Newyddion

20/05/2021

Gyrwyr yn cael eu hatgoffa o orchymyn traffig yn y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog gyrwyr i beidio ag anwybyddu gorchymyn traffig sydd mewn grym yng nghanol tref y Rhyl.

Mae pryderon ynglŷn â’r cynnydd yn nifer y cerbydau sy’n defnyddio llwybr o ben uchaf y Stryd Fawr, ar hyd Sussex Street i ymuno â Queen Street.

Mae gorchymyn traffig mewn grym ar gyfer y llwybr hwn sy’n gwahardd pob cerbyd rhag cael mynediad rhwng 10am a 5pm.

Darllen mwy>


05/05/2021

Terfynau cyflymder newydd wedi'u gosod ar Rodfa'r Gorllewin (A48)

Mae terfynau cyflymder newydd ar waith ar Rodfa'r Gorllewin (A48) i wella diogelwch ar y ffyrdd ac ansawdd yr aer ar un o ffyrdd prysuraf Caerdydd.

Mae terfyn 30 mya - wedi'i osod o'r blaen fel 40 mya - bellach ar waith at Rodfa'r Gorllewin i'r ddau gyfeiriad rhwng Cylchfan Trelái a Chyfnewidfa Gabalfa.

Mae terfynau cyflymder ar y darn o Rodfa sy'n weddill hefyd wedi'u haddasu, gyda'r newidiadau canlynol ar waith:

Darllen mwy>


15/04/2021

Gwasgu'n dynn ar droseddau gyrru yng Nghasnewydd

Cafodd dros 40 o yrwyr eu riportio am droseddau moduro yn rhan o weithgarwch diweddaraf Ymgyrch Utah.

Mae Ymgyrch Utah yn ymgyrch amlasiantaeth a'i nod yw darganfod a mynd i'r afael â defnyddwyr ffyrdd sy'n rhoi modurwyr eraill mewn perygl - naill ai drwy yrru'n anghyfreithlon neu drwy yrru cerbydau nad ydynt o safon ddiogel.

Digwyddodd yr ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd ddydd Gwener 9 Ebrill yn safle profi a phont bwyso'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau ar gylchfan Coldra, Casnewydd.

Darllen mwy>


08/03/2021

Mannau gwefru cerbydau trydan newydd wedi'u gosod ar draws Gwent

Mae 62 uned gwefru cerbydau trydan cyflym deuol 22kW wedi'u gosod mewn 34 safle ar draws Gwent.

Mae'r prosiect wedi'i ddarparu mewn partneriaeth rhwng pum awdurdod lleol Gwent: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy.

Rhoddwyd grant gwerth £465,000 ar gyfer y prosiect gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda chyllid cyfatebol gan bob awdurdod lleol.  Ymgymerodd cwmni Cymreig, Silverstone Green Energy, â'r gwaith gosod, a fydd hefyd yn rheoli a chynnal a chadw'r mannau gwefru hyd at 2025.

Darllen mwy>


04/03/2021

Newidiadau i'r cyfyngiadau cyflymder ar yr M4

Bydd terfyn parhaol cyflymder cyfartalog gorfodol o 50 milltir yr awr yn fyw rhwng cyffyrdd 24 a 28 ar yr M4 erbyn dydd Llun Mawrth 15fed.

Mae'r mesur yn rhan o ddull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â thagfeydd yn yr ardal fel yr argymhellwyd yn adroddiad yr Arglwydd Burns a gyhoeddwyd yn dilyn y gwaith a wnaed gan Gomisiwn Traffig De Ddwyrain Cymru a sefydlwyd i edrych ar wella symudiad cerbydau ar hyd coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd gwaith yn cael ei wneud i gwblhau'r gwaith o osod y camerâu a'r arwyddion ffyrdd.

Darllen mwy>


07/12/2020

Lansiad ymgyrch atal gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau dros y Nadolig

Bydd heddluoedd ar draws Cymru unwaith eto’n cynnal ymgyrch atal gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau drwy gydol mis Rhagfyr er mwyn targedu’r rhai hynny sy’n peryglu bywydau pobl eraill drwy fynd y tu ôl i’r llyw pan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

 Yn ystod ymgyrch y llynedd roedd gan 10% o’r holl gerbydau a stopiwyd yrrwr dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Dwedodd yr Uwcharolygydd Clark Jones-John o Heddlu Dyfed-Powys fod y ffigur hwn yn syml iawn yn annerbyniol.

Darllen mwy>


09/11/2020

Pass Plus Cymru

Yn yr awdurdodau lleol canlynol y cynigir cyrsiau Pass Plus Cymru:

Abertawe
10 Tachwedd 2020
8 Rhagfyr 2020
12 Ionawr 2021

Casnewydd
14 Tachwedd 2020
25 Chwefror 2021

Rhondda Cynon Taf
1 Rhagfyr 2020
26 Ionawr 2021
2 Mawrth 2021

Cliciwch ar ardal eich awdurdod lleol i archebu lle. dragondriver.com/cymraeg/pass-plus-cymru-booking/

Darllen mwy>


06/11/2020

Yr Heddlu’n cefnogi ymgyrch cenedlaethol #OpDriveInsured

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch Operation Drive Insured sydd wedi’i anelu at leihau’r nifer o yrwyr sy’n gyrru heb yswiriant ar ffyrdd y rhanbarth.

Yn ystod wythnos o orfodaeth, mae swyddogion ar draws y wlad wedi bod yn cynnal ymgyrch wedi’i anelu at dargedu gyrwyr heb yswiriant.

Mae’r ymgyrch yn cael ei gydlynu gan y Biwro Yswirwyr Moduron (MIB) a’u partneriaid er mwyn amlygu’r broblem o yrru heb yswiriant.

Darllen mwy>


13/10/2020

Llywodraeth Cymru’n rhoi’r pwerau i Gynghorau roi stop ar barcio ar balmentydd

Mae Gweinidogion yn cefnogi argymhellion grŵp o arbenigwyr annibynnol i roi pwerau gorfodi sifil newydd i awdurdodau lleol allu dirwyo pobl sy’n cam-barcio.

“Nid yw’r gyfraith fel ag y mae hi mor glir ag y dylai fod”, dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Lee Waters AS, a sefydlodd y tasglu.

“Nid oes y fath drosedd â pharcio ar bafin, ac er bod yr heddlu yn cael defnyddio’r drosedd bresennol o ‘greu rhwystr diangen ar ran o’r briffordd’, anaml iawn y gwnân nhw hynny”, dywedodd.

Darllen mwy>