Newyddion

13/03/2017

Gwisgwch Eich Gwregys! Ymgyrch Gwregysau Diogelwch Cymru Gyfan

‘Gall wisgo gwregys diogelwch arbed bywyd’, dyna fydd y rhybudd i bobl fel rhan o ymgyrch Gymru Gyfan yn pwysleisio peryglon peidio â gwisgo gwregysau diogelwch.

O dydd Llun, Mawrth 13 ymlaen bydd Heddlu Dyfed-Powys yn arwain Ymgyrch Gwregysau Diogelwch Cymru Gyfan, yn rhybuddio gyrwyr eu bod yn peryglu eu bywydau drwy beidio â gwisgo gwregysau diogelwch, ac yn mynd i’r afael â modurwyr a theithwyr sy’n gwrthod gwisgo gwregysau diogewlch. Gall peidio â gwisgo gwregysau diogelwch fod yn benderfyniad angheuol hyd yn oed ar deithiau byr, cyfarwydd ac ar gyflymder isel. Fel gyrrwr rydych yn gyfrifol am sicrhau bod teithwyr o dan 14 oed yn gwisgo gwregysau diogelwch, neu’n defnyddio’r seddi diogel cywir ar gyfer eu taldra a’u hoedran.

Er bod y mwyafrif o ddefnyddwyr y ffyrdd yn llwyr ymwybodol o’r canlyniadau posibl o beidio â gwisgo gwregysau diogelwch, bydd swyddogion yr heddlu ar draws Cymru’n mynd i’r afael â’r rhai hynny sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith, gan felly beryglu holl ddefnyddwyr y ffyrdd.

Darllen mwy>


17/10/2016

Erlyn gyrwyr drwy ddefnyddio tystiolaeth ffilm

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio ymgyrch newydd sy’n golygu y bydd yn bosib erlyn gyrwyr diofal gyda thystiolaeth sy’n cael ei dal ar ffilm gan aelodau o’r cyhoedd.

Mae Ymgyrch SNAP neu #OpSnap wedi cael ei lansio mewn ymateb i’r cynnydd mewn tystiolaeth ffilm a lluniau mae’r heddlu’n eu derbyn gan bobl sydd wedi gweld troseddau gyrru yn

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog y cyhoedd i anfon eu lluniau neu ddarnau ffilm o droseddau gyrru atynt drwy lenwi ffurflen arbennig ar-lein.

Darllen mwy>


20/04/2016

Stopio dros 1,400 o bobl ar draws Cymru am beidio â gwisgo gwregys diogelwch

seatbeltCafodd dros 1,400 o bobl eu stopio ar draws Cymru am beidio â gwisgo eu gwregys diogelwch mewn ymgyrch pythefnos o hyd. Rhwng y 7fed a 21ain o Fawrth mi wnaeth pedwar heddlu Cymru, dan arweinyddiaeth Heddlu Gogledd Cymru, gymryd rhan mewn Ymgyrch Gwregysau Diogelwch er mwyn hybu ymwybyddiaeth gyrwyr a theithwyr o’r peryglon y mae pobl yn eu hwynebu wrth beidio â gwisgo gwregysau diogelwch.

Dyma’r canlyniadau:

Heddlu Gogledd Cymru – 146
Heddlu Dyfed Powys – 958
Heddlu De Cymru – 347
Heddlu Gwent – 46

Darllen mwy>


27/01/2016

Canlyniadau Ymgyrch Atal Yfed a Cymryd Cyffuriau a Gyrru'r Nadolig

O dan arweiniad Heddlu Gwent, cafodd 22,811 o yrwyr ar draws Cymru brofion anadl rhwng Rhagfyr y 1af 2015 ac Ionawr y 1af 2016.

Cynhaliodd Heddlu Gwent 1,130 o brofion anadl gyda 47 yn bositif, wedi methu neu wedi gwrthod, Heddlu’r De 4,409 a 205 wedi’u harestio a Heddlu Dyfed Powys 8,378 gyda 164 wedi’i arestio.

Darllen mwy>


27/10/2015

571 yn cael eu dal yn defnyddio ffonau symudol wrth yrru

Cafodd 571 o fodurwyr eu dal yn defnyddio’u ffonau symudol wrth yrru yn ystod ymgyrchMobile phone Atal Defnyddio Ffonau Symudol Wrth Yrru Cymru gyfan 2015.

Roedd yr ymgyrch, a gynhaliwyd rhwng 24 Medi a 7 Hydref, yn cynnwys partneriaid diogelwch y ffyrdd ac yn annog modurwyr i ‘gadw eu llygaid ar y ffordd’ a pheidio â gadael i’w sylw gael ei dynnu drwy ateb eu ffôn symudol, darllen neges testun neu fynd ar y rhyngrwyd.

Mae astudiaethau’n dangos bod gyrwyr sy’n defnyddio ffôn symudol â llaw neu heb ddwylo’n arafach o ran adnabod ac ymateb i beryglon.

Darllen mwy>