06/12/2016
Mae digon o amser o hyd i gymeryd rhan ym Mlwyddyn Antur Croeso Cymru a mwynhau cefn gwlad Cymru tra’n cerdded neu feicio. Mae gan Gymru rhai o’r llwybrau cerdded a beicio gorau, o Lwybr Taf i Gamlas Llangollen, trwy olygfeydd gwych a byd natur.
Mae Sustrans Cymru wedi rhestru eu deg llwybr gorau yng Nghymru sy’n dangos yr hyn sydd
gan Gymru i’w chynnig i gerddwyr a beicwyr o bob gallu. Edrychwch ar eu rhestr yma.
Darllen mwy>
15/05/2015
Fe fydd ffyrdd prysur a chul yn cael eu gwella a llwybrau diogel i gerddwyr a beicwyr yn cael eu creu, yn dilyn buddsoddiad gwerth £27 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Fe fydd y gwelliannau yn cynnwys bron i £2m ar gyfer Ffordd Gyswllt Llangefni ar Ynys Môn a chynlluniau ar gyfer ffyrdd eraill, fydd yn costio tua £1.3m yr un yng Nghaerfyrddin, Ceredigion, ac Abertawe.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart y byddai'r arian yn cefnogi twf economaidd, gwella diogelwch, a hybu cerdded a beicio.
Darllen mwy>