Newyddion

06/10/2020

660 o feiciau eisoes wedi'u dosbarthu fel rhan o gynllun Fflyd Beiciau Ysgolion Caerdydd

Bydd cynllun i annog plant a phobl ifanc i feicio a hyrwyddo Teithio Llesol yn arwain at 660 o feiciau'n cael eu danfon i ysgolion ledled y ddinas erbyn diwedd y mis.

Mae cynllun Fflyd Beiciau'r Ysgol yn rhoi fflyd o feiciau i ysgolion i ddisgyblion eu defnyddio yn yr ysgol ar gyfer hyfforddiant beicio. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r cynllun yn broject partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Beicio Cymru a British Cycling.

Dywedoddyr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild, "Nod y Cynllun Beiciau Ysgol fydd cynyddu nifer y plant sy'n beicio drwy ei ymgorffori yng nghwricwlwm yr ysgol.

Darllen mwy>


08/09/2020

Helpwch i wneud y strydoedd yn fwy diogel – CBS Merthyr Tudful

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Cronfa Drafnidiaeth Gynaliadwy Covid-19 i helpu cynghorau i sicrhau fod mesurau pellhau cymdeithasol mewn lle, yn enwedig yng nghanol trefi.

Yn ystod y pandemig gwelwyd nifer sylweddol o breswylwyr lleol allan yn cerdded neu’n seiclo – un ai wrth hamddena neu i deithio i’r siop neu’r gwaith. Mae Llywodraeth Cymru am i hyn barhau ac mae’n cyflwyno mesurau newydd sy’n gwneud ‘Teithio Llesol’ yn haws a mwy apelgar.

O ganlyniad, mae’r Cyngor wedi derbyn £414,000 oddi wrth Gronfa Drafnidiaeth Gynaliadwy Covid-19 i archwilio cyfleoedd i wella amgylchedd i gerddwyr a seiclwyr yng nghanol y dref ac ardaloedd cyfagos.

Darllen mwy>


07/09/2020

Dutch Reach – Newid Arfer er mwyn Amddiffyn Defnyddwyr Ffyrdd sy’n Agored i Niwed

Mae’r Dutch Reach yn dechneg syml ond effeithiol i atal pobl rhag cael eu taro gan ddrysau – damweiniau ofnadwy a llawer rhy gyffredin sy’n cael eu hachosi pan fydd pobl sy'n gadael cerbyd yn agor y drws yn sydyn i lwybr beiciwr neu ddefnyddiwr ffordd arall sy'n agored i niwed.

Wrth i deithio llesol gynyddu, mae cydadwaith diogel rhwng ceir a beiciau yn dibynnu ar gydweithredu ac ar fwy o ymwybyddiaeth ymysg gyrwyr fod defnyddwyr ffordd yn bresennol a’r rheiny heb gymaint o amddiffyniad â nhw.

Mae partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru wrthi’n hybu’r Dutch Reach, gan ofyn i yrwyr a theithwyr ddod i arfer ag ymestyn am ddolen y drws â’r llaw sydd bellaf oddi wrthi.

Darllen mwy>


02/09/2020

Trefniadau cau ffyrdd ar 'Strydoedd Ysgol' i hyrwyddo cadw pellter cymdeithasol ac annog teithio llesol pan fydd disgybl

Mae'r Cyngor yn bwriadu cau ffyrdd fel rhan o gynllun 'Strydoedd Ysgol' i helpu disgyblion a theuluoedd i gadw pellter cymdeithasol pan fydd ysgolion yn dychwelyd ar gyfer tymor yr hydref. 

Ym mis Mehefin, cyflwynwyd cau ffyrdd dros dro i greu 'Strydoedd Ysgol' o gwmpas 24 o ysgolion ledled y ddinas pan ailagorwyd hwy am wythnosau olaf tymor yr haf.

Mae'r strydoedd mae'r Cyngor wedi dewis eu cau yn cael problemau gyda thraffig a pharcio yn rheolaidd yn ystod amseroedd gollwng a chasglu plant ysgol.  Roedd cau'r strydoedd hyn i draffig cyffredinol yn cynorthwyo plant a theuluoedd i gadw pellter cymdeithasol wrth gyrraedd a gadael yr ysgol.

Darllen mwy>


28/08/2020

Teuluoedd yng Nghymru yn cael eu hannog i ystyried opsiynau cludiant 'yn ôl i’r ysgol'

Gyda’r tymor ysgol newydd ar fin dechrau, mae teuluoedd ledled Cymru yn cael eu hannog i ystyried y gwahanol opsiynau cludiant sydd ar gael ar gyfer disgyblion sy’n dychwelyd i’r ysgol o’r wythnos nesaf.

Mae disgyblion a myfyrwyr sy’n bwriadu teithio i’r ysgol neu golegau ac yn ôl ar wasanaethau cludiant cyhoeddus rheolaidd hefyd yn cael eu hannog i feddwl am eraill ac i ymddwyn yn gyfrifol wrth deithio. Yn y cyfamser, mae defnyddwyr eraill trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu hannog i geisio osgoi teithiau nad ydynt yn hanfodol oddeutu dechrau a diwedd y diwrnod ysgol er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti ar gyfer y teithwyr ifanc.

Bydd disgyblion yng Nghymru yn dechrau dychwelyd ar gyfer dechrau y tymor newydd ddydd Mawrth 2 Medi, gyda cyfnod o bythefnos i ysgolion gwblhau eu cynlluniau. Bydd pob disgybl yn dychwelyd ddydd Llun 14 Medi.

Darllen mwy>


21/08/2020

Adnodd newydd i Helpu Hyfforddiant i Gerddwyr o Blant

Mae partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru wedi cydweithredu i lunio fideo i hyfforddi cerddwyr o blant i'w rannu gyda’u cysylltiadau yn yr ysgolion ac i'w gynnwys ar wefannau’r awdurdodau lleol a’u sianeli yn y cyfryngau cymdeithasol, i rieni eu defnyddio yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mae’r adnodd wedi’i greu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau heb unrhyw gost wirioneddol i bartneriaeth Diogelwch Ffyrdd Cymru, diolch i gyfraniad Swyddogion Diogelwch Ffyrdd a'u gwirfoddolwyr teuluol yr ydyn ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw. Diolch yn arbennig i Angharad Barrett o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Charlie Gordon o Gyngor Abertawe am eu cymorth yn gwneud y prosiect yn bosibl.

Cyn y pandemig COVID-19, roedd llawer o blant Cymru ar eu hennill drwy gael hyfforddiant i gerddwyr neu Kerbcraft yn yr ysgol, diolch i arian grant diogelwch ffyrdd gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd gofynion ymbellhau cymdeithasol, daeth hyfforddiant ymarferol o'r math yma yn yr ysgol yn amhosib; mae'r pecyn hwn wedi'i ddatblygu i helpu i arfogi plant â sgiliau cerddwyr am oes.

Darllen mwy>


19/08/2020

Cyngor ar gyfer Aros yn Ddiogel ger Ceir

Mae Neris o Adran Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Ceredigion ac Eleri, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu o Heddlu Dyfed Powys, wedi rhoi’r fideo hyfforddi byr hwn at ei gilydd er mwyn rhoi gwybodaeth i blant ifanc am yr hyn i edrych amdano ar gerbyd a fydd yn helpu i’w cadw’n ddiogel pan fyddant yn cerdded wrth ymyl y ffordd ac yn chwilio am lefydd diogel i groesi.

O sŵn injan i oleuadau bacio, mae’n bwysig bod plant yn gallu deall yr hyn y mae’r gwahanol signalau hyn yn ei olygu er mwyn iddynt allu asesu unrhyw berygl posibl.

Dyma gyflwyniad byr i rai o’r pethau sy’n cael sylw yn yr hyfforddiant Kerbcraft gan nad ydym yn gallu darparu’r hyfforddiant hwn oherwydd y pandemig COVID-19 presennol.

Darllen mwy>


20/07/2020

“Cyfle euraidd am newid” Y Dirprwy Weinidog Lee Waters

Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn benderfynol o achub ar y cyfle hwn i newid a sicrhau bod pobl yn parhau i ddewis beicio neu gerdded yn lle defnyddio’r car pan fydd pandemig y coronafeirws drosodd.

  • Cynnydd gweladwy yn nifer y bobl sy’n cerdded a beicio
  • £38 miliwn i sicrhau bod pobl yn gallu beicio, sgwtio a cherdded yn fwy diogel yng Nghymru
  • Y buddsoddiad mwyaf erioed i wella teithio llesol yn lleol

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £38miliwn i sicrhau bod pobl yn gallu beicio, sgwtio a cherdded yn fwy diogel yng Nghymru. 

Ynghyd â’r £15.4miliwn a gyhoeddwyd fis diwethaf, dyma’r buddsoddiad mwyaf erioed i wella teithio llesol yn lleol yng Nghymru. Bydd yn ariannu prosiectau a fydd yn golygu y bydd plant ac oedolion yn gallu cyrraedd yr ysgol neu waith yn fwy diogel ar droed, beic neu sgwter.

Darllen mwy>


16/07/2020

Cymru yn arwain yn ffordd ar leihau cyflymder i achub bywydau

Yn ôl Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, mae modd achub bywydau ar draws Cymru drwy leihau terfynau cyflymder diofyn o 30mya i 20mya.

Heddiw, cyflwynodd y Dirprwy Weinidog adroddiad annibynnol yn argymell mai Cymru ddylai fod y genedl gyntaf yn y byd i fabwysiadu mesur dewr newydd erbyn 2023.

Mae’r adroddiad, sy’n ffrwyth gwaith blwyddyn o astudiaeth gan dasglu a oedd yn cynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, arbenigwyr ym maes iechyd y cyhoedd a phartneriaid allweddol eraill megis grwpiau diogelwch ar y ffyrdd, yn gwneud 21 o argymhellion ymarferol i’w gweithredu ar draws Cymru.

Darllen mwy>


09/07/2020

Cynllun Gwynedd i sicrhau bod beicwyr yn cael y lle maent ei angen

Mae cynllun newydd i atgoffa gyrwyr o’r lleiafswm pellter sydd angen i sicrhau diogelwch wrth basio beiciwr wedi’i lansio gan Gyngor Gwynedd. Y cyntaf o'u math yn y DU, mae'r arwyddion ffyrdd sydd wedi'u gosod ar hyd ffyrdd poblogaidd yn Eryri yn annog modurwyr i adael 1.5 metr i feicwyr.

Fel rhan o dreial, mae'r Cyngor wedi derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru i osod yr arwyddion mewn lleoliadau ar hyd ffyrdd sy'n boblogaidd gyda beicwyr yng ngogledd y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Amgylchedd: “Mae llawer o bobl wedi gwneud y mwyaf o’r ffyrdd tawelach yn ystod y cyfnod cloi, ond gyda’r traffig yn araf gynyddu, mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i sicrhau bod beicwyr yn parhau i gael y parch a’r gofod maent yn eu haeddu ar ein ffyrdd.

Darllen mwy>