Diogelwch Ffyrdd Cymru: Datganiadau i'r Wasg
Tudalen 1 o 1
28/6/10
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru, y bartneriaeth o holl bersonél allweddol diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru, wedi cyhoeddi penodi Susan Storch yn Gadeirydd newydd a Sarah Morris yn Is-Gadeirydd.
Mae Susan Storch, sifilwraig o Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd i Heddlu Dyfed Powys, yn olynu Joy Smith, Rheolwraig Diogelwch ar y Ffyrdd yng Nghastell-nedd Port Talbot a gwraig a ehangodd rôl y Cadeirydd yn ystod ei phedair blynedd yn y swydd.
Gynt, bu Susan yn Hyfforddwraig Gyrru Gymeradwy ac yn Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.
Croesawodd ei phenodiad gan ddweud, “Rwyf wrth fy modd yn derbyn y rôl hon ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at barhau i ddatblygu ac ysgogi mentrau cenedlaethol diogelwch ar y ffyrdd a fydd yn sicrhau bod Cymru’n dal i fod yn un o’r gwledydd mwyaf diogel yn y byd i deithio ynddyn nhw. Rwy’n gobeithio gweithio gyda’r Is-Gadeirydd, Sarah Morris, Prif Swyddog Diogelwch y Ffyrdd ym Mhowys, i gyfnerthu’r gwaith da o gwtogi ar anafiadau a marwolaethau ar y ffyrdd ledled Cymru. Mae gwneud ein ffyrdd ni’n fwy diogel yn her i bob un ohonon ni a bydd partneriaeth Diogelwch Ffyrdd Cymru yn sicrhau bod pob cynllun addysg diogelwch, hyfforddiant a chyhoeddusrwydd yng Nghymru mor berthnasol â phosibl.”
Gyda’r Nadolig yn agosáu, mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i feddwl am yr effaith ddinistriol y gall yfed a gyrru ei chael ar fywydau pobl.
Wrth lansio ymgyrch Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Heddlu yn erbyn yfed a gyrru y Nadolig hwn, yng Nghaernarfon, cynigiodd teulu Amanda Coulton o Ogledd Cymru, a gafodd ei lladd gan yrrwr a oedd wedi bod yn yfed, ddarlun personol sut y mae yfed a gyrru wedi effeithio arnyn nhw.
Lansiodd Heddlu Gogledd Cymru, gan gynrychioli pob un o Heddluoedd Cymru, yr ymgyrch flynyddol i fynd i’r afael ag yfed a gyrru gyda rhybudd cadarn i yrwyr dros yr wyl; “Byddwn yn gweithredu’n llym os cewch eich dal yn yfed a gyrru.”
Y llynedd, cafodd 19,554 o yrwyr ar ffyrdd Cymru brawf anadl yn ystod ymgyrch y Nadolig, ac roedd 587 o’r canlyniadau yn bositif.
Lansiodd Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yr ymgyrch hysbysebu ddiweddaraf.
Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at y problemau sy’n gysylltiedig ag yfed a gyrru, ac yn atgoffa gyrwyr i bwyllo ar adegau pan fo ‘Amheuaeth’ yn croesi’r meddwl, gan nad oes angen yfed llawer i amharu ar eich gallu fel gyrrwr.
Dywedodd Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
Rwy’n falch o fod yma yn fy lansiad cyntaf o Ymgyrch yn Erbyn Yfed a Gyrru ers i mi ddod yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Am dros 30 mlynedd, mae’r Llywodraeth wedi bod yn ymgyrchu i newid agweddau a lleihau nifer y marwolaethau ar ein ffyrdd sy’n gysylltiedig ag alcohol, ond mae bywydau gormod o deuluoedd a gormod o unigolion yn cael eu chwalu gan anafiadau a marwolaethau o ganlyniad i yfed a gyrru o hyd.
Er mai dim ond nifer fach o yrwyr sy’n dal i dorri’r rheolau yfed a gyrru, mae’r lleiafrif hwn o yrwyr anghyfrifol yn gyfrifol am un mewn chwech o farwolaethau ar y ffyrdd yn y wlad hon. Rwy’n gofyn i’r gyrwyr hynny ystyried yr effeithiau dinistriol y gallai eu hymddygiad eu cael ar lawer o bobl ddiniwed, ac i beidio â bod mor ddifeddwl.
Yn ddiweddar, bu’r Adran Drafnidiaeth yn ymgynghori ar fesurau newydd yn erbyn yfed a gyrru, gan gynnwys cynigion ar gyfer gorfodi’r mesurau hynny mewn modd mwy effeithiol. Rwy’n gobeithio y bydd hynny yn helpu i ddal a mynd i’r afael â’r lleiafrif peryglus hwn o yrwyr.
Dros y pedair wythnos nesaf, bydd miloedd o yrwyr yn wynebu cael eu stopio wrth i dimau o Heddluoedd Cymru - Gogledd Cymru, Dyfed Powys, De Cymru a Gwent – stopio gyrwyr ar hap mewn lleoliadau amrywiol ledled y wlad.
Yn ôl y Prif Uwcharolygydd John Turton o Heddlu Gogledd Cymru:
Er gwaethaf ymgyrchoedd yn y gorffennol, mae yfed a gyrru yn dal i fod yn un o’r themâu hanfodol yn ein strategaeth, i ostwng y nifer o anafiadau difrifol a marwolaethau ar ffyrdd Cymru.
Byddwn yn gweithredu polisi dim goddefgarwch wrth fynd i’r afael ag yfed a gyrru, cyn ac ar ôl y Nadolig, ac os byddwch yn torri’r gyfraith ac yn gyrru er eich bod wedi yfed gormod, byddwch yn mentro colli eich trwydded a chael eich erlyn. Byddwch hefyd yn mentro eich bywyd eich hun, yn ogystal â bywydau pobl eraill sy’n defnyddio’r ffyrdd.
Dywedodd hefyd:
Rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod ffyrdd Cymru yn fwy diogel. Fodd bynnag, ni allwn weithio ar ein pennau ein hunain. Mae angen cefnogaeth y cyhoedd arnom i gael effaith go iawn. Rwy’n annog pawb i chwarae rhan – nid oes modd gwybod faint o alcohol sy’n ddiogel i’w yfed os ydych am yrru, a’r unig ffordd ddiogel yw peidio ag yfed o gwbl os ydych am yrru.
Mae Angela a Derek Coulton, a gollodd eu merch Amanda ar ôl damwain car ym mis Ionawr eleni, yn cefnogi’r lansiad eleni.
Dywedodd Angela Coulton:
Nid oes geiriau i ddisgrifio faint o ddinistr y mae ein teulu wedi’i wynebu. Mae gormod o bobl ddiniwed wedi’u lladd gan yrwyr na ddylai fod ar y ffordd, gan adael teuluoedd a ffrindiau mewn galar.
Roedd Amanda yn byw bywyd i’r eithaf, ac roedd hi’n edrych ymlaen at gymaint o bethau. Ei geiriau olaf ar ei thudalen Bebo oedd ‘Mae fy mywyd i’n berffaith’ – mae’n greulon bod rhywun a oedd yn caru bywyd cymaint wedi ei golli.
Erbyn hyn mae fy mab yn unig blentyn. Byddai fy ngwr wedi bod mor falch o gael tywys Amanda ar ddiwrnod ei phriodas – chaf i fyth mo’r cyfle i fod yn fam y briodferch. Chawn ni byth gyfle i weld Amanda yn cael plant ac i ofalu amdanynt.
Plentyn yw’r peth mwyaf gwerthfawr y gall unrhyw un ei gael. Oni bai bod rhywbeth fel hyn wedi digwydd i chi, ni allwch ddechrau dychmygu’r trawma sy’n cael ei achosi pan fo eich plentyn yn cael ei gymryd yn annisgwyl.
Gwnaeth y Dirprwy Brif Weinidog hefyd gyflwyno pedwar enillydd rhanbarthol cystadleuaeth Aml Gyfrwng yn Erbyn Yfed a Gyrru a drefnwyd gan Diogelwch Ffyrdd Cymru. Cystadleuaeth oedd hon lle cafodd plant eu gwahodd i gyflwyno neges yn erbyn yfed a gyrru mewn cyfrwng o’u dewis nhw.
Mae DVD o dan y teitl ‘Naomi Story’ gan Emily Gronow, a gafodd ei gynhyrchu ar gyfer cystadleuaeth i fathu neges i dargedu gyrwyr a theithwyr ifanc, fel rhan o’r Fenter Lleihau Nifer y Damweiniau Ffyrdd sy’n cael ei threfnu gan Orsaf Dân Penarth hefyd ei ddangos yn y digwyddiad. Mae’r DVD yn seiliedig ar y gerdd yn erbyn yfed a gyrru, ‘Went To A Party Mum’, a bydd yn cael ei ddefnyddio mewn mentrau yn y dyfodol. Yn gynharach eleni, enillodd Emily y Wobr Diogelwch Ffyrdd ar gyfer 2008.
Mae heddluoedd Cymru yn uno yr haf hwn mewn ymgyrch i dargedu gyrwyr sy’n yfed.
Fel rhan o’r ymgyrch, sy’n dechrau ar y 1af o fis Mehefin, bydd yr heddluoedd Cymreig yn stopio mwy o yrwyr.
Rydym yn annog pobl i feddwl cyn yfed ac i beidio â dringo i sedd y gyrrwr os ydynt wedi yfed alcohol.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Andy Edwards, o Heddlu Dyfed Powys, sy’n arwain yr ymgyrch: “Mae pobl yn manteisio ar yr haf er mwyn cynnal partïon a barbiciws, yn enwedig pan fydd yr haul yn disgleirio.
“Fodd bynnag, oherwydd bod yr achlysuron hyn yn dueddol o fynd ymlaen am oriau, mae pobl yn gallu colli cyfrif o faint o alcohol y maent wedi’i yfed.
“Hoffwn atgoffa pobl nad oes yna fesur penodol o alcohol y gellir yn gyfreithlon ei yfed cyn gyrru cerbyd.
“Mae pobl sy’n yfed a gyrru yn rhedeg y risg o ladd ei hunain, y bobl sy’n teithio gyda nhw a phobl ddiniwed eraill sy’n defnyddio’r ffordd.
“Os cewch eich stopio a chithau dros y terfyn cyfreithiol, gallech gael eich gwahardd rhag gyrru a chael eich collfarnu am drosedd – ac fe allai hynny gael effaith anferth ar eich bywyd.
“Mae’r cyngor gorau yn syml iawn – os yfed, dim gyrru.”
Yn ystod ymgyrch haf 2007, rhoddwyd 7,970 prawf anadl ledled Cymru ac roedd 400 (5 y cant) o’r rheiny yn bositif.
Bum mlynedd ar hugain ar ôl ymgyrch lwyddiannus RoSPA o blaid cyflwyno’r ddeddf gyntaf ynghylch gwisgo gwregysau diogelwch, mae rhyw 370 o bobl y flwyddyn yn dal i gael eu lladd mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd am nad ydyn nhw’n gwisgo gwregys diogelwch.
Er i wregysau diogelwch arbed ymhell dros 50,000 o fywydau ers 1983, dywed Steve Baker, Pennaeth RoSPA Cymru, mai’r “ffaith syfrdanol amdani yw bod lleiafrif styfnig o bobl yn dal i beidio â gwisgo’u gwregys diogelwch pan fyddan nhw’n mynd i mewn i gerbyd. Mae’r ymchwil yn dangos nad yw rhyw draean o’r rhai sy’n cael anafiadau angheuol wrth deithio mewn ceir yn gwisgo gwregysau diogelwch.
“Mae angen i ni ddeall pam nad yw’r neges yn treiddio i’w meddwl, a sicrhau y caiff ymgyrchoedd eu targedu’n rheolaidd er mwyn i nifer y marwolaethau a’r anafiadau ddal i ostwng.
“Hwyrach mai’r hyn sy’n digwydd yw bod pobl yn anghofio gwisgo’u gwregysau diogelwch, a bod angen eu hannog i feithrin yr arfer. Gall eraill deimlo, efallai, nad oes angen eu gwisgo neu nad yw’n ‘cwl’ iddyn nhw wneud hynny. Efallai ei bod hi’n bryd ystyried rhoi tri phwynt cosb i yrwyr os byddan nhw’n methu â gwisgo’u gwregysau diogelwch.”
Daeth y ddeddf gyntaf ynghylch gwregysau diogelwch i rym 25 mlynedd yn ôl ar Ionawr 31 wedi i Lywydd RoSPA ar y pryd, yr Arglwydd Nugent o Guildford, gynnig gwelliant i’r Mesur Trafnidiaeth yn Nhy’r Arglwyddi ac ennill y ddadl o blaid gwneud gwisgo gwregys diogelwch ar y seddau blaen mewn ceir yn orfodol. Ym 1991 cafwyd deddf a’i gwnaeth hi’n orfodol gwisgo gwregysau diogelwch yng nghefn ceir.
“Diolch i ymdrechion RoSPA a’r Arglwydd Nugent, mae gwregysau diogelwch wedi arbed miloedd o fywydau,” meddai Steve Baker. “Yn anffodus, er bod rhyw 94 y cant o bobl yn nhu blaen ceir yn gwisgo’u gwregysau diogelwch – ac mae hynny’n dal i fod yn rhy isel – dim ond rhyw 70 y cant o oedolion sy’n eu gwisgo yn y cefn.
” “Fel y mae hysbysebion teledu wedi dangos, gall teithiwr sydd heb fod yn gwisgo gwregys diogelwch ar sedd gefn gael ei daflu ymlaen a lladd rhywun sydd yn nhu blaen y car. Os na fyddwch chi’n gwisgo gwregys diogelwch, a chithau mewn gwrthdrawiad ar 30 milltir yr awr, cewch eich taflu ymlaen â grym o rhwng 30 a 60 gwaith pwysau’ch corff.
“Mae problem fawr hefyd gyda gyrwyr faniau (cyfradd wisgo o 69 y cant) a’u teithwyr (58 y cant) ac mae angen i gyflogwyr wneud rhagor i sicrhau bod eu gyrwyr a’u gweithwyr eraill yn gwisgo’u gwregysau diogelwch.
“Mae deddfau diweddar ynghylch seddau ceir wedi gwneud rhagor i ddiogelu plant, ond mae angen i oedolion osod esiampl drwy wisgo’u gwregysau diogelwch eu hunain er mwyn i blant ddeall gwir werth y gwregysau hynny pan fyddan nhw’n tyfu’n rhy fawr i eistedd ar sedd plentyn.”
www.thinkseatbelts.com
Mae ymgyrch yn cael ei lansio drwy Gymru er mwyn rhybuddio'r ifanc am beryglon gyrru'n rhy gyflym.
Fe fydd plismyn yn stopio gyrwyr ifanc a rhoi taflenni iddyn nhw.
Dywedodd yr heddlu fod 25% o yrwyr oedd yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol o dan 25 oed.
A'r rhai mwya peryglus, meddai llefarydd cynllun diogelwch y ffyrdd, oedd gyrwyr ifanc â theithwyr yn y car.
Roedden nhw'n gyrru'n gyflym oherwydd y wefr ac am eu bod nhw'n ceisio "creu argraff".
Fe fydd yr ymgyrch, y mae Heddlu Gwent yn ei harwain, yn parhau am bythefnos.
Ac fe fydd yr ymgyrch yr un amser â'r ymgyrch Gymreig yn erbyn yfed a gyrru, yr ymgyrch ddechreuodd ar Ragfyr 3.
Dywedodd yr Arolygydd Lee Ford o Heddlu Gwent taw'r nod fyddai perswadio pobol ifanc i feddwl am ganlyniadau yr hyn yr oedden nhw'n ei wneud.
"Y nhw sy'n achosi 20% o'r damweiniau pan mae rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol.
"Yn aml, mae'r agwedd at ddiogelwch yn anghyfrifol ... dydyn nhw dim yn gwerthfawrogi nac yn deall sgiliau gyrru."
Dywedodd Jim Moore o Bartneriaeth Camera Diogelwch y canolbarth a'r de taw'r gyrwyr newydd oedd y rhai mwya peryglus.
"Mae eu ffrindiau'n pwyso arnyn nhw i gymryd risg er mwyn cael hwyl ... neu maen nhw'n rasio ceir eraill ...
"Ac mae gyrru'n beryglus ac yn gyflym, gan gynnwys gyrru'n rhy agos at geir eraill, yn annerbyniol ... does dim modd brecio mewn pryd os yw plentyn yn rhedeg ar draws yr heol."
Bydd Ymgyrch 2007 yn erbyn Yfed a Gyrru yn cael ei lansio ddydd Llun 03 Rhagfyr yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Sachville Avenue, y Mynydd Bychan, Caerdydd. Ei nod yw ceisio tynnu sylw at y problemau a'r materion sy'n gysylltiedig ag yfed a gyrru yn enwedig dros y Nadolig.
Bydd Mr Giles York, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, yn annerch y digwyddiad ar ran yr heddlu, a bydd Joy Smith, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, yn arwain y trafodion ac yn cyflwyno enillwyr cystadleuaeth boster Diogelwch Ffyrdd Cymru.
I adlewyrchu rhai o'r agweddau gwahanol ar yfed a gyrru, bydd Tîm Diogelwch ar Ffyrdd Llywodraeth y Cynulliad, yr Heddlu, swyddogion Diogelwch Ffyrdd Cymru a chynrychiolwyr o'r Awdurdodau Lleol, yn cydweithio i gynghori gyrwyr i fod yn wyliadwrus o'r demtasiwn i gael 'un ddiod gyflym', oherwydd gall un ddiod feddwol fod yn ormod.
Bydd Angel of Chaos, grwp pop o ferched yn unig o Ysgol Uwchradd Glynebwy ym Mlaenau Gwent, yn canu eu cân 'Just Stop' yn y digwyddiad. Enillodd y grwp Her Cerddorol Diogelwch ar y Ffordd 2007, a drefnwyd ar gyfer ysgolion uwchradd Gwent. Mae'r gân, a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr Her, yn sôn am ganlyniadau yfed a gyrru.
Bydd Robin Shaw, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, yn cyflwyno gwobrau i’r enillwyr a’r rhai nesaf at y gorau yn y gystadleuaeth I lunio poster yn erbyn Yfed a Gyrru. Diogelwch Ffyrdd Cymru sy’n darparu’r gwobrau.
Dylai gyrwyr ledled Cymru gofio ei re u amhosibl iddynt fesur faint o alcohol y gallant ei yfed cyn gyrru. Gall hyd yn oed un neu ddwy o ddiodydd effeithio re u gallu I yrru.
Dywedodd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: "Nid dim ond bywydau sy’n cael eu colli yn sgil yfed a gyrru, ac felly rwy’n annog gyrwyr I adael eu ceir gartref os ydynt yn mynd allan I gymdeithasu dros y Nadolig. Mae'n amhosibl I chi wybod faint o alcohol sy’n ormod I chi cyn gyrru, felly yr unig ddewis diogel yw peidio ag yfed a gyrru.
"Mae pobl sy’n yfed a gyrru yn peryglu eu hunain ac eraill, ac nid oes lle iddynt ar ein ffyrdd yng Nghymru."
Dywedodd Dirpwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru Mr Giles York, "Y llynedd cafodd dros 14,000 o yrrwyr modur brawf anadl. Ein neges, felly, I yrrwyr yw: 'Peidiwch yfed a gyrru neu fe gewch eich dal'."
"Ar gyfartaledd, mae 3,000 o bobl yn cael eu lladd neu’n cael eu hanafu’n ddifrifol bob blwyddyn yn y DU mewn damweiniau oherwydd yfed a gyrru. Eto I gyd, dros gyfnod y Nadolig y llynedd collodd bron I 600 o yrrwyr yng Nghymru eu trwydded yrru gan iddynt roi eu bywydau eu hunain, a bywydau pobl ddiniwed eraill, mewn perygl."
"Yn ôl ystadegau, mae’r grwp oedran 17-24 yn gwneud camgymeriad mawr wrth feddwl y gallant yfed a gyrru, a dyna pam fod yr ymgyrch eleni wedi’I anelu’n uniongyrchol atynt hwy ac unrhyw yrrwr arall sy’n benderfynol o dorri’r gyfraith."
"Dylai gyrwyr yng Nghymru gofio y gallant gael dirwy fawr neu golli eu trwydded yrru, eu swydd, eu ffrindiau ac efallai eu bywyd hyd yn oed, os ydynt yn gyrru ar ôl yfed mwy na'r lefel gyfreithiol o alcohol.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn arwain Ymgyrch Gwregysau Diogelwch Cymru Gyfan sy’n cael ei lansio ddydd Llun Medi 10fed 2007 yn Llandrindod ar y cyd â Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys, i atgoffa gyrwyr a theithwyr am y peryglon o beidio â gwisgo gwregys.
Ers i’r gyfraith ynglyn â gwisgo gwregysau seddi ffrynt ddod i rym yn 1983, amcangyfrifir bod 50,000 o fywydau wedi cael eu harbed (yn ôl y Gymdeithas Frenhinol Atal Damweiniau (RoSPA)). Mae’r mwyafrif o bobl sy’n defnyddio’r ffyrdd yn gwybod yn iawn beth yw’r peryglon o beidio â gwisgo gwregys, a bydd heddweision ledled Cymru yn gweithredu’n llym yn erbyn y rheiny sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith, gan beryglu eraill sy’n defnyddio’r ffyrdd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Phil Davies o Heddlu Dyfed-Powys : “Mae gwisgo gwregys yn beth mor hawdd i’w wneud. Yn rhinwedd ein swydd fel heddweision, rydym yn gweld canlyniadau gyrru heb wregys yn llawer rhy aml pan gelwir ni i ddamweiniau ffyrdd. Os cewch eich dal heb wregys, fe allech gael dirwy, ond ein prif neges yw hyn - mae gwisgo gwregys yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw - ac mae hynny mor wir yn achos teithwyr ag ydyw yn achos gyrwyr.”
Trwy wisgo gwregys, gall gyrwyr a theithwyr gynyddu eu siawns o oroesi gan gymaint â 60%.
Yn ystod yr Ymgyrch Cymru Gyfan diwethaf yn 2006, cafodd dros 3,000 o bobl eu dal heb wregys diogelwch a gyrwyr oedd y mwyafrif o’r rheiny. Os byddwch yn teithio mewn cerbyd heb wregys, rydych yn peryglu eich bywyd chi eich hun, a hefyd, bywydau eich cyd-deithwyr.
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Phil Davies, “O fis Medi 2006 tan fis Mehefin eleni (pan ddaeth y rheolau newydd ar gyfer seddi plant i rym) cafwyd 372 o achosion yng Nghymru lle nad oedd plant wedi cael eu diogelu’n briodol wrth deithio mewn cerbyd. Rwy’n annog rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid i ddod i’r lansiad ar y 10fed o Fedi ym maes parcio ALDI Llandrindod – fe fydd cyngor ymarferol ar gael trwy’r dydd gan arbenigwr seddi plant (diolch i Gyngor Sir Powys). ”
Bydd yr ymgyrch gorfodi yn rhedeg ar draws Cymru am bythefnos o’r 10fed tan y 24ain o fis Medi 2007.
Y Stori Lawn»
Yn ystod yr haf, bydd heddluoedd ledled Cymru’n cynyddu’r pwysau mewn ymdrech benderfynol i gael pobl i beidio â gyrru cerbydau modur dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Bydd yr ymgyrch yn cychwyn ar Fehefin 4ydd 2007 a bydd gyrwyr yn fwy tebyg o gael eu stopio gan yr heddlu yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’n peri pryder gwirioneddol bod pobl yn dal i gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol o ganlyniad uniongyrchol i yfed a gyrru, a hynny serch y gwelliannau mawr dros y blynyddoedd diwethaf ynghyd ag ymgyrchoedd hysbysebu a rhaglenni addysg. Yn wir, mae tystiolaeth yn awgrymu bod problem dynion ifanc meddw sy’n barod i fentro’r cyfan drwy yrru yn ailgodi. Gall y mymryn lleiaf faint o alcohol neu gyffuriau yn y corff effeithio ar allu a barn person wrth yrru, ac o gofio tuedd dynion ifanc i fod â gormod o ffydd yn eu gallu fel gyrwyr, mae’r cyfuniad yn un angheuol.
Y Stori Lawn»
Mae Heddlu Gwent wrthi’n cydlynu lansio BikeSafe Cymru ar y cyd â Diogelwch Ffyrdd Cymru a Chanolfan Adnoddau Ffyrdd Gwent.
Cynhelir y lansio yng ngorsaf fysiau’r Fenni ddydd Sul, Ebrill 15, 2007 rhwng 10am a 3pm (am 1pm y bydd y lansiad swyddogol), a bydd y Prif Gwnstabl Mike Tonge a’r ASau David Davies a Lembit Opik yn bresennol. Y Stori Lawn»
Yng Ngwasanaethau Magwyr fore Mawrth, Mawrth 13, 2007 am 11.00 o’r gloch ac ar ran pedwar Heddlu Cymru, bydd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Bill Horne, yn lansio Ymgyrch Cymru-Gyfan i Atal Defnyddio Ffonau Symudol. Mewn partneriaeth â Capita Symonds, nod y pedwar heddlu yw atgoffa gyrwyr a theithwyr o beryglon a chanlyniadau dal ffôn symudol yn eich llaw wrth yrru.
O Chwefror 27, 2007 ymlaen gwnaed defnyddio ffôn symudol wrth yrru yn drosedd ardystiadwy. Y gosb yw dirwy o £60 a 3 phwynt cosb. Y Stori Lawn»
Daw ethol Joy Smith (Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) yn gadeirydd newydd ar adeg gyffrous i Ddiogelwch Ffyrdd Cymru. Mae’r bartneriaeth, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol ym maes diogelwch a ffyrdd o bob rhan o Gymru, newydd lansio menter fawr sy’n ceisio taclo’r cyfraddau uchel o yrwyr a theithwyr ifanc sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar ffyrdd Cymru. Y Stori Lawn»
Tudalen 1 o 1