13/03/2017
‘Gall wisgo gwregys diogelwch arbed bywyd’, dyna fydd y rhybudd i bobl fel rhan o ymgyrch Gymru Gyfan yn pwysleisio peryglon peidio â gwisgo gwregysau diogelwch.
O dydd Llun, Mawrth 13 ymlaen bydd Heddlu Dyfed-Powys yn arwain Ymgyrch Gwregysau Diogelwch Cymru Gyfan, yn rhybuddio gyrwyr eu bod yn peryglu eu bywydau drwy beidio â gwisgo gwregysau diogelwch, ac yn mynd i’r afael â modurwyr a theithwyr sy’n gwrthod gwisgo gwregysau diogewlch. Gall peidio â gwisgo gwregysau diogelwch fod yn benderfyniad angheuol hyd yn oed ar deithiau byr, cyfarwydd ac ar gyflymder isel. Fel gyrrwr rydych yn gyfrifol am sicrhau bod teithwyr o dan 14 oed yn gwisgo gwregysau diogelwch, neu’n defnyddio’r seddi diogel cywir ar gyfer eu taldra a’u hoedran.
Er bod y mwyafrif o ddefnyddwyr y ffyrdd yn llwyr ymwybodol o’r canlyniadau posibl o beidio â gwisgo gwregysau diogelwch, bydd swyddogion yr heddlu ar draws Cymru’n mynd i’r afael â’r rhai hynny sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith, gan felly beryglu holl ddefnyddwyr y ffyrdd.
Darllen mwy>
07/02/2017
Ychydig dros dri mis ers lansio ymgyrch sy’n tynnu sylw at yrru peryglus, mae Heddlu Gogledd Cymru yn adnewyddu ei gais i bobl gyflwyno tystiolaeth fideo neu luniau o droseddau ar y ffordd.
Yn dilyn lansio Ymgyrch Snap neu #YmgyrchSnap, mae’r Heddlu wedi cael sawl clip fideo a lluniau gan aelodau’r cyhoedd. Mae 58 o droseddau wedi cael eu prosesu hyd yma - ac mae’r rhain yn amrywio o yrru heb y gofal a’r sylw dyladwy, methu â chydymffurfio â signal golau coch a methu â chydymffurfio â llinell wen soled.
Ychydig dros dri mis ers lansio ymgyrch sy’n tynnu sylw at yrru peryglus, mae Heddlu Gogledd Cymru yn adnewyddu ei gais i bobl gyflwyno tystiolaeth fideo neu luniau o droseddau ar y ffordd.
Darllen mwy>
01/12/2016
Caiff modurwyr sy’n dewis gyrru tra eu bod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau eu targedu gan ymgyrch Nadolig mis o hyd ledled Cymru.
Bydd y pedwar heddlu yng Nghymru, wedi’u harwain gan Heddlu De Cymru, yn dod at ei gilydd i addysgu, canfod ac erlyn y modurwyr hynny sy’n rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl.
Y llynedd, cafodd bron i 600 o bobl eu harestio ledled Cymru am yrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Darllen mwy>
07/11/2016
Mae’r pedwar heddlu yng Nghymru, dan arweinyddiaeth Heddlu Gwent ar y cyd â Diogelwch Ffyrdd Cymru, yn lansio ymgyrch sy’n targedu modurwyr sy’n defnyddio ffonau symudol wrth yrru.
Bydd yr ymgyrch yn cychwyn ddydd Llun, Tachwedd y 7fed hyd at ddydd Sul, Tachwedd yr 20fed ac mae’n erfyn ar ddefnyddwyr y ffordd i ‘gadw eu llygaid ar y ffordd’ ac i beidio â gadael i’w ffonau symudol ennyn eu sylw.
Yn ystod yr ymgyrch bydd swyddogion yn siarad â gyrwyr am beryglon gyrru ar yr un pryd â defnyddio ffôn symudol a beth all ddigwydd os ydi eu sylw yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd. Bydd swyddogion yn stopio modurwyr sy’n cael eu gweld yn defnyddio ffôn symudol wrth y llyw a gall unrhyw un sy’n cael ei ddal gael dirwy o £100 a thri phwynt cosb ar eu trwydded.
Yn genedlaethol mae’r nifer o fodurwyr sy’n defnyddio eu ffôn symudol i wneud galwadau, anfon negeseuon testun neu ddiweddaru rhwydweithiau cymdeithasol yn cynyddu a disgwylir i farwolaethau ar y ffyrdd gynyddu yn 2016. Yng Nghymru yn ystod ymgyrch 2015 cafodd mwy na 500 o fodurwyr eu dal yn gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol.
Darllen mwy>
25/10/2016
Cafodd bron i 250 o bobl eu dal yn goryrru yn y tri diwrnod cyntaf o weithredu camerâu cyflymder ar yr M4 ger Casnewydd.
Mae'r terfyn cyflymder newidiol yn cael ei weithredu rhwng cyffyrdd 24 (Coldra) a 28 (Parc Tredegar) yr M4.
Cafodd y system ei gyflwyno yn 2011 ond dim ond ers 10 Hydref eleni y maen nhw wedi cael eu gweithredu.
Darllen mwy>