd a'r cyffuniau wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diweddar.
"Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu a gweithredu ystod o syniadau fydd yn gymorth i'r 210,000 o bobl sy'n teithio i'r ddinas bob dydd.
"Bydd y cynllun hefyd yn cefnogi ein cynllun ymarfer corff, sydd wrthi'n cael ei ddatblygu."
Fe fydd cynlluniau hefyd ar gyfer mesurau i hybu teithio cynaliadwy, clybiau ceir, cynlluniau rhannu teithio a rhentu beiciau yn rhad ac am ddim.

Disgrifiwyd y cynllun fel un sy'n ennill mewn dau ffordd gan y gweinidog amgylchedd a chynaliadwyedd, Jane Davidson.
"Rydym wedi dod yn llawer rhy ddibynnol ar ddefnyddio'r car, ac mae'n rhaid i ni ystyried ffyrdd mwy gwyrdd o deithio," meddai.


Gwobrau Diogelwch Ffyrdd 2009

9/3/09

Cefnogir gan
Chevron Texaco

Mae Gwobrau blynyddol Diogelwch Ffyrdd Cymru yn cydnabod arferion da, prosiectau arloesol a chyfraniadau personol i ddiogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru. Mae Cynllun y Gwobrau’n rhoi cyhoeddusrwydd i’r cyfraniadau i’r targedau i ostwng nifer yr anafedigion ar y ffyrdd ac yn cynyddu’r ymwybyddiaeth ohonynt.

Dylid cyflwyno enwebiadau ar y ffurflen amgaeedig (ynghyd ag unrhyw ddeunydd ategol perthnasol) erbyn dydd Gwener 21 Awst 2009 fan bellaf. Gwahoddir enillwyr y Gwobrau i dderbyn eu Gwobr yng nghinio Cynhadledd Diogelwch Ffyrdd Cymru ddydd Llun 28 Medi yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon. Caiff enillwyr y gwobrau £100 a chofrodd.

Ffurflen Enwebu yma


Dychwelwch y ffurflen hon erbyn dydd Gwener 21 Awst 2009 i: Diogelwch Ffyrdd Cymru, RoSPA, 2 Cwrt-y-Parc, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GH Ffacs: 02920 250601 Ebost: jbibby@rospa.com


Criw Croch yn Llwyddiant eto

9/3/09

image depicting Crucial Crew 1 Ar 10 ac 11 Chwefror 2009, cymerodd y Tîm Diogelwch Ffyrdd unwaith eto ran yn rhaglen ddeuddydd Anghenion Arbennig y Criw Croch yng ngorsaf dân Treforys.

Mae'r rhaglen Criw Croch yn uno llawer o grwpiau ac asiantaethau allanol ar draws Abertawe i gynnig cyngor a gwybodaeth i gannoedd o ddisgyblion. Mae'r rhain yn cynnwys y frigâd dân, yr heddlu, y Groes Goch ac 'Info-nation' a roddodd cyngor i bobl ifanc ar sut i ddefnyddio'r cyfrifiadur yn ddiogel i bobl ifanc.

O dan arweiniad Mrs Doreen Vanstone, mae'r digwyddiad hwn a'r rhaglen haf fwy honno wedi tyfu'n raddol ac eleni, roedd yn cynnwys stondin cam-drin yn y cartref. Mae'r ystod oedran hon yn amrywiol iawn - o flwyddyn 4 yr ysgol gynradd hyd at 16+ a choleg Abertawe.

Roedd Diogelwch Ffyrdd yn canolbwyntio ar 'Byddwch Ddiogel, Byddwch Weladwy', sy'n amlygu pwysigrwydd gwisgo dillad golau a lliwgar yn ogystal â chyfwisgoedd fflworolau ac adlewyrchol wrth ddefnyddio ffyrdd a strydoedd yn y tywyllwch. Mae hwn yn berthnasol yn enwedig i blant ysgol sy'n teithio i'r ysgol yn gynnar yn y bore a'r nos yn y gaeaf.

Er mwyn pwysleisio hyn, cafodd pabell dywyll ei haddurno â phaent uwchfioled ac amrywiaeth o adnoddau fflworolau ac adlewyrchol. Roedd y disgyblion wedi'u hudo wrth weld y negeseuon diogelwch ffyrdd dirgel ar y waliau ac roeddynt wedi cael llawer o hwyl yn chwarae â'r cyfarpar gwelededd uchel a'r bocs golau sy'n ymateb i symudiadau a s?n.

Unwaith eto, roedd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn a rhoddodd gyfle i'r tîm diogelwch ffyrdd drosglwyddo'r neges 'Byddwch Ddiogel, Byddwch Weladwy' mewn ffordd llawn hwyl a llawn dychymyg.


Cystadleuaeth Amlgyfrwng Wrth-Yfed a Gyrru 2009

6/3/09
Road Safety Wales logo

I hyrwyddo’r neges wrth-yfed a gyrru, gwahoddir ysgolion a mudiadau ieuenctid i ddyfeisio, perfformio a recordio cyflwyniad amlgyfrwng byw i rybuddio pobl o beryglon a/neu ganlyniadau yfed a gyrru.

 

Canllawiau’r gystadleuaeth:
1. Gellir cynnwys hyd at 6 o berfformwyr.
2. Rhaid i aelodau’r tîm fod rhwng 11 a 25 oed.
3. Dylai’r cyflwyniad bara llai na 3 munud, a cheir defnyddio amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys unrhyw rai o’r rhain:
· Perfformiad cerddorol
· Drama/Sgets
· Barddoniaeth/Araith
· Animeiddiad
· Rhaglen ddogfen
· Comedi
· Dawns
4. Rhaid i’r cyflwyniad gael ei ffilmio a’i gyflwyno ar fideo neu DVD a rhaid darparu manylion cysylltu.
5. Caiff y cyflwyniad ei farnu ar sail y meini prawf hyn (nad ydynt yn nhrefn eu blaenoriaeth):
a. Gwreiddioldeb
b. Neges
c. Perfformiad
d. Effaith

Caiff yr ymgais fuddugol ym mhob Sir wobrau gan eu hawdurdod lleol. Yna, cyflwynir yr ymgais fuddugol i’r Gystadleuaeth Ranbarthol. Caiff enillwyr y Gystadleuaeth Ranbarthol £500 i’r ysgol/mudiad y maent yn ei chynrychioli/ei gynrychioli, a chyflwynir gwobrau i aelodau unigol y tîm. Yn genedlaethol, gwahoddir y pedair ymgais Ranbarthol fuddugol i gael eu gwobr a rhoi’r cyflwyniad adeg lansio ymgyrch Wrth -Yfed a Gyrru Cymru-Gyfan yng Nghaernarfon ddydd Iau 3 Rhagfyr (telir yr holl dreuliau).

Cynhelir y beirniadu ar y gystadleuaeth genedlaethol ddydd Llun 9 Tachwedd

Gall grwpiau sydd â diddordeb gysylltu â’u Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd cliciwch yma

I weld cynigion cystadleuaeth 2008 cliciwch yma


Rocky yn codi's cwpan FA

3/3/09

image depicting FA Pic 1

Ymunodd y tîm diogelwch ffyrdd â thaith Tlws Cwpan yr FA pan ddaeth i Stadiwm Liberty Abertawe ddydd Gwener 6 Chwefror 2009. Llwyddiant Dinas Abertawe yng Nghwpan FA eleni sbardunodd yr ymweliad gan dîm taith y tlws.

Cafodd disgyblion llawn cyffro o ysgolion cynradd Trefansel, Pontarddulais, Craigcefnparc, Pentrepoeth, Gwyrosydd a Llanmorlais y cyfle i ymweld ag arddangosfa Cwpan yr FA, cymryd rhan mewn gweithgareddau pêl-droed, ffilmio eu dathliadau sgorio gôl unigryw a chael tynnu llun gyda Chwpan yr FA!

Oherwydd y berthynas ardderchog rhwng Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a'r Tîm Diogelwch Ffyrdd, roedd yr achlysur yn gyfle i atgoffa pawb i fod yn ddiogel wrth ddefnyddio'r ffyrdd.

Cymerodd Cochyn y Ceiliog Croch, yr arwr Diogelwch Ffyrdd a'r tîm, ran yn y gweithgareddau pêl-droed a rhoi bagiau anrhegion i'r plant ifanc sy'n frwdfrydig am bêl-droed.

Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus tu hwnt ac roedd presenoldeb y tîm Diogelwch Ffyrdd wedi'i werthfawrogi'n fawr gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe a thîm taith Tlws yr FA.


Anafusion Ffyrdd yng Nghymru: Chwarter 3, 2008 (dros dro)

6/2/09

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar “Anafusion Ffyrdd yng Nghymru: Amcangyfrifon Chwarterol Dros Dro, 3ydd Chwarter 2008”, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 5 Chwefror 2009, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Safon Ystadegau Gwladol Dyma’r trydydd tro i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi data chwarterol ar anafusion ffyrdd.

Y Datagniad
Datganiad Ystadegol 16/2009 (PDF 225kB) (Saesneg yn unig)

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Cafodd 45 o anafusion ffyrdd eu lladd.
  • Cafodd 309 o anafusion ffyrdd eu hanafu’n ddifrifol.
  • Cafodd 2,459 o anafusion ffyrdd fân-anaf.
  • Roedd nifer yr anafusion KSI dros y cyfnod hwn, sef 1,404 o bobl, 1 y cant yn uwch na’r cyfnod blaenorol o 12 mis, a 30 y cant yn is na chyfartaledd 1994-98.
  • Roedd nifer yr anafusion plant KSI dros y cyfnod hwn, sef 111, 28 y cant yn is na’r cyfnod blaenorol o 12 mis, a 62 y cant yn is na chyfartaledd 1994-98.

Cyswllt:
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk


Neges diogelwch ffyrdd yn cyrraedd y newyddion

12/1/09

Mae pobl ifanc yn ysgolion Abertawe wedi bod yn trosglwyddo neges diogelwch ffyrdd i'w cyfoedion. rocky image bike

Fel rhan o gystadleuaeth i nodi lansiad cylchlythyr Clwb Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau cyntaf erioed Abertawe, gwahoddwyd disgyblion i gyflwyno eu gwaith diogelwch ffyrdd, er mwyn cyhoeddi'r goreuon yn y cylchlythyr cyntaf.

Dywedodd John Hague, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, "Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd yn amrywiol, gan gynnwys adroddiadau gwasanaeth, bwletinau newyddion, lluniau, jôcs, rhybuddion diogelwch i yrwyr ac adroddiadau am ymweliad gan Cochyn y Ceiliog Croch."

Dewiswyd gwaith gan 34 disgybl o ddeg ysgol gynradd yn enillwyr; YGG Bryn-y-môr, Cadle, y Clâs, Clwyd, Dyfnant, Trefansel, Ystumllwynarth, Pontarddulais, Heol Teras, Waunarlwydd.

Lansiwyd y cynllun Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau (SDFfI) gyntaf yng Nghymru yn Abertawe, gyda'r nod o helpu pobl ifanc i ddeall sut i fod yn ddiogel ar y ffordd.

Mae'r cynllun yn rhoi'r grym i ddisgyblion amlygu materion diogelwch ffyrdd yn eu hysgolion, gyda Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau yn cynyddu ymwybyddiaeth ymysg disgyblion eraill, athrawon a'u cymuned, wrth gadw mewn cysylltiad â'r Tîm Diogelwch Ffyrdd lleol.

Meddai Rhian Thomas, tiwtor Blwyddyn Chwech yn Ysgol Gynradd Pontarddulais, "Mae ein Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau yn cymryd eu rôl o ddifrif, ac maent yn frwd iawn. Mae ganddynt lawer o syniadau i gynyddu ymwybyddiaeth eu cyd-ddisgyblion, ac ar hyn o bryd, maent yn trafod trefnu Diwrnod Fflwroleuol, yn ogystal â threfnu sioe ffasiwn."

Ar hyn o bryd, mae 117 o Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau mewn 35 o ysgolion yn cymryd rhan. Anogir y swyddogion i fod yn actif yn eu hysgolion eu hunain, gan hyrwyddo diogelwch ffyrdd drwy wasanaethau, cystadlaethau, gemau ac ymgyrchoedd amrywiol.

Meddai Tom Edwards o Dîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe, "Roedd safon y ceisiadau'n uchel iawn, ac roeddem yn falch iawn o ymdrech y swyddogion, sy'n arweinwyr ac yn fodelau rôl."

Bydd pob disgybl buddugol yn derbyn copi o'r cylchlythyr, yn ogystal â thalebau anrhegion. Bydd pob ysgol fuddugol yn derbyn cylchlythyr i'w arddangos yn gyhoeddus a chopi wedi'i fframio o waith eu disgyblion.


Disgyblion Dinas Mawddwy yn cadw’n ddiogel dros y gaeaf

8/12/08

Dinas Mawddwy Mae disgyblion cynradd yn cael eu cynorthwyo gan yr heddlu i gadw’n ddiogel a gweladwy dros y gaeaf gyda festiau gweladwy.Mae holl ddisgyblion Ysgol Gynradd Dinas Mawddwy – 27 i gyd - wedi derbyn siaced sy’n adlewyrchu golau. Maent wedi cael eu rhoi gan y Bartneriaeth Siwrne Saff er mwyn i’r plant gael eu gweld yn glir wrth deithio nôl ac ymlaen i’r ysgol.

Ymwelodd y Rheolwr Rhawd Cymunedol lleol, PC Geraint Jones, â’r Ysgol ynghyd â’r bartneriaeth Siwrne Saff er mwyn sicrhau fod siacedi gan y disgyblion, a’r oedolion sy’n hebrwng y plant i’r ysgol. Mae’r disgyblion wedi derbyn cyngor i wisgo’r siacedi a phwysleisir hyn gan swyddogion pan fyddent yn fuan yn ymweld â holl ysgolion ardal Dolgellau er mwyn hybu diogelwch y ffyrdd i’r plant.

Meddai’r Rhingyll Emlyn Hughes o’r Adran Gwasanaethau Gweithredol: “Mae hwn yn un o nifer o ymgyrchoedd addysgiadol sy’n cael ei weithredu gan Siwrne Saff yn ddyddiol.

“Pwrpas Siwrne Saff yw lleihau’r achosion o anafiadau ar y ffyrdd ac achub bywydau. Dros y saith mlynedd diwethaf mae’r bartneriaeth wedi achub nifer o fywydau drwy addysgu, peirianneg ffordd a gorfodaeth.”

Ychwanegodd: “Rydym yn falch o gynnig y festiau gweladwy yma gan ei fod yn hynod o bwysig i gadw ein plant yn ddiogel a'u bod yn cael eu gweld wrth gerdded neu’n beicio drwy gydol misoedd y gaeaf.”

Meddai Nia Edwards, Pennaeth yr Ysgol: “Rydym yn hynod o ddiolchgar am y festiau a fydd yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig yr adeg yma o’r flwyddyn.

“Byddent yn cael eu defnyddio ar gyfer bob math o weithgareddau, gan gynnwys gwaith maes a phan fydd y plant yn canu carolau yn y pentref.”


Yr Elyrch yn cefnogi awgrymiadau diogelwch ffyrdd ceiliog

8/12/08

Bydd plant sy'n mynd am ddiwrnod arbennig o bêl-droed i'r teulu yn Stadiwm Liberty yn derbyn awgrymiadau am ddiogelwch ffyrdd i'w cadw'n ddiogel yn ystod gwyliau'r Nadolig. Bydd Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe yn mynd i gêm gartref yr Elyrch yn erbyn Sheffield Utd, gan obeithio trosglwyddo cyngor diogelwch ffyrdd pwysig i'r cannoedd o gefnogwyr pêl-droed ifanc a fydd yn gwylio'r gêm.

Bydd Cochyn y Ceiliog Croch hefyd yn cyflwyno anrhegion arbennig diogelwch ffyrdd i helpu plant i fod yn weladwy ar y ffyrdd yn y nos.

Cydlynwyd y digwyddiad arbennig hwn gyda threfnwyr Pêl-droed Dinas Abertawe yn y fenter Cymuned, sy'n ceisio cynnwys pêl-droed, ymwybyddiaeth iechyd a materion addysg ym mywydau pobl ifanc sy'n byw yn Abertawe.

Bydd y Tîm Diogelwch Ffyrdd hefyd yn cefnogi'r heddlu lleol gydag ymgyrch yfed a gyrru a lansiwyd yn ddiweddar, gan annog cefnogwyr â cheir i ymddwyn yn gyfrifol ac i beidio ag yfed a gyrru.

Meddai Jeff Green, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe, "Mae'r diwrnod hwn i'r teulu yn Stadiwm Liberty yn rhoi cyfle perffaith i ni y tu allan i ymweliadau ag ysgolion i gyflwyno materion pwysig megis diogelwch ffyrdd i gannoedd o blant.

"Byddwn hefyd yn gallu amlygu'r ymgyrch yfed a gyrru gyfredol i gefnogwyr. Mae'r heddlu lleol eisoes yn canolbwyntio ar yr ymgyrch yfed a gyrru genedlaethol, ac yn paratoi ar gyfer cyfnod prysur y Nadolig. Gobeithio y gallwn addysgu rhai cefnogwyr sy'n credu nad oes problem gyrru ar ôl yfed alcohol."

Lansiwyd yr ymgyrch yfed a gyrru genedlaethol yr wythnos ddiwethaf yng ngogledd Cymru, ac roedd disgyblion o Ysgol Gyfun Gellifedw yn bresennol. Bu'r disgyblion yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth genedlaethol ar ôl cynhyrchu ffilm fer am beryglon yfed a gyrru.


Disgyblion ddim yn gweld ochr ddigrif yfed a gyrru

26/11/08

Mae disgyblion ysgol yn Abertawe yn helpu i lansio ymgyrch yfed a gyrru y Nadolig yng Nghymru eleni.

image depicting Road Safety Logo

Mae'r disgyblion, oll o Ysgol Gyfun Gellifedw, yn un o bedair o ysgolion yng Nghymru a fydd yn mynychu digwyddiad lansio'r ymgyrch ddiogelwch genedlaethol yng Nghaernarfon ddydd Iau, 27 Tachwedd.

Yn ddiweddar enillodd y disgyblion gystadleuaeth ranbarthol ar ôl creu ffilm fer i egluro peryglon yfed a gyrru.

Yn y ffilm, mae'r neges ddifrifol yn ymwneud a phobl yn 'chwarae'r ff?l' gydag alcohol. Mae un o'r disgyblion yn chwarae rhan person sy'n mynd i'r dafarn ac yn yfed nes ei fod yn troi i mewn i glown ac yn gadael mewn cerbyd.

Cynorthwywyd yr ysgol gan Dîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe a bydd cynrychiolwyr o'r tîm yn mynd gyda'r ysgol i'r lansiad.

Dywedodd Jamie Rees, athro yn Ysgol Gyfun Gellifedw, "Mae yfed a gyrru yn broblem ddifrifol. Cymerwyd y pwnc o ddifrif gan y disgyblion a greodd y ffilm er nad yw alcohol yn ffactor yn eu bywydau hwy.

"Ceir neges gref yn y ffilm am beryglon yfed alcohol ac yna gyrru car. Gobeithio y bydd ymdrechion y disgyblion yn helpu i gyfleu'r neges y Nadolig hwn y dylai gyrwyr adael y car adref os ydynt yn bwriadu yfed."

Mae ymdrechion y disgyblion wedi ennill gwerth £1,500 o nwyddau aml-gyfrwng i'w helpu â chynlluniau creu ffilmiau yn y dyfodol.

Helpodd Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe i hyrwyddo'r ymgyrch genedlaethol yng Nghymru sy'n cael ei lansio gyda chymorth gan Gynulliad Cymru, yr Heddlu a Diogelwch Ffyrdd Cymru.

Rhwng Ebrill a Medi 2006, profodd Heddlu De Cymru gyfanswm o 6306 o bobl, gyda 734 ohonynt yn cael canlyniad positif o ran alcohol. Yn ystod yr un cyfnod yn 2007, profwyd 7902 o bobl gyda 734 ohonynt yn cael canlyniad positif o ran alcohol.

Dywedodd Fran James, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe, "Rydym yn falch iawn ag ymdrechion y disgyblion. Mae'n wych bod ysgol o Abertawe yn cynrychioli'r rhanbarth. Yn amlwg mae ein pobl ifanc eisoes yn ymwybodol o beryglon yfed a gyrru ac yn gallu helpu i drosglwyddo'r neges i yrwyr."


Cystadleuaeth Amlgyfrwng Wrth-Yfed a Gyrru

18/11/08

I hyrwyddo’r neges wrth-yfed a gyrru, gwahoddwyd ysgolion a mudiadau ieuenctid i ddyfeisio, perfformio a recordio cyflwyniad amlgyfrwng byw a bywiog i rybuddio pobl ynghylch peryglon a/neu ganlyniadau yfed a gyrru.


Cyflwynir gwobr o £500 i’r ymgais fuddugol ar gyfer pob rhanbarth, a hynny i’r ysgol/mudiad sy’n ei gynrychioli, ac i aelodau unigol o’r tîm, adeg lansio Ymgyrch Wrth-Yfed a Gyrru Cymru Gyfan yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon, ddydd Iau, 27 Tachwedd.

Rhanbarth Enillydd Canmoliaeth Uchel
Gogledd Cymru Jack Cowley a Jordan O’Brien, Canolfan Ieuenctid Saltney, Sir y Fflint Ysgol Uwchradd Castell Alun, Sir y Fflint
Dyfed Powys Clwb Ffermwyr Ifanc Troedrhiwdalar, Powys Tom Van Hamer, Ysgol Gyfun Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin
Gwent The Really Wild, Ysgol Gyfun Abertyleri, Blaenau Gwent Ysgol Uwchradd Llantarnam, Torfaen
De Cymru Ysgol Gyfun Birchgrove, Abertawe Ysgol Gyfun Aberpennar, Rhondda Cynon Taf



Cewch weld manylion y gystadleuaeth yma


Parth 20mya yn lleihau damweiniau

10/11/08

20mph Zone Speed Restriction Mae'r parthau 20mya a gyflwynwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn Sandfields yn parhau i wneud y strydoedd yn fwy diogel. Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos lleihad parhaus yn nifer y damweiniau anaf personol ers i'r parth a'r mesurau tawelu strydoedd gael eu cyflwyno mwy na chwe blynedd yn Ôl.

Cyn i'r parth gael ei chyflwyno, cafwyd hyd at 30 o ddamweiniau anaf personol bob blwyddyn yn Sandfields.Y llynedd roedd y nifer hwnnw wedi gostwng i 13 yn unig.

Yn yr un modd, ar Ôl cyflwyno mesurau arafu traffig, aeth y nifer i lawr o 20 i 5 y llynedd.

Mae hyn wedi cadarnhau llwyddiant y parth 20mya o ran cadw nifer y damweiniau'n isel. Wrth gymharu'r ffigurau blynyddol, cododd nifer y damweiniau am flwyddyn o ganlyniad i ddargyfeirio traffig drwy YstÂd y Sandfields oherwydd gwaith ar Ffordd Afan.

Ond ers i'r dargyfeirio ddod i ben, mae'r duedd am i lawr eto.

Meddai Pennaeth Priffyrdd, John Flower, "Hoffwn weld cynlluniau tebyg ym mhob ystÂd fawr. Gwelwyd cynnydd yn yr ystadegau ar gyfer 2006 ond erbyn hyn gallwn ddangos bod hynny'n gysylltiedig Â'r gwaith ar Ffordd Afan a maint cynyddol y traffig a oedd yn teithio drwy'r ystÂd.

"Mae gostwng cyflymder cerbydau ar ystÂd fel Sandfields yn gweithio."

Ychwanegodd Aelod y Cabinet dros Briffyrdd, Alwyn Woolcock, "Mae'n bwysig lleihau damweiniau pryd bynnag y bo'n bosib ac mae'n amlwg y bu cyflwyno'r parth 20mya yn Sandfields yn llwyddiant.

"Mae un ddamwain yn ormod, a bydd y cyngor yn parhau i weithio i gynyddu diogelwch ar ein ffyrdd."


Diogelwch Ffyrdd yn cael lle amlwg yn noson Gwreichion yn y Tywyllwch

4/11/08

Bydd cannoedd o siacedi gwelededd uchel yn cael eu dosbarthu i blant ar noson tân gwyllt mewn ymgais i'w cadw mor ddiogel â phosib ar ein heolydd.

image depicting Road safety (Sparks in the Dark)

Rhoddwyd y siacedi gan gwmni 3M Gorseinon, a byddant yn cael eu dosbarthu i ddathlwyr ifanc yn nigwyddiad Gwreichion yn y Tywyllwch a gynhelir ar faes San Helen dnod Fercher (Tachwedd 5).

Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe sy'n noddi'r digwyddiad a bydd y tîm wrth law drwy gydol y dathliadau, ynghyd â'r masgod diogelwch ffyrdd, Cochyn y Ceiliog Croch, i roi awgrymiadau diogelwch ffyrdd i blant.

Byddant hefyd yn dosbarthu cylchau allweddi gyda thortshis, bandiau arddyrnau, sticeri sy'n adlewyrchu ac adlewyrchwyr i'w defnyddio ar fagiau ysgol.

Mae pob ysgol yn Abertawe eisoes wedi derbyn siacedi gwelededd uchel, diolch i 3M, ond mae'r cwmni wedi sicrhau bod 500 ychwanegol ar gael i'w dosbarthu ar noson tân gwyllt.

Meddai Jeff Green, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe: "Mae llawer o waith yn cael ei wneud i ledu negeseuon diogelwch ffyrdd i gynifer o bobl â phosib yn Abertawe, a bydd digwyddiad Gwreichion yn y Tywyllwch yn ein galluogi i gyfathrebu â channoedd o blant mewn un lle.

"Bwriad y siacedi sydd wedi'u brandio, a'r deunyddiau eraill a gaiff eu dosbarthu, yw annog plant i feddwl am eu diogelwch pan fyddant yn croesi heolydd yn Abertawe, a gobeithiwn y byddant yn cael yr effaith ddymunol.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth 3M wrth ein helpu i geisio lleihau nifer y damweiniau sy'n digwydd i blant ar ein heolydd.

Bydd y gatiau ar noson Gwreichion yn y Tywyllwch yn agor am 5.30pm, a bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa tân gwyllt anferth yn ogystal â pherfformiad gan enillwyr y gystadleuaeth deledu, Last Choir Standing, sef côr Only Men Aloud.

Bydd amrywiaeth o adloniant i blant ar gael hefyd yn ogystal â jyglwyr tân.

Ewch i www.swansea.gov.uk am fwy o wybodaeth.


Dâm bantomeim yn lledaenu neges diogelwch ffyrdd mewn ysgolion

16/10/08

Rocky The Rooster

Bydd plant yn ysgolion Abertawe yn derbyn cyngor ar ddiogelwch ffyrdd gan rhai o gast y pantomeim Cinderella eleni.

Mae Cyngor Abertawe yn cael cymorth rhai o sêr Cinderella sy'n rhedeg dros gyfnod y Nadolig yn Theatr y Grand.

Bydd aelodau o'r cast yn ymweld â nifer o ysgolion gyda hyrwyddwr diogelwch ffyrdd y Cyngor, Cochyn y Ceiliog Croch. Bydd yr ymweliadau'n helpu i drosglwyddo cyngor diogelwch ffyrdd hanfodol i gannoedd o blant ysgol.

Gobeithia diogelwch ffyrdd hefyd i gael mwy o blant i feddwl am ddiogelwch wrth groesi'r heol yn ystod sioeau'r pantomeim.

Mae'r tîm hefyd wedi comisiynu gwisg arbennig ar gyfer aelod rheolaidd y pantomeim, Kevin Johns, i'w gwisgo yn ei rôl fel un o chwiorydd hyll Cinderella.

Dywedodd Jeff Green, Arweinydd Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe, "Mae trosglwyddo neges diogelwch ffyrdd i blant ysgol yn hollbwysig er mwyn eu diogelu wrth iddynt ddefnyddio'n ffyrdd.

"Mae gweithio gyda chast y pantomeim yn ffordd wych o drosglwyddo'r negeseuon pwysig hyn mewn dull sy'n hwyl."

Dangosa'r ffigyrau diweddaraf bod y plant yn derbyn y neges. Roedd 109 o ddamweiniau ffordd yn Abertawe yn cynnwys plant rhwng 0 - 15 oed yn 2006. Mae hyn 50 yn llai na deng mlynedd yn ôl, oherwydd mai'r ffigur cyfartalog rhwng 1994 a 1998 oedd 165.

Dywedodd John Hague, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd yng Nghyngor Abertawe, "Mae addysg diogelwch ffyrdd yn cael effaith gadarnhaol ar ddiogelu plant yn ein cymunedau.

"Mae angen i ni barhau â'r gwaith amhrisiadwy hwn a sicrhau y gall ein plant ddefnyddio ffyrdd i gerdded a seiclo yn ddiogel.

"Hefyd mae angen i fodurwyr chwarae eu rhan a gyrru'n gyfrifol mewn cymunedau, yn enwedig yn agos at ysgolion. Rydym wedi rhoi cyfyngiadau cyflymder o 20mya ar waith o amgylch y rhan fwyaf o'n hysgolion a bwriadwn barhau tan fod y cyfyngiadau cyflymder is hyn yn gweithredu y tu allan i holl ysgolion Abertawe."

Bydd Cochyn a sêr y pantomeim ar eu taith diogelwch ffyrdd o amgylch yr ysgolion rhwng 20 a 24 Hydref.


Posteri yn gorchuddio arwyddion traffig yn rhoi bywydau mewn perygl

1/10/08

road signsMae gludo posteri ar arwyddion traffig ym Mhowys yn rhoi modurwyr a cherbydau mewn perygl ac yn achosi miloedd o bunnoedd o ddifrod, rhybuddiodd y Cyngor Sir.

Tynnwyd posteri oddi ar arwyddion cyfeirio ac arwyddion rhybuddio sydd wedi arwain at beri difrod i’r arwyddion a bydd yn rhaid rhoi rhai newydd yn eu lle.

Meddai’r Cyng. Gwilym Evans, aelod o’r Bwrdd sy’n gyfrifol am Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Mae gorchuddio arwyddion traffig gyda phosteri yn berygl gwirioneddol i fodurwyr ac yn rhoi bywydau mewn perygl.

“Mae arwyddion traffig yma i hysbysu gyrwyr am yr hyn sy’n digwydd ar y ffordd o’u blaenau ac i ddangos y cyfeiriad y maent yn anelu tuag ato. Drwy orchuddio’r arwyddion hyn, ni fyddai modurwr yn ymwybodol o berygl a allai fod o’i flaen a gallai hyn arwain at ddigwyddiad a allai arwain at anafiadau personol neu waeth.

Gosodir arwyddion newydd yn lle’r rhai sydd wedi eu difrodi a threthdalwyr y Cyngor fydd yn talu am hynny. Ond byddwn yn ymchwilio i unrhyw boster sydd wedi ei osod ar arwydd traffig, ac wrth ddarparu arwydd newydd yn ei le byddwn yn gwneud ein gorau i gael y gost yn ôl oddi wrth y sawl sydd wedi gwneud y difrod.


'Gwregyswch' yn Sir Benfro

22/9/08

`Gwregyswch` yn Sir Benfro
Yn y llun mae plant o Ysgol WR Eglwys yng Nghymru Spittal yn dal eu padiau gwregysau sedd.

'Gwregyswch a byddwch ddiogel' - dyna'r neges sy'n cael ei roi i ddisgyblion ysgolion Sir Benfro'r hydref hwn.

Fe fu Cyngor Sir Penfro'n cefnogi Heddlu De Cymru gyda'r Ymgyrch Gwregysau Sedd Cymru Gyfan a lansiwyd ar 8 Medi yng Nghaerdydd.

Fe fu swyddogion o dîm diogelwch ffyrdd y Cyngor yn ymweld â gwasanaethau ledled y sir dros y pythefnos diwethaf yn addysgu'r plant ynghylch y peryglon o beidio â gwisgo gwregysau sedd, ac i ddosbarthu padiau gwregysau sedd gyda'r neges:

'Seatbelts save lives! / Mae belt yn achub bywyd'

Rhoddir dwy fil o badiau gwregysau sedd i blant sy'n cynrychioli'r nifer o fywydau yr amcangyfrifir y caiff eu hachub yn flynyddol ym Mhrydain trwy wisgo gwregysau sedd ac atalfeydd plant yn gywir.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Adams, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Chynllunio, fod angen i bobl ddysgu pa mor beryglus yw peidio â gwisgo gwregys sedd. 

“Ein neges i bob gyrrwr a theithiwr yn Sir Benfro o bob oed yw 'gwregyswch a byddwch ddiogel',” meddai. “Mae pobl yn peryglu eu bywydau trwy beidio â gwisgo gwregysau sedd.”

Yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol i bob plentyn sy'n teithio mewn cerbyd i ddefnyddio'r atalfa plentyn priodol nes eu bod naill ai'n 135 cm o ran taldra neu'n 12 oed (pa un bynnag ddaw gyntaf). Ar ôl hyn rhaid iddyn nhw ddefnyddio gwregys sedd oedolyn.


Plant Gwynedd yn dysgu am reolau’r ffordd fawr

18/9/08

Plant Ysgol Llanllyfni Mae plant rhai o ysgolion cynradd Gwynedd wedi bod yn cael gwersi arbennig yn ddiweddar a allai arbed eu bywydau.

Mae staff Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd wedi bod yn ymweld ag ysgolion Brynaerau, Pontllyfni; Yr Eifl, Trefor; Llanaelhaearn; Llanllyfni; a Choed Mawr, Bangor i atgoffa’r plant am bwysigrwydd diogelwch yn y car.

Tanlinellwyd pa mor bwysig yw gwisgo gwregys diogelwch am ac am eistedd mewn sedd ddiogelwch arbennig. Fel rhan o’r ymweliad hefyd, derbyniodd y disgyblion badiau gwregysau diogelwch arbennig.

Mae nifer dychrynllyd o yrwyr a theithwyr yn cael eu hanafu ar ein ffyrdd yn flynyddol, ond gellir osgoi rhai o’r anafiadau hyn drwy sicrhau fod pawb yn y car yn gwisgo gwregys.

Dywedodd Lynne Heather Jones, Uwch Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd, ei bod yn bwysig fod pawb yn dysgu’r wers bwysig hon.

Meddai: “Rhaid i rieni wisgo gwregysau diogelwch wrth deithio yn y car gan fod plant yn dysgu trwy ddilyn yr hyn mae eu mamau a’u tadau yn ei wneud.”

Ychwanegodd: “Mae’n angenrheidiol fod oedolion a phlant yn sylweddoli y gall gwisgo gwregys bennu eu tynged petai damwain yn digwydd.

“Mae pobl yn cael eu lladd ar ein ffyrdd bob blwyddyn yn gwbl ddiangen - gall nifer o ffactorau arwain at ddamwain car - ond dro ar ôl tro rydym yn clywed am deithwyr yn marw gan nad ydynt yn gwisgo gwregys.

“Heb wregys gall teithiwr gael ei daflu drwy ffenestr neu ddrws y cerbyd os yw’n gyrrwr yn colli rheolaeth a’r car yn troi drosodd. Yn aml gallai anafiadau a marwolaethau gael eu hosgoi drwy rywbeth cyn hawsed a gwisgo gwregys.”

Mae’r cynllun hwn mewn ysgolion lleol sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd yn rhan o ymgyrch genedlaethol i dynnu sylw at ddiogelwch ar ein ffyrdd.

Fel rhan o’r ymgyrch ar y cyd gyda heddluoedd Cymru bydd heddweision yn targedu gyrwyr nad ydynt yn gwisgo gwregysau diogelwch. Bydd gyrrwr a theithwyr sy’n cael eu dal heb fod yn gwisgo gwregys yn cael rhybudd talu cosb of £30, a gall rhai cael eu herlyn i lys ac wynebu dirwy o hyd at £500.

Yn ystod yr un ymgyrch llynedd cafodd 1,437 o oedolion drwy Gymru eu dal yn teithio mewn ceir heb fod yn gwisgo gwregysau diogelwch.


Diogelwch ar y Ffyrdd i bobl ifanc

12/9/08

Road safety
Ieuenctid Hendy gyda gweithwyr ieuenctid Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc yn ardal yr Hendy ar brosiect sut i fod yn ddiogel ar y ffyrdd.

Nod y prosiect naw wythnos oedd ceisio gyfrannu tuag at ostyngiad yn y rhifau o bobl sy’n cael ei ladd neu’n cael eu hanafu’n ddifrifol ar yr heol, yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddiogelwch wrth yrru.

Roedd y bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn gweithdai gyda’r Heddlu a’r Fridag Dan, ble dysgwyd am y peryglon wrth yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.

Cafwyd sesiynau hefyd ar gymorth cyntaf a sut i gynnal a chadw car.

Dywedodd Christopher Cray, Gweithiwr Ieuenctid yn y Gymuned (ardal yr Aman a’r Gwendraeth):

“Roeddwn yn teimlo fod angen sesiynau o’r math yma gael eu trosglwyddo i bobl ifanc, oherwydd mae’r niferoedd o bobl ifanc sy’n cael eu hanafu drwy yrru yn fwy na dwbl hynny o bobl dros 25. Roedd y bobl ifanc wedi elw o’r sesiynau ac rydynt llawer mwy ymwybodol o’r peryglon all ddod o yrru rhyfygus.”

Ychwanegodd Barrie Ashton, Gweithiwr Ieuenctid:

“Mawr hyderwn gall y Gwasanaeth Ieuenctid weithio gyda mwy o bobl ifanc yn y dyfodol ar brosiectau fel hyn, er mwyn codi ymwybyddiaeth ar bob elfen o yrru’n gyfrifol.”


Road Casualties: Quarter 1, 2008 (provisional)

The latest National Statistics on ‘Road Casualties in Wales: Quarterly Provisional Estimates March Quarter 2008,’ produced by the Welsh Assembly Government were published on 7 August 2008 according to the arrangements approved by the UK Statistics Authority.

Safon Ystadegau Gwladol This is the first time the Welsh Assembly Government has published quarterly road casualties data.

Y Datagniad
Datganiad Ystadegol 117/2008 (PDF 236kB) (Saesneg yn unig)

The key points from this release are:

  • 22 road casualties were reported as killed
  • 295 were reported as seriously injured, and
  • 2,286 as slightly injured
  • The number of total KSI casualties over this period, at 1,412 people, was 2 per cent higher than the previous 12 month period and 30 per cent lower than the average for 1994-98.
  • The number of child KSI casualties over this period, at 142 children, was 4 per cent lower than the previous 12 month period and 51 per cent lower than the average for 1994-98.

Cyswllt:
Ffôn: 029 2082 5085
E-bost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk


Cystadleuaeth Swyddogion Diogelwch Ffordd Iau

4/8/08

Cystadleuaeth Swyddogion Diogelwch Ffordd Iau
Enillwyr Cystadleuaeth Swyddog Diogelwch Ffordd Iau Sir Benfro 2008, Ysgol GS Tavernspite. Yn y llun hefyd mae Kirstie-Anne Donoghue, Swyddog Addysg Diogelwch Ffordd Cynorthwyol, Cyngor Sir Penfro. 

Enillodd tîm o Ysgol Gynradd Tavernspite Gystadleuaeth Swyddog Diogelwch Iau Sir Benfro 2008. Llwyddodd y disgyblion i wrthsefyll sialens gref gan Ysgol Iau Hakin, Ysgol GS Johnston, Ysgol Gynradd Llandyfái ac Ysgol CG St Oswald i ennill y cymal terfynol. 

Cynhaliwyd y gystadleuaeth yng Nghanolfan Gweithgareddau Sir Benfro yn Noc Penfro ar Orffennaf 16 ac fe’i trefnwyd gan Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Penfro.

Roedd yn ofynnol i’r disgyblion gyflawni nifer o dasgau gan gynnwys her arwydd ffordd, cwis diogelwch ffordd ac ymwybyddiaeth o berygl. Cyflwynwyd tystysgrifau, tarian a thocynnau i’r disgyblion buddugol.

Aelodau’r timau oedd Swyddogion Diogelwch Ffordd Iau o Sir Benfro, a fu’n tynnu sylw at fater diogelwch ffyrdd yn eu hysgolion cynradd gydol y flwyddyn. 

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Adams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Chynllunio, bod y cwis blynyddol wedi profi’n llwyddiannus iawn a’i fod wedi cynorthwyo ysgolion i dynnu sylw at ddiogelwch ffordd.

Yr ysgolion a fu’n cymryd rhan yng nghymalau cynnar y gystadleuaeth oedd Ysgol WE Angle, Ysgol Ger y Llan, Ysgol Gelli Aur/ Golden Grove, Ysgol Glannau Gwaun, Ysgol GS Johnston, Ysgol GS Orielton, Ysgol GS Doc Penfro, Ysgol GS Stepaside, Ysgol Gynradd Babyddol Santes Mair, ac Ysgol GS Cas-blaidd.


Lansio Cynllun Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Iau yn Sir y Fflint

22/7/08

JRSOMae Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint wedi lansio cynllun llwyddiannus iawn ar gyfer Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Iau.

Mae’r fenter wedi’i chynnal mewn sawl rhan arall o’r wlad ac mae’n ffordd effeithiol o hyrwyddo diogelwch y ffyrdd. Mae pedair ysgol eisoes wedi ymuno â’r fenter yn Sir y Fflint – Ysgol Iau Mynydd Isa, Ysgol Bryn Gwalia yn Yr Wyddgrug, Ysgol Sychdyn ac Ysgol y Fron yn Nhreffynnon.

Mae Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Iau yn helpu eu Swyddog Diogelwch y Ffyrdd lleol i hyrwyddo materion yn ymwneud â diogelwch y ffyrdd yn y gymuned leol. Caiff pob ysgol gynradd ei hannog i benodi dau Swyddog o flwyddyn 6.

Prif nod y cynllun yw rhoi cyfle i blant adnabod problemau diogelwch y ffyrdd yn eu hardal leol a’u helpu i drosglwyddo negeseuon pwysig ymlaen i’w cyfoedion ynglyn â chadw’n ddiogel wrth fynd allan.

Dylai ysgolion sy’n dymuno cymryd rhan yn y cynllun enwebu dau ddisgybl o flwyddyn 6 i fod yn swyddog. Gyda chymorth ac arweiniad Claire Parry, Cynorthwy-ydd Diogelwch y Ffyrdd, bydd y Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Iau yn hyrwyddo testunau amrywiol megis cadw’n ddiogel, cael eich gweld, diogelwch beicio, diogelwch yn y car, Rheolau’r Groes Werdd, parcio y tu allan i ysgolion, cerdded i’r ysgol a llawer mwy. Mae pob Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Iau yn cael pecyn dechrau sy’n cynnwys llawlyfr, gwybodaeth a chyngor i’w helpu gyda’u rôl bwysig.

Mae’r cynllun yn llawn gwybodaeth a hwyl ac mae’r manteision i’r Swyddogion ac i ddisgyblion eraill yn gorbwyso’r amser a ddyrennir ar gyfer y cynllun o bell ffordd.

Mae’r swyddogion presennol wedi trefnu cystadlaethau yn eu hysgolion i annog yr holl ddisgyblion i feddwl am Ddiogelwch y Ffyrdd. Cynhaliodd Ysgol Iau Mynydd Isa gystadleuaeth i lunio tocyn i roi ar geir sydd wedi parcio’n anghyfreithlon y tu allan i’r ysgol er mwyn pwysleisio’r peryglon sy’n gysylltiedig â pharcio ar linellau igam-ogam; Trefnodd Ysgol y Fron, Treffynnon gystadleuaeth poster i lunio cymeriad diogelwch y ffyrdd yn ogystal â digwyddiad Cerdded i’r Ysgol ac maent yn gobeithio cynnal cwis diogelwch y ffyrdd cyn diwedd y tymor. Mae Ysgol Bryn Gwalia yn yr Wyddgrug wedi trefnu tair cystadleuaeth - bydd y babanod yn edrych ar leoedd diogel i chwarae, bydd blwyddyn 3 a 4 yn archwilio Rheolau’r Groes Werdd a bydd blwyddyn 5 a 6 yn edrych ar wisgo gwregysau diogelwch.

Meddai’r Cynghorydd Tony Sharps, aelod gweithredol dros yr Amgylchedd, Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Swyddogion wedi gweithio’n eithriadol o galed i drefnu eu cystadlaethau sydd i gyd wedi bod yn llwyddiant mawr yn yr ysgolion a’r cymunedau. Llongyfarchiadau i bob ysgol sydd eisoes yn cymryd rhan.”


CCTV ar fin cael ei gyflwyno ar gludiant ysgolion

16/7/08

Bydd bysus sy'n cludo plant nôl ac ymlaen i ysgolion yn Abertawe yn cael CCTV newydd yn dilyn cyhoeddiad gan y Cynulliad eu bod am fuddsoddi arian i wneud cludiant i ddisgyblion yn fwy diogel.

Caiff rhan o'r arian ei ddefnyddio, yn ôl pob tebyg, i baratoi canllaw sy'n rhoi cyngor i blant ar sut i ymddwyn yn gyfrifol wrth deithio ar fysus.

Mae cyfanswm o £626,000 wedi cael ei roi i Gonsortiwm Cludiant De-orllewin Cymru (SWWITCH) sy'n cynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr a Sir Benfro.

Mae swyddogion cludiant Cyngor Abertawe yn dweud eu bod eisoes wedi llunio côd ymarfer ar gyfer cwmnïau bysus ysgolion ac am ychwanegu canllaw manylach ar gyfer disgyblion sy'n teithio ar fysus.

Mae consortiwm SWWITCH hefyd wedi cyflogi dau swyddog penodedig i oruchwylio'r prosiect ac ymgynghori am gynlluniau gydag ysgolion a chwmnïau cludiant ar draws y rhanbarth.

Croesawodd John Hague, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd, y newyddion am yr arian. Dywedodd, "Gofalu bod safonau teithio i'r ysgol mor uchel â phosib yw ein nod cyffredinol o ran diogelwch a diogeledd. Mae miloedd o ddisgyblion yn teithio i'r ysgol ar fws ac rydym am iddyn nhw gyrraedd pen eu taith yn ddiogel.

"Bydd yr arian yma'n rhoi'r cyfle i ni ac awdurdodau eraill i wella pethau ymhellach."

Meddai Cath Swain, Arweinydd Tîm Cludiant i Deithwyr Cyngor Abertawe, "Rydym yn cludo oddeutu 4,000 o ddisgyblion Abertawe i'r ysgol ar hyn o bryd ar hyd tua 100 o lwybrau gwahanol. Rydym yn derbyn adroddiadau am ymddygiad gwael o bryd i'w gilydd ac mae trafodaethau blaenorol gyda chwmnïau cludiant ac ysgolion wedi tynnu sylw at fanteision cyflwyno CCTV.

"Bydd yr arian yn rhoi'r cyfle i ni fwrw golwg ar y camau yma yn ogystal â chyhoeddi côd ymarfer y gall disgyblion gadw ato."


Ein Gorau Glas - Gwasanaethau Argyfwng a Diogelwch Cymunedol

9/7/08

Out of the BlueMae ‘Gorau Glas’, sy’n cael ei gynnal gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn digwydd ym Mharc Bute, Caerdydd ar 11 a 12 Mehefin 2008 a gellir ei fynychu yn rhad ac am ddim!

Trefnwyd digwyddiad diogelwch cymunedol tebyg o’r enw ‘Achub Cymru’ a oedd yn llwyddiannus iawn ac yn para am ddau ddiwrnod yn yr haf, gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yng Nghastell Caerdydd y llynedd. Roedd hwn yn ddigwyddiad pleserus a oedd wedi ei drefnu’n hynod o dda, ond peidiwch â chymryd ein gair yn unig am hyn, edrychwch ar yr hyn oedd gan nifer o’n partneriaid a rhai o’r miloedd o ymwelwyr i’w ddweud.


Diogelwch Ffyrdd Cymru - Gwobrau Diogelwch ar y Ffyrdd 2008

9/7/08

Chevron Texaco

Cefnogir gan Chevron Texaco

Mae Gwobrau blynyddol Diogelwch Ffyrdd Cymru yn cydnabod arferion diogelwch da, prosiectau arloesol a chyfraniadau personol ym maes diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru. Mae Cynllun y Gwobrau’n rhoi cyhoeddusrwydd i’r cyfraniadau a wneir i gyrraedd y targedau o ran gostwng nifer yr anafiadau a marwolaethau ar y ffyrdd, ac yn cynyddu’r ymwybyddiaeth ohonynt.

Dyma’r pum categori o wobr:

Y Wobr Gymunedol – Cydnabod gwaith Grwpiau Gwirfoddol, Awdurdodau Iechyd a phartneriaethau sy’n ymwneud â rhwystro damweiniau ar y ffyrdd.

Y Wobr Addysg – I staff a disgyblion/myfyrwyr sydd wedi ymgymryd â phrosiectau arloesol a gweithgareddau eraill ym maes diogelwch ar y ffyrdd.

Gwobr i Unigolyn – I unrhyw un yng Nghymru sydd wedi cyfrannu’n gyson neu’n unigryw i ddiogelwch ar y ffyrdd ac atal damweiniau.

Y Wobr Fasnachol – I fusnesau a sefydliadau yng Nghymru sydd wedi cefnogi a/neu wedi hybu hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.

Gwobr yr Hebryngwr(aig) Croesfan Ysgol – Cydnabod hebryngwr(aig) croesfan ysgol sydd wedi dangos ymroddiad ac ymrwymiad i’w swydd yn gyson.

Dylid cyflwyno enwebiadau (ynghyd ag unrhyw ddeunydd ategol perthnasol) ar y ffurflen ganlynol erbyn dydd Gwener 22 Awst 2008 fan bellaf. Caiff enillwyr y Gwobrau eu gwahodd i dderbyn eu Gwobr yng nghinio Cynhadledd Diogelwch Ffyrdd Cymru ddydd Llun 29 Medi 2008 yn y Future Inns yng Nghaerdydd. Caiff enillydd y Wobr ym mhob categori £100 a chofrodd.

Cliciwch yma i gael y Ffurflen Enwebu

Enillwyr Gwobrau Diogelwch ar y Ffyrdd - 2007


Mae Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
25/6/08

Mae Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cynnal ei phedwaredd Gynhadledd Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot.

JRSO Neath Port Talbot

Ers i Glwb y Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau ddechrau ym mis Ionawr 2004, mae 46 o Ysgolion Cynradd ac Iau wedi sefydlu'r cynllun. Nod y clwb yw amlygu materion diogelwch ffyrdd o gwmpas eu hysgolion a'u cymunedau lleol drwy Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau (SDFfI) dynodedig, sy'n cael eu hethol i gyflawni'r rÔl yn eu hysgol.

Darparodd y Gynhadledd gyfle i SDFfI gasglu gwybodaeth a syniadau, rhannu arfer da a hyrwyddo diogelwch ffyrdd ymhellach mewn ffordd ddifyr a phleserus. Hefyd, cafodd y SDFfI gyfle i arddangos y gwaith diogelwch ffyrdd maent wedi'i wneud drwy gydol y flwyddyn yn eu hysgol.

Yn ystod y gynhadledd cynhaliwyd nifer o weithdai a gweithgareddau rhyngweithiol i'r SDFfI gymryd rhan ynddynt.

Meddai'r Cynghorydd Arwyn Woolcock, Aelod Bwrdd y Cabinet dros Wasanaethau Gofal Stryd a Phriffyrdd: "Roeddwn wrth fy modd yn gweld cynifer o Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau yn y gynhadledd hon, a ddarparodd gyfle gwych i rannu gwybodaeth a syniadau ynghylch materion diogelwch ffyrdd.

"Mae'r Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau wedi gweithio'n galed drwy gydol y flwyddyn, a hoffwn ddiolch i'r holl ysgolion sy'n parhau i gefnogi'r fenter werthfawr hon."

Bu swyddogion Heddlu De Cymru, Gwasanaeth TÂn ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a ThÎm Arolygu'r Awdurdod yn mynychu'r gynhadledd, gan ychwanegu at brofiadau'r disgyblion.


Agor llwybr newydd

24/6/08

Agor llwybr newydd

Mae llwybr cerdded a seiclo newydd wedi ei agor ger y Drenewydd. Bydd y llwybr 3k rhwng Llanllwchaearn ac Aberbechan yn sicrhau llwybr diogel a hygyrch ar hyd llinell camlas Maldwyn.

Bydd y llwybr di-draffig yn agor cyfleoedd i bobl leol deithio mewn dull mwy cynaliadwy ac iach. Mae’r darn newydd o lwybr yn rhan o lwybr 81 y Rhwydwaith Seiclo Genedlaethol o Aberystwyth i’r Amwythig.

Mae’r prosiect £70,000 wedi ei gydlynu gan Gyngor Sir Powys a’i ariannu gan Ddyfrffyrdd Prydain, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru. Rhoddwyd cymorth hefyd gan Ddwr Hafren a Thrent a Sustrans.

Meddai’r Cynghorydd Gwilym Evans, Aelod Bwrdd Cyngor Sir Powys gyda phortffolio dros seiclo a diogelwch ar y ffyrdd: “Rydym yn hynod o falch fod y llwybr hwn wedi ei agor. Mae’r llwybr yn hygyrch i bawb – o seiclwyr a cherddwyr i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio - gan ei wneud yn atyniad lleol gwerthfawr.

“Mae’r prosiect yn dangos pa mor dda y gall gweithio drwy bartneriaeth a chyllid weithio i ddatblygu cyfleuster ardderchog i’r gymuned i gyd. Gobeithir y bydd yn bosibl denu cyllid yn y dyfodol i gysylltu adrannau eraill o’r llwybr i’w ehangu i Abermiwl”.


Clwb Trafnidiaeth yn Dathlu Pedwerydd Pen-Blwydd

19/6/08

Clwb Trafnidiaeth yn Dathlu Pedwerydd Pen-Blwydd

Mae Clwb Trafnidiaeth Plant Sir Benfro wedi dathlu ei bedwerydd pen-blwydd yn cynorthwyo plant yn y sir i fod yn ddiogel. 

Dathlwyd y pen-blwydd yn y Feithrinfa yn Ysgol y Babanod Dinbych-y-pysgod. Roedd y gwesteion yn y parti wrth eu bodd pan ganwyd cân swyddogol y clwb gan y plant teirblwydd oed. Bu’r plant hefyd yn mwynhau’r bwyd a’r gemau. 

Mae plant tair a phedair blwydd oed yn dysgu trwy chwarae a hwyl ac mae pecyn y Clwb Trafnidiaeth Plant yn adnodd ardderchog ar gyfer pob rhiant a gwarcheidwaid i’w ddefnyddio i annog dysgu am ddiogelwch ffyrdd i blant bychain.

Ymhlith y ffrindiau a gyflwynir i’r plant trwy lyfrau gweithgaredd y clwb mae Sammy Seatbelt, Larry Look and Lucy Listen. 

Bydd Ymwelwyr Iechyd o’r ymddiriedolaeth iechyd lleol yn cyflwyno gwahoddiadau i’r plant pan fyddan nhw’n cael eu gwiriad iechyd yn 36 mis oed. Mae’r aelodaeth am ddim am fod y ffi cofrestru’n cael ei dalu gan Gyngor Sir Penfro o’r cyllid a roddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Ar ôl i’r rhieni/gwarcheidwaid gofrestru bydd eu plentyn yn cael ei lyfr cyntaf ac yna pump arall fesul tri mis ar ôl hynny.

Meddai’r Cynghorydd Sir Jamie Adams, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Chynllunio: “Mae Clwb Trafnidiaeth y Plant yn ffordd effeithiol a sicr o gyflwyno diogelwch ffyrdd i blant sy heb gyrraedd oed mynychu ysgol. 

“Ond dim ond 40 y cant sy wedi cymryd mantais o’r clwb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Hoffem weld mwy o rieni’n cydio yn y cyfle i gael yr adnodd am ddim hwn i’w plant.” 

Atgyfnerthir y neges yn unedau blynyddoedd cynnar yr ysgolion, grwpiau chwarae a methrinfeydd trwy Becyn Meithrin Clwb Trafnidiaeth Plant, a gellir cael gwahoddiadau oddi yno hefyd.

* Gellir cael pecynnau meithrin am ddim ar gyfer pob uned blynyddoedd cynnar, grwpiau chwarae a meithrinfeydd trwy gysylltu â’r Swyddog Addysg Diogelwch Ffyrdd y Cyngor Sir, Kirstie-Anne Donoghue, ar 01437 775434. 

www.trafficclub.co.uk


Diogelwch ffyrdd yn flaenoriaeth yn Abertawe

19/6/08

Mae Swyddogion Diogelwch Ffyrdd yng Nghyngor Abertawe wedi ailddatgan eu bwriad cyfyngu cyflymder i 20mph y tu allan i bob ysgol yn yr ardal. 20mph Zone Speed Restriction 20mph Zone Speed Restriction*

Daw'r sylwadau wedi i'r Cynulliad gyhoeddi cynlluniau i lansio ymgynghoriad am arafu traffig y tu allan i ysgolion yng Nghymru, gyda'r pwyslais ar gyflwyno cyfyngiadau 20mph ger ysgolion.

Dywedodd Jeff Green, Swyddog Lleihau Anafedigion Cyngor Abertawe, "Yn Abertawe, rydym wedi gosod parthau 20mph a chyfyngiadau ar heolydd ger ysgolion ers 2003.

"Amlygodd Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd i Gymru bryd hynny bwysigrwydd cyfyngiadau is. Cymeron ni hyn o ddifrif yn eithaf cynnar a defnyddio cyllid o amryw o ffynonellau i roi'r mesurau hyn ar waith."

Dangosa'r ystadegau diweddaraf fod yn awr tua 150 o strydoedd neu heolydd yn Abertawe â chyfyngiad is 20mph, gyda'r mwyafrif ger ysgolion.

Un o'r ysgolion diweddaraf i elwa o'r cyflymder is fwyaf yw Ysgol Gynradd Ystumllwynarth. Rhai o'r ysgolion eraill sy'n elwa o gyfyngiadau cyflymder is yw Ysgol Gymunedol St Thomas ac Ysgol Gynradd Dyfnant.

Noda'r Cyngor hefyd fod y cyfyngiadau cyflymder is yn cael yr effaith dymunol wrth helpu i leihau'r nifer o blant sy'n cael damweiniau ar y ffyrdd.

Y nifer cyfartalog o blant ysgol yn Abertawe sy'n cael damweiniau wrth gerdded i'r ysgol, neu o'r ysgol, rhwng 1994 ac 1998 oedd 53. Dengys y ffigurau diweddaraf fod y ffigur hwn wedi gostwng i 22.

Ychwanegodd Mr Green, "Rydym yn falch iawn bod y ffigyrau hyn wedi gostwng. Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod ein strydoedd yn fwy diogel ar gyfer plant a phobl ein cymunedau."

Eleni bu naw ysgol yn Abertawe, y nifer uchaf erioed, yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid Teithiau Mwy Diogel mewn Cymunedau drwy'r Grant Cludiant blynyddol gan LCC.

Mae'r ysgolion i gyd wedi gweithio gyda Thîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor i fynd i'r afael â materion penodol iddynt hwy.

Dywedodd John Hague, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd, "Mae'r Cynllun Teithiau Mwy Diogel mewn Cymunedau yn ffordd wych o gynnwys ysgolion a chymunedau wrth ddarparu amgylchoedd mwy diogel ar gyfer cerddwyr."


Gosod terfynau cyflymder lleol

16/6/08

Consultation on future of local speed limits Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â chynigion ar gyfer gosod terfynau cyflymder lleol yng Nghymru. Bwriedir i’r canllawiau gael eu defnyddio ar gyfer gosod pob terfyn cyflymder lleol ar ffyrdd unffrwd a deuol mewn ardaloedd trefol a gwledig.

Mae’r ymgynghoriad yn adeiladu ar adroddiad Cylchlythyr Ffyrdd 1/93 (Adran Drafnidiaeth/Swyddfa Gymreig 1993) i adlewyrchu datblygiadau pwysig mewn rheoli cyflymder a’r wybodaeth gynyddol am y berthynas rhwng cyflymder a risg damweiniau. Daw’r canllawiau hyn â phrif nodweddion canllawiau eraill a gyhoeddwyd ar faterion yn gysylltiedig â therfyn cyflymder ynghyd, yn neilltuol gylchlythyr 02/1006 yr Adran Drafnidiaeth, yn cynnwys rheoleiddio traffig cysylltiedig â chyflymder ac arwyddion, goleuadau stryd, tawelu traffig, terfynau cyflymder mewn pentrefi a pharthau a therfynau 20mya. Mae’r canllawiau hefyd yn rhoi enghreifftiau o’r mathau o ffyrdd y medrai terfynau cyflymder neilltuol fod yn addas arnynt ac yn gosod elfennau allweddol o ddeddfwriaeth terfyn cyflymder.

Medrir cael copïau caled o’r ddogfen ymgynghori gan:

Martin Dolan
Uwch Gynllunydd Trafnidiaeth
Capita Symonds
Ty Gwent, Lake View
Parc Llantarnam
Cwmbran
NP44 3HR

Dyddiad cychwyn yr ymgynghoriad: Dydd Gwener 6 Mehefin 2008 Diwedd yr ymgynghoriad: Dydd Gwener 29 Awst 2008

Lawrlwytho Dogfen

PDF Document (Standard) Gosod terfynau cyflymder lleol Maint Ffeil: (643.46 KB)

MS Word Gosod terfynau cyflymder lleol - Holiadur Maint Ffeil: (45 KB)


Rhybudd am Barcio Anghyfreithlon gan Ddisgyblion Ysgol Llandyfái

28/5/08

Yr enillydd a’r ail oreuon gyda PCSO Kelly Mackay (llun mawr 75 kB)Bydd modurwyr sy’n parcio’n anghyfreithlon yn Ysgol Llandyfái yn cael clywed am y peryglon gan ddisgyblion yr ysgol.

Mae’r PCSO Kelly Mackay, o Dîm Plismona Bro Penfro, wedi cynnal cystadleuaeth yn yr ysgol i ddylunio taflen am barcio anghyfreithlon.

Dywedodd: “Roedd yr ysgol yn cael problemau gyda cheir oedd wedi’u parcio’n anghyfreithlon a thagfeydd yn y pentref adeg hebrwng a chasglu’r plant.

“Bûm yn gweithio’n agos gyda chyngor yr ysgol sy’n cynnwys disgyblion yr ysgol a swyddogion diogelwch y ffyrdd iau er mwyn ceisio datrys y problemau hyn. 

“Gofynnais i’r disgyblion lunio taflen A5 i amlinellu’r peryglon o barcio yn ardal y llinellau igam-ogam.  Dododd y disgyblion lawer o waith caled ac ymdrech i mewn i’r taflenni ac roedd yn gystadleuaeth anodd iawn i’w beirniadu.

“Pan ddechreuwyd y fenter rai misoedd yn ôl, rhifwyd oddeutu 35 o gerbydau wedi’u parcio’n anghyfreithlon ond erbyn hyn tua 8 sydd yno.  Ar y cyd â’r swyddogion diogelwch y ffyrdd iau, rydym yn awr yn ceisio cael y rhain i barcio’n ddiogel hefyd.”

Yr enillydd oedd Madeline Phillips a bydd ei thaflen fuddugol yn cael ei rhoi ar gerbydau sy’n parcio’n anghyfreithlon adeg hebrwng a chasglu plant er mwyn ceisio addysgu’r gyrwyr.

Yr ail oreuon oedd: James Davies, Matthew Lewis, William Jones, Abby Smith, James Lewis, Katie McLean, Thomos Lewis a Ellie Dane.


Gydlynydd Kerbcraft

13/5/08

Kerbcraft learners at the presentation ceremony. Also pictured are Karl Napieralla, Director of Education (left) Councillor Arwyn Woolcock (right) and Road Safty Manager Joy Smith (right)

Mae tÎm ymroddedig o wirfoddolwyr Castell-nedd Port Talbot sy'n helpu pobl ifanc i ddysgu am beryglon y ffyrdd, wedi bod yn dysgu hefyd. A nawr maent wedi derbyn tystysgrif ar Ôl cwblhau cynllun hyfforddi unigryw a ddatblygwyd yn y fwrdeistref sirol yn llwyddiannus.

Mae'r 15 gwirfoddolwr wedi bod yn astudio Sgiliau Plant sy'n Gerddwyr sy'n gyfwerth ag NVQ.

Datblygwyd y cymhwyster gan Gydlynydd Kerbcraft ar y cyd  Rhwydwaith y Coleg Agored a Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Castell-nedd Port Talbot ac mae'n unigryw yng Nghymru.

Mae cynllun Kerbcraft, sydd wedi bod yn gweithredu yng Nghastell-nedd Port Talbot am y chwe blynedd ddiwethaf, ar hyn o bryd yn cynnwys 29 o ysgolion a'i nod yw darparu hyfforddiant ar y ffordd i blant rhwng 5 a 7 oed.

Oherwydd eu llwyddiant gyda'r plant, cynigiwyd cyfle i'r gwirfoddolwyr ennill y cymhwyster, a nawr maent wedi derbyn eu tystysgrifau.

Meddai Joy Smith, Rheolwr Diogelwch Ffyrdd: "Rydym wrth ein boddau gyda chyflawniad ein gwirfoddolwyr.

"Rhoeson nhw eu hamser rhydd yn anhunanol i hyfforddi ein plant ifanc agored i niwed ac maent yn hapus ac yn llawen beth bynnag fo'r tywydd. Mae'r cymwysterau cenedlaethol y maent wedi'u hennill yn gwella ein cynllun Kerbcraft ymhellach ac yn gam bach i'w had-dalu am eu hymrwymiad a'u gwaith caled."


Hwb i Gludiant Ysgol

13/5/08

Sir Benfro

Bydd cludiant ysgol yn Sir Benfro’n cael hwb anferthol, diolch i arian wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Gwarir yr arian ar ddatblygu systemau arloesol i wella diogelwch ar gludiant ysgol. Cafodd Cyngor Sir Penfro – mewn partneriaeth ac awdurdodau o fewn Consortiwm Cludiant De Orllewin Cymru (SWWITCH) – swm o £626,000 gan y Cynulliad ar gyfer y prosiect tair blynedd.
 
Penodwyd dau swyddog datblygu cludiant, a fydd yn gweithio’n glos gydag ysgolion a chwmnïau bysus, i arwain y rhaglen.

Dywedodd Hubert Mathias, Rheolwr Cludiant dros Gyngor Sir Penfro, eu bod wrth eu bodd o gael y cyllid a fydd yn cael ei ddefnyddio i wella darpariaeth cludiant ysgol ar draws y sir, a dylai gynorthwyo i wella profiad teithio'r disgyblion.

“Y bwriad yw datblygu a chyflawni amrywiaeth o fesurau megis asesiadau risg o lwybrau teithio, gosod camerâu cylch cyfyng ar fysiau a hyfforddi gyrwyr a disgyblion,” meddai.

“Mae hwn yn brosiect cyffrous a bydd y swyddogion datblygu newydd yn gweithio’n glos gyda’r ysgolion, disgyblion a darparwyr cludiant dros y misoedd nesaf.”

Defnyddia dros 6,000 o ddisgyblion gludiant ysgol yn Sir Benfro gan deithio ar hyd 270 o lwybrau’n ddyddiol. Fe gyst £4.3 miliwn y flwyddyn i’r cyngor ddarparu’r gwasanaeth i blant sy’n teilyngu’r gwasanaeth statudol. Caiff y rhan helaethaf o’r gwasanaeth ei roi ar gontract i weithredwyr cludiant yn Sir Benfro.


Cystadleuaeth Hysbysfyrddau Swyddogion Iau Diogelwch ar y Ffyrdd

12/5/08


Cwmbach Primary Notice Board Yn ddiweddar, cafodd Swyddogion Iau Diogelwch ar y Ffyrdd yn Rhondda Cynon Taf eu gwahodd gan Paula Vincent, y Swyddog Prosiectau Diogelwch ar y Ffyrdd, i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i lunio hysbysfwrdd.

Cystadlodd Swyddogion Iau chwe ysgol ac fe weithiodd pob un ohonyn nhw’n galed dros ben ar eu hymdrechion. Gan fod pob un o’r cynigion yn rhagorol, bu’n gystadleuaeth anodd iawn ei beirniadu.

Ysgol Iau Cwm-bach gipiodd y wobr gyntaf a daeth Ysgol Gynradd Pentre’n ail agos iawn. Llongyfarchiadau i’r swyddogion iau yn yr ysgolion a fu’n cystadlu.


Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt
Ysgol Gynradd Cefn
Ysgol Iau Cwm-bach
Ysgol Gynradd Penrhiwceibr
Ysgol Gynradd Pentre
Ysgol Gynradd Penygawsi


Cyflwyno Cyfreithiau Newydd Ar Gyfer Cludiant I'r Ysgol Yng Nghymru

15/4/08

Mae Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi defnyddio pwerau deddfu newydd hanesyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno cynlluniau i wella cludiant i'r ysgol yng Nghymru.

Mae'r Gweinidog wedi gosod fersiwn ddrafft Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 gerbron y Cynulliad. Meddai Ieuan Wyn Jones:

Rydym yn sgil damweiniau trychinebus ac ymddygiad gwael bod teithio i'r ysgol yn fygythiad gwirioneddol i ddiogelwch. Bydd y mesur hwn yn rhoi fframwaith i wella diogelwch drwy fynd i'r afael ag ymddygiad annerbyniol.

Mae'r Mesur hefyd yn gyfle pwysig i gynnig gwelliannau i ddysgwyr drwy gynyddu'r hawl i gludiant i blant ifanc, gan gynnig cludiant am ddim i blant ysgol gynradd os ydynt yn byw ddwy filltir neu'n fwy o'r ysgol addas agosaf. Mae'r gyfraith bresennol yn darparu cludiant am ddim am dair milltir a mwy o 8 oed.

Bydd y Mesur hwn hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i newid amseroedd dechrau a gorffen ysgolion i wneud trefniadau cludiant yn fwy effeithiol, effeithlon neu'n amgylcheddol gynaliadwy.

Bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol i ddiogelwch, yn ogystal â'i gwneud yn haws i gyrraedd ysgolion cyfrwng Cymraeg fel y nodir yn rhaglen lywodraethu ‘Cymru'n Un’.

Dywedodd Mr Jones mai ei nod oedd gosod y brif ddarpariaeth erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2009 ac mae wedi datgan yn glir ei fod am geisio pwerau deddfu newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd camau pellach ar reoliadau a materion diogelwch bysiau. Meddai:

Bydd y mesur a'r canllawiau newydd yn cael eu gosod o dan bwerau sydd eisoes ar gael. Fod bynnag, drwy ymgynghori estynedig rwy'n ymwybodol bod pryder ar led am reoliadau a materion diogelwch bysiau – ni allwn fynd i'r afael â hyn yn llawn ar hyn o bryd gan fod cyfyngiadau ar bwerau deddfu'r Cynulliad.

Felly byddaf yn gwneud yr achos cryfaf posibl i gryfhau pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol i gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod ein pobl ifanc mor ddiogel ag sy'n bosibl.

Yn y cyfamser, rwy'n cyhoeddi canllawiau newydd i awdurdodau lleol ar Gludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol sy'n nodi'r arfer gorau ar gyfer darparu cludiant diogel, effeithiol ac o safon uchel i ddisgyblion rhwng y cartref a'r ysgol. Yn ogystal ag annog archwiliadau ar gefndir gyrwyr ac ystyried manteision defnyddio teledu cylch cyfyng a chludwyr, byddaf yn annog awdurdodau i beidio â chaniatáu tri disgybl i eistedd mewn sedd i ddau a pheidio â defnyddio bysiau deulawr i deithio i'r ysgol.


Swyddog Cyswllt Ysgolion Llandudno Yn Cynnal Cystadleuaeth Dylunio Poster

15/4/08


Swyddog Cyswllt Ysgolion Llandudno yn cynnal cystadleuaeth dylunio poster Mae plant ar hyd Conwy wedi bod yn cynorthwyo i gyflwyno neges diogelwch i rieni a disgyblion ar draws y sir. Fe drefnodd Swyddog Cyswllt Ysgolion PC Chris Perkins gystadleuaeth ar gyfer 33 o ysgolion ar draws y sir.

Gofynnwyd i ddisgyblion o flynyddoedd pedwar, pump a chwech i ddylunio poster dwyieithog. Gofynnwyd i’r plant ddylunio’u posteri yn dilyn themâu fel parcio anystyriol a goryrru ger ysgolion.

Cafodd dau enillydd eu dewis allan o 25 o ymgeiswyr, sef Catrina Kenyon, sy’n 10-mlwydd-oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Nant Coed yng Nghyffordd Llandudno a Amy Jones, sy’n 8-mlwydd-oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Rowen yng Nghonwy.

Meddai PC Chris Perkins: “Pan feddylion ni am y gystadleuaeth posteri roeddem yn gobeithio derbyn posteri effeithiol a fyddai’n cyflwyno neges gref i rieni a phlant. Ni chawsom ein siomi. Mi wnaeth y plant lunio posteri gwych ac fe ddylent i gyd fod yn falch iawn o’u hymdrechion.”

Cafodd y gystadleuaeth ei noddi gan Heddlu Gogledd Cymru, Halfords, ASDA, Cyngor Bwrdeistref Conwy a Plant Diogel Conwy.

Mewn gwasanaeth yn siop Halfords yn Llandudno ddoe derbyniodd yr enillwyr feic mynydd newydd yr un a chopi o’u poster wedi fframio. Rhoddodd ASDA pecynnau celf i’r plant i gyd ac fe roddodd Plant Diogel Conwy docyn anrheg gwerth £20 i bob cystadleuydd er mwyn iddynt gael prynu offer diogelu beic.

Bydd y posteri yn awr yn cael eu dosbarthu i holl ysgolion Conwy.

Ychwanegodd PC Perkins: “Hoffwn ddiolch i’r holl noddwyr a fu’n rhan o’r gystadleuaeth, ac yn enwedig i Halfords, ASDA a Plant Diogel Conwy am gyfrannu gwobrau mor arbennig.

“Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn ffordd hwyliog i gyflwyno neges ddifrifol. Y gobaith yw y bydd yn gwneud i bobl feddwl am sut maen nhw’n gyrru a pharcio ger ysgolion yn y dyfodol.”


Ysgol Gyfun yng Nghastell-nedd Port Talbot

11/4/2008

Song Drive Mae chwe Ysgol Gyfun yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi bod yn cymryd rhan mewn ymagwedd gerddorol unigryw at ddiogelwch ffyrdd. Rhoddodd Uned Diogelwch Ffyrdd y cyngor her i grup o ddisgyblion i greu geiriau gyda thema diogelwch ffyrdd ar gyfer recordiad arbennig.

Gan weithio gyda'r athro cerddoriaeth, Geraint Brown, maent wedi cwblhau CD a fydd yn cael ei lansio mewn digwyddiad arbennig ddydd Gwener 11 Ebrill yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot.

Roedd mwy na 100 o ddisgyblion yn ymwneud Â'r prosiect a nawr byddant yn dod ynghyd i berfformio eu cyfansoddiadau o flaen eu teuluoedd a'u ffrindiau.

Caiff y CD ei lansio yn y noson arbennig hon a bydd y band lleol Friends Electric yn perfformio yn y gyngerdd a Claire Scott o The Wave fydd yn cyflwyno'r noson.

Meddai Joy Smith, Rheolwr Diogelwch Ffyrdd Castell-nedd Port Talbot: "Gall denu sylw pobl ifanc fod yn anodd ac felly mae'n bwysig ein bod ni'n ei wneud mewn ffordd sy'n gyffrous ac yn wobrwyol. 

"Mae'r prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn annog defnydd creadigol o gerddoriaeth a hysbysebu fel ffordd o gael myfyrwyr i ystyried a hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ffyrdd drwy gerddoriaeth."

Yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn y prosiect yw Ysgol Gyfun Sandfields, Ysgol Gyfun Cymer Afan, Ysgol Gyfun Cwrt Sart, Ysgol Gyfun Cwmtawe, Ysgol Gyfun Glan Afan ac Ysgol Gyfun Llangatwg.


Dosberthir y CD am ddim i bob ysgol gyfun, coleg, a grup ieuenctid ledled y fwrdeistref sirol.

Mae'r CD yn canolbwyntio ar bynciau fel peryglon a chanlyniadau goryrru, defnyddio ffonau symudol, yfed a gyrru, diogelwch gyrwyr ifanc, pwysigrwydd gwregysau diogelwch a diogelwch cerddwyr.


RoSPA

3/4/08

Mae RoSPA wedi cynhyrchu dwy ffilm yn ddiweddar ar Ddiogelwch ar y Ffyrdd, ac maen nhw ar gael ar y wefan i bobl eu gwylio ar-lein.


Driving for Work
Ffilm fer yw “Driving for Work” ac mae hi wedi’i chynllunio i gynyddu’r ymwybyddiaeth o’r peryglon sy’n cael eu hwynebu a’u creu gan bobl y mae gyrru’n rhan o’u gwaith. Mae tair pennod iddi, a phob un yn darlunio gyrrwr ‘nodweddiadol’ wrth ei waith: gyrrwr fan, cynrychiolydd gwerthiant ac uwch-reolwr. Mae’r ffilm hefyd yn cynnwys cyngor gan arbenigwyr ar ddiogelwch ar y ffyrdd a chan aelodau o’r gwasanaethau brys.


Carrying Children Safely Choosing and Fitting Rear-facing Child Seats
Diben “Carrying Children Safely” yw helpu rhieni i ddewis, gosod a defnyddio seddau plant mewn ceir. Mae’n cynnwys cyflwyniad i seddau plant a pham y mae eu hangen, yn ogystal ag adrannau ar seddau sy’n wynebu tuag yn ôl, seddau sy’n wynebu tuag ymlaen, seddau codi a chlustogau codi. Cewch wybodaeth ynddi hefyd am y deddfau ynghylch seddi plant mewn ceir.

In order to play these video clips you will need a copy of the Adobe Flash Player installed on your machine. This is freely available to download here. I chwarae’r clipiau fideo hyn, bydd angen i gopi o’r Adobe Flash Player fod wedi’i osod ar eich cyfrifiadur chi.



Ysgolion A Chymunedau'n Derbyn Arian Llwybrau Diogel

20/3/08


Road Safety Logo Road Safety Logo Bydd cannoedd o blant ysgol yn elwa ar fesurau diogelwch newydd yn dilyn cyhoeddiad bod cyfraniad ariannol o dros hanner miliwn o bunnoedd ar gael. Mae cyngor Abertawe wedi derbyn cadarnhad y bydd naw ysgol gynradd yn y ddinas a'r sir yn derbyn cyfran o'r £531,000 fel rhan o setliad grant trafnidiaeth eleni gan y Cynulliad.

Darparwyd yr arian i'r ysgolion o dan y fenter Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.

Yr ysgolion sy'n rhan o'r fenter yw Pentrepoeth, Crwys, yr Hafod, Knelston, Mayals, Plasmarl, Llandeilo Ferwallt, Trefansel a Phenyrheol.

Mae Swyddog Llwybrau Diogel mewn Cymunedau y cyngor wedi gweithio gyda phob un o'r naw ysgol, yn paratoi cynigion a'u cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau a fyddai'n gwneud cerdded a beicio yng nghyffiniau'r ysgol yn fwy diogel.

Bydd yr arian yn mynd tuag at gost sefydlu croesfannau cerddwyr, ffensys diogelwch, twmpathau heol a hyd yn oed cyflwyno cyfyngiadau cyflymder 20mya.

Dywedodd Alison Gough, Swyddog Llwybrau Diogel mewn Cymunedau cyngor Abertawe, "Mae'n newyddion gwych bod y naw ysgol a gyflwynodd gais am yr arian wedi bod yn llwyddiannus.

"Mae gan yr ysgolion sydd wedi cymryd rhan fewnbwn uniongyrchol i'r math o fesurau sy'n cael eu cyflwyno yn eu cymunedau. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol os ydym yn mynd i annog mwy o blant i ddewis y ffyrdd iachaf megis cerdded neu feicio i'r ysgol."

Mae'r holl fentrau megis cyflwyno cyfyngiadau cyflymder 20mya yn ogystal â gwella addysg diogelwch ffyrdd wedi helpu i leihau nifer y damweiniau ffyrdd a oedd yn ymwneud â phlant rhwng 0 a 15 oed.

Dywedodd y cyngor bod y ffigwr hwn wedi gostwng i 109 yn 2006. Mae hyn 50 yn llai na deng mlynedd yn ôl, oherwydd mai'r ffigur cyfartalog rhwng 1994 a 1998 oedd 165.

Dywedodd John Hague, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, "Mae tîm diogelwch ffyrdd y Cyngor yn gweithio'n galed i ddatblygu ffyrdd newydd o addysgu plant am y peryglon ar ein ffyrdd a sut gallant osgoi'r peryglon hyn.

"Bydd y setliad diweddaraf hwn yn ein galluogi i barhau â'r gwaith gwych hwn a'n cynorthwyo i ddiogelu plant ifanc yn ein cymunedau."


Lansio Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Pentre

12/3/08

Pentre Road Safety Team Launched Mae Ysgol Gynradd Pentre yn un o dair ysgol newydd i ymuno â’r cynllun Swyddogion Iau Diogelwch ar y Ffyrdd a lansiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Ers i Samual, Kirsty, Kurt a Kelsey gael eu penodi’n Swyddogion Iau Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer yr ysgol, maen nhw wedi gweithio’n frwd dros ben i roi arddangosfa wrth ei gilydd ar gyfer y gystadleuaeth i Hysbysfyrddau Swyddogion Iau Diogelwch ar y Ffyrdd. Maen nhw wrthi hefyd yn cynllunio i gyflwyno casgliad o ddeunydd i weddill yr ysgol ar “Ddiogelwch ar y Ffyrdd”.

Swyddogion Iau Ysgol Gynradd Pentre oedd y rhai cyntaf i roi cynnig ar wisgo’r crysau-T a’r hetiau pêl-fas newydd y mae’r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd wedi’u prynu oddi wrth Logo Embroidery.

Nod y cynllun Swyddogion Iau Diogelwch ar y Ffyrdd yw hybu ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd ymhlith plant ysgol. Rôl y plant yw helpu eu Swyddog lleol Diogelwch ar y Ffyrdd i hyrwyddo materion diogelwch ar y ffyrdd yn yr ysgol a’r gymuned leol.

Meddai’r Cynghorydd Eudine Hanagan, yr Aelod o’r Cabinet dros Well Gwasanaethau Cyhoeddus a Chludiant: “Mae gan y plant rolau pwysig iawn i’w chwarae wrth hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd yn yr ysgol – drwy gynnal cystadlaethau, arddangos ar hysbysfyrddau a threfnu digwyddiadau.

“Rwy’n siwr y byddan nhw’n elwa’n aruthrol o’r profiad hwn ac y bydd yn helpu i dynnu sylw at faterion diogelwch ar y ffyrdd nid yn unig yn yr ysgol ond yn y gymuned ehangach. Hoffwn longyfarch pawb sy’n ymwneud â llwyddiant parhaus y fenter wych hon.”


Arwydd Newydd Sy'n Ymateb I Gerbydau Ym Mrychdyn

7/3/08
Broughton

Mae arwydd newydd sy’n ymateb i gerbydau wedi’i godi yn New Warren, Ffordd yr Wyddgrug, Brychdyn. Mae Cynghorwyr Brychdyn, Ros Griffiths, Billy Mullin a Derek Butler wedi croesawu’r dull arafu traffig newydd hwn. Bydd y fenter hon i ddiogelu’r ffyrdd yn dechrau cyfres o welliannau arfaethedig i’r seilwaith ffyrdd yn y pentref.

Meddai’r Cynghorydd Butler: “Gobeithiwn y bydd yr arwydd newydd hwn yn annog gyrwyr i deithio ar gyflymder diogel trwy’r pentref.”

Meddai’r Cynghorydd Griffiths: “Mae hwn yn welliant a oedd ei angen yn fawr a dylai wneud y pentref yn fwy diogel i bawb.”

Meddai’r Cynghorydd Mullins: “Rwy’n croesawu’r arwydd newydd hwn a gobeithiaf y bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ddiogelwch y ffyrdd ym Mrychdyn.”


Disgyblion o Gwmbrân yn Dathlu Buddugoliaeth yn y Cwis Cenedlaethol i Ysgolion

3/3/08


Mae ysgol yng Nghwmbrân yn dathlu cyflawni camp ryfeddol ar ôl iddi gipio teitl Pencampwyr y Cwis Cenedlaethol. Trefnwyd y gystadleuaeth i gynyddu ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl ifanc.

image : CWMBRÂN PUPILS CELEBRATE VICTORY IN NATIONAL SCHOOL QUIZ

Cafodd y gystadleuaeth flynyddol sy’n rhan o Raglen Greiddiol Cyswllt yr Heddlu ag Ysgolion – rhaglen sy’n gweld swyddogion yr heddlu’n ymweld ag ysgolion i gyflwyno rhannau allweddol o’r cwricwlwm ABCh – ei chynnal yng Ngwesty’r Copthorne yng Nghaerdydd. Ar ôl llwyddo yn eu rowndiau rhanbarthol, cystadlodd 4 tîm o bob rhan o Gymru am y teitl.

Mewn cystadleuaeth agos, a ymladdwyd dros chwe rownd, disgyblion o Ysgol Uwchradd Fairwater a gipiodd y brif wobr drwy ennill 50 o bwyntiau a churo’u cystadleuwyr agosaf, Ysgol Uwchradd Cyfartha, o 3 phwynt.

Y cwisfeistr oedd Kevin Johns o Sain Abertawe ac roedd y darllenydd newyddion o ITV 1, Jonathan Hill, wrth law i gyflwyno’r gwobrau.

Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Jonathan:
“Mae hi wedi bod yn noson wych ac rwyf wrth fy modd i mi gael fy ngwahodd. Caiff pobl ifanc lawer o sylw gwael yn y wasg, ond mae’n galondid gweld diddordeb y bobl ifanc hyn yn eu cymunedau – os nhw yw’n dyfodol, rydyn ni mewn dwylo diogel iawn.”

Ychwanegodd Linda Roberts, Cydlynydd Rhaglen Greiddiol y Cyswllt ag Ysgolion Cymru Gyfan:
“Sail llwyddiant y digwyddiad yw gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth. Hoffwn ddiolch i’n noddwyr, G4s Airwave Solutions, a’r tîm atal tanau bwriadol yn Llywodraeth y Cynulliad. Hoffwn hefyd ddiolch i’n partneriaid am gyfrannu o’u hamser a’u hymdrech i sicrhau llwyddiant y noson hon, ac yn benodol i CLIC, Crimestoppers, Diogelwch Ffyrdd Cymru, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.”


Disgyblion Yn Sicrhau Llwyddiant Loteri

29/2/08

Mae disgyblion Tre Ioan, a oedd yn rhan o gais i ennill arian Loteri ar gyfer llwybr newydd i feicwyr a cherddwyr, yn dathlu eu llwyddiant.


Roeddent wedi defnyddio beiciau peniffardding yn rhan o'u hymgyrch Connect2 i gyfleu eu brwydr hirfaith am lwybr beicio da a fydd yn osgoi'r dref. Fe fydd yn croesi nifer o rwystrau yng
Nghaerfyrddin gan gynnwys rheilffordd, ffordd ac afon ac yn creu llwybr diogel i feicwyr a cherddwyr sy'n croesi'r dref i Dre Ioan.Sustrans Connect2


Roedd negeseuon testun gan gannoedd o ddisgyblion a'u cysylltiadau â rhwydwaith o berthnasau a chyfeillion wedi helpu i annog miloedd i bleidleisio a sicrhau llwyddiant yn y gystadleuaeth Creu Cof Byw - Miliynau'r Bobl. Mae prosiect Caerfyrddin yn un o 37 o gynlluniau trwy Brydain a fydd yn rhannu'r £50 miliwn sydd yn y gronfa. Bydd y llwybr beicio'n cysylltu'r brif orsaf reilffordd â llwybr diogel dros afon Tywi o orsaf Caerfyrddin i'r Cei ac ymlaen i ysgolion Tre Ioan a'r ganolfan hamdden.
Dywedodd Mark James, Prif Weithredwr y Cyngor: "Rwyf am ddweud diolch o galon i bawb a oedd wedi pleidleisio mewn ymateb i'r apêl, gan gynnwys disgyblion ysgol, gweithwyr y cyngor a'r cyhoedd."


CSI Cymru - Gwynedd

20/2/08

CSI Cymru Gwynedd Mae CSI Cymru yn Gynllun Diogelwch y Ffyrdd sydd wedi ei ddylunio mewn partneriaeth a Chyngor Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.  Mae’r Cynllun yn cynnwys arddangosfa o gerbyd wedi bod mewn gwrthdrawiad ynghyd ac anafusion ffug.

Mae wedi ei ddylunio ar gyfer disgyblion 15/16 oed, Blynyddoedd 11 Ysgolion Uwchradd Gwynedd. Mae taith o gwmpas yr ysgolion wedi cychwyn eisioes.

Mae’r cynllun wedi ei ddatblygu er mwyn i’r disgyblion fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau a pharch sydd ei angen o fod yn ddefnyddiwr y ffordd, yn enwedig gyrrwr modur neu’n deithiwr.  Mae wedi ei ddylunio i newid agwedd ac ymddygiad cyn iddynt fod yn yrwyr.  Mae’r disgyblion yn 12 mis i ffwrdd o fod yn ddeiliaid trwydded gyrru dros dro a gobeithir wrth gyflwyno'r mesur ar yr amser yma y bydd yn annog pobl ifanc i fod yn gyfrifol am eu hunan, y teithwyr maent yn eu cario a defnyddwyr y ffordd eraill sydd yn rhannu'r un ffyrdd.

Datblygwyd y cynllun oherwydd y ganran uchel o yrwyr ifanc oedd yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.

Yn ystod 2006 roedd 617 o yrwyr 18 oed mewn gwrthdrawiadau, roedd hyn yn ddau ran o bump (39%) o holl yrwyr o dan yr oedran 20 oedd mewn gwrthdrawiadau. O fewn y gwrthdrawiadau yma roedd 389 (14%) yn yrwyr gwrywaidd ac roedd y gwrthdrawiadau yn  rhai angheuol neu ddifrifol.  Roedd gyrwyr benywaidd mewn 117 gwrthdrawiadau (9%) angheuol neu ddifrifol.

O fewn yr un cyfnod roedd ystadegau Gwrthdrawiadau Gwynedd ar gyfer gyrwyr o dan 25 oed fel a ganlyn:  6 Angheuol, 20 Difrifol a 128 ysgafn.

Calendr


Cynllun Yn Gostwng Nifer Y Damweiniau
18/2/08

 Arwyn WoolcockMae gostwng nifer y damweiniau ar y ffyrdd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnig manteision. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae'r Cyngor wedi neilltuo £300,000 bob blwyddyn ar gyfer cynlluniau i ostwng nifer yr anafiadau personol ar ffyrdd lleol.

Roedd y rhaglen yn targedu ffyrdd lle bu o leiaf pum damwain a achosodd anafiadau personol dros gyfnod o bum mlynedd. Fe ddadansoddwyd y rhain wedyn i weld a oedd materion megis cyflymder neu welededd wedi chwarae rhan.

Mae'r ystadegau ar gyfer tair blynedd cyntaf y cynllun wedi dangos canlyniadau ardderchog gyda chyfraddau damweiniau'n gostwng hyd at ddau draean mewn rhai ardaloedd.

Mae'r cynllun yn cynnwys amrywiaeth o fesurau i ostwng nifer y damweiniau megis clustogau neu fannau gwastad i leihau cyflymder, marciau ar y ffyrdd, arwyddion a rhwystrau gosod.

Cyn i'r cynllun ddechrau, bu chwe damwain mewn tair blynedd a achosodd anafiadau personol ar yr Hen Ffordd yn Llansawel. Bu dwy ddamwain yn ystod y tair blynedd dilynol.

Yn yr un modd, gostyngodd nifer y damweiniau o chwech i ddwy ym Mhenywern yng Nghastell-nedd ac o bymtheg i wyth ar Heol Newydd yn Sgiwen.

Mae'r rhaglen yn golygu bod ffyrdd mwy diogel yng Nghastell-nedd Port Talbot gan gynnig manteision enfawr i drigolion lleol.

Meddai Arwyn Woolcock, Aelod y Cabinet ar gyfer Priffyrdd, "Dyma gynllun hynod lwyddiannus. Mae'r mesurau rydym wedi'u cyflwyno'n gostwng nifer y damweiniau ac yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb. Mae gwario swm cymharol fach o arian yn rhoi manteision ariannol sylweddol, nid yn unig i'r Cyngor ond hefyd y cyrff eraill sy'n gorfod ymateb yn sgÎl damweiniau ar y ffyrdd."


Taith Theatr ‘Gwenno’s Grampo’ ar gyfer Rhondda Cynon Taf

15/1/08


rhondda cynon taf

Menter a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Adran Diogelwch y Ffyrdd Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth y Cynulliad, ac a ariannwyd ganddyn nhw, yw’r prosiect hwn. Caiff hefyd ei noddi’n hael gan Hutchings HQ, Pontypridd.


Ysgrifennwyd ‘Gwenno’s Grampo’gan Mark Ryan a chaiff ei pherfformio gan Theatr Spectacle. Mae’n cynnwys cerddoriaeth a chaneuon byw a bydd ar daith i bob ysgol Babanod, Cynradd ac Iau ledled RCT yn Gymraeg a Saesneg. Dyddiadau’r daith yw 14 Ionawr - 9 Mai 2008.

www.spectacletheatre.co.uk


Archif Newyddion - 2007

Storïau Eraill



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.