06/08/2020
Mae gyrrwr gwaharddedig a brofwyd yn bositif am gyffuriau ac a oedd yn eisiau hefyd, yn un o lawer o arestiadau a wnaed gan yr Uned Plismona Ffyrdd dros y penwythnos.
Dywedodd yr Arolygydd Nicky Collins o'r Uned Plismona Ffyrdd, “Mae gyrru o dan ddylanwad cyffuriau – boed yn feddyginiaeth ar bresgripsiwn neu sylweddau anghyfreithlon - yr un mor beryglus ag yfed a gyrru. Nid yn unig y mae'n drosedd ond mae hefyd yn gwbl annerbyniol sy'n peryglu bywydau.
"Gall cyffuriau effeithio eich meddwl a'ch corff mewn amrywiol ffyrdd sy'n golygu nad ydych yn gallu gyrru'n ddiogel. Nid yn unig hynny, gall yr effeithiau barhau am oriau neu hyd yn oed ddyddiau. Gall gyrru ar gyffuriau arwain at amserau ymateb arafach, canolbwyntio gwael, dryswch, blinder a bod yn orhyderus sy'n golygu eich bod yn cymryd risgiau diangen ac yn ymddwyn yn afreolus.
Darllen mwy>
15/07/2020
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y caiff gwersi gyrru yng Nghymru ailddechrau ar 27 Gorffennaf.
Bydd profion theori gyrru yn ailddechrau ar ddydd Llun 3 Awst, ynghyd â phrofion galwedigaethol, beic modur, car a threlar, a phrofion gyrru tractor.
Bydd profion gyrru yn ailddechrau ar ddydd Llun 17 Awst, yn ogystal â phrofion hyfforddwyr gyrru a gwiriadau safonau.
Darllen mwy>
27/01/2020
Bydd cyfle i yrwyr hŷn ym Mhowys loywi eu gwybodaeth am y ffyrdd, diolch i weithdai anffurfiol am ddim sy'n cael eu trefnu gan y cyngor sir.
Bydd Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn cynnal gweithdai gloywi theori gyrru ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mawrth 25 Chwefror am 10 am - Y Drenewydd
- Dydd Mercher 26 Chwefror am 1.30 pm - Machynlleth
- Dydd Llun 2 Mawrth am 10am - Crughywel
- Dydd Llun 9 Mawrth am 10am – Ystradgynlais
- Dydd Mawrth 10 Mawrth am 10 am - Rhaeadr Gwy
Yn benodol i yrwyr y sir sydd dros 65 oed, bydd hwn yn weithdy anffurfiol dros ddwy awr yn yr ystafell ddosbarth ac yn atgoffa pobl am Reolau'r Ffordd Fawr a gofynion o ran trwyddedau. Bydd hefyd yn trin pynciau megis gyrru gyda'r nos, cyfreithiau alcohol a meddyginiaeth a diogelwch personol tu ôl i'r olwyn.
Darllen mwy>
09/01/2020
Mae gyrrwyr ifanc ym Meirionnydd wedi cael eu targedu gan yr heddlu mewn ymgyrch sy’n herio gyrru gwrthgymdeithasol.
Ddaru swyddogion o Uned Diogelwch y Ffyrdd yr Heddlu Gwirfoddol ynghyd â’r tîm plismoma lleol gynnmal ymgyrch ar nos Wener, y 3ydd o Ionawr gan ganolbwyntio ar ardal Tywyn oherwydd cwynion gan drigolion lleol.
Mewn ymateb i’r cwynion ddaru Swyddogion Cefnogi Cymunedol gysylltu â’r Uned er mwyn trefnu ymgyrch i dargedu’r rhai sy’n gor-yrru ceir sydd â gwiriadau mecanyddol mewn modd gwrthgymdeithasol ar y Stryd Fawr yn Nhywyn.
Darllen mwy>
18/12/2019
Mae defnyddwyr ffordd yn cael eu hysbysu y gallent gael eu herlid os ydyn nhw’n anwybyddu arwyddion sy’n rhybuddio bod Pont Cleddau ar gau i gerbydau ag ochrau uchel pa fo’r tywydd yn wael.
Oherwydd gwyntoedd cryfion yn ystod y diwrnodau diwethaf, mae’r bont wedi bod ar gau ar brydiau i gerbydau ag ochrau uchel.
Ond nid yw hyn wedi atal rhai defnyddwyr ffordd sydd wedi parhau i groesi’r bont 820 metr er gwaetha’r posibilrwydd y gallai eu cerbyd ag ochrau uchel gael ei chwythu drosodd.
Darllen mwy>
25/11/2019
Fel rhan o'i ymrwymiad i fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae Cyngor Gwynedd wedi lansio ei fwriad i gyflwyno cerbydau trydan i'w fflyd dros y blynyddoedd i ddod.
Yn ystod y lansiad, tanlinellodd y Cyngor ei ymrwymiad i ychwanegu mwy o gerbydau gwyrdd a lleihau’r defnydd o gerbydau petrol a disel o’i fflyd yn y blynyddoedd i ddod.
Dros y degawd diwethaf, mae’r Cyngor wedi lleihau ei allyriadau carbon bron i 40%, ac mae’r ymrwymiad diweddaraf yma i gyflwyno cerbydau trydan i fflyd yr awdurdod yn ychwanegu at ymdrechion Gwynedd i wella ar y ffigwr yma.
Darllen mwy>
14/11/2019
Rhwng 18 a 24 Tachwedd bydd y Cyngor Sir Ddinbych yn cymryd camau cadarn i rwystro parcio gwrthgymdeithasol y tu allan i ysgolion. Fel rhan bydd swyddogion y Cyngor yn cynnal gwiriadau ar hap y tu allan i ysgolion ac yn cael gair â gyrwyr ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd.
Bydd swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu a Swyddogion Gorfodaeth Sifil yn mynd i’r ysgolion i geisio atal rhieni rhag parcio ar linellau igam-ogam a llinellau melyn dwbl.
Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae parcio a gyrru gwrthgymdeithasol o amgylch ysgolion y sir yn peryglu bywydau plant. Rydym yn annog rhieni i gadw at Reolau’r Ffordd Fawr a helpu i ddiogelu ein plant.
Darllen mwy>
11/11/2019
Wrth i swyddogion baratoi ar gyfer yr Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru a Gyrru ar Gyffuriau'r Nadolig, mae modurwyr yn cael eu hatgoffa y byddent yn parhau i weithredu ar y rhai sy’n cael eu dal yn yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau.
Cafodd arestiadau eu gwneud yr yn Y Rhyl, Trawsfynydd, Shotton, Caernarfon, Porthmadog, Bodelwyddan, Llandudno, Caerwys, Brychdyn, Wrecsam a Bangor.
Meddai’r Rhingyll Dros Dro, Darren Newby o’r Uned Plismona Ffyrdd, "Er gwaethaf rhybuddion yn ymwneud â pheryglon yfed a gyrru mae pobl yn parhau i beryglu eu bywydau a bywydau eraill drwy yrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.
Darllen mwy>
11/11/2019
Ymunodd Ken Skates AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth, â Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Lis Burnett, i agor yr A4226 newydd, a elwir yn lleol yn Lôn Pum Milltir.
Drwy gyd-brosiect a welodd buddsoddiad o fwy nag £20 miliwn, bydd y llwybr newydd, sy’n rhedeg o gyffordd Sycamore Cross yr A48 i gylchfan Weycock Cross yn y Barri, yn fwy diogel na’r hen ffordd ac yn cyflymu eich taith.
Mae’r cynllun hefyd yn dod â manteision amgylcheddol pwysig, gydag amrywiaeth o blanhigion ar hyd y llwybr yn creu coridor ecolegol.
Darllen mwy>
31/10/2019
Cyflwynwyd neges graffig yn arddangos goblygiadau gyrru o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol i bobl ifanc Sir Benfro.
Wedi ei anelu at yrwyr newydd, neu ddarpar yrwyr, roedd digwyddiad diogelwch y ffyrdd ‘Get Smashed’ yn ail-greu effeithiau andwyol damwain ffordd trwy gyfryngau gweledol, sŵn ac arogleuon.
Gwyliodd y bobl ifanc DVD o’r enw ‘Could you live with yourself?’ oedd yn adlewyrchu’r ddamwain a laddodd Karen Boulcott oedd yn gyd-deithiwr ar feic modur yn 2006.
Darllen mwy>