Newyddion

27/04/2022

Llysgenhadon hinsawdd yn canolbwyntio ar deithio llesol

Cyfarfu llysgenhadon hinsawdd cymunedol â chynrychiolwyr o Gyngor Torfaen yn ddiweddar drafod cynlluniau i gynyddu teithio llesol yn y fwrdeistref.

Amlinellodd y Swyddog Strategaeth Diogelwch y Ffyrdd, Pat Bates, yr hyn mae’r cyngor wedi gwneud i wella ffyrdd teithio llesol ers cyflwyno Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, ac amlinellodd gynlluniau’r awdurdod am y pum mlynedd nesaf.

Yn ystod y cyflwyniad, dywedodd Pat: “Ers 2017 mae’r cyngor wedi creu llwybrau cerdded a seiclo newydd, wedi gwella’r llwybrau a oedd yn bod eisoes ac wedi lledu palmentydd ar droetffyrdd prysur at ysgolion.

Darllen mwy>


25/04/2022

Cyflwyno’r Arolwg Dwylo i Fyny Teithio i’r Ysgol yn genedlaethol

Mae gan deithio llesol i’r ysgol nifer o fanteision iechyd, cymdeithasol ac economaidd i unigolion a chymunedau. Bydd cynyddu teithio llesol i’r ysgol yn cynyddu gweithgarwch corfforol, yn gwella ansawdd aer ac yn cael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd. Gall plant sy’n cerdded i’r ysgol yn rheolaidd gael rhwng 25-35% o’u hymarfer corff argymelledig bob diwrnod ysgol. Gall teithio llesol i’r ysgol ddatblygu hunanhyder hefyd; datblygu sgiliau o ran asesu a rheoli risg, datrys problemau, sgiliau cymdeithasol a gwella cyrhaeddiad addysgol. Ar lefel y gymuned a’r boblogaeth, gall cynyddu teithio llesol i’r ysgol leihau traffig cerbydau modur drwy newid moddol, gan leihau lefelau llygredd a lleihau peryglon ar y ffordd.

Cyn bo hir, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno’r Arolwg Dwylo i Fyny Teithio i’r Ysgol cenedlaethol ym mhob ysgol gynradd a gynhelir yng Nghymru.

Bydd yr arolwg hwn, sydd wedi’i ddilysu, yn mesur dull teithio i’r ysgol hunangofnodedig plant ac yn rhoi darlun clir a dealltwriaeth o lefelau teithio llesol i’r ysgol (e.e. cerdded, beicio, sgwtio) yng Nghymru.

Darllen mwy>


11/03/2022

Plant ysgol yng Nghaerdydd yn croesawu peilot 20mya mwyaf Cymru

Mae strydoedd mwy diogel yn achub bywydau ac yn gwella ansawdd bywyd, dyna oedd neges y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, heddiw wrth iddo groesawu cychwyn peilot 20mya mwyaf Cymru yng Ngogledd Caerdydd.

Mae Gogledd Caerdydd yn un o’r wyth peilot sy’n cael eu cynnal mewn cymunedau ledled Cymru i brofi’r broses o ostwng y terfyn cyflymder arferol ar heolydd preswyl a strydoedd siopa prysur Cymru o 30mya i 20mya erbyn 2023.

Mae’r treialon hyn yn rhan o ymgynghoriad mwy gan Lywodraeth Cymru i geisio deall beth mae’r cyhoedd yn ei feddwl. Mae grwpiau ffocws ar-lein gyda thrigolion cymunedau sy’n rhan o’r cymal cyntaf hwn, ymchwil annibynnol ac ymgynghoriad cyhoeddus, y cyhoeddir ei ganlyniadau heddiw, i gyd yn cael eu hystyried cyn rhoi’r fenter ar waith ym mhob man flwyddyn nesaf.

Darllen mwy>


24/02/2022

Gwaith i ddechrau ar Lwybr Teithio Llesol Treowen

Dechreuodd y gwaith ddydd Llun, Chwefror 21 ar y cam llwybr teithio llesol yn Nhreowen, y Drenewydd.

Yn dilyn ymgynghori blaenorol ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y sir, bydd y gwaith hwn yn gwella'r cyfleusterau cerdded a seiclo ar ochr ogleddol Heol Treowen o Ysgol Gynradd Treowen tua Ffordd Dolfor.

Bydd y palmant yn cael ei ledu i ddod yn lwybr i'w rannu gan feicwyr a cherddwyr.  Bydd hyn hefyd yn gwella wyneb y llwybr presennol ac yn gwella diogelwch i bawb, yn enwedig teuluoedd a disgyblion sy'n mynd i, ac o'r ysgol.  Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, dyma gam cyntaf cynllun ehangach a fydd yn cysylltu â llwybrau teithio llesol eraill yn y dref.

Darllen mwy>


08/02/2022

Dim tâl am deithio ar fws yng Nghasnewydd ym mis Mawrth

Bydd teithwyr ar fysiau yng Nghasnewydd ym mis Mawrth yn cael teithio am ddim, diolch i gynllun peilot newydd sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun, sy'n cael ei dreialu i annog pobl i deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy a gwyrddach, ar gael drwy'r dydd, bob dydd drwy gydol mis Mawrth ar wasanaethau bws ar draws ardal awdurdod lleol Casnewydd.

Hwyluswyr y cynllun yw Bwrdd Cyflawni Burns, a sefydlwyd i roi 58 o argymhellion Comisiwn Burns ar waith, bob un yn ceisio rhoi dewis arall i’r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn ne-ddwyrain Cymru fel nad oes gofyn defnyddio’r car preifat.

Darllen mwy>


07/10/2021

Gofyn am sylwadau preswylwyr ar welliannau i gylchfan Tesco

Fel rhan o’r cynllun Teithio Llesol a ariannir gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynllunio gwelliannau i gylchfan Tesco er mwyn sicrhau y gall cerddwyr groesi’r ffordd yn fwy diogel.

Bydd y cynllun yn cynnwys creu croesfannau ar bob un fraich o’r gyffordd (gweler y cynllun) a gosod ynysoedd canolog er mwyn caniatáu i bobl groesi’r ffordd mewn dau gam.

Bydd hefyd cyswllt ar gael o Stryd Alma gan fod y Cyngor yn cydnabod fod hwn yn llwybr poblogaidd i breswylwyr. 

Darllen mwy>


01/09/2021

Ymgynghori ynghylch y Map Rhwydwaith Teithio Llesol newydd

Hoffai Cyngor Sir y Fflint ddiolch i bawb a ymatebodd gyda’u syniadau am sut i wella’r ddarpariaeth i feicwyr a cherddwyr yn Sir y Fflint.

Rydym wedi pwyso a mesur sylwadau mwy na 2,600 o bobl ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall, ac ar sail hynny rydym wedi llunio drafft newydd o’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol.

Mae’r map newydd yn cynnwys llawer o gilomedrau ychwanegol o gymharu â’r un gwreiddiol.

Darllen mwy>