Road Safety Wales

Diogelwch Ffyrdd Cymru: Strategaethau


Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd i Gymru

Targedau ar gyfer Lleihau Nifer yr Anafusion
Yn 2000, pennodd Llywodraeth Cynulliad Cymru dargedau ar gyfer lleihau nifer yr anafusion mewn damweiniau ffyrdd erbyn 2010. O'i gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer 1994-1998, rydym am weld:

  • gostyngiad o 40% yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol;
  • gostyngiad o 50% yn nifer y plant sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol;
  • gostyngiad o 10% yn nifer y bobl sy'n dioddef mân anafiadau am bob 100 miliwn cilomedr mewn cerbyd.

Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud i gyrraedd y targedau hyn yn mynd rhagddo'n dda. Erbyn 2005, roedd nifer y bobl a gafod eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol wedi gostwng 34%, a nifer y plant a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol wedi gostwng 53%. Yn ogystal, roedd nifer y bobl a gafodd fân anafiadau wedi gostwng 23%.

Mae’r Strategaeth yn nodi amrywiaeth o fesurau sydd wedi’u cynllunio i helpu i gyrraedd y targedau. Mae’r ddogfen lawn a’r Crynodeb Gweithredol i’w cael yma.


Cerdded a Seiclo

Yn 2003, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei Strategaeth Cerdded a Seiclo gyntaf ar gyfer Cymru. Mae gan y strategaeth ddau brif nod:

  • Sicrhau mwy o gyfleoedd i bobl gerdded a seiclo i'r gwaith ac yn eu hamser hamdden.
  • Cynnwys cerdded a seiclo yn y systemau trafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi eu cynnwys yng nghynllun teithio cynaliadwy Cymru.

Hawlfraint ac Ymwrthodiad © Diogelwch Ffyrdd Cymru 2008 | Hygyrchedd | | Cysylltu â Ni |
Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Yn ôl i Hafan Diogelwch Ffyrdd Cymru Go to the English version of this web site.