13/07/2017
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllaw gweledol newydd hawdd i'w defnyddio er mwyn helpu sefydliadau i chwarae mwy o ran wrth annog plant i gerdded neu feicio i'r ysgol.
Gyda llai na hanner y plant yng Nghymru'n cerdded neu'n beicio i'r ysgol gynradd, mae'r canllaw ‘o'r drws i'r ddesg’ yn dangos sut y gallai datblygwyr tai, swyddogion trafnidiaeth, cynllunwyr, a hyd yn oed yr heddlu chwarae rhan hanfodol wrth wneud cerdded neu feicio i'r ysgol yn ddewis haws.
Mae'r canllaw wedi'i baratoi mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr o'r Grŵp Rhanddeiliaid Cenedlaethol Teithio Llesol i'r Ysgol - grŵp amlasiantaeth sy'n gweithio i sicrhau mai cerdded, defnyddio sgwter neu feicio yw'r dewis cyntaf pan fydd plant yng Nghymru yn teithio i'r ysgol.
Darllen mwy>
24/05/2017
Mae plant ysgolion Sir Benfro wedi bod yn brasgamu yn wythnos flynyddol Cerdded i'r Ysgol.
Nod yr ymgyrch genedlaethol yw gwyrdroi'r dirywiad yn nifer y plant sy'n cerdded i'r ysgol - a ddisgynnodd o 70% i lai na hanner mewn cenhedlaeth.
Cefnogwyd yr achlysur gan Dîm Diogelwch ar Ffyrdd Cyngor Sir Penfro.
Darllen mwy>
15/03/2017
Cafodd dros 18,000 o bobl yng Nghymru eu stopio a’u profi ar gyfer yfed a gyrru neu yrru o dan ddylanwad cyffuriau, yn ystod Ymgyrch Atal Yfed/Cymryd Cyffuriau a Gyrru Cymru Gyfan y gaeaf hwn.
Lansiwyd ymgyrch yr heddlu gan Heddlu De Cymru ar 1 Rhagfyr gyda chymorth Angela Coen, y bu ei mab, Arran, farw o ganlyniad i yrru tra roedd dros y terfyn yfed a gyrru.
Pan ddaeth yr ymgyrch i ben Ddydd Calan, roedd swyddogion yr heddlu wedi stopio a phrofi 18,408 o yrwyr ar ochr y ffordd.
Darllen mwy>
13/03/2017
‘Gall wisgo gwregys diogelwch arbed bywyd’, dyna fydd y rhybudd i bobl fel rhan o ymgyrch Gymru Gyfan yn pwysleisio peryglon peidio â gwisgo gwregysau diogelwch.
O dydd Llun, Mawrth 13 ymlaen bydd Heddlu Dyfed-Powys yn arwain Ymgyrch Gwregysau Diogelwch Cymru Gyfan, yn rhybuddio gyrwyr eu bod yn peryglu eu bywydau drwy beidio â gwisgo gwregysau diogelwch, ac yn mynd i’r afael â modurwyr a theithwyr sy’n gwrthod gwisgo gwregysau diogewlch. Gall peidio â gwisgo gwregysau diogelwch fod yn benderfyniad angheuol hyd yn oed ar deithiau byr, cyfarwydd ac ar gyflymder isel. Fel gyrrwr rydych yn gyfrifol am sicrhau bod teithwyr o dan 14 oed yn gwisgo gwregysau diogelwch, neu’n defnyddio’r seddi diogel cywir ar gyfer eu taldra a’u hoedran.
Er bod y mwyafrif o ddefnyddwyr y ffyrdd yn llwyr ymwybodol o’r canlyniadau posibl o beidio â gwisgo gwregysau diogelwch, bydd swyddogion yr heddlu ar draws Cymru’n mynd i’r afael â’r rhai hynny sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith, gan felly beryglu holl ddefnyddwyr y ffyrdd.
Darllen mwy>