Newyddion

16/08/2021

Terfyn cyflymder newydd o 20mya yn cael ei gyflwyno mewn ardal helaeth o Lanelli

Mae terfyn cyflymder newydd o 20mya yn cael ei gyflwyno mewn ardal helaeth o Lanelli fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder sydd wedi'i rhagosod yn genedlaethol.

Mae Gogledd Llanelli, sy'n cynnwys Dafen, rhai rhannau o Felin-foel ac ardal Llanerch, wedi'i dewis fel un o wyth cymuned yng Nghymru i dreialu terfyn cyflymder cenedlaethol arafach o 30mya i 20mya mewn ardaloedd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr.

Mae tystiolaeth yn dangos bod cyflymderau arafach yn arwain at lai o wrthdrawiadau ac yn lleihau difrifoldeb anafiadau, ac yn enwedig mewn mannau lle cyflwynir terfynau cyflymder o 20mya, mae gostyngiad yn nifer y rhai sy'n cael eu hanafu.

Darllen mwy>


09/08/2021

Gwaith yn dechrau'n fuan ar welliannau teithio llesol Heol y Bont-faen

Yr wythnos nesaf bydd gwaith yn dechrau ar welliannau teithio llesol rhwng Cylchfan Waterton a phont y rheilffordd ar Heol y Bont-faen ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yn rhan o'r cynllun gwerth £715,000 bydd y droedffordd yn cael ei lledu a bydd croesfan twcan yn cael ei gosod yng nghyffordd Ffordd York ar Heol y Bont-faen. Bydd y briffordd hefyd yn cael ei hail-wynebu ger y gyffordd.

Disgwylir y bydd gwaith yn dechrau ar 9 Awst ac yn para am oddeutu 17 wythnos.

Darllen mwy>


05/08/2021

Addurno isffyrdd yn Nhorfaen

Mae staff a gwirfoddolwyr Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn dod â lliw i isffyrdd dros yr haf.

Yn ddiweddar, addurnodd y tîm isffordd yn y Ddôl Werdd gan ei gwneud yn fwy deniadol i’r cyhoedd ei defnyddio.

Mae Chwarae Torfaen yn bwriadu gwneud yr un peth i 6 o isffyrdd eraill yn Nhorfaen erbyn diwedd yr haf.

Darllen mwy>


16/07/2021

Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddiad o Ganllawiau y Ddeddf Teithio Llesol 2021

Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

“Mae llwyddo i newid o geir preifat i gerdded a beicio yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein targed allyriadau di-garbon net, ac yn un o ymrwymiadau allweddol Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni.

“Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bobl yng Nghymru gael mynediad at lwybrau cerdded a beicio o safon uchel sy'n cysylltu â’i gilydd o ble maent yn byw i'r man lle mae angen iddynt fynd. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynllunio a chyflwyno rhwydweithiau o'r llwybrau hynny. Heddiw rwy'n cyhoeddi Canllawiau y Ddeddf Teithio Llesol wedi'u diweddaru i helpu i gyflawni'r ddyletswydd hon.

Darllen mwy>


09/07/2021

Strydoedd mwy diogel yn achub bywydau

Mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, wedi cadarnhau y bydd cynlluniau i leihau'r terfyn cyflymder safonol cenedlaethol yng Nghymru o 30mya i 20mya ar ffyrdd mewn ardaloedd preswyl ac ar strydoedd prysur i gerddwyr, yn rhan o flaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer eleni.

Os caiff y ddeddfwriaeth ei phasio, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno'r newid a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i achub bywydau, i ddiogelu’n cymunedau ac i wella ansawdd bywyd pawb.

Mae cam cyntaf y newid hwn yn cael ei gyflwyno mewn wyth cymuned ledled Cymru eleni er mwyn casglu data a datblygu arferion gorau cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno'n llawn yn 2023. Yn rhan o’r gwaith hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad heddiw er mwyn i bobl gael dweud eu dweud am y newid cyn i'r ddeddfwriaeth angenrheidiol gael ei gosod. Bydd yr ymgynghoriad yn para 12 wythnos ac yn dod i ben ar 30 Medi

Darllen mwy>


06/07/2021

Cymeradwyo llwybr teithio llesol parhaol ar hyd Heol y Bontfaen

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer llwybr teithio llesol ar hyd Heol y Bontfaen a fydd yn cyflawni'r cyswllt sylweddol olaf yn rhwydwaith Pencoed i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Ar ôl ei gwblhau, bydd y rhwydwaith teithio llesol Pencoed i Ben-y-bont ar Ogwr yn cysylltu â'r rhwydwaith teithio llesol sydd eisoes yn bodoli sy'n arwain i Fracla, yn ogystal â Llwybr 885 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy'n cysylltu canol y dref â Gorsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr, Broadlands a Thondu.

Fel rhan o'r cynllun £1.8m sy'n cael ei ariannu gan Grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru,

Darllen mwy>


30/06/2021

Adleoli croesfan Cylchfan yr Ynys (A4059) yn Aberdâr

Mae hysbysiadau cyhoeddus wedi'u cyhoeddi yn rhan o'r cynlluniau i adleoli'r groesfan i gerddwyr ar Gylchfan yr Ynys (A4059) yn Aberdâr er mwyn gwella'r cysylltiadau rhwng canol y dref, yr ysgol a'r ganolfan hamdden, a gwella llif y traffig ar yr A4059.

Ar hyn o bryd, mae dwy groesfan ar Gylchfan yr Ynys – croesfan twcan a phont droed serth dros y ffordd. Mae'r rhain yn galluogi cerddwyr i symud rhwng Stryd y Dug ac ysgol a safle hamdden Sobell, ac i gyfeiriad Gorsaf Reilffordd Aberdâr, Tresalem ac Aber-nant.

Cynllun arfaethedig y Cyngor yw cael gwared ar y ddwy groesfan, gan gynnwys y goleuadau traffig ar y Gylchfan, a gosod pont Teithio Llesol newydd dros Afon Cynon a chroesfan newydd ar yr A4059 yn eu lle. Lleoliad y bont fydd tua 80 metr i'r de, rhwng cefn Canolfan Hamdden Sobell a chefn Gorsaf Fysiau Aberdâr.

Darllen mwy>


17/05/2021

Cerdded a beicio – eich dewis cyntaf ar gyfer siwrneiau lleol

Wefan Commonplace - Mae hon yn fenter genedlaethol yng Nghymru. Bob tair blynedd, mae awdurdodau lleol Cymru’n cynnwys pobl leol wrth ddiweddaru eu cynlluniau ar gyfer eu rhwydweithiau teithio llesol. Mae deddfwriaeth unigryw yng Nghymru – Deddf Teithio Llesol (Cymru) – sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau wneud hyn, ac mae’n cyflwyno uchelgais glir i gerdded a beicio fod yn ddewis amlwg ar gyfer siwrneiau lleol. I wneud hyn yn iawn, mae angen i bobl leol gael cyfrannu at y drafodaeth ar y mannau sydd angen cyfleusterau, fel bod mwy o bobl yn teimlo eu bod yn gallu dewis cerdded a beicio yn hytrach na’r car ar gyfer siwrneiau lleol byrion. Felly, fe’ch anogwn i ddweud eich dweud trwy glicio ar ardal sy’n gyfarwydd i chi ar y map a dweud wrth eich cyngor ble rydych chi’n meddwl y gellid gwella llwybrau cerdded a beicio. Gadewch gymaint o sylwadau ag y dymunwch, gan y bydd pob syniad a rannwch yn helpu i oleuo cynlluniau’r cyngor ar gyfer gwneud gwelliannau.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar drefi penodol ym mhob ardal awdurdod lleol, ac ar y mapiau fe welwch y trefi hyn wedi’u nodi â chysgod ar y gwefannau Commonplace. Rhain yw’r aneddiadau a ddiffinnir fel prif flaenoriaethau ar gyfer gweithredu arnynt yn ôl Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Dyma’r lleoliadau sydd â’r potensial mwyaf i bobl ddewis cerdded neu feicio am mai dyma leoliad cyfleusterau y mae pobl yn teithio pellteroedd byr i’w cyrraedd yn rheolaidd – ysgolion, canolfannau hamdden, safleoedd cyflogaeth, mannau siopa lleol a chyfnewidfeydd trafnidiaeth.

Dweud eich dweud a rhannu’r neges
Nawr, dewiswch 'Dweud eich dweud' i ddewis yr ardal Cyngor yr hoffech wneud sylwadau amdani. Yr awdurdodau lleol sy’n rheoli’r ymgynghoriad drostynt eu hunain, felly os hoffech wneud sylwadau am ardal ar draws ffin sirol arall, bydd angen ichi ddod yn eich ôl i’r dudalen hon a dewis y map perthnasol arall. Os nad yw’r cyngor rydych chi am gynnig sylwadau iddynt wedi lansio eu hymgynghoriad eto, yna nodwch eich cyfeiriad ebost ac fe gewch chi hysbysiad pan fydd yr ymgynghoriad hwnnw’n fyw.

Darllen mwy>


17/05/2021

Bydd croesfan newydd i gerddwyr yn sicrhau llwybrau diogel i'r ysgol yn Hirwaun

Bydd y gwaith o adeiladu croesfan newydd i gerddwyr ar Heol Aberhonddu yn Hirwaun yn cychwyn ddydd Llun. Mae'r cynllun yn rhan o waith Llwybrau Diogel yn y Gymuned y Cyngor - gwaith sydd wedi elwa o fuddsoddiad Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Bydd y man croesi diogel newydd ar gyfer y gymuned wedi'i leoli ger cyffordd Heol Aberhonddu a Stryd y Groes er mwyn creu ardal fwy diogel i gerddwyr sy'n dymuno croesi'r briffordd. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys gosod goleuadau stryd, palmant ac ymylon newydd i wella'r ardal yma.

Mae'r groesfan i gerddwyr yn cael ei hariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gyd-fynd â chyfleusterau Ysgolion yr 21ain Ganrif newydd gwerth £10.3 miliwn yn Ysgol Gynradd Hirwaun. Roedd y cyfleusterau'n fuddsoddiad ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

Darllen mwy>


27/04/2021

Gwelliannau ar gyfer cerdded a beicio yn Abertawe

Disgwylir i gyfres o lwybrau cerdded a beicio Teithio Llesol gael eu datblygu mewn ardaloedd yn Abertawe i helpu i wella'r amgylchedd lleol a helpu pobl i gadw'n iach.

Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn dros £3 miliwn drwy raglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a ddefnyddir i greu nifer o lwybrau defnydd a rennir mewn cymunedau ar draws y ddinas.

Bydd y llwybrau newydd yn cysylltu â llwybrau cerdded a beicio presennol a byddant yn helpu i ehangu'r isadeiledd beicio a cherdded ar draws Abertawe.

Darllen mwy>