23/01/2020
Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ofyn i bobl sy’n byw ym Merthyr Tudful a Chwm Cynnon am eu barn am gynlluniau i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y ddau gwm.
Gofynnir am farn preswylwyr am wasanaethau bysiau a llwybrau Teithio Llesol sy’n fwy uniongyrchol a diogel, fel ailagor Twnnel o Abernant i Ferthyr Tudful ar gyfer cerdded a seiclo.
Mae Cynghorau Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn gweithio ynghyd gyda’r nod o wneud y daith yn haws i bobl sy’n teithio rhwng Aberdâr a Merthyr Tudful ar gyfer gwaith, addysg, siopa ac adloniant.
Darllen mwy>
15/01/2020
Mae gweledigaeth drafnidiaeth gwerth £2 biliwn i drawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd a de-ddwyrain Cymru wedi ei datgelu gan Gyngor Caerdydd.
Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd yr aer ym mhrifddinas Cymru, wedi ei lansio heddiw yn dilyn ymgynghori â miloedd o breswylwyr y ddinas ac arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth.
Mae'r Papur Gwyn yn rhestru cyfres o brojectau a allai chwyldroi dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a'r rhanbarth, gan gynnwys:
Darllen mwy>
20/12/2019
Mae beiciau trydan yn cael eu treialu yng Ngwent ac mae’r llu wedi cyflwyno dau ohonynt i'w fflyd.
Un o'r swyddogion sy'n rhoi prawf ar yr e-feiciau newydd yw Prif Uwch-arolygydd Ian Roberts, sy'n gyfrifol am blismona lleol yng Nghasnewydd a Sir Fynwy.
Mae batri ar y beiciau sy'n galluogi'r sawl sy'n eu defnyddio i deithio'n bellach, dringo bryniau'n hawdd ac maen nhw'n rhoi cymorth o hyd at 15 milltir yr awr.
Darllen mwy>
25/11/2019
Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, wedi cyhoeddi sut bydd £14.5 miliwn o fuddsoddiadau mewn teithio llesol yn cael ei wario ledled Cymru.
Mae teithio llesol yn golygu defnyddio dulliau corfforol weithgar i wneud siwrneiau. Bydd y cyllid yn gwella ac yn creu llwybrau a chyfleusterau teithio llesol yng Nghymru, fel rhan o ymdrechion i annog rhagor o bobl i gerdded a beicio.
Roedd y Dirprwy Weinidog wedi galw ar awdurdodau lleol i fod yn radical ac yn uchelgeisiol yn eu gwaith i wella teithio llesol. Galwodd am gynigion sy'n mynd ymhellach wrth greu seilwaith i alluogi pobl i ddewis cerdded a beicio fel y ffordd fwyaf naturiol i wneud siwrneiau byrrach.
Darllen mwy>
18/11/2019
Mae Cyngor Mro Morgannwg wedi neilltuo cyllid i dreialu’r cynllun rhannu beiciau trydan llawn cyntaf.
Yn dilyn llwyddiant cynllun llogi beiciau Nextbike yng Nghaerdydd, sydd wedi cofnodi bod beiciau wedi’u rhentu mwy na 548,000 o weithiau ers iddo gael ei lansio yn 2018, mae Cyngor y Fro wedi derbyn ceisiadau am system debyg.
Mewn ymateb i’r ceisiadau hyn, yn ogystal â chydnabod y manteision posibl ar gyfer y gymuned a’r amgylchedd, bydd Nextbike, darparwr cynllun rhannu beiciau blaenllaw y DU, yn gweithredu’r project.
Darllen mwy>
24/10/2019
Ysgol Gynradd Tynewydd yn Nhrecelyn yw'r ysgol ddiweddaraf ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i gymryd rhan yn y fenter bysiau cerdded fel rhan o Fis Rhyngwladol Cerdded i'r Ysgol.
Ymunodd staff, rhieni, swyddog diogelwch ar y ffyrdd y cyngor ac Alfie y ci â disgyblion yn gynharach yr wythnos hon wrth iddynt gychwyn ar eu bws cerdded cyntaf o ganol Trecelyn.
Mae gan 20 ysgol gynradd ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili fws cerdded ac maent yn cynnal gwasanaethau a gwersi yn rheolaidd i ddysgu disgyblion am ddiogelwch ar y ffyrdd.
Darllen mwy>
21/10/2019
Mae'r Cabinet wedi derbyn adroddiad cynnydd mewn perthynas â'r cynlluniau gwella'r priffyrdd a gafodd eu cyflawni gan y Cyngor ers mis Ebrill – mae 98 o gynlluniau wedi cael eu cwblhau, gwerth cyfanswm o £6.3miliwn. Bydd 84 o gynlluniau pellach yn cael eu cyflawni erbyn Mawrth 2020.
Mae adroddiad gan swyddog a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Iau, 17 Hydref, yn amlinellu'r cynnydd sydd wedi cael ei wneud ers i'r pecyn 3 blynedd gwerth £23.5miliwn ar gyfer Cynnal y Priffyrdd ddechrau ar 1 Ebrill, 2019. Mae'r pecyn yn cynnwys y cyfnod o 2019/20 i 2021/22.
Cafodd y rhaglen gyfalaf ei chytuno gan y cyfarfod llawn o'r Cyngor ym Mawrth 2019 – gan sicrhau bod rhwydwaith y priffyrdd yn cael ei ddiogelu. Mae'r buddsoddiad gwella yma'n ddull rhagweithiol sy'n ceisio osgoi gwaith trwsio drud pan fydd ffyrdd yn cael eu gadael i gyrraedd diwedd eu hoes dylunio. Felly, dyma opsiwn cost effeithiol yn yr hir dymor, gan sicrhau bod cymunedau'n elwa o ffyrdd a llwybrau troed gwell.
Darllen mwy>
16/09/2019
Ers rhai blynyddoedd bellach mae Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd wedi gwahodd ysgolion cynradd y sir i enwebu dau ddisgybl o’r adran iau i fod yn Swyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd.
Rôl y swyddogion ifanc ydi lledaenu negeseuon diogelwch y ffyrdd i gymuned yr ysgol drwy gynnal sgyrsiau, cystadlaethau, gosod posteri yn ogystal â rhoi syniadau eu hunain ar waith i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ffordd.
Mae’r plant yn derbyn tystysgrif a medal ar ddiwedd eu cyfnod fel swyddogion mewn cydnabyddiaeth am eu gwaith caled.
Darllen mwy>
11/09/2019
Gyda’r ysgolion yn dychwelyd yr wythnos hon, gadewch inni sicrhau bod gollwng y plant wrth gatiau’r ysgol yn weithgaredd diogel ac nid yn un peryglus.
Mae llawer o rieni yn credu bod gyrru eu plant i'r ysgol yn eu cadw'n ddiogel, ond mae pob taith yn cynyddu traffig a thagfeydd. Mae'n ddealladwy nad oes gan rai rhieni a gofalwyr ddewis arall ond gyrru eu plant i'r ysgol, ond mae llawer yn gyrru pellteroedd byr lle mae cerdded yn opsiwn go iawn.
Gall hyd yn oed y rhai sy'n gorfod gyrru, chwarae rhan trwy gychwyn ar eu taith bum munud ynghynt, parcio i ffwrdd o'r ysgol a cherdded am ran o'r daith. Hefyd mae'n hysbys bellach bod llygredd aer y tu mewn i'r car yn uwch yn gyffredinol na'r hyn a brofir gan gerddwyr yn y stryd.
Darllen mwy>
16/08/2019
Bydd gwerth dros £3.6m o welliannau trafnidiaeth a theithio llesol yn cael eu gwneud yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros y flwyddyn nesaf diolch i grantiau gan Lywodraeth Cymru.
Mae cyfanswm o £3,657,980 wedi cael ei ddyfarnu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn ariannu’r gwaith o adeiladu llwybrau diogel newydd i gerddwyr a beicwyr a llwybrau teithio llesol newydd; gwella hygyrchedd nifer o safleoedd bws; a darparu hyfforddiant beicio a diogelwch ar y ffyrdd i blant; yn ogystal â chynnal cyrsiau ‘Pass Plus Cymru’ i yrwyr newydd.
Mae gwelliannau arfaethedig y cyngor o ran teithio llesol yn cynnwys llwybrau cyfun i gerddwyr a beicwyr sy’n cysylltu Brackla a chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, llwybr rhwng Pencoed a Pharc Technoleg Pencoed, llwybr yn cysylltu Llangrallo â Pharc Manwerthu a Stad Ddiwydiannol Waterton, a gwelliannau o gwmpas Coety. Disgwylir i’r gwaith ar bob un o'r cynlluniau hyn ddechrau ym mis Hydref ac y byddant wedi’u cwblhau erbyn gwanwyn 2020.
Darllen mwy>