Newyddion

08/08/2024

Ymgyrch ar yr M4

Cafodd dros 20 o adroddiadau troseddau traffig eu canfod wythnos diwethaf gan swyddogion a oedd yn defnyddio Cerbyd Nwyddau Trwm heb ei farcio ar y draffordd drwy Gwent.

Roedd pump o bobl a oedd yn defnyddio eu ffôn symudol wrth yr olwyn a phedwar yn gyrru heb ofal a sylw dyladwy ymhlith y modurwyr a ddaliwyd gan swyddogion yn ystod ymgyrch diogelwch ffyrdd ar yr M4 dros gyfnod o wythnos.

Fel rhan o'r fenter genedlaethol, Ymgyrch Tramline, cafodd gyrwyr a welwyd yn cyflawni trosedd o safle uchel mewn Cerbydau Nwyddau Trwm heb ei farcio - ar fenthyg oddi wrth National Highways - eu stopio yn ddiweddarach gan gerbyd cefnogi.

Darllen mwy>


30/07/2024

Clinigau archwilio diogelwch seddi ceir i blant Sir gaerfyrddin

Mae diogelwch seddi ceir i blant yn hanfodol bwysig o ran diogelu plant wrth deithio mewn cerbyd. Yn y DU, rhaid i blant ddefnyddio seddi car plentyn nes eu bod yn 12 oed neu'n 135cm o daldra, pa un bynnag sy'n dod gyntaf. Mae'n hanfodol bwysig sicrhau bod y sedd yn cael ei gosod yn gywir i amddiffyn y plentyn i’r graddau mwyaf posibl mewn achos o wrthdrawiad.

I helpu rhieni i sicrhau bod seddi ceir eu plant yn cael eu gosod yn gywir, rydym yn cynnig clinigau archwilio seddi ceir i blant am ddim. Mae’r clinigau hyn yn cael eu cynnal gan ymgynghorwyr seddi ceir i blant achrededig yn y tîm diogelwch ar y ffyrdd, a all wirio:

  • Bod y sedd yn addas i'r cerbyd
  • Bod y sedd wedi ei gosod yn ddiogel yn y cerbyd
  • Bod y sedd yn briodol i'ch plentyn

Yn y clinigau hyn, bydd rhieni hefyd yn cael canllawiau ynghylch dewis y sedd gywir i'w plentyn. Yn 2023, gwiriodd Good Egg Safety 1484 o seddi ceir ledled Prydain Fawr a chanfod bod 65% o seddi ceir plant wedi’u gosod yn anghywir, felly mae’n syniad da mynd i glinig archwilio i wirio bod sedd car eich plentyn wedi’i gosod yn gywir i sicrhau bod eich plentyn mor ddiogel â phosibl wrth deithio.

Darllen mwy>


13/05/2024

Rhoi adborth ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 20mya

Diweddariad Llywodraeth Cymru:


Newidiodd y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig i 20mya ym mis Medi 2023. 

Rydym wrthi’n adolygu’r canllawiau ar eithriadau y mae awdurdodau priffyrdd yn eu defnyddio i benderfynu pa ffyrdd ddylai fod yn 30mya. Dylai hyn fod yn barod erbyn mis Gorffennaf 2024.

Darllen mwy>


26/02/2024

Dros 56,000 o brofion wedi'u cynnal fel rhan o ymgyrch genedlaethol gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau dros gyfnod y Nadolig

Mae ymgyrch genedlaethol yr heddlu i fynd i'r afael â gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau wedi gweld canlyniadau uchel cyson am yr ail flwyddyn yn olynol, gyda dros 6,600 o fodurwyr wedi cael eu harestio am droseddau.

Mae nifer o heddluoedd yn ymgymryd ag ymgyrch ragweithiol dros gyfnod y Nadolig bob blwyddyn er mwyn cynyddu niferoedd y profion anadl a gynhelir ac achosion o stopio cerbydau wedi'u targedu ar gyfer gyrwyr yr amheuir eu bod dan ddylanwad alcohol a chyffuriau. Cynhaliwyd yr ymgyrch genedlaethol gyntaf dros gyfnod y Nadolig yn 2022, sef Ymgyrch Limit, er mwyn cydlynu'r gweithgarwch hwn ledled y wlad, gan ddod â phob un o'r heddluoedd ynghyd mewn ymdrech ar y cyd i rwystro gyrwyr dan ddylanwad alcohol a chyffuriau rhag gyrru ar ein ffyrdd.

Cymerodd pob un o'r heddluoedd ran yn yr ymgyrch yn 2023, gan gymryd rhan mewn digwyddiadau ymwybyddiaeth ac addysgol, cyfathrebu am y risgiau sy'n gysylltiedig â gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, cynnal prosesau stopio cerbydau wedi'u targedu mewn ardaloedd problemus a chynnal patrolau wedi'u harwain gan gudd-wybodaeth.

Darllen mwy>


16/01/2024

244 wedi cael eu harestio am yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau

Rhwng 1 Rhagfyr 2023 a 1 Ionawr 2024, cynhaliodd swyddogion Heddlu De Cymru 3145 o brofion anadl a 203 o brofion cyffuriau fel rhan o'r Ymgyrch Limit cenedlaethol.

Canfuwyd bod 157 o yrwyr dros y terfyn yfed a gyrru, a chafodd 87 o'r rheini a brofwyd am gyffuriau ganlyniad positif.

Dywedodd Michael Prickett, Arolygydd Plismona Ffyrdd:"Rwy'n falch iawn o'm swyddogion am eu gwaith yn tynnu'r gyrrwyr hyn oddi ar y strydoedd.

Darllen mwy>


08/09/2023

Cwpan Rygbi'r Byd 2023

Cyn Cwpan Rygbi'r Byd 2023, mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn atgoffa pobl i gynllunio ymlaen llaw os ydyn nhw'n bwriadu yfed alcohol.

Os ydych chi'n yfed alcohol wrth wylio'r rygbi, gwnewch drefniadau i gyrraedd adref cyn i chi fynd allan. Cadwch rif y tacsi lleol yn eich ffôn, dewch i wybod amserau cludiant cyhoeddus neu trefnwch lifft gyda rhywun sobr.

Ar wahân i'r risg o achosi gwrthdrawiad, anaf neu hyd yn oed farwolaeth, mae'r cosbau am yfed a gyrru yn gallu newid bywyd. Fe allech chi gael eich carcharu, eich gwahardd rhag gyrru a wynebu dirwy os cewch chi'ch dyfarnu’n euog. Os ydych chi'n gyrru fel rhan o'ch swydd, gallai hyn effeithio'n ddifrifol ar eich rhagolygon gwaith am flynyddoedd lawer i ddod.

Os byddwch yn gweld rhywun sydd ar fin yfed a gyrru, rhowch wybod i'r heddlu neu fel arall, cysylltwch â Crimestoppers Cymru yn ddienw ar 0800 555 111. I rai pobl, efallai bod adrodd rhywun yn teimlo fel peth ofnadwy i'w wneud - ond fe allech chi wir fod yn achub bywyd.

Darllen mwy>


25/08/2023

Gyrrwch yn ddiogel ar ffyrdd Powys

Mae staff priffyrdd Cyngor Sir Powys yn gorfod delio gyda nifer cynyddol o yrwyr yn gyrru trwy oleuadau coch dros dro, yn anwybyddu arwyddion stopio, ac yn goryrru drwy waith ffordd.

Nid yn unig y mae'r ymddygiad hwn yn anghyfreithlon, ond mae hefyd yn rhoi'r timau priffyrdd sy'n gweithio'n galed o dan fygythiad o gael anaf difrifol.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach: "Cefais fy syfrdanu o glywed am y sefyllfaoedd y mae ein timau priffyrdd yn eu hwynebu dim ond wrth wneud eu gwaith i sicrhau bod y miloedd o filltiroedd o ffyrdd ym Mhowys yn cael eu cynnal, eu hatgyweirio a'u gwella.

Darllen mwy>


02/08/2023

DVLA yn lansio cyfrif ar-lein newydd i fodurwyr

O heddiw (2 Awst 2023), mae modurwyr yn gallu dewis negeseuon atgoffa treth cerbyd digidol yn hytrach na gorfod aros am nodyn atgoffa papur i syrthio drwy eu blwch llythyrau. Mae’r newid yn dod fel rhan o wasanaeth newydd Cyfrif gyrwyr a cherbydau DVLA, sy’n lansio ar GOV.UK heddiw.

Bydd fersiwn Gymraeg o’r Cyfrif gyrwyr a cherbydau ar gael yn fuan.

Mae’r cyfrif Gyrwyr a cherbydau yn hawdd i’w ddefnyddio, yn ddiogel, ac mae’n cymryd tua 5 munud yn unig i gofrestru. Unwaith bod cyfrif wedi cael ei sefydlu, gall modurwyr fewngofnodi gan ddefnyddio eu he-bost a chyfrinair, a byddant yn gallu:

Darllen mwy>


21/07/2023

Cynlluniau ar gyfer Parcio yn Llangollen dros yr Haf

Mae swyddogion yr heddlu a’r Cyngor yn cydweithio ar gyfer rheoli parcio yn Rhaeadr y Bedol Llangollen a’r ardal gyfagos dros dymor yr haf eleni.

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru yn annog y sawl sy’n ymweld â’r gyrchfan boblogaidd i barcio’n gyfrifol dros yr haf ac ystyried cynllunio ymlaen llaw i ymweld ag atyniadau eraill sydd ar gael ar draws Dyffryn Dyfrdwy, os bydd yr ardal yn brysur.

Mae’r Cyngor eisoes wedi gwneud llawer o baratoadau i reoli cynnydd yn nifer yr ymwelwyr.

Darllen mwy>


26/04/2023

Byddwch yn barod am 20mya

Bydd gwaith paratoi ffyrdd Powys, ar gyfer y terfyn cyflymder diofyn o 20mya sydd ar y gweill, yn dechrau'r wythnos hon.

Ar 17 Medi, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru. Yn gyffredinol, mae ffyrdd cyfyngedig yn cynnwys y rheini ble mae goleuadau stryd wedi eu gosod ddim mwy na 200 llath o'i gilydd, ac fel arfer wedi eu lleoli mewn ardaloedd preswyl a phrysur ble mae gweithgaredd uchel gan gerddwyr.

Cymru fydd y genedl gyntaf yn y DU i ostwng terfyn cyflymder yn dilyn y symudiad hwn, gan ddilyn ôl troed gwledydd Ewrop fel Sbaen ble mae 30km/h (18.5mya) eisoes mewn lle.

Mae tystiolaeth yn dangos fod gostwng y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya ar y ffyrdd hyn yn arwain at nifer o fanteision gan gynnwys lleihau nifer y damweiniau ac anafiadau difrifol, annog rhagor o bobl i gerdded a beicio a gwella iechyd a llesiant.

Darllen mwy>