Newyddion

02/12/2022

Prosiect e-feiciau yn hybu gostwng carbon

Mae Cyngor Sir Ddinbych ar y cyd â Sustrans yn rhoi’r cyfle i staff roi tro ar ddefnyddio e-feic yn hytrach na’u dull arferol o deithio.

Mae'r fenter yn rhan o gynllun benthyg E-Symud Sustrans, prosiect peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd ar gael i breswylwyr y Rhyl a rhai o’r ardaloedd cyfagos.

Mae Sustrans yn gweithio i fynd i'r afael ag effeithiau tlodi trafnidiaeth ac i annog unigolion a sefydliadau i leihau eu heffaith carbon wrth i staff gymudo ac o ganlyniad i filltiredd fflyd.

Darllen mwy>


07/03/2022

Hyfforddiant beicio am ddim i oedolion.

Mae Diogelwch Ffyrdd CNPT yn cynnig hyfforddiant beicio AM DDIM i oedolion. Os nad ydych wedi bod ar feic ers tro neu os hoffech brofi ebike cyn prynu cysylltwch roadsafety@npt.gov.uk i archebu lle ar yr hyfforddiant.

Dyddiadau sydd ar gael:

Dydd Sadwrn 19 & Dydd Sul 20 Mawrth
Dydd Sadwrn 26 & Dydd Sul 27 Mawrth
Dydd Sadwrn 2 & Dydd Sul 3 Ebrill 

Darllen mwy>


16/08/2021

Terfyn cyflymder newydd o 20mya yn cael ei gyflwyno mewn ardal helaeth o Lanelli

Mae terfyn cyflymder newydd o 20mya yn cael ei gyflwyno mewn ardal helaeth o Lanelli fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder sydd wedi'i rhagosod yn genedlaethol.

Mae Gogledd Llanelli, sy'n cynnwys Dafen, rhai rhannau o Felin-foel ac ardal Llanerch, wedi'i dewis fel un o wyth cymuned yng Nghymru i dreialu terfyn cyflymder cenedlaethol arafach o 30mya i 20mya mewn ardaloedd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr.

Mae tystiolaeth yn dangos bod cyflymderau arafach yn arwain at lai o wrthdrawiadau ac yn lleihau difrifoldeb anafiadau, ac yn enwedig mewn mannau lle cyflwynir terfynau cyflymder o 20mya, mae gostyngiad yn nifer y rhai sy'n cael eu hanafu.

Darllen mwy>


20/07/2021

Porth Cyflwynwyr Gweithrediad SNAP yn Mynd yn Fyw

Newyddion Diweddaraf GanBwyll:

Heddiw, mae GanBwyll yn lansio ein Porth Cyflwynwyr Gweithrediad SNAP newydd sbon.

Bydd y dudalen we yn caniatáu i aelodau'r cyhoedd sy'n cyflwyno lluniau a fideos trwy Weithrediad SNAP gael gafael ar ddiweddariadau ar ganlyniad eu cyflwyniadau, yn ogystal â chael eu hysbysu am ofynion cadw'r lluniau gwreiddiol a gyflwynwyd ganddynt.

Darllen mwy>


15/03/2021

Beicffordd Caerdydd ‘dros dro’ newydd

Bydd beicffordd ‘dros dro' newydd, ar wahan, a fydd yn rhedeg o Heol y Gadeirlan i Blas Dumfries yn agor i'r cyhoedd ar 15 Mawrth.

Mae'r llwybr newydd yn rhan o'r feicffordd traws-ddinas. Bydd gwaith sy'n mynd rhagddo cyn hir yn ei weld yn ymestyn i ddiwedd Stryd Wellington, tua gorllewin y ddinas, ac i'r gyffordd â Heol Lydan (Broadway) ar Heol Casnewydd, i'r dwyrain.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rydym am sicrhau mai Caerdydd yw'r ddinas feicio orau yn y Deyrnas Gyfunol ac rydym yn bwriadu adeiladu rhwydwaith feicffyrdd integredig o ganol y ddinas sy'n cysylltu safleoedd strategol a chymdogaethau, fel a nodir yn y CDLl mabwysiedig presennol.

Darllen mwy>


12/03/2021

Lansio cynllun peilot e-Feiciau yng Nghymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu cynlluniau peilot i gyflymu'r defnydd o feiciau trydan (e-feiciau) a beiciau cargo trydan (e-cargo) yng Nghymru.

Dywedodd Lee Waters fod y penderfyniad yn rhan o ymdrechion i sicrhau newid diwylliant yn y ffordd y mae pobl yn teithio yng Nghymru, gan greu rhwydwaith trafnidiaeth gwyrddach a mwy cyfleus.

Mae enghreifftiau rhyngwladol wedi dangos bod e-Feiciau yn ddewis ymarferol yn lle'r car i rai pobl. Felly, mae'r cynlluniau yn ychwanegu at amryw o bolisïau gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio mynd i'r afael â thagfeydd a chael pobl i fod yn fwy egnïol.

Darllen mwy>


10/08/2020

Beicffyrdd newydd dros dro ar y gweill yn rhan o gynllun adfer y ddinas

Mae Caerdydd, a bleidleisiwyd y ddinas orau yn y DU i feicio ynddi yn ddiweddar, yn gosod beicffyrdd newydd dros dro.

Bwriedir gosod y beicffyrdd newydd erbyn yr hydref i gynnig llwybrau diogelach, wedi eu gwahanu, i alluogi pobl i deithio ar feic ar rai o ffydd prysuraf Caerdydd.

Mae'r ddau lwybr, y feicffordd ‘Traws-ddinas' a'r feicffordd ‘Cylch y Bae',  yn cael eu datblygu'n gynt yn rhan o gynlluniau adfer COVID y Cyngor ac maent yn cydweddu â'r weledigaeth beicio a nodwyd ym Mhapur Gwyn Trafnidiaeth y Cyngor.

Darllen mwy>


27/08/2019

Cynnydd o’r ‘Simsan i’r Ffordd’ gyda chwrs am ddim i adeiladu hyder

Bydd preswylwyr Merthyr Tudful sydd am ddechrau seiclo ond heb yr hyder ar y ffordd yn cael eu haddysgu o’r sgiliau sy’n eu gwneud yn ddiogel mewn cwrs wyth wythnos am ddim.

Roedd peilot y prosiect ‘Simsan i’r Ffordd’ yn llwyddiannus pan wnaeth saith o bobl lwyddo i wneud cynnydd o seiclo o gwmpas trac athletau ysgol i daith ffordd 20 milltir. Canlyniad hyn oedd bod y cyd drefnwyr sef Heini Merthyr a Chlwb Triathlon Merthyr wedi cynllunio ail gwrs fis Medi hwn.

Cafodd y sesiynau cychwynnol eu cynnal yn Ysgol Uwchradd Afon Taf, gyda’r cyfranogwyr yn seiclo ar y trac i ddechrau cyn gadael tiroedd yr ysgol yn y pen draw am y byd mawr tu allan.

Darllen mwy>