Diogelwch Ffyrdd Cymru: Hyfforddiant

Caiff hwn ei hyrwyddo ym mhob un o’r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru am fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi clustnodi cyllid arbennig ar ei gyfer. Bydd y cynllun yn dysgu plant 5-7 oed sut mae cerdded yn ddiogel yn ymyl ffyrdd. Bydd gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi yn mynd â grwpiau o ddim mwy na thri o blant allan o’r ysgol i ddysgu tri phrif sgìl, sef:
- dewis mannau a llwybrau diogel i groesi’r ffordd
- croesi’n ddiogel yn ymyl ceir sydd wedi’u parcio
- croesi’n ddiogel yn ymyl cyffyrdd
Kerbcraft yng Nghymru
Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant beicio. Fel rheol, bydd ef ar gael pan fydd disgyblion yn cyrraedd blwyddyn 6 (er y caiff ei gynnig ambell waith i flwyddyn 5). Y drefn draddodiadol oedd rhoi hyfforddiant beicio oddi ar y ffordd, h.y. ar iard yr ysgol, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy a mwy o awdurdodau lleol wedi bod yn hyfforddi plant ar y ffordd er mwyn iddynt gael profiad o sefyllfaoedd traffig go-iawn. Gan fod y newid graddol hwn mewn hyfforddiant beicio wedi arwain at gyflwyno Safonau Cenedlaethol Hyfforddiant Beicio, mae awdurdodau wrthi’n ceisio gweithredu’r Safonau hynny. Bydd y broses yn cynnwys rhoi hyfforddiant beicio i oedolion. I weld manylion y Safonau, cliciwch ar www.ctsb.org.uk.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu cyllid i CTC, sef Mudiad Beicwyr Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, i gyflogi Swyddog Datblygu i helpu awdurdodau lleol i wella ansawdd a chynyddu argaeledd hyfforddiant beicio. Bydd bwrsariaethau ar gael i hyfforddi hyfforddwyr i gyflwyno’r Safonau Cenedlaethol ledled Cymru.
Rhaglen hyfforddi mewn tri cham yw Safonau Cenedlaethol neu Bikeability ac fe aiff â chi o sgiliau sylfaenol cydbwyso a llywio i hyfforddiant penodol i’ch galluogi i feicio’n hyderus ar bob ffordd yn eich ardal leol. I’ch helpu i ddod o hyd i hyfforddwr(aig) yng Nghymru mae gan CTC restri o hyfforddwyr cenedlaethol, a gall gynnig cyngor i bob un sy’n cael ei hyfforddi.
I gael gwybod rhagor am ddod yn Hyfforddwr(aig) Safonau Cenedlaethol yng Nghymru, cysylltwch â
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi’n ystyried datblygu hyfforddiant beicio a sut mae hynny’n cysylltu â materion ehangach hamdden a chludiant. Yn y man, cewch ragor o wybodaeth yma am ddatblygiad hyfforddiant beicio yng Nghymru. Yn y cyfamser, i gael manylion y ddarpariaeth hyfforddiant beicio mewn awdurdod lleol penodol, cysylltwch â’r Swyddog priodol ym maes Diogelwch ar y Ffyrdd.