22/02/2023
Mae’r heddlu wedi rhybuddio bod gyrwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o gael gwrthdrawiadau os ydyn nhw’n defnyddio ffôn symudol wrth yrru, wrth iddynt gefnogi ymgyrch genedlaethol diogelwch y ffyrdd.
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o bobl yn defnyddio eu ffôn wrth yrru, mae’r pedwar heddlu yng Nghymru, ynghyd â GanBwyll, yn cefnogi ymgyrch gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu sy’n cychwyn heddiw (20 Chwefror) o dan ein hymgyrch 5 Angheuol.
Mae’r ymgyrch dair wythnos o hyd y bydd Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru’n cymryd rhan ynddi’n anelu i atgoffa modurwyr am beryglon galw, anfon neges destun, defnyddio’r rhyngrwyd neu ffrydio cerddoriaeth neu fideos wrth yrru – a’r cosbau y mae’r rhai sy’n cael eu dal yn eu hwynebu.
Darllen mwy>
19/01/2023
Datganiad Ysgrifenedig:
Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
“Yn 2019, sefydlais Dasglu Parcio ar y Palmant Cymru (TPPC) annibynnol i helpu i fynd i’r afael â pharcio ar balmentydd gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.
“Cafodd pob un o ddeg argymhelliad y Tasglu Parcio ar y Palmant eu derbyn gan Lywodraeth Cymru.
Darllen mwy>
18/01/2023
Wrth i dymheredd y gaeaf ddod ag amodau mwy peryglus a heriol ar y ffyrdd, mae Diogelwch Ffyrdd Cymru wrthi’n atgoffa cyflogwyr am adolygu eu polisi ar risgiau gyrru ar gyfer gwaith a sicrhau bod y polisi’n rhoi sylw priodol i yrru yn ystod y gaeaf.
Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, "Dylai gweithwyr sy'n gyrru at ddibenion gwaith weithio gyda'u cyflogwyr i sicrhau eu bod nhw’n gwbl ymwybodol o'r hyn sy'n ddisgwyliedig yn ystod cyfnodau o dywydd garw a dylai cynlluniau fod ar waith er mwyn nodi teithiau hanfodol a pharatoi ar eu cyfer."
Mae cyflogwyr dan ddyletswydd i gymryd pob mesur sy’n rhesymol ymarferol i reoli risg a dylai cwmnïau sicrhau bod eu gyrwyr yn rhoi sylw i rybuddion, naill ai o ffynonellau allanol swyddogol neu o fewn y sefydliad, i beidio â pharhau â'u siwrneiau pan fydd rhywun yn dweud wrthyn nhw.
Darllen mwy>
22/12/2022
Amcangyfrifir bod blinder yn cyfrannu at 20% o wrthdrawiadau traffig y ffyrdd. Mae’r mathau hyn o wrthdrawiadau yn dueddol o fod yn wrthdrawiadau cyflymder uwch sy’n arwain at farwolaethau neu anafiadau difrifol, oherwydd ni all gyrrwr sydd wedi syrthio i gysgu frecio neu wyro.
Mae cysgadrwydd yn lleihau amser ymateb, sy’n elfen hollbwysig o yrru diogel, ac mae’n lleihau effrogarwch a chanolbwyntio. Amharir ar y gallu i gyflawni gweithgareddau sy’n seiliedig ar sylw, megis gyrru neu reidio, a gellir effeithio’n ddifrifol ar y gallu i wneud penderfyniadau oherwydd nid oes modd i rywun sydd wedi blino brosesu gwybodaeth yn gyflym.
Bydd gyrwyr a beicwyr modur yn ymwybodol eu bod nhw’n teimlo’n gysglyd, a rhaid iddynt wneud penderfyniad ymwybodol i stopio am seibiant. Mae anwybyddu neu amcangyfrif yn rhy isel beryglon parhau â thaith pan fyddwch wedi blino yn naïf ac anghyfrifol.
Darllen mwy>
14/12/2022
Mae canolbwynt gwefru cerbydau trydan yn y Rhyl bellach ar agor i yrwyr.
Mae’r safle maes parcio yng Ngorllewin Cinmel, y canolbwynt gwefru mwyaf yng Nghymru, bellach ar agor i berchnogion cerbydau trydan.
Mae agor y canolbwynt 36 cerbyd, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn llwyddiant gosod pwyntiau gwefru ym maes parcio Kings Avenue ym Mhrestatyn yn yr haf.
Darllen mwy>
08/12/2022
Fel rhan o ymgyrch yfed a gyrru Caerdydd a'r Fro, mae Heddlu De Cymru ynghyd â 13 o dafarndai a bwytai wedi lansio Cynllun DES (Gyrrwr Dynodedig).
Yn ystod cyfnod prysur y Nadolig, bydd yr 13 o safleoedd trwyddedig yn cynnig diodydd meddal am ddim i yrwyr dynodedig. Gyrrwr dynodedig yw rhywun sy'n ymwrthod rhag yfed alcohol er mwyn bod yn yrrwr cyfrifol.
Nod y cynllun yw hyrwyddo yfed yn gyfrifol mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd. Clwb Golff Sir Forgannwg (a welir yn y llun) oedd un o'r safleoedd cyntaf i gofrestru ar gyfer y cynllun newydd, yn ogystal â'r Philharmonic, Brewhouse a Revolution, ymysg nifer o safleoedd eraill ledled Caerdydd a'r Fro.
Darllen mwy>
29/11/2022
Gan fod Cymru’n rhan o Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd, a’r Nadolig yn agosáu, mae rheswm gan lawer i ddathlu.
Ond mae swyddogion yng Nghymru’n atgoffa pobl sy’n edrych ymlaen at noson allan i beidio â gyrru ar ôl yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.
Mae’r pedwar heddlu yng Nghymru – Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent – wedi lansio eu hymgyrch yn erbyn yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau dros y Nadolig yn gynt er mwyn cynnwys Cwpan y Byd.
Darllen mwy>
23/11/2022
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y 'Cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn,' mae'n bleser gan yr Uned Diogelwch Ffyrdd ddarparu mwy o sesiynau ymwybyddiaeth. Rydym am ichi barhau i allu mynd a dod fel y mynnoch, bod yn annibynnol a bod yn hyderus wrth y llyw.
Beth am fanteisio ar y sesiwn anffurfiol a hamddenol hwn sy'n para diwrnod yng nghwmni Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy hollol gymwys?
Nid oes angen ichi ddod â'ch car i gael budd o'r sesiwn hwn – fe ddarparwn ni'r ceir.
Darllen mwy>
13/10/2022
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog gyrwyr i sicrhau bod eu teiars yn barod wrth i’r gaeaf agosáu.
Mae mis Hydref yn Fis Cenedlaethol Diogelwch Teiars - ymgyrch flynyddol sydd wedi’i drefnu gan elusen TyreSafe sy’n annog defnyddwyr y ffyrdd i checio cyflwr teiars yn rheolaidd.
Er bod yr ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth drwy addysg, bydd unrhyw un sy’n cael eu canfod yn gyrru hefo teiars diffygiol yn wynebu tri phwynt cosb ar eu trwydded a dirwy hyd at £2,500 fesul teiar.
Darllen mwy>
15/08/2022
“Peidiwch byth â gyrru dan ddylanwad alcohol na chyffuriau.” Dyna neges swyddogion Heddlu Gwent yn ystod ymgyrch dros bythefnos yn canolbwyntio ar ddiogelwch ar y ffyrdd.
Mae Heddlu Gwent yn parhau i weithredu’n gadarn yn erbyn y rhai hynny sy’n peryglu bywydau eraill drwy yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Mae swyddogion yn ymuno â heddluoedd Cymru a GanBwyll mewn ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o beryglon gyrru dan ddylanwad, ac yn targedu modurwyr sy’n peryglu bywydau eraill drwy gyflawni un o’r ‘Pum Angheuol’ – gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, goryrru, gyrru heb ofal dyladwy, peidio â gwisgo gwregys diogelwch neu ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Darllen mwy>