Newyddion

28/03/2025

Y diweddaraf am Gynlluniau Teithio Llesol yng Ngheredigion

Cafodd Cam 1 ‘Llwybr Cyswllt Teithio Llesol Waunfawr i IBERS’ ei gwblhau yn Ebrill 2024 ac mae gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ar gamau nesaf y cynllun.

Yn ôl yr amserlen, dylai darn o lwybr cyd-ddefnyddio newydd gerllaw TRA487 gael ei gwblhau ym mis Ebrill, gyda’r gwaith o gyflawni’r darn hwn yn cael ei arwain gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r darn nesaf, o Gyffordd Dorglwyd at yr arhosfan bws ger Ystâd Brongwinau wedi’i raglennu ar gyfer gwaith adeiladu yn y Flwyddyn Ariannol nesaf, ac unwaith bod y cyfan wedi’i gysylltu, bydd Camau 1 a 2 y cynllun wedi’u cwblhau. Mae llwybrau cyd-ddefnyddio yn cynnig darpariaeth benodol a mwy diogel ar gyfer beicwyr a cherddwyr sydd am wneud siwrneiau teithio llesol i’r gwaith.

Mae’r gwaith o adeiladu llwybr cyd-ddefnyddio newydd hefyd yn mynd rhagddo ger croesffordd IBERS, sy’n ffurfio un o ddarnau Cam 3. Mae cais am grant wedi’i gyflwyno i Trafnidiaeth Cymru ar gyfer darn arall o lwybr o fewn Cam 3 ac os bydd hwnnw’n llwyddiannus, bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yma hefyd yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Darllen mwy>


11/03/2025

Cefnogaeth gan y cyngor a gan y Dreigiau

Mae cwmni o Bowys a gafodd ei gefnogi y llynedd gan y cyngor sir gyda grant twf, bellach wedi denu buddsoddwyr ychwanegol ar raglen Dragons' Den ar BBC ONE.

 Llwyddodd Stashed Products, gwneuthurwyr systemau storio beiciau sy'n arbed gofod, i sicrhau £25,000 gan y cyngor tuag at y gost o wneud gwelliannau yn ei ganolfan yn Abermiwl ac ar gyfer hyfforddi staff, gyda'r nod o greu tair swydd llawnamser yn 2024. Bellach, mae'r perchennog Elliot Tanner wedi cael cynnig buddsoddiad gan Ddraig hefyd.

Dywedodd Elliot: "Roedd camu i mewn i'r Denyn un o'r profiadau mwyaf pwerus i mi erioed ei gael. Aeth fy meddwl yn wag fel roeddwn i'n camu trwy ddrysau'r lifft, a phrin y gallwn gofio fy enw fy hun. Fodd bynnag, ar ôl dechrau, dechreuais fwynhau'r holl brofiad yn fawr.

Darllen mwy>


04/03/2025

Fflint: Teithio llesol a theithio cynaliadwy

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau teithio llesol a theithio cynaliadwy sylweddol yn Acton a Phenarlâg.

Fe fydd y cynllun yn gwella cysylltedd ar hyd Lower Aston Hall Lane, gan greu llwybr cerdded/llwybr beicio a rennir oddi ar y ffordd. Fe fydd hwn yn cysylltu â’r llwybr a rennir a gwblhawyd yn ddiweddar ar Aston Hill/ A494, gan ddarparu llwybr mwy diogel a hygyrch i gerddwyr a beicwyr. Yn ychwanegol, fe fydd croesfan sebra newydd yn cael ei chreu a bydd gwelliannau hanfodol i’r gerbytffordd yn cael eu gwneud a fydd yn cefnogi teithio diogel a chynaliadwy ymhellach.

Mae’r gwaith ar Lower Aston Hall Lane bellach wedi cychwyn, a bydd yn para am tua 10 wythnos. Bydd mesurau rheoli traffig ar waith drwy gydol cyfnod y gwaith, a bydd mynediad yn cael ei ganiatáu i breswylwyr, busnesau lleol a’r cyhoedd sy’n teithio. Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwerthfawrogi cydweithrediad a chefnogaeth barhaus y gymuned leol yn ystod y gwaith hanfodol yma sydd yn darparu manteision hirdymor i bawb.

Darllen mwy>


20/02/2025

Ysgol Godre'r Berwyn yn gweld budd gwelliannau teithio llesol

Mae gwelliannau i lwybrau ger Ysgol Godre’r Berwyn yn cael effaith gadarnhaol ac yn galluogi mwy o ddisgyblion a thrigolion i gerdded a beicio yn yr ardal yma yn nhref Y Bala.

Yn dilyn pryderon am ddiogelwch disgyblion yn ardal Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala dros y blynyddoedd, sicrhaodd Cyngor Gwynedd £248,000 o gyllid o gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru i wella opsiynau teithio llesol ger yr ysgol.

Meddai Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Craig ab Iago: “Fel Cyngor, rydan ni wedi ymrwymo i alluogi mwy o deithio cynaliadwy yn ein cymunedau, a’i gwneud yn haws i blant a theuluoedd i allu cerdded neu feicio ar gyfer y daith i ac o’r ysgol.

Darllen mwy>


13/02/2025

Cynllun beics yn helpu plant mewn teuluoedd incwm isel i ddewis teithio llesol i’r ysgol

Mae plant mewn teuluoedd incwm isel yng Nghaerdydd yn elwa o gynllun newydd sy'n darparu beics wedi'u hailgylchu am ddim.

Mae'r cynllun Beics i Blant yn rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned y Cyngor i newid hinsawdd a'i nod yw galluogi mwy o blant i deithio'n llesol i ac o'r ysgol trwy oresgyn y rhwystr o'r gost o brynu beic.

Nid oes angen y beics a roddir i'r cynllun ar y perchnogion mwyach, ond yn hytrach na mynd i wastraff maen nhw'n cael eu hadnewyddu gyda darnau wedi'u hailgylchu, yn barod i'w defnyddio eto.

Darllen mwy>


27/01/2025

Cynlluniau i ychwanegu cysylltiadau Teithio Llesol at lwybr poblogaidd i gymudwyr

Bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio ar gynlluniau i gyflwyno cysylltiad di-gerbyd rhwng Johnston ac Aberdaugleddau gyda Gwelliannau Teithio Llesol Studdolph i Hen Ffordd Bulford.

Mae'r cynigion yn cynnwys adeiladu Llwybr Cyd-ddefnyddio rhwng Steynton a Johnston, gwelliannau i’r cyffyrdd a’r troedffyrdd ar hyd yr A4076, a datblygu ail gam Llwybr Cyd-ddefnyddio tuag at Aberdaugleddau.

Bydd yr Ymgynghoriad Cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar 14 Chwefror 2025, rhwng 10:00 – 12:00, 13:00 – 16:00 a 18:30 – 20:00 yn Neuadd Gymunedol Steynton.

Darllen mwy>


10/01/2025

Disgyblion ysgol Llanidloes i elwa o lwybr mwy diogel i'r ysgol

Disgwylir i waith gwella llwybr troed a hygyrchedd Ysgol Uwchradd Llanidloes ac Ysgol Gynradd Sirol Llanidloes ddigwydd yn fuan fel rhan o brosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Teithio Llesol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd y llwybrau troed presennol eu nodi ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (RhGD) gan randdeiliaid, fel rhai sy'n wael neu'n anaddas ar gyfer gwneud teithiau ar droed, yn enwedig i'r rhai sy'n teithio i'r ysgol ac oddi yno. Mae'r prosiect wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â'r materion hyn a dyma fydd y cam cyntaf tuag at ddatblygu rhwydwaith teithio llesol lleol ehangach yn y dref.

Bydd y cynllun yn uwchraddio rhan o lwybr troed ar ochr ysgol Ffordd Llangurig i greu llwybr defnydd cyffredin sy'n arwain o gyferbyn â chyffordd Caegwyn yn uniongyrchol i'r ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd. Bydd hyn yn gwella hygyrchedd ac yn caniatáu i fwy o ddisgyblion a'u teuluoedd gerdded neu seiclo'n ddiogel i'r ysgol ac oddi yno.

Darllen mwy>


29/10/2024

Golau gwyrdd i Gynllun Darparu Teithio Llesol Castell-nedd Port Talbot

Mae Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi mabwysiadu a chyhoeddi gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf er mwyn sicrhau y bydd pobl leol yn gwneud mwy o deithio ar droed, ar feic neu drwy ddefnyddio dulliau ar olwynion eraill o deithio llesol.

Yn eu cyfarfod ddydd Mercher 23 Hydref, cymeradwyodd aelodau’r Cabinet Gynllun Datblygu Teithio Llesol (2024-2029) y cyngor.

Ei amcanion yw:

Darllen mwy>


15/10/2024

Gwahoddiad i drigolion Caerffili i fod yn rhan o lunio dyfodol rhwydwaith trafnidiaeth y dref

Mae gwirfoddolwyr yn cael eu gwahodd i helpu i archwilio ffordd newydd o gyfri symudiadau cerddwyr, beiciau a cheir yng Nghaerffili.

Mae’r cynllun peilot hwn yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd 2035 Tref Caerffili, sy’n anelu at gydweithio â thrigolion Caerffili i adeiladu tref sy’n lle gwych i bawb fyw, gweithio ac ymweld â hi.

Mae’r Cynllun Creu Lleoedd wedi profi llwyddiant hyd yn hyn gydag agoriad Ffos Caerffili ym mis Ebrill eleni ac mae bellach yn canolbwyntio ar ei flaenoriaethau nesaf sy’n cynnwys traffig, trafnidiaeth, a symudiadau yn, ac o gwmpas Caerffili.

Rhan allweddol o’r cynllun yw adeiladu seilwaith trafnidiaeth a datblygu llwybrau teithio sy’n addas a hynny mewn ymateb i anghenion y dref heddiw, yfory, ac yn y dyfodol.

Gofynnir i drigolion, busnesau, a sefydliadau eraill mewn tair ardal darged wirfoddoli i osod dyfais fach i fonitro traffig yn eu ffenestri er mwyn cyfri nifer y cerddwyr, beiciau a cheir (yn ogystal â defnyddwyr ffyrdd eraill) sy'n pasio bob dydd.

Dywedodd Hamish Munro, Rheolwr Rhaglen Creu Lleoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: “Bydd defnyddwyr ffyrdd yn cael eu cyfri yn ddienw, ac nid oes unrhyw ddelweddau na fideos y gellir eu hadnabod yn cael eu cadw na'u trosglwyddo o'r dyfeisiau.

“Mae'r dyfeisiau'n fach, yn gynnil, ac ni fyddant yn storio unrhyw wybodaeth bersonol na phreifat gan y rhai sy’n eu gosod na'r bobl y mae'n eu cyfri - gan gynnwys data ANPR ac wynebau, ni all y ddyfais eu hadnabod nhw ychwaith.”

Gofynion Technegol

Mae angen gosod y synwyryddion dan do a'u gosod ar y tu mewn i ffenestr sy'n edrych allan ar y stryd. Yn gyffredinol, mae'r gofynion technegol yn cynnwys:

Darllen mwy>


10/07/2024

Digwyddiad teithio cynaliadwy i fusnesau lleol yn Wrecsam

Gwahoddir busnesau lleol i Dŵr Rhydfudr ddydd Mercher 17 Gorffennaf am gyfle gwych i gymryd rhan mewn trafodaeth agored a rhannu gwybodaeth ynglŷn â theithio llesol a chynaliadwy.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 12pm yn yr Atriwm, ar y trydydd llawr, a bydd cyfle i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr gwadd, gan gynnwys aelodau o’n tîm Strategaeth Trafnidiaeth ein hunain.

Bydd ein tîm yn cyflwyno syniadau ar gyfer isadeiledd teithio llesol ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam ac yn gofyn i bobl ddangos ar fap rhyngweithiol lle hoffent weld pethau’n gwella, lle mae yno broblemau a’r bylchau y gellid eu pontio ar y stad.

Darllen mwy>