Newyddion

24/09/2018

Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid

Mae Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid yn cael ei chynnal rhwng 24 a 30 Medi 2018, a nod yr wythnos yw hybu pwysigrwydd iechyd y llygaid a’r angen am brofion llygaid rheolaidd.

Mae golwg dda yn hanfodol wrth ichi ddefnyddio’r ffordd, waeth beth fo’ch oedran. Rhaid i yrwyr a beicwyr modur allu darllen plât cofrestru cerbyd o bellter o 20 metr (neu 20.5 metr os cafodd y cerbyd ei gofrestru cyn Medi 2001) gan wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd os oes eu hangen.

Os ydych yn ei chael yn anodd darllen arwyddion ffordd, yn enwedig y rhai â thestun arnynt, gallai hynny fod yn arwydd bod eich golwg wedi dirywio ac y gall fod angen lensys i gywiro’ch golwg. Os ydych yn ei chael yn anos gweld yn glir yn y tywyllwch, fe allai hynny hefyd olygu bod angen ichi wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd.

Darllen mwy>


20/08/2018

Canlyniadau Ymgyrch Atal Gyrru Dan Ddylanwad yr Haf

Cafodd dros 170 o arestiadau am yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau eu gwneud yng Ngogledd Cymru fel rhan o ymgyrch cenedlaethol er mwyn targedu’r rhai sy’n gyrru o dan ddylanwad.

O dan arweiniad Heddlu De Cymru, fe lansiodd y pedwar heddlu yng Nghymru'r Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru a Gyrru ar Gyffuriau Cenedlaethol er mwyn cyd-fynd â chystadleuaeth Cwpan y Byd.

Rhwng 14 Mehefin a 14 Gorffennaf gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru arestio 109 am yfed a gyrru a 65 am yrru ar gyffuriau.

Darllen mwy>


01/12/2017

Yr ymgyrch yn erbyn yfed a gyrru a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau’r Nadolig hwn

“Ni ddylech gael eich twyllo os ydych yn mynd tu ôl i’r llyw o dan ddylanwad alcohol. Rydych mewn perygl o gael dirwy, colli’ch trwydded neu dderbyn dedfryd o garchar. Rydych yn peryglu bywydau hefyd” – dyna’r neges sy’n cael ei chyhoeddi gan Heddluoedd Cymru wrth iddynt baratoi i lansio eu hymgyrch yn erbyn yfed a gyrru a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau dros gyfnod y Nadolig.

Mae’r ymgyrch mis o hyd yn erbyn gyrru o dan ddylanwad yn dechrau ar Ddydd Gwener, 1 Rhagfyr a bydd heddluoedd ar draws y wlad yn defnyddio tactegau cudd-wybodaeth a gwybodaeth leol o lecynnau sydd ag enw drwg i ganfod pobl sy’n gyrru o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol dros gyfnod yr Ŵyl.

Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn arwain yr ymgyrch dros Gymru gyfan ac yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r neges am effaith yfed a gyrru a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau.

Darllen mwy>


25/10/2017

Prosiect EDWARD 2017

Mae canlyniadau Prosiect EDWARD 2017 TISPOL bellach ar gael, a’r DU oedd un o’r 15 gwlad adroddodd na fu unrhyw farwolaethau. Yn anffodus, fodd bynnag, bu 43 o farwolaethau yn ystod y diwrnod ar draws 31 o wledydd yn Ewrop, gyda Gwlad Pwyl yn cofnodi 10 marwolaeth a Rwmania a Gwlad Groeg yn cofnodi 6 marwolaeth yr un. 

Roedd gweithgareddau ar y Cyfryngau Cymdeithasol yn allweddol ar y diwrnod, ac roedd #Project EDWARD yn rhif 1 o ran tueddiadau yn Iwerddon, rhif 4 yn y DU a rhif 5 yn yr Almaen, Sbaen a gwledydd eraill yn ystod y dydd.  Cyfanswm y cyrhaeddiad unigryw rhwng dydd Mawrth 19 a dydd Iau 21 Medi oedd 25 miliwn, ac roedd 8,813 o gofnodion dros y cyfnod 48 awr.

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o broblemau diogelwch ar y ffyrdd, un o brif nodau Prosiect EDWARD oedd tynnu sylw at werth targedau diogelwch ar y ffyrdd yn genedlaethol ac yn Ewrop. 

Darllen mwy>