Road Safety Wales
  • Home
  • News
  • Calendar
  • Newsletter
  • Education
  • Training
  • Resources
  • Statistics
  • Reference Centre
  • Contacts
  • Child Pedestrian Training
  • School Crossing Patrols
    • Uniform

    Education

  • School Crossing Patrols

Education

Road Safety Education is a broad based activity which deals with ideas and concepts such as hazard perception and management of personal risk in the road environment, the development of coping strategies, and encourages understanding of our personal responsibilities to other road users. It is a gradual process, which takes place over a number of years.

Every local authority has a road safety team or, in the case of some smaller unitary authorities, a road safety officer. Their role is to provide professional expertise to identify the causes of problems and to help to identify, develop and deliver solutions to those problems. This will be through educational programmes, skills training e.g. cyclist and young driver training, and publicity campaigns and programmes to inform, raise awareness and to encourage positive and discourage negative behaviours by road users.

A main priority for Road Safety Wales Partners’ in advancing child road safety education is to advise and support parents, carers, pre-school staff and teachers on both best practice and the resources that are available to them. We encourage pre-school staff and teachers to include safety education within the context of their normal classroom work.  

Support can include the provision of resources, which may be produced by the Authority or obtained from other organisations, and training for staff on their use. Road Safety Officers can also offer guidance to teachers on the selection of indicators designed to test the effectiveness of specific inputs with groups of pupils.

Where possible, Road Safety Officers liaise with teacher training colleges to provide training sessions for student teachers on the importance of road safety and how it can be integrated into the curriculum.

Road Safety Officers will disseminate good ideas to schools, colleges and other organisations that may relate to children or adults.

Driver education and adult education are also areas in which the Road Safety Officer will be able to give considerable help and advice, working with employers to ensure the safety of staff while using the road and managing their occupational road risk.


Primary Education

Crucial Crew

This initiative, promoted in some Local Authorities in Wales, combines several safety disciplines into one project. Year 6 pupils spend up to 20 minutes at each interactive station, each dedicated to an aspect of safety. Road safety subjects include being seen, travelling in cars and safe cycling.
For further information on availability in your area, contact your local Road Safety Officer.

Junior Road Safety Officers Scheme

The scheme empowers children to highlight road safety issues within their school. This can be done through raising awareness amongst other pupils, teachers and the community, whilst maintaining links with their Road Safety Officer. The scheme links to Citizenship, which encourages pupils to take responsibility for their own learning and decision making. It also makes pupils aware of the important issue of road safety, and links this with the National Curriculum and Key Stage 2 guidelines. For further details log onto www.jrsocymru.org.uk


Secondary Education

Pre-driver training

As an example, the Mega Drive scheme was originally set up in Gwent in 1995 to address the very serious problem of young drivers being involved in a disproportionate number of road crashes, largely because of their inexperience. Mega Drive is delivered to college age students who will be planning on sitting their practical driving test in the not too distant future and may not be aware of all the potential hazards that come with driving on British roads.

Students participating in Mega Drive visit "interactive workstations" in groups of three where they learn vital information on driving related topics. These can include:

  • hazard awareness 
  • essential documents 
  • crash causation 
  • effects and consequences of drink and drugs 
  • buying a new or second hand car 
  • what to do at the scene of a crash

Year after year the workstation that proves to be the most popular is when the students get the opportunity to get into the driver’s seat. They are given the opportunity to drive around a special course whilst accompanied by an approved driving instructor. This often gives the students their first taste of what being behind the wheel is really like.

To check the availability of pre-driver schemes in your area contact your local Road Safety Officer.

Crashed Car Presentations 

Overview
These projects consists of road safety presentations delivered by local Road Safety Officers, Police and Fire & Rescue Service staff. It is directed at small groups and is delivered in a rotation of approximately 20 minute duration. Using this format it is possible to engage with approximately 200 plus pupils in a day.

Key points
The programme stresses the positive aspects of driving and the benefits it can bring to young adults. It also allows the team to focus on a variety of issues affecting young drivers such as speeding, peer pressure, seat belts, drink and drug driving and the illegal use of mobile phones.

Summary
Currently being delivered to schools and colleges, and directed at 16-18 year olds. The messages are hard hitting about the consequences of road traffic collisions, but it offers the students information and strategies to ensure they avoid becoming casualties. These themes can be developed through PowerPoint and video presentations and culminates with a 20 minute interactive session centred around a crashed vehicle. This allows the officers to speak with authority and accuracy about the consequences of a road traffic collision.

The presentations have received very positive feedback in schools and colleges from staff and pupils alike.

Safe Routes in Communities

The Welsh Government has allocated funding via its Safe Routes and Safe Routes in Communities Programmes. Successful schemes around Wales have made walking and cycling more accessible for pupils and the wider community. Welsh Government recognises the importance of active travel and the positive health benefits that come with using sustainable forms of travel for short everyday journeys.

Addysg

Addysg Diogelwch Ffyrdd dyma weithgarwch eang sy’n ymdrin â syniadau a chysyniadau fel canfod peryglon a rheoli risg personol yn amgylchedd y ffordd, a datblygu strategaethau ymdopi. Bydd yn ein hannog ni i ddeall ein cyfrifoldebau ni at ddefnyddwyr eraill y ffyrdd. Proses raddol sy’n digwydd dros gyfnod o flynyddoedd yw hi.

Mae gan bob Awdurdod Lleol dîm diogelwch ar y ffyrdd, neu swyddog diogelwch ar y ffyrdd yn achos rhai o’r awdurdodau unedol llai eu maint. Rôl y swyddogion hynny yw darparu’r arbenigedd proffesiynol i ganfod achosion problemau a helpu i ganfod, datblygu a chyflawni datrysiadau i’r problemau hynny. Gwnânt hynny drwy gynnal rhaglenni addysgol, rhoi hyfforddiant sgiliau, e.e. hyfforddiant i feicwyr ac i yrwyr ifanc, a chynnal ymgyrchoedd a rhaglenni i roi gwybodaeth, i gynyddu ymwybyddiaeth ac i helpu ymddygiadau cadarnhaol, ac annog defnyddwyr y ffyrdd i beidio ag ymddwyn yn negyddol.

Un o brif flaenoriaethau partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru wrth hyrwyddo addysg diogelwch ar y ffyrdd i blant yw cynghori rhieni, gofalwyr, staff cyn-ysgol ac athrawon ynglyn â’r arferion a’r adnoddau gorau sydd ar gael iddyn nhw, a’u helpu i’w defnyddio. Byddwn ni, felly, yn annog staff cyn-ysgol ac athrawon i gynnwys addysg diogelwch yn eu gwaith arferol yn y dosbarth.

Bydd y cymorth yn cynnwys darparu adnoddau a hyfforddi staff i’w defnyddio. Gall yr adnoddau fod yn ffrwyth gwaith gan yr awdurdod neu gan sefydliadau eraill. Gall Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd hefyd gynnig arweiniad i athrawon wrth iddyn nhw ddewis y dangosyddion a wnaiff roi prawf ar ba mor effeithiol yw gwahanol fewnbynnau gyda grwpiau penodol o ddisgyblion.

Os bydd hi’n bosibl, bydd Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd yn cysylltu â cholegau hyfforddi athrawon i roi sesiynau hyfforddi i ddarpar athrawon ar bwysigrwydd diogelwch ar y ffyrdd a sut mae plethu hynny i’r cwricwlwm.

Bydd Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd yn lledaenu syniadau da i ysgolion, i golegau ac i sefydliadau eraill a all fod yn ymwneud â phlant neu oedolion.

Gall y swyddog diogelwch ar y ffyrdd hefyd roi cryn dipyn o gymorth a chyngor o ran addysgu gyrwyr ac addysgu oedolion. Gall weithio gyda chyflogwyr i sicrhau diogelwch eu staff wrth iddyn nhw ddefnyddio’r ffyrdd, a rheoli’r risg wrth iddyn nhw yrru ar ffyrdd fel rhan o’u gwaith.


Addysg Gynradd

Crucial Crew

Mae’r fenter hon wedi’i hyrwyddo mewn llawer Awdurdod Addysg ledled Cymru ac yn cyfuno sawl disgyblaeth diogelwch yn un prosiect. Bydd disgyblion Blwyddyn 6 yn treulio hyd at 20 munud wrth bob gweithfan ryngweithiol, a bydd pob gweithfan unigol yn rhoi sylw i agwedd benodol ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Mae pynciau diogelwch ar y ffyrdd yn cynnwys cael eich gweld, teithio mewn ceir a beicio’n ddiogel.

Os hoffech chi wybod a yw’r fenter ar gael yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol.

Cynllun Swyddogion Iau Diogelwch ar y Ffyrdd

Dyma gynllun sy’n rhoi’r hawl i blant fynd ati yn eu hysgol i dynnu sylw at faterion diogelwch ar y ffyrdd. Fe allan nhw wneud hynny drwy gynyddu ymwybyddiaeth y disgyblion eraill, yr athrawon a’r gymuned o’r maes hwn a chadw mewn cysylltiad â’u Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd. Mae’r cynllun yn cysylltu â phwnc Dinasyddiaeth sy’n annog y disgyblion i gymryd y cyfrifoldeb dros eu haddysg a’u penderfyniadau eu hunain. Bydd hefyd yn ysgogi’r disgyblion i sylweddoli bod diogelwch ar y ffyrdd yn fater pwysig, ac yn cysylltu hynny â’r Cwricwlwm Cenedlaethol a chanllawiau Cyfnod Allweddol 2. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.jrsocymru.org.uk


Uwchradd

Hyfforddiant cyn gyrru

Yn wreiddiol, fe sefydlwyd cynllun Mega Drive yng Ngwent ym 1995 oherwydd problem ddifrifol iawn, sef bod nifer anghymesur o yrwyr ifanc mewn damweiniau ar y ffordd, yn bennaf oherwydd eu diffyg profiad. Caiff Mega Drive ei gyflwyno i fyfyrwyr coleg sy’n bwriadu cymryd eu prawf gyrru ymarferol cyn bo hir iawn heb iddyn nhw wybod, efallai, am yr holl beryglon a all godi wrth yrru ar ffyrdd Prydain.

Bydd y myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn Mega Drive yn ymweld â’r “gweithfannau rhyngweithiol” mewn grwpiau o dri i gael gwybodaeth hanfodol am faterion gyrru, gan gynnwys:

  • ymwybyddiaeth o beryglon
  • dogfennau hanfodol
  • achosion damweiniau
  • effeithiau a chanlyniadau yfed a chymryd cyffuriau
  • prynu car newydd neu ail-law
  • beth i’w wneud yn y fan a’r lle os bydd damwain

O flwyddyn i flwyddyn, y weithfan fwyaf poblogaidd yw honno lle caiff y myfyrwyr gyfle i fentro i sedd y gyrrwr. Fe gân nhw gyfle hefyd i yrru o gwmpas cwrs arbennig yng nghwmni hyfforddwr gyrru sydd wedi’i gymeradwyo. Dyma, i lawer o’r myfyrwyr, eu profiad cyntaf o fod y tu ôl i’r llyw.

Cynhelir Mega Drive hefyd yn ardaloedd:
Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, Ceredigion, Caerfyrddin. I wirio argaeledd cynlluniau cyn-yrrwr yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol.

Cyflwyniadau

Gorolwg
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys cyflwyniadau ar ddiogelwch ar y ffyrdd gan swyddogion lleol diogelwch ar y ffyrdd, yr Heddlu a staff y Gwasanaeth Tân ac Achub. Caiff ei gyfeirio at grwpiau bach a’i gyflwyno yn ôl trefn cylchdro o ryw 20 munud. Drwy ddefnyddio’r fformat hwnnw, mae modd rhoi sylw i ryw 200 a rhagor o ddisgyblion mewn diwrnod.

Pwyntiau
Mae’r rhaglen yn pwysleisio’r agweddau cadarnhaol ar yrru a’r manteision y gall oedolion ifanc eu cael ohono. Mae hi hefyd yn fodd i’r tîm hoelio sylw ar amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar yrwyr ifanc, fel goryrru, pwysau cyfoedion, gwregysau diogelwch, gyrru dan ddylanwad diod a chyffuriau, a defnyddio ffonau symudol yn anghyfreithlon.

Crynodeb
Cyfeirir rhaglen CSI at y rhai 16-18 oed a chaiff hi ei chyflwyno i ysgolion a cholegau ar hyn o bryd. Er ei bod hi’n cyfleu negeseuon am ganlyniadau Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd yn ddiflewyn ar dafod, mae hi hefyd yn cynnig gwybodaeth a strategaethau i’r myfyrwyr i sicrhau eu bod nhw’n osgoi cael eu hanafu neu eu lladd. Caiff y themâu hynny eu datblygu drwy gyfrwng cyflwyniadau PowerPoint a fideo, a’r penllanw yw sesiwn rhyngweithiol sy’n para 20 munud ac yn hoelio sylw ar gerbyd sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad. Syniad a ddatblygwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yw hwn ac mae’r cerbyd yn un a gyflwynwyd i’r Labordy Ymchwil Traffig yn Wokingham i’w brofi mewn gwrthdrawiadau. Mae’r modelau realistig o bobl ynddo yn fodd i’r swyddogion sôn yn gywir ac yn awdurdodol am ganlyniadau gwrthdrawiad ar y ffordd.

Mae’r sioe wedi ennyn ymateb cadarnhaol iawn ymhlith staff a disgyblion ysgolion a cholegau.

I wirio argaeledd cynlluniau cyn-yrrwr yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol.

Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid drwy ei Rhaglenni Llwybrau Diogel a Llwybrau Diogel i'r Ysgol mewn Cymunedau. Mae cynlluniau llwyddiannus ledled Cymru wedi dod a cherdded a seicio yn fwy hygyrch i ddisgyblion a'r gymuned ehangach .Llywodraeth Cymru cydnabyddwn bwysigrwydd teithio gweithredol a'r effaith gadarnhaol ar iechyd a ddaw yn sgil defnyddio dulliau cynaliadwy o deithio ar gyfer siwrneiau byr bob dydd.

About

  • Copyright
  • Privacy Policy
  • Contact Us

Follow Us

  • Facebook
  • Twitter
  • YouTube

Log in

  • Members

© Road Safety Wales 2021