Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru: Datganiad i’r Wasg


30 Mai 2007


Ymgyrch Haf 2007 Cymru-Gyfan yn erbyn Yfed a Gyrru

Yn ystod yr haf, bydd heddluoedd ledled Cymru’n cynyddu’r pwysau mewn ymdrech benderfynol i gael pobl i beidio â gyrru cerbydau modur dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Bydd yr ymgyrch yn cychwyn ar Fehefin 4ydd 2007 a bydd gyrwyr yn fwy tebyg o gael eu stopio gan yr heddlu yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’n peri pryder gwirioneddol bod pobl yn dal i gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol o ganlyniad uniongyrchol i yfed a gyrru, a hynny serch y gwelliannau mawr dros y blynyddoedd diwethaf ynghyd ag ymgyrchoedd hysbysebu a rhaglenni addysg. Yn wir, mae tystiolaeth yn awgrymu bod problem dynion ifanc meddw sy’n barod i fentro’r cyfan drwy yrru yn ailgodi. Gall y mymryn lleiaf faint o alcohol neu gyffuriau yn y corff effeithio ar allu a barn person wrth yrru, ac o gofio tuedd dynion ifanc i fod â gormod o ffydd yn eu gallu fel gyrwyr, mae’r cyfuniad yn un angheuol.

“Mae’n destun pryder mawr i ni fod 416 o bobl wedi profi'n bositif am alcohol neu gyffuriau yn ystod ymgyrch 2006. Roedd bron i hanner y rheiny’n yrwyr ifanc rhwng 17 a 25 oed,” meddai’r Prif Arolygydd Geraint Anwyl, Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Weithredol yn Heddlu’r Gogledd, sy’n arwain yr ymgyrch eleni.

Meddai ymhellach: “Er y byddwn ni’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc, byddwn ni’n edrych ar bawb sy’n yfed a gyrru. Bydd 500 o bobl yn colli eu bywydau ym Mhrydain bob blwyddyn oherwydd gyrwyr meddw. Mae effaith hynny ar y teuluoedd yn dorcalonnus ac yn para byth.

Yfed a gyrru oedd un o dri phrif bryderon 89% o’r cyhoedd (Arolwg Blynyddol PWYLLWCH! 2006). Yng ngoleuni cefnogaeth gref y cyhoedd, cynhelir ymgyrch egnïol i geisio gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.

Gall unrhyw un sy’n credu bod unigolion yn gyrru, a hwythau dros y terfyn cyfreithiol, roi gwybodaeth i Taclo’r Tacle (Crimestoppers) yn ddienw ac yn gyfrinachol ar 0800 555 111.

Caiff ymgyrch yfed-a-gyrru haf 2007 ei seilio ar y thema “Pwy fydd yn mynd â chi adref - hers, car heddlu, ambiwlans neu dacsi?”

Caiff yr ymgyrch fis o hyd ei lansio yng Ngholeg Menai yn Llangefni fore Llun 4 Mehefin am 11 o’r gloch. I’r lansiad, daw cynrychiolwyr o holl heddluoedd Cymru ynghyd â Phrif Weithredwr Cyngor Sir Môn, aelodau o bartneriaeth Diogelwch y Ffyrdd a myfyrwyr o Goleg Menai.



Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2009 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.