Newyddion

01/12/2017

Yr ymgyrch yn erbyn yfed a gyrru a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau’r Nadolig hwn

“Ni ddylech gael eich twyllo os ydych yn mynd tu ôl i’r llyw o dan ddylanwad alcohol. Rydych mewn perygl o gael dirwy, colli’ch trwydded neu dderbyn dedfryd o garchar. Rydych yn peryglu bywydau hefyd” – dyna’r neges sy’n cael ei chyhoeddi gan Heddluoedd Cymru wrth iddynt baratoi i lansio eu hymgyrch yn erbyn yfed a gyrru a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau dros gyfnod y Nadolig.

Mae’r ymgyrch mis o hyd yn erbyn gyrru o dan ddylanwad yn dechrau ar Ddydd Gwener, 1 Rhagfyr a bydd heddluoedd ar draws y wlad yn defnyddio tactegau cudd-wybodaeth a gwybodaeth leol o lecynnau sydd ag enw drwg i ganfod pobl sy’n gyrru o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol dros gyfnod yr Ŵyl.

Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn arwain yr ymgyrch dros Gymru gyfan ac yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r neges am effaith yfed a gyrru a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau.

Darllen mwy>


15/11/2017

Rhwydwaith trafnidiaeth Cymru’n barod ar gyfer y gaeaf

Mae dros 216,000 o dunelli o halen ac un deg tri o wasgarwyr halen ar gael i sicrhau y bydd ffyrdd Cymru’n parhau i weithio yn ystod misoedd y gaeaf.

Yn 2010, roedd stociau rhai awdurdodau lleol yn beryglus o isel. Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi yn awyddus iawn i sicrhau bod Cymru’n barod, beth bynnag fo’r tywydd.

Dywedodd Mr Skates:

Darllen mwy>


30/10/2017

Hybu cynlluniau diogelwch ffyrdd yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio efo Clwb Pêl Droed Dinas Bangor er mwyn hyrwyddo dau gynllun gwerthfawr sydd ar gael i drigolion y sir sef “Pass Plus Cymru” a “Byw yn Dda Gyrru’n Dda”.

Nod cynllun “Pass Plus Cymru”, sy’n agored i yrwyr ifanc rhwng 17 a 25 oed ac sydd wedi pasio’u prawf gyrru, ydi sicrhau rhagor o sgiliau a phrofiad gyrru iddynt er mwyn ceisio lleihau’r risg iddynt fod ynghlwm a damweiniau ffyrdd.

Mae’r cynllun “Byw yn Dda Gyrru’n Dda” wedi ei anelu at yrwyr 65+. Mae’n  gyfle i unigolion fynd allan gyda hyfforddwr gyrru cymwys yn eu car eu hunain am daith fer, ar ffyrdd cyfarwydd, er mwyn cael awgrymiadau a chyngor am unrhyw fater sydd yn achosi pryder iddynt wrth ddreifio.

Darllen mwy>


13/10/2017

Ar y llwybr llithrig? Teiars saff?

Peidiwch â rhoi eich hun ar y llwybr llithrig. Dyna neges Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n targedu diogelwch teiars ar ffyrdd ein sir.

Mae'r ymgyrch diogelwch teiars yn cyd-fynd â 'Mis Cenedlaethol Diogelwch Teiars'. Mae'r neges yn syml - dylai gyrwyr archwilio eu teiars yn aml ac yn enwedig cyn siwrne hir. Dylai gyrwyr gymryd gofal o'u teiars, sicrhau bod y pwysedd aer ynddynt yn gywir a'u newid pan fyddant wedi'u treulio neu wedi'u difrodi.

Rhaid i drwch gwadnau teiars ceir, cerbydau nwyddau ysgafn a threlars ysgafn fod o leiaf 1.6mm ar draws tri chwarter canolog y gwadn o amgylch holl gylchedd y teiar. Yn gyfreithlon, rhaid i drwch gwadnau teiars beiciau modur, cerbydau mawr a cherbydau sy'n cludo teithwyr fod o leiaf 1mm.

Darllen mwy>


10/10/2017

Diogelwch ar y Ffyrdd yn Flaenoriaeth i Ysgol Gynradd Derwendeg

Cymerodd disgyblion o Ysgol Gynradd Derwendeg ran mewn digwyddiad diogelwch ar y ffordd yn ddiweddar, yn ogystal â goruchwylio sefydlu ardal 20mya tu allan i’r ysgol.

Ymunodd Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet â Chyfrifoldeb dros Gynaliadwyedd, ag aelodau o Dîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a dyfarnodd dlws i’r dosbarth a deithiodd yn y ffyrdd mwyaf cynaliadwy i’r ysgol. Roedd hi’n gystadleuaeth ffyrnig gyda mwyafrif y plant yn yr ysgol yn dewis cerdded neu feicio, ac roedd 85% o’r plant yn y dosbarth buddugol yn teithio i’r ysgol yn y modd hwn. Bellach, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob tymor.

Meddai’r Cynghorydd Morgan: “Roeddwn wrth fy modd yn mynychu’r sesiwn diogelwch ar y ffyrdd yn Ysgol Gynradd Derwendeg, lle dangosodd disgyblion eu brwdfrydedd dros deithio cynaliadwy a diogelwch ar y ffyrdd. Da iawn i bawb gymerodd ran.  Mae ardal 20mya hefyd wedi ei chyflwyno yn yr ardal o gwmpas Ysgol Gynradd Derwendeg, fydd yn help i sicrhau bod y disgyblion sy’n teithio i’r ysgol ac yn ôl yn ddiogel”.

Darllen mwy>


10/10/2017

Menter Waith ar y Cyd Rhwng yr Heddlu a’r Parameddygon

Cyflwynwyd ffilm fer, yn egluro’r gwaith ar y cyd rhwng yr Heddlu a’r Parameddygon yng nghanolbarth Cymru, yn ddiweddar yng Nghynhadledd TISPOL ym Manceinion.

Mae’r fenter waith ar y cyd, a arweiniwyd gan y Sarjant Owen Dillon o Heddlu Dyfed Powys a Carl Powell o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn paru swyddog heddlu â pharameddyg.  Pan gaiff ei alw i ddamwain ffordd, gall y parameddyg roi gwybodaeth i’r Gwasanaeth Ambiwlans ynglŷn â sawl ambiwlans sydd ei angen, rhoi triniaeth ar unwaith i’r clwyfedigion ac mae hyn yn rhyddhau’r swyddog heddlu i reoli’r sefyllfa’n ddiogel.

Cafodd ei ffilmio dros benwythnos Gŵyl y Banc ym mis Mai ac mae'n rhoi blas ar ddiwrnod yn ystod Op Darwen, sy’n ceisio ymrwymo ac addysgu beicwyr modur, gan orfodi pan fydd angen.

Darllen mwy>