Newyddion

18/07/2019

Llywodraeth Cymru i weithredu yn erbyn parcio ar y palmant

Yn siarad mewn cynhadledd Teithio Llesol yng Nghaerdydd yn ddiweddar, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Lee Waters y byddai Llywodraeth Cymru yn tynnu ynghyd grŵp o arbenigwyr i edrych ar ffyrdd mwy effeithiol o atal parcio anghyfreithlon, ac atal pobl rhag parcio ar y palmant.

Hefyd, unwaith yn rhagor, pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r terfyn cyflymder, sy’n cael ei osod fel mater o reol mewn ardaloedd preswyl, o 30 i 20 milltir yr awr, ar draws Cymru.

Dywedodd, “Ein nod yw sicrhau bod pobl o bob oed a gallu yn teimlo ei bod yn ddiogel iddynt gerdded neu feicio wrth wneud teithiau bob dydd. Ond mae yna ffactorau yn ein pentrefi, trefi, a dinasoedd sy’n gallu gwneud eu teithiau’n fwy peryglus, a rhaid inni edrych ar sut i fynd i’r afael â’r ffactorau hynny – gan gofio bod hyn hefyd yn rhan bwysig o’n hymateb ehangach i’r argyfwng hinsawdd, yr argyfwng ansawdd aer, a’r epidemig gordewdra. 

Darllen mwy>


06/11/2018

Cartrefi'r Fro yn nodi llwyddiant Clwb Beicio'r Barri gyda noson gwobrwyo

Derbyniodd aelodau Clwb Beicio yn Nhŷ Iolo, y Barri, gwobrau am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf, yn sesiwn olaf y clwb yn 2018.

Cyflwynwyd Clwb Beicio'r Barri am y tro cyntaf yn ardal chwarae Tŷ Iolo, drwy raglen Cymunedau yn Gyntaf y Fro. Nod y clwb oedd lleihau anghyfiawnderau ym maes iechyd drwy hyrwyddo gweithgarwch corfforol.

Dysgodd y plant sut i feicio'n ddiogel mewn amgylchedd oddi ar y ffordd, sut i gydbwyso drwy sgwtio, sut i ddechrau a stopio’n ddiogel ac ymarfer troi gan ddefnyddio conau.

Darllen mwy>


16/07/2018

Ymgyrch Close Pass

Nod Ymgyrch Close Pass yw gwella diogelwch beicwyr ar y ffyrdd drwy addysgu gyrwyr am y ffordd ddiogel o oddiweddyd.

Mae Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Phartneriaeth Camerâu Diogelwch, Gan Bwyll wedi lansio Ymgyrch Close Pass yn nigwyddiad Felothon Cymru 2018.

Bydd y fenter yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg defnyddwyr ffyrdd yn Ne Cymru o ymddygiad gyrru a sut i yrru mewn ffordd gwrtais gan barchu eraill ar y ffyrdd.

Darllen mwy>