29/10/2019
Mae rhieni ledled Sir Gaerfyrddin yn cael eu hatgoffa i wneud yn siŵr fod modd gweld eu plant dros Galan Gaeaf.
Mae tîm diogelwch ffyrdd y Cyngor wedi lansio ei ymgyrch 'gwisgwch yn llachar' i gyd-fynd â throi'r clociau'n ôl ddydd Sul, Hydref 27.
Wrth i'r boreau dywyllu a'r nosweithiau fyrhau, mae plant yn cael eu hannog i wisgo dillad llachar. Hefyd, gall rhieni ystyried buddsoddi mewn rhwymynnau llachar i'r breichiau neu siacedi llachar i helpu i gadw eu plant yn ddiogel pan fyddan nhw'n ymlwybro yng nghyffiniau heolydd.
Darllen mwy>
12/06/2019
Mae ymgyrch gynhwysfawr i sicrhau bod dinasyddion Casnewydd yn ymwybodol y bydd yr awdurdod lleol yn cymryd dros gyfrifoldebau Gorfodi Parcio Sifil wedi’i nodi’n llwyddiant.
Mae amrywiaeth o negeseuon, gan ddefnyddio’r hashnod #ParciwchYnGywir, wedi cael eu rhoi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd, gan gynnwys ar y wefan, ar Facebook ac ar Twitter.
Maent i gyd yn pwysleisio bod angen i yrwyr ddilyn rheolau’r ffordd fawr – ac os bydd pawb yn dilyn y rhain, yna bydd y ddinas yn lle mwy diogel i gerddwyr, beicwyr a gyrwyr.
Darllen mwy>
30/11/2018
“Rhyw dro byddwch yn sylweddoli'r difrod dach chi wedi’i wneud ond erbyn hynny mi fydd hi’n rhy hwyr. Mae gan bawb ddewis” - dyna’r neges sy’n cael ei chyhoeddi gan Heddluoedd Cymru wrth iddynt baratoi i lansio eu hymgyrch yn erbyn yfed a gyrru a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau dros gyfnod y Nadolig.
Wedi ei harwain gan Heddlu Gogledd Cymru mae’r ymgyrch mis o hyd yn dechrau ar ddydd Sadwrn, 1af o Ragfyr lle bydd heddluoedd ar draws y wlad yn defnyddio tactegau cudd-wybodaeth a gwybodaeth leol o lecynnau sydd ag enw drwg i ganfod pobl sy’n gyrru o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol dros gyfnod yr Ŵyl.
Mae’r ymgyrch yn cynnwys profiadau swyddogion o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru o ddelio ag effeithiau gweld damwain yn ymwneud â gyrwyr sydd wedi bod yn yfed neu o dan ddylanwad cyffuriau.
Darllen mwy>