Newyddion

26/10/2015

Taclo Gyrru Gwrthgymdeithasol yn Rhuthun

Mae swyddogion yn Rhuthun wedi ymuno a’u cydweithwyr yn yr uned Plismona’r Ffyrdd mewn ymgyrch i daclo gyrru gwrthgymdeithasol yn y dref.

HeddluBydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar roi stop ar yrru gwrthgymdeithasol a gyrru gwael yn ogystal â sicrhau fod cerbydau sy’n cael eu stopio yn ffit i fod ar y ffordd. Dechreuodd yr ymgyrch ychydig wythnosau’n ôl o ganlyniad uniongyrchol i bryderon y trigolion lleol.

“Bydd yr ymgyrch yn parhau cyn hired ag y mae’r broblem yn bodoli,” meddai’r rhingyll lleol Dave Nickels. “Fyddwn ni ddim yn goddef gyrru peryglus a diofal a bydd y rhai hynny sy’n cael eu darganfod yn torri’r gyfraith nid yn unig yn wynebu erlyniad ond hefyd y posibilrwydd y bydd eu cerbyd yn cael ei atafaelu.”

Darllen mwy>


24/09/2015

Yr heddlu’n lansio ymgyrch sy’n targedu modurwyr sy’n defnyddio ffonau symudol wrth yrru

Mae’r pedwar heddlu yng Nghymru, dan arweiniad Heddlu Dyfed-Powys ac mewn partneriaeth â Diogelwch y Ffyrdd Cymru, yn gweithredu’n llym yn erbyn modurwyr sy’n defnyddio ffonau symudol wrth yrru. Cynhelir yr ymgyrch gorfodi Cymru Gyfan o ddydd Iau 24 Medi i ddydd Mercher 7 Hydref ac mae’n annog pob defnyddwyr y ffyrdd i gadw’u “llygaid ar y ffordd” a pheidio â chael eu gwrthdynnu gan ateb ffôn symudol, darllen neges destun neu bori’r we.

Bydd patrolau heddlu’n cynyddu ledled Cymru yn ystod cyfnod yr ymgyrch gorfodi er mwyn tynnu sylw gyrwyr i’r peryglon a berir drwy gael eich gwrthdynnu gan ffonau symudol pan fyddwch yn rheoli cerbyd, a’r cosbau difrifol y byddant yn wynebu os cânt eu dal.

Yn genedlaethol, mae nifer y modurwyr sy’n defnyddio ffonau symudol i ffonio, tecstio neu bostio diweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu a disgwylir mai gyrru pan fyddwch wedi’ch gwrthdynnu bydd prif achos marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd yn 2015. Yng Nghymru, daliwyd dros 900 o fodurwyr yn defnyddio’u ffonau symudol wrth yrru yn ystod ymgyrch 2014.

Darllen mwy>


25/08/2015

Hanako’n symud i fyny gêr

Mae modurwr ifanc o Sir Benfro wedi llywio'i hun at wobr ariannol ar ôl cael hyfforddiant gyrru ychwanegol.

Mae Hanako Lander o Glunderwen wedi ennill £250 fel enillydd diweddaraf raffl chwarterol Pass Plus Cymru.

Tynnwyd enw'r ferch 19 oed o restr o gannoedd o fodurwyr ifanc o Gymru'n ddiweddar sydd wedi cwblhau'r cwrs sy'n anelu at eu gwneud yn well gyrwyr. Mae'r rhaglen hyfforddi ar ôl prawf gyrru'n rhoi hyfforddiant ychwanegol i yrwyr ifanc i helpu iddynt wella eu sgiliau ar y ffordd.

Darllen mwy>


24/08/2015

Yr heddlu'n galw ar i yrwyr a beicwyr modur lynnu wrth reolau'r ffordd

Er bod nifer yr anafedigion ar y ffyrdd yn Nyfed-Powys wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, mae swyddogion heddlu’n atgoffa gyrwyr a beicwyr modur i gymryd gofal ar y ffyrdd a gyrru’n ddiogel, a pheidio â rhoi eu hunain neu ddefnyddwyr eraill y ffyrdd mewn perygl.

Rhwng 1 Ionawr a 20 Awst 2015, bu 22 gwrthdrawiad traffig y ffyrdd sydd wedi arwain at 26 marwolaeth. Yn anffodus, mae’r ffigurau hyn yn debyg iawn i’r un cyfnod yn 2014 pan fu 23 gwrthdrawiad traffig y ffyrdd a arweiniodd at 27 marwolaeth.

Gellir crynhoi nifer y marwolaethau ar gyfer pob sir: Sir Gaerfyrddin – 5, Ceredigion – 5, Sir Benfro – 6, Powys – 10.

Darllen mwy>


03/08/2015

Comisiynydd yn chwilio am syniadau da ar gyfer diogelu defnyddwyr y ffyrdd

Mae Christopher Salmon, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi lansio cynllun ar gyfer achub bywydau ledled Dyfed-Powys. Mae Mr Salmon eisiau clywed gan sefydliadau sydd â syniadau da ynghylch diogelu defnyddwyr y ffyrdd ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Powys. Bydd y cynigion gorau’n derbyn rhan o £300,000 i ddatblygu eu cynlluniau.

Dywedodd Mr Salmon: “Mae gormod o bobl yn marw neu’n dioddef anaf difrifol ar ein ffyrdd; rwyf eisiau newid hynny. Bydd fy Nghynllun Diogelwch y Ffyrdd yn gweld prosiectau diogelwch y ffyrdd arloesol a chyffroes yn gwella bywydau ein cymunedau a’u defnyddwyr ffyrdd.”

Bydd yr arian yn gwella diogelwch defnyddwyr y ffyrdd yn Nyfed-Powys ac yn lleihau nifer yr anafiadau a marwolaethau ar y ffyrdd ledled ein cymunedau. Bydd y Comisiynydd yn rhoi grantiau i’r sector cyhoeddus, gwasanaeth heddlu, sector preifat, sefydliadau cymunedol neu wirfoddol ac yn annog sefydliadau i gydweithio.

Darllen mwy>


01/06/2015

Cadwch alcohol a chyffuriau oddi ar ein ffyrdd yr haf yma

Gyda’r haf rownd y gornel a’r posibilrwydd o bartïon o amgylch y barbeciw ar nosweithiau mwyn, mae’r heddlu ar draws Cymru yn rhybuddio modurwyr y bydd swyddogion yn targedu unrhyw un sydd yn yfed a gyrru neu’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau.

Yn ystod yr ymgyrch fydd yn para drwy fis Mehefin dan arweiniad Heddlu Gogledd Cymru, bydd pedwar heddlu Cymru yn cynyddu’r pwysau ac yn canolbwyntio ar y gyrwyr hynny sy’n yfed a gyrru neu sy’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau

Meddai’r Rhingyll Alun Davies o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym i gyd yn mwynhau’r nosweithiau hirach a’r cyfleoedd i gymdeithasu yn ein cartrefi, gerddi, tafarndai lleol, gwyliau a digwyddiadau eraill.

Darllen mwy>


19/05/2015

Peidiwch â thynnu eich sylw oddi ar y lôn

“Trowch i ffwrdd cyn gyrru i ffwrdd” - dyna yw’r neges gan Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru wrth iddynt lansio ymgyrch, a fydd yn para pythefnos, sy’n ymwneud â thynnu sylw.

Mae swyddogion o’r uned arbenigol yn cydweithio â swyddogion lleol ar draws ardal yr Heddlu er mwyn lansio ymgyrch sy’n targedu modurwyr sy’n defnyddio’u ffonau symudol wrth yrru.

Ynghyd â gosod cosbau ar yrwyr sy’n cael eu dal, bydd swyddogion yn defnyddio’r ymgyrch fel cyfle i addysgu modurwyr o’r peryglon o yrru pan nad ydych yn canolbwyntio.

Darllen mwy>


06/03/2015

Arest cyntaf dan ddeddf gyrru dan ddylanwad cyffuriau newydd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud eu harést cyntaf dan ddeddfwriaeth gyrru dan ddylanwad cyffuriau newydd a ddaeth i rym yr wythnos hon. Am 8pm neithiwr (nos Iau, Mawrth 5) galwyd yr heddlu i wrthdrawiad ‘difrod yn unig’ ar Draeth Newry yng Nghaergybi, Ynys Môn.

Mynychodd swyddogion y lleoliad a phrofwyd y gyrrwr 19 oed gan ddefnyddio offer newydd sy’n profi am gyffuriau. Cafodd y gyrrwr wedyn ei arestio ar amheuaeth o gymryd cyffuriau a gyrru ac aethpwyd ag ef i’r ddalfa am ragor o brofion. Mae’r dyn erbyn hyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bydd yr heddlu’n gwneud rhagor o ymholiadau.

Daeth y ddeddfwriaeth newydd i rym ddydd Llun Mawrth 4 ac mae’n gosod terfynau cyfreithiol ynghylch faint o sylwedd - cyffuriau anghyfreithlon a chyffuriau presgripsiwn - ddylai fod yn system unigolyn os ydynt yn gyrru.

Darllen mwy>