Newyddion

16/01/2024

Gwaith yn dechrau i adeiladu seilwaith teithio llesol o ansawdd uchel yn Nafen, Llanelli

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dechrau gwaith i wella'r llwybr teithio llesol a'r groesfan ar hyd Exchange Row a'r B4304 yn Nafen, Llanelli.

Yn lleol, bydd y gwaith yn ei gwneud yn fwy diogel i groesi'r B4303 yn ogystal â darparu gwell cysylltiadau ymlaen fel rhan o Brif Lwybr Llanelli arfaethedig. Mae'r llwybr yn ceisio darparu llwybr o ansawdd uchel i feicwyr a cherddwyr ar gyfer cymudwyr a phlant ysgol gyda chysylltiadau â safleoedd cyflogaeth, ysbytai ac ysgolion lleol. Yn y pen draw, bydd y llwybr yn rhedeg rhwng yr Hendy a Llwybr Arfordirol y Mileniwm gyda chysylltiadau â datblygiad parhaus Pentre Awel.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Teithio Llesol ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau cyllid drwy broses ymgeisio gystadleuol genedlaethol. Dim ond at ddibenion seilwaith Teithio Llesol newydd / gwell y gellir defnyddio'r cyllid. Mae'r dyluniad, sy'n cynnwys Exchange Row a'r B4303 yn unol ag egwyddorion Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021.

Darllen mwy>


05/01/2024

Gwelliannau teithio llesol gwerth £1.2 miliwn ar Ffordd Penrhos, Bangor

Mae gwaith wedi cychwyn ar welliannau sylweddol fydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl gerdded a beicio yn ddiogel yn ardal Ffordd Penrhos ger Bangor.  

Wedi sicrhau £1.2 miliwn o gefnogaeth Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Gwynedd wedi cydweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i ddatblygu’r cynlluniau. Mae’r gwaith presennol yn rhan o wedd gyntaf o welliannau o ardal Coed Mawr hyd Coed y Maes ym Mhenrhosgarnedd.

Mae Ffordd Penrhos yn cysylltu ardaloedd preswyl ag ysgolion, canolfannau teithio, yr ysbyty, ac ardaloedd cyflogaeth. Nod y gwaith fydd darparu dull diogel o deithio wrth i bobl deithio i’r ysgol, gwaith a hamdden yn yr ardal.

Darllen mwy>


01/12/2023

Gwiriwch beth rydych chi’n ei gael i’r Nadolig

Mae llawer ohonon ni’n cofio'n annwyl am y cyffro drwy gydol mis Rhagfyr, yn eiddgar obeithio y caen ni feic newydd ar ôl dod lawr y grisiau fore dydd Nadolig ac yn awchu am ddangos y beic i'n ffrindiau cyn gynted â phosib.

Wrth eich bodd â 5, 10 neu hyd yn oed cyfanswm oedd yn swnio’n hurt o 15 gêr – mae’r oes wedi newid! Wrth i dechnoleg ddatblygu'n gyflym, erbyn hyn mae gennyn ni fantais yr e-feic i'n helpu ni wrth bedlo; mantais sydd i'w chroesawu wrth reidio i fyny bryn serth, ac mae digon o’r rheiny gennyn ni yng Nghymru.

Os ydych chi'n bwriadu prynu e-feic i’r Nadolig, mae'n bwysig gwirio bod yr hyn rydych chi'n ei brynu yn ddiogel ac yn gyfreithlon. Gan fod cymaint o fodelau ar gael, ac e-feiciau ail-law yn cynnig arbedion mawr o'u cymharu â modelau newydd, efallai na fydd rhai yn ymwybodol y gallai'r eitem maen nhw’n gwario’u harian prin arni fod yn anghyfreithlon i'w defnyddio ar y ffordd neu mewn man cyhoeddus.

Darllen mwy>


16/11/2023

Y diweddaraf am Bont Teithio Llesol Y Drenewydd

Cadarnhaodd Cyngor Sir Powys fod y gwaith o adeiladu'r bont deithio llesol newydd i feicwyr a cherddwyr yn y Drenewydd yn mynd rhagddo'n dda.

Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r bont hir-ddisgwyliedig dros Afon Hafren ar y safle ym mis Mehefin ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru. Bydd strwythur y bont un-bwa o ddur yn rhychwantu tua 53 metr ac yn cysylltu llwybr glan yr afon ar lan orllewinol yr afon â Ffordd y Trallwng ar y lan ddywreiniol.

Er bod uwchstrwythur y bont wedi'i gynhyrchu a'i baentio oddi ar y safle ar safleoedd contractwyr yn Wrecsam a'r Wyddgrug, mae llawer o'r gwaith o baratoi'r tir wedi bod yn mynd rhagddo ar y safle ei hun, gan gynnwys clirio a chloddio, yn ogystal ag adeiladu sylfeini'r bont a strwythur cynnal dros dro i hwyluso'r dasg o gydosod y cyfan.

Darllen mwy>


17/08/2023

Llwybrau teithio llesol newydd

Bydd swm o bron i hanner miliwn o bunnau’n cael ei wario ar ddau brosiect allweddol i wella teithio llesol yn y fwrdeistref.  

Mae Cyngor Torfaen wedi sicrhau £420,000 o gyllid teithiol llesol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun rhwydwaith Teithiol Llesol Cae Derw. Bydd y prosiect yn cynnwys 400 metr o lwybr cerdded a beicio newydd o amgylch dwy ochr arall y cae hamdden. Bydd hyn yn ategu at y llwybr cerdded a beicio cyd-ddefnydd newydd sy’n 180 metr o hyd ac yn 3m o led, a grëwyd o Court Farm Road yng Nghae Derw i’r ysgol, ar hyd ymyl y cae hamdden.   

Mae’r cyngor hefyd wedi sicrhau £50,000 o nawdd Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau er mwyn asesu heolydd a strydoedd y tu allan i bob un o ysgolion Torfaen. Bydd y gwaith hwn yn anelu at nodi cyfleoedd i wella diogelwch ar y ffyrdd, er enghraifft cyfyngu ar fynediad i gerbydau adeg amserau dechrau a gorffen ysgolion.  

Darllen mwy>


06/07/2023

Cyfle i ddweud eich dweud ar y darpariaethau teithio llesol arfaethedig ym Menllech

Mae cyngor Ynys Môn yn annog trigolion ac ymwelwyr Benllech i ddweud eu dweud ar ddarpariaethau teithio llesol newydd arfaethedig yn yr ardal.

Mae gwelliannau posibl i lwybrau cerdded a beicio yn y pentref glan môr a’r cyffiniau yn rhan o ymgynghoriad sydd newydd ei lansio.

Os cânt eu cefnogi, y gobaith yw y byddai’r gwelliannau hyn yn annog mwy o bobl i fanteisio ar ffyrdd llesol o deithio.

Darllen mwy>


05/06/2023

Lansio ymgynghoriad ar lwybrau teithio rhwng Brynbuga a Little Mill

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn i drigolion i rannu eu barn ar ddau lwybr posib ar gyfer cerdded, seiclo a symud ar olwynion rhwng Brynbuga a Little Mill/Mamhilad.

Mae’r llwybr cerdded ar hyn o bryd rhwng Brynbuga a Little Mill ar hyd yr A472, sydd yn culhau’n sylweddol mewn rhannau ac mae seiclwyr angen defnyddio’r ffordd. Mae llwybrau amgen posib yn cael eu cynnig, naill ai drwy uwchraddio’r troedlwybr presennol neu ar hyd rhannau o’r rheilffordd na sydd yn cael ei defnyddio mwyach.

Dyma rai o’r rhesymau pam fod angen llwybr newydd ar gyfer cerdded, symud ar olwynion neu seiclo:

Darllen mwy>


24/05/2023

Lansio ymgynghoriad ar lwybrau teithio rhwng Brynbuga a Little Mill

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn i drigolion i rannu eu barn ar ddau lwybr posib ar gyfer cerdded, seiclo a  symud ar olwynion rhwng Brynbuga a Little Mill/Mamhilad. Mae’r llwybr cerdded ar hyn o bryd rhwng Brynbuga a Little Mill ar hyd yr A472, sydd yn culhau’n sylweddol mewn rhannau ac mae seiclwyr angen defnyddio’r ffordd. Mae llwybrau amgen posib yn cael eu cynnig, naill ai drwy uwchraddio’r troedlwybr presennol  neu ar hyd rhannau o’r rheilffordd na sydd yn cael ei defnyddio mwyach.   

Dyma rai o’r rhesymau pam fod angen llwybr newydd ar gyfer cerdded, symud ar olwynion neu seiclo:

 

Darllen mwy>


22/05/2023

Cyfle i ddweud eich dweud am ddarpariaethau Teithio Llesol ar Ffordd Penrhos, Bangor

Mae cyfle i bobl leol gymryd rhan mewn ymgynghoriad gan y Cyngor sy’n casglu barn ar sut i’w gwneud yn haws, yn fwy diogel a chyfleus i bobl gerdded, beicio neu deithio ar olwynion ym Mangor.

Nod y cynllun hwn yw gwella seilwaith teithio llesol ar hyd Ffordd Penrhos rhwng Cylchfan Y Faenol a Gorsaf Drenau Bangor. Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd gyda chefnogaeth gan arbenigwyr WSP i wella Ffordd Penrhos i wneud yr ardal yn fwy hygyrch i gerddwyr a beicwyr.

Mae cynigion gwelliannau y cynllun yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

Darllen mwy>


07/02/2023

Dechrau gwaith ar Gyfnewidfa Drafnidiaeth Dociau yr Barri

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau gwaith ar Gyfnewidfa Drafnidiaeth Dociau'r Barri. Ar ôl ei gwblhau, bydd hyn yn dod yn bwynt cyfarfod ar gyfer gwahanol ddulliau o deithio, gan greu canolbwynt ar gyfer mathau cynaliadwy o deithio.

Yn ffinio ag adeilad Swyddfa Dociau Rhestredig Gradd II y Cyngor, mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) a Llywodraeth Cymru.

Bydd yn cysylltu gwasanaethau trenau, bws, beicio a thacsis yn ogystal â chynnig cyfleusterau parcio a theithio gerllaw.  

Darllen mwy>