31/05/2017
Yr haf hwn, bydd swyddogion yr heddlu ledled Cymru yn targedu gyrwyr sy'n peryglu eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill drwy yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Heddlu Gwent fydd yn arwain yr ymgyrch, sy'n rhedeg drwy gydol mis Mehefin, ar ran y pedwar heddlu yng Nghymru.
Yr haf diwethaf yng Nghymru, cymerodd dros 9,500 o fodurwyr ran yn yr ymgyrch, gyda mwy na 300 yn dychwelyd canlyniadau positif neu'n methu/gwrthod cymryd y prawf anadl.
Darllen mwy>
10/05/2017
Daliwyd 854 o bobl yn cyflawni troseddau gwregysau diogelwch o fewn dwy wythnos, yn ystod Ymgyrch Gwregysau Diogelwch Cymru Gyfan
Heddlu Dyfed-Powys arweiniodd yr ymgyrch, yn rhybuddio gyrwyr eu bod yn peryglu eu bywydau drwy beidio â gwisgo gwregysau diogelwch, ac yn mynd i’r afael â modurwyr a theithwyr sy’n gwrthod gwisgo gwregysau diogelwch. Gall peidio â gwisgo gwregysau diogelwch fod yn benderfyniad angheuol hyd yn oed ar deithiau byr, cyfarwydd ac ar gyflymder isel. Fel gyrrwr rydych yn gyfrifol am sicrhau bod teithwyr o dan 14 oed yn gwisgo gwregysau diogelwch, neu’n defnyddio’r seddi diogel cywir ar gyfer eu taldra a’u hoedran.
Er bod y mwyafrif o ddefnyddwyr y ffyrdd yn llwyr ymwybodol o’r canlyniadau posibl o beidio â gwisgo gwregysau diogelwch, aeth swyddogion yr heddlu ar draws Cymru’n i’r afael â’r rhai hynny sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith, gan felly beryglu holl ddefnyddwyr y ffyrdd.
Meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Liane James:
“Mae gwisgo gwregys diogelwch yn weithred mor syml a hawdd i’w wneud. Fel swyddogion yr heddlu, rydyn ni’n gweld canlyniadau gyrru heb wregys ond yn rhy aml mewn gwrthdrawiadau. Er y byddwch yn wynebu dirwy os cewch eich dal heb fod yn gwisgo eich gwregys diogelwch, y brif neges yr ydym yn ceisio ei throsglwyddo yw y gall gwisgo gwregys diogelwch wir wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw - ac y mae hynny’r un mor wir am deithwyr ag y mae am yrwyr, ac y mae hefyd yn peryglu pobl eraill o fewn y car.”
“Y mae’n weithred mor hawdd ei chyflawni a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid i fynd i’r afael â’r materion hyn.”
Gallai modurwyr a theithwyr sy’n dewis peryglu eu bywydau drwy beidio â gwisgo gwregys diogelwch dderbyn dirwy o £100 yn y fan a’r lle neu dderbyn gwŷs i fynd i’r llys, lle y gallent wynebu dirwyon o hyd at £500.
Ychwanegodd Susan Storch, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru:
“Gan fod plant a phobl ifanc yn dysgu’n uniongyrchol gan oedolion, mae Diogelwch ffyrdd Cymru yn annog y gyrwyr a’r teithwyr ar draws Cymru sy’n dal i herio’r gyfraith ynglŷn â gwregysau diogelwch, i feddwl eto ynglŷn â’u hymagwedd a’u hymddygiad. Mae diogelu’ch hunan a rhoi’r neges gywir i bobl eraill yn weithred mor rhwydd i’w wneud a all arbed bywydau. Ar bob taith, gwnewch yr hyn sydd yn iawn a gwisgwch wregys ddiogelwch.”
FFIGYRAU FESUL HEDDLU
Heddlu 400
Heddlu Gwent 170
Heddlu Gogledd Cymru 9
Heddlu De Cymru 275
Cyfanswm 854
Darllen mwy>
12/04/2017
Er bod GoSafe yn gosod camerâu mewn safleoedd lle mae pobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu, nid ydynt yn credu mewn aros i bobl gael eu hanafu cyn iddynt gymryd camau. Dyna pam mae camerâu symudol hefyd yn gweithredu mewn ardaloedd lle mae cymunedau wedi cwyno bod cerbydau’n goryrru yn peryglu bywydau, ac mae arolwg yn cadarnhau bod problem goryrru wirioneddol.
Bydd un safle newydd yn cael ei orfodi’n fuan yn Rhosesmor yn Sir y Fflint. Mae hyn yn sgil pryderon yn y gymuned. Dangosodd arolwg goryrru bod problem goryrru posibl, ac o ganlyniad, mae safle newydd wedi cael ei greu. Mae saith safle newydd wedi cael eu rhoi ar waith yn ardal Heddlu De Cymru yn unig. Mae safle diweddar yn Radyr, Caerdydd yn enghraifft dda o bryderon cymunedol yn arwain at orfodi gan GoSafe. Yn anffodus, ar y diwrnod cyntaf o orfodi, cofnodwyd 36 o droseddau goryrru, ond rhagwelir y bydd gorfodi rheolaidd yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardal.
Mae’n hawdd cysylltu â GoSafe os ydych chi’n pryderu am eich ardal chi. Cysylltwch trwy’r wefan GoSafe.org neu ar Twitter @GoSafeCymru
Darllen mwy>
03/04/2017
O heddiw ymlaen, bydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu cyflwyno fideo a lluniau o droseddau traffig y ffyrdd sy’n cael eu cyflawni ar ffyrdd De Cymru.
Gan weithio mewn partneriaeth â GanBwyll bydd Ymgyrch Snap yn darparu ffyrdd diogel ac amgen o rannu fideos o droseddau sy’n cael eu gweld gan fodurwyr. Mae’r troseddau traffig y ffyrdd sy’n cael eu targedu fel rhan o’r ymgyrch yn cynnwys – gyrru peryglus; gyrru heb ofal a sylw dyledus; mynd yn groes i linellau gwyn solet; defnyddio ffôn symudol; rheolaeth afreolus o gerbyd; anwybyddu goleuadau traffig coch.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jeremy Vaughan:
Darllen mwy>
15/03/2017
Cafodd dros 18,000 o bobl yng Nghymru eu stopio a’u profi ar gyfer yfed a gyrru neu yrru o dan ddylanwad cyffuriau, yn ystod Ymgyrch Atal Yfed/Cymryd Cyffuriau a Gyrru Cymru Gyfan y gaeaf hwn.
Lansiwyd ymgyrch yr heddlu gan Heddlu De Cymru ar 1 Rhagfyr gyda chymorth Angela Coen, y bu ei mab, Arran, farw o ganlyniad i yrru tra roedd dros y terfyn yfed a gyrru.
Pan ddaeth yr ymgyrch i ben Ddydd Calan, roedd swyddogion yr heddlu wedi stopio a phrofi 18,408 o yrwyr ar ochr y ffordd.
Darllen mwy>