22/01/2021
Ni fydd stryd yn Abertawe'n gorfod colli ei holl goed diolch i fuddsoddiad o filiynau o bunnoedd i wella'r ddarpariaeth feicio yn y ddinas.
Derbyniodd Cyngor Abertawe fwy na £5.1 miliwn yr haf diwethaf er mwyn datblygu llwybrau beicio Teithio Llesol yn y ddinas.
Bwriedir gosod naw cilomedr o lwybr beicio newydd ar draws y ddinas.
Darllen mwy>
11/01/2021
Mae modd i drigolion ddweud eu dweud am y llwybrau cerdded a beicio yn Rhondda Cynon Taf, ynghyd â nodi pa welliannau yr hoffen nhw eu gweld yn y dyfodol, trwy gymryd rhan yn ymgynghoriad Teithio Llesol diweddaraf y Cyngor.
Ym mis Hydref 2020, cytunodd y Cabinet y dylai'r Cyngor gynnal ymgysylltiad cyhoeddus helaeth pellach ynglŷn â'i gynlluniau o ran Teithio Llesol yn y dyfodol - a hynny oherwydd bod yr Aelodau'n cydnabod y buddion economaidd, iechyd ac amgylcheddol o ran annog trigolion i gerdded a beicio yn amlach, yn rhan o'u harferion beunyddiol.
Bydd yr ymgynghoriad yn helpu'r Cyngor i ddiweddaru ei Fap Rhwydwaith Integredig, sy'n nodi'r dyheadau ar gyfer buddsoddi mewn Teithio Llesol dros y 15 mlynedd nesaf - i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn ystod mis Rhagfyr 2021.
Darllen mwy>
05/01/2021
Mae gwaith i ymestyn y llwybr ar Ffordd Llanidloes yn y Drenewydd i'r Coleg a'r theatr i fod i ddechrau yn y Flwyddyn Newydd.
Bydd y gwelliannau hyn, sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn gwblhau'r prif lwybrau Teithio Llesol yn y dref a nodwyd mewn ymgynghoriad â thrigolion, busnesau a chymunedau lleol. Bydd y llwybrau Teithio Llesol hyn yn y Drenewydd yn darparu rhwydwaith diogel o lwybrau ar gyfer pob defnyddiwr, gan gynnwys cerbydau, cerddwyr a beicwyr.
Fel rhan o'r gwelliannau a gynlluniwyd, bydd y llwybr dan Bont Nantoer yn cael ei ledu, a fydd yn lleihau'r risg diogelwch i gerddwyr a beicwyr, (ac yn enwedig pobl ifanc sy'n cerdded i'r coleg ac yn ôl).
Darllen mwy>
22/12/2020
Amrywiaeth o wybodaeth ei gasglu drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru am deithio llesol gan bobl yn ystod Ebrill 2019 i Fawrth 2020.
Caiff teithio llesol ei fesur fel cerdded neu feicio am o leiaf 10 munud fel dull o dethio i gyrraedd cyrchfan benodol. Nid yw’n cynnwys cerdded neu feicio er pleser, rhesymau iechyd neu hyfforddiant.
Cafodd y cwestiynau teithio llesol yn Arolwg Cenedlaethol diweddaraf Cymru eu holi yn Arolwg Cenedalethol diweddaraf Cymru i oedolion 16+ a hŷn. Mae data teithio llesol ar gyfer plant ar gael yn ein datganiad Ebrill 2018 i Fawrth 2019.
Darllen mwy>
21/12/2020
Cafodd Pont Sant Alban ym Mlaenrhondda ei hailagor i gerbydau, beicwyr a cherddwyr heddiw, ddydd Gwener, yn dilyn y cynnydd da sydd wedi'i wneud ar y bont ym misoedd yr Hydref.
Cafodd y bont ei hailagor ddydd Gwener, 11 Rhagfyr, yn dilyn yr archwiliad diogelwch y ffyrdd a gafodd ei gwblhau ddydd Iau. Yn rhan o gamau olaf y cynllun, cafodd goleuadau stryd, system ddraenio a phalmant eu gosod ar y bont. Cafodd gwaith gosod wyneb newydd a phaentio llinellau gwyn ei gwblhau'r wythnos yma.
Cafodd pont Sant Alban ei hadeiladu dros Afon Cwm Rhondda a'r rheilffordd yn yr 1930au. Yn 2016, cytunodd Cabinet y Cyngor i adeiladu pont newydd a chafodd cyfanswm o £1.78 miliwn ei ddyrannu ar gyfer y cynllun yn 2017/18 yn rhan o raglen #buddsoddiadRhCT. Cafodd rhagor o gyllid ei ddyrannu wrth i'r cynllun fynd yn ei flaen. Cyfanswm cost y cynllun yw £2.09 miliwn.
Darllen mwy>
03/12/2020
Eleni, gallai rhai rhestrau Nadolig gynnwys e-sgwter, sydd wedi dod yn olygfa fwyfwy cyffredin wrth i bobl chwilio am ddewis arall yn lle trafnidiaeth gyhoeddus neu ffordd i ddefnyddio llai ar y car
Hoffai Diogelwch Ffyrdd Cymru hysbysu unrhyw un sy'n ystyried prynu e-sgwter ei bod yn anghyfreithlon defnyddio e-sgwter sy’n perthyn i rywun yn breifat ar ffyrdd cyhoeddus, ar balmentydd neu ar lwybrau beicio
Peidiwch â mentro cael dirwy o £300, chwe phwynt cosb ar eich trwydded yrru neu weld eich anrheg Nadolig newydd yn cael ei chipio. Hefyd, i yrrwr sydd wedi pasio’i brawf gyrru yn ystod y ddwy flynedd diwethaf gallai olygu cael eich anghymhwyso rhag gyrru a'r angen i ailgymryd y prawf theori a gyrru ymarferol.
Darllen mwy>
10/11/2020
Sefydliadau blaenllaw yn y sector cyhoeddus ledled Gwent sydd wedi ymrwymo i'r Siarter Teithio Iach, sef ymrwymiad sy'n cefnogi ac yn annog teithio cynaliadwy.
Mae'r siarter yn nodi 15 o ymrwymiadau uchelgeisiol, i hyrwyddo cerdded, beicio, gweithio ystwyth a'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau allyriadau isel iawn.
Mae'r sector cyhoeddus yng Ngwent yn cyflogi bron i un o bob tri oedolyn sy'n gweithio. Trwy weithio gyda'n gilydd, nod sefydliadau'r sector cyhoeddus ar draws Gwent yw cynyddu nifer y teithiau cynaliadwy a wneir i weithleoedd ac yn ôl, gan leihau'r effaith ar yr amgylchedd a gwella iechyd yng Ngwent ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Darllen mwy>
02/11/2020
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn am eich barn am nifer o gynlluniau priffyrdd yn Shotton sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn nifer o bryderon gan breswylwyr ac aelodau lleol ynglyn â’r lefelau cynyddol o dagfeydd a chyflymder traffig ger Ysgol Ty Ffynnon ac Ysgol Croes Atti. Codwyd pryder penodol ynglyn â modurwyr yn anwybyddu’r terfyn cyflymder cynghorol o 20mya yn agos at yr ysgolion, ac mae nifer o breswylwyr yn bryderus am ddiogelwch y plant sy’n defnyddio’r llwybr yma’n ddyddiol.
Mae nifer o’r problemau a nodwyd ar hyd y llwybrau yn ymwneud â lefelau uchel o gerbydau’n cael eu defnyddio a thagfeydd cysylltiedig yn yr ardaloedd yn agos at yr ysgolion ac ar hyd nifer o lwybrau i’r ysgol.
Darllen mwy>
15/10/2020
Mae'r Cabinet wedi cytuno i gynnal gwaith helaeth i ymgysylltu â'r cyhoedd am ei gynlluniau Teithio Llesol - yn rhan o adolygiad i Fap Rhwydwaith Integredig y Cyngor sydd i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd hyn i fod i'w gyflwyno erbyn Medi 2021, ond bellach mae wedi'i ymestyn hyd ddiwedd mis Rhagfyr 2021.
Yn y cyfarfod rhithwir ddydd Mawrth, 13 Hydref, trafododd Aelodau o'r Cabinet adroddiad Swyddog a oedd yn nodi buddion economaidd, iechyd ac amgylcheddol Teithio Llesol, gan ychwanegu bod buddsoddiad cynyddol ar gael i ariannu darpariaeth newydd a gwella'r llwybrau cerdded / beicio cymunedol sy'n bodoli eisoes.
Cyflwynodd y Cyngor ei Fap Rhwydwaith Integredig cyntaf i Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2017, gan nodi dyheadau Teithio Llesol lleol ar gyfer y 15 mlynedd nesaf. Cafodd ei llywio gan ymgynghoriad â thrigolion, busnesau, grwpiau cymunedol a sefydliadau - ac mae ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor.
Darllen mwy>
07/10/2020
Mae ymateb gofal iechyd brys yng Ngwent ar fin cael hwb – ac un sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd hefyd.
Yn dilyn lansio’r gwasanaeth yng Nghaerdydd a’r Fro, yr wythnos hon dadorchuddiodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei feiciau Uned Ymateb Beiciau newydd ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Ddydd Gwener cafodd pedwar beic newydd wedi’u gwneud yn arbennig eu trosglwyddo i’r gwasanaeth ambiwlans gan y Bike Shed ym Mhontcanna, Caerdydd. Byddant yn cael eu defnyddio ar strydoedd Casnewydd yn gyntaf.
Darllen mwy>