Road Safety Wales
  • Home
  • News
  • Calendar
  • Newsletter
  • Education
  • Training
  • Resources
  • Statistics
  • Reference Centre
  • Contacts
  • Child Pedestrian Training

Child Pedestrian Training

By walking regularly, children can build exercise in to their daily routine to help achieve the recommended 60 minutes of physical activity per day.

Active travel has a wide range of physical, environmental and well-being benefits and walking provides an opportunity to socially interact with family and friends as well as being a valuable road safety experience.

Prior to the COVID-19 pandemic, many children in Wales benefitted from pedestrian training or Kerbcraft at school. Social distancing requirements made practical training of this nature at school impossible; this package has been developed to assist you in equipping your child with pedestrian skills for life.


The key skills to practise are:

Choosing Safe Places to Cross
Helping your child to recognise hazards and identify appropriate crossing places.

Crossing the Road
Enabling your child to practise their crossing skills under supervision.

Crossing Between Parked Cars
Teaching your child how to use a safe strategy for crossing near parked cars, when avoiding them is impossible.

Practise should begin on a quiet road and include discussions on the safest places to cross and the risk from traffic.

Try to include a variety of crossings, junctions and pavements with driveways and entrances where children need to look out for moving vehicles.


Choosing Safe Places to Cross

There may be occasions where parked vehicles or other obstructions can stop you seeing the road clearly. Coming down to a child’s eye view will give you the opportunity to see what they can see.

Have a discussion about what you can or can’t see and work out what you can do about it. If you can’t see both sides of the road, it may be better to move to somewhere you can.


Crossing the Road

Try to cross the road where you can see clearly both ways and remember to:

  • Keep your feet behind the kerb
  • Look right, left, right again and listen
  • If you can’t see or hear any traffic walk straight across the road
  • Keep looking and listening all the way across

When crossing the road at a junction, try to position yourself so that you can see clearly down all roads leading to the junction.

Hold hands with young children.

Look right, left, right again and listen as you are crossing.


Crossing Between Parked Cars

When crossing the road, try to find somewhere with a good view along the road. Sometimes this may not be possible and you may need to cross between parked cars.

First find a gap that a vehicle cannot fit into and ensure there is space on the other side so that you can reach the pavement. Always check that the two vehicle you are going to cross between are not about to move.

You can make sure the vehicles are not going to move by carrying out 5 simple checks:

  1. Check for drivers inside the vehicles
  2. See if any lights are switched on
  3. See if any wheels are moving
  4. Listen for the engine starting
  5. See if there are any exhaust fumes

If you cannot see past the parked cars, move forward so your feet are in line with the wheels.

Do not stand any further out as it may put you in danger.

Remember, it is really important to see what is coming in both directions.


Safer Crossings

A zebra crossing is identified by black and white marking on the road. Always check that the road is clear in both directions or that any traffic has stopped before crossing.

If you can see vehicles approaching always wait until the traffic has stopped in both directions. Remember that traffic does not have to stop until someone has moved onto the crossing.

Puffin, pelican or toucan crossings are all identified by the use of lights.

Try to cross the road where you can see clearly both ways and remember to:

  • Keep your feet behind the kerb
  • Press the button and wait for the green man
  • Look right, left, right again and listen
  • If you can’t see or hear any traffic walk straight across the road
  • Keep looking and listening all the way across

Printer friendly version

Drwy gerdded yn gyson, gall plant gynnwys ymarfer corff yn eu trefn ddyddiol i helpu i gyflawni'r 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd sy’n cael ei argymell.

Mae teithio llesol yn dod ag ystod eang o fanteision corfforol ac amgylcheddol a manteision llesiant ac mae cerdded yn gyfle i blant ryngweithio'n gymdeithasol â’u teulu a’u ffrindiau, yn ogystal â bod yn brofiad gwerthfawr o ran diogelwch ar y ffyrdd.

Cyn y pandemig COVID-19, roedd llawer o blant Cymru ar eu hennill drwy gael hyfforddiant i gerddwyr neu Kerbcraft yn yr ysgol. Oherwydd gofynion ymbellhau cymdeithasol, daeth hyfforddiant ymarferol o'r math yma yn yr ysgol yn amhosib; mae'r pecyn hwn wedi'i ddatblygu i’ch helpu chi i arfogi’ch plentyn chi â sgiliau cerddwyr am oes.


Dyma’r sgiliau allweddol i’w hymarfer:

Dewis y Lle Diogel i Groesi
Helpu’ch plentyn i adnabod peryglon a dod o hyd i fannau croesi priodol.

Croesi’r Ffordd
Galluogi’ch plentyn i ymarfer ei sgiliau croesi dan oruchwyliaeth.

Croesi rhwng Ceir wedi’u Parcio
Dysgu’ch plentyn sut i ddefnyddio strategaeth ddiogel i groesi ger ceir wedi parcio, pan nad oes modd osgoi gwneud hynny.

Dylech ddechrau ymarfer ar ffordd dawel, gan gynnwys trafod y mannau mwyaf diogel i groesi a'r risg o draffig.

Ceisiwch gynnwys amrywiaeth o groesfannau, cyffyrdd a phalmentydd gyda rhodfeydd a mynedfeydd lle mae angen i blant chwilio am gerbydau sy'n symud.


Dewis Lleoedd Diogel i Groesi

Gall fod adegau pan fydd cerbydau wedi'u parcio neu rwystrau eraill yn eich atal rhag gweld y ffordd yn glir. Bydd dod i lawr i lefel golwg y plentyn yn rhoi cyfle i chithau weld beth allan nhw ei weld.

Trafodwch yr hyn y gallwch neu na allwch ei weld a gweithio allan beth allwch ei wneud am y peth. Os na allwch weld dwy ochr y ffordd, efallai y byddai'n well symud i rywle lle gallwch chi.


Croesi’r Ffordd

Ceisiwch groesi'r ffordd lle gallwch weld yn glir y ddwy ffordd a chofiwch:

  • Cadwch eich traed tu ôl i’r cwrbyn
  • Edrychwch i’r dde, i’r chwith, i’r dde eto a gwrandewch
  • Os na allwch weld na chlywed unrhyw draffig, cerddwch yn syth ar draws y ffordd
  • Daliwch i edrych a gwrando bob cam ar draws y ffordd

Wrth groesi'r ffordd wrth gyffordd, ceisiwch eich gosod eich hun fel y gallwch weld yn glir i lawr yr holl ffyrdd sy'n arwain at y gyffordd.

Daliwch ddwylo plant ifanc.

Edrychwch i’r dde, i’r chwith, i’r dde eto a gwrandewch wrth groesi.


Croesi rhwng Ceir wedi’u Parcio

Wrth groesi'r ffordd, ceisiwch ddod o hyd i rywle â golygfa dda ar hyd y ffordd. Weithiau fydd hyn ddim yn bosibl ac efallai y bydd angen ichi groesi rhwng ceir wedi'u parcio.

Yn gyntaf, chwiliwch am fwlch na all cerbyd ffitio iddo a sicrhau bod lle ar yr ochr arall er mwyn ichi gyrraedd y palmant.

Gwnewch yn siŵr bob amser nad yw'r ddau gerbyd rydych chi'n mynd i groesi rhyngddyn nhw ar fin symud.

Gallwch sicrhau nad yw'r cerbydau’n mynd i symud drwy wneud pum gwiriad syml:

  1. Chwiliwch am yrwyr yn y cerbydau
  2. Edrychwch i weld a oes goleuadau wedi’u troi ymlaen
  3. Edrychwch a oes olwynion yn symud
  4. Gwrandewch am sŵn injan yn cychwyn
  5. Chwiliwch am fwg o’r bibell wacáu

Os na allwch weld heibio'r ceir sydd wedi'u parcio, symudwch ymlaen fel bod eich traed yn lefel â'r olwynion.

Peidiwch â sefyll ymhellach allan gan y gallai hynny eich rhoi mewn perygl.

Cofiwch: mae'n wirioneddol bwysig gweld beth sy'n dod o'r ddau gyfeiriad.                                    


Croesfannau Mwy Diogel

Mae croesfannau sebra yn amlwg oherwydd eu marciau du a gwyn ar y ffordd.

Gofalwch bob amser fod y ffordd yn glir yn y ddau gyfeiriad neu fod unrhyw draffig wedi stopio cyn croesi.

Os gallwch weld cerbydau'n agosáu, arhoswch bob amser nes bod y traffig wedi stopio o’r ddau gyfeiriad.

Cofiwch nad oes rhaid i’r traffig stopio nes bod rhywun wedi symud i'r groesfan.

Mae croesfannau pâl, pelican a twcan i gyd yn cynnwys defnyddio goleuadau.

Ceisiwch groesi'r ffordd lle gallwch weld yn glir i’r ddau gyfeiriad a chofiwch:

  • Cadwch eich traed tu ôl i’r cwrbyn
  • Pwyswch y botwm ac arhoswch am y dyn gwyrdd
  • Edrychwch i’r dde, i’r chwith, i’r dde eto a gwrandewch
  • Os na allwch weld na chlywed unrhyw draffig, cerddwch yn syth ar draws y ffordd
  • Daliwch i edrych a gwrando bob cam ar draws y ffordd

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â'ch Swyddog Diogelwch Ffyrdd yma.


Hyfforddiant i Gerddwyr o Blant

About

  • Copyright
  • Privacy Policy
  • Contact Us

Follow Us

  • Facebook
  • Twitter
  • YouTube

Log in

  • Members

© Road Safety Wales 2022