Diogelwch Ffyrdd Cymru: Datganiad i’r Wasg
Daw ethol Joy Smith (Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) yn gadeirydd newydd ar adeg gyffrous i Ddiogelwch Ffyrdd Cymru. Mae’r bartneriaeth, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol ym maes diogelwch a ffyrdd o bob rhan o Gymru, newydd lansio menter fawr sy’n ceisio taclo’r cyfraddau uchel o yrwyr a theithwyr ifanc sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar ffyrdd Cymru.
Meddai Joy Smith, “Cynllun hyfforddi sy’n ceisio rhoi rhagor o sgiliau a phrofiad i yrwyr ifanc i helpu i leihau’r risg iddyn nhw fod mewn damweiniau ar y ffyrdd yw Pass Plus Cymru. Roedd 59 o’r 130 o yrwyr a theithwyr a laddwyd ar ffyrdd Cymru yn 2005 rhwng 16 a 25 oed, sef 45% o gyfanswm y marwolaethau. Mae rhoi cyfle i bobl ifanc fod yn well gyrwyr yn rhan allweddol o’n hymdrechion i wneud ffyrdd Cymru’n fwy diogel i bawb”.
Achoswyd llawer o’r marwolaethau hynny gan gamgymeriadau syml a wnaed oherwydd diffyg sgiliau a diffyg profiad o yrru. Mae Pass Plus Cymru wedi’i ddatblygu i ymladd y broblem honno. Esboniodd yr Is-Gadeirydd newydd, Heather Lynne Jones (Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir Gwynedd), fod “y cynllun, sy’n fersiwn helaethach o gynllun Pass Plus yr Asiantaeth Safonau Gyrru, yn cynnwys sesiwn rhyngweithiol, sy’n para teirawr, ar y theori, ynghyd â diwrnod o hyfforddiant ymarferol mewn car. Bydd ef ar gael i bawb dros 17 oed yng Nghymru, a gorau oll os gwnân nhw’i gymryd cyn pen blwyddyn ar ôl pasio’u prawf gyrru. Yn ogystal â chwtogi ar y perygl y bydd gyrrwr ifanc mewn damwain, bydd cymryd rhan yng nghynllun Pass Plus Cymru hefyd yn fodd i arbed arian ar yswiriant car”.
Diolch i gyllid pwrpasol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru’n rhoi cymhorthdal sylweddol i gyrsiau Pass Plus Cymru. Caiff y cynllun ei reoli gan MAC Driving Excellence ac mae ef hefyd wedi cael cefnogaeth Direct Line Insurance. Gall gyrwyr archebu cwrs drwy fynd i www.dragondriver.com a chlicio ar logo Pass Plus Cymru.