18/10/2019
Mae menter Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhwystro gweithgaredd troseddol wedi arwain at ganslo dros 300 o bolisïau yswiriant yn cael oherwydd gwaith gan Uned Plismona’r Ffyrdd ynghyd â thimau plismona lleol.
Mae Ymgyrch Confine yn targedu’r rhai sy’n achosi niwed mwyaf yn ein cymunedau ac sydd wedi methu a datgelu eu heuogfarnau blaenorol i’w cwmnïau yswiriant.
Mae’r ymgyrch yn gweld swyddogion yn canolbwyntio ar y broblem o ‘dwyll ceisiadau’ lle maent yn amau fod unigolyn heb ddatgelu'r wybodaeth angenrheidiol drwy wneud ymholiadau â’r cwmni yswiriant perthnasol.
Darllen mwy>
27/09/2019
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn lansio cynllun diogelwch ar ffyrdd gwledig i annog gyrwyr i yrru'n fwy gofalus.
Mae ffigurau'n dangos fod bron i 120 o bobl wedi cael eu hanafu'n ddifrifol a bod 26 o bobl wedi cael eu lladd ar ffyrdd gwledig yn y sir yn y ddwy flynedd diwethaf.
Cafodd tua 125 o wrthdrawiadau difrifol eu cofnodi rhwng 2016 a 2018, ac roedd 23% o'r rheiny yn cynnwys gyrwyr ifanc rhwng 17 a 24 oed.
Darllen mwy>
14/08/2019
Bydd rhagor o bwyntiau gwefru yn cael eu gosod ledled Sir Gaerfyrddin ar gyfer cerbydau trydan.
Y lleoliadau diweddaraf i elwa ar bwyntiau gwefru cerbydau trydan yw rhyw 26 safle yn Llanelli, Porth Tywyn, Rhydaman, Caerfyrddin, Cwm Gwendraeth a Llandeilo.
Bydd y pwyntiau gwefru arfaethedig 7kw-22kw (gwefrwyr cyflym) yn gwefru cerbyd trydan cydnaws mewn 3-5 awr. Gellir dod o hyd i leoliadau’r holl bwyntiau gwefru presennol ar ein gwefan
Darllen mwy>
19/06/2019
Mae yfed a gyrru'n parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig i Heddlu Gwent a dydd Gwener 7 Mehefin cynhaliodd Uned Cymorth Ardal y Dwyrain a swyddogion lleol ymgyrch traffig arbenigol i wneud y ffyrdd o gwmpas Cas-gwent, Tyndyrn a Chil-y-coed yn fwy diogel.
Yn ystod yr ymgyrch 11 awr cafod naw o bobl eu harestio, atafaelwyd dau gerbyd a chyhoeddwyd tri Hysbysiad o Drosedd Traffig.
Dyma'r canlyniadau llawn:
Darllen mwy>
03/06/2019
Anogir preswylwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych sy'n berchen ar garafanau neu faniau gwersylla i fanteisio ar wiriadau pwyso cerbydau am ddim a chyngor diogelwch - i sicrhau eu bod yn aros o fewn y gyfraith.
Mae Swyddogion Safonau Masnach Conwy, Safonau Masnach Sir Ddinbych ac adran Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru yn cynnig sesiynau “Gwirio Pwysau Eich Cerbyd” am ddim yn y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a'r amseroedd canlynol.
- 7 Mehefin – 12 pm - 4pm
- 21 Mehefin – 12 pm - 4pm
- 19 Gorffennaf - 9am - 1pm
- 2 Awst – 12pm - 4pm
- 16 Awst – 12pm - 4pm
Nid oes angen i bobl drefnu apwyntiad, gallant alw heibio rhwng yr amserau rhestredig ar y dyddiadau a grybwyllir a darganfod a yw eu cerbydau o fewn y pwysau cyfreithiol, a gallant sgwrsio â swyddog o Dîm Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru am ddiogelwch eu carafán / cerbyd gwersylla.
Darllen mwy>
24/04/2019
Bydd gyrwyr sy’n parcio’n anghyfreithlon yn cael eu herlyn gan Gyngor Dinas Casnewydd o 1 Gorffennaf pan ddaw rheoliadau Gorfodi Parcio Sifil i rym.
Yn y misoedd diwethaf, mae gorchmynion traffig wedi eu profi a phan fu angen, diweddarwyd neu ddisodlwyd arwyddion gorfodi parcio a llinellau melyn sengl a dwbl yn barod at y diwrnod mawr.
Mae’r cyngor hefyd wedi bod yn recriwtio tîm o 12 swyddog gorfodi sifil a fydd yn patrolio’r strydoedd trwy’r ddinas o 1 Gorffennaf i sicrhau nad yw gyrwyr yn torri’r rheolau.
Darllen mwy>
02/04/2019
Mae gwisgo gwregys diogelwch yn rhywbeth mae'r rhan fwyaf o yrwyr a theithwyr yn ei wneud yn reddfol ers blynyddoedd, ond fel y canfu Uned Cymorth Ardal (UCA) y Dwyrain, mae rhai pobl yn dal i gymryd y risg.
Rhwng 11 a 24 Mawrth 2019, cymerodd UCA y Dwyrain ran mewn pythefnos o weithredu pwrpasol i atal pobl rhag defnyddio'r ffyrdd o gwmpas Gwent mewn modd peryglus, gan gynnwys peidio â gwisgo gwregys diogelwch.
Fel rhan o'r ymgyrch, defnyddiodd UCA y Dwyrain gerbyd HGV a oedd wedi ei addasu'n bwrpasol er mwyn iddyn nhw weld a chanfod y bobl hynny a oedd yn gyrru heb y rhagofalon angenrheidiol yn well. Yn ystod yr ymgyrch cyhoeddwyd cyfanswm o 36 Hysbysiad Trosedd Traffig gan gynnwys rhai i yrwyr a oedd yn gyfrifol am sicrhau bod plant a theithwyr yn gwisgo gwregys yn gywir.
Darllen mwy>
19/03/2019
Mae myfyrwyr y Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg Sir Benfro wedi bod yn tynnu sylw at y ‘5 Angheuol’ wrth yrru.
Gwahoddwyd y myfyrwyr i greu ffilmiau byrion, gwreiddiol yn portreadu peryglon alcohol a chyffuriau, cyflymder, esgeulustod, peidio gwisgo gwregysau diogelwch a’r defnydd o ffonau symudol – y pum prif reswm dros ddamweiniau ac anafiadau ar y ffordd yng Nghymru.
Cafodd eu fideos eu cyflwyno mewn cystadleuaeth a drefnwyd ar y cyd gan y Coleg a thîm diogelwch ffyrdd Cyngor Sir Penfro.
Darllen mwy>
12/02/2019
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn mynd i’r afael â gyrwyr a allai fod yn rhoi bywydau mewn perygl drwy orlwytho eu cerbydau.
Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos â’i bartneriaid o Heddlu Gogledd Cymru a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon sy’n gysylltiedig â gorlwytho cerbydau, a chynnal gwiriadau ar hap i weld a yw pobl yn cydymffurfio â’r gyfraith.
Ers mis Medi 2017, mae 338 o gerbydau wedi’u pwyso yn Sir Ddinbych. Adroddwyd bod rhaid i 58 o’r cerbydau hynny gymryd camau i ddiogelu eu cerbydau, cyflwynwyd 30 o rybuddion ysgrifenedig, 14 rhybudd ar lafar / cyngor a nodwyd sawl trosedd arall, yn cynnwys defnydd o ddisel coch, dim yswiriant na threth, dim trwydded, llwythau anniogel, teiars diffygiol, hongiad diffygiol, olwynion rhydd a gyrru ar gyffuriau.
Darllen mwy>
28/01/2019
Mae diogelwch plant gerllaw ysgolion o'r pwys mwyaf i ni ac mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn credu y dylai cyffiniau ein hysgolion fod yn hafan ddiogel ac nid yn fygythiad oherwydd materion parcio.
Mae Tîm Diogelwch Ffyrdd y cyngor wedi cynnal Ymgyrch Parcio Ger Gatiau Ysgolion ar draws y sir mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i lunio baneri i'w harddangos y tu allan i bob ysgol i gynyddu ymwybyddiaeth yn ogystal ag addysgu'r holl ddisgyblion - a'u hannog i fod yn ddylanwad cadarnhaol ar y bobl sy'n eu cludo i'r ysgol.
Fodd bynnag, mae'n ymddangos mai'r ffordd fwyaf effeithiol i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol hon yw cymryd camau gorfodi yn erbyn gyrwyr sy'n parhau i wneud hyn.
Darllen mwy>