31/03/2025
Mae cynlluniau i dorri swyddi hebryngwyr croesfannau ysgol ar naw safle ysgol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael eu tynnu'n ôl ar ôl ystyried adborth gan y gymuned.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ymgynghori ar ei gynigion cyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26, a oedd yn cynnwys posibilrwydd o gael gwared ar naw safle hebryngwyr croesfannau ysgol nad oedden nhw’n bodloni meini prawf asesu Canllawiau Cenedlaethol Hebryngwyr Croesfannau Ysgolion.
Fodd bynnag, fe wnaeth y cynnig gael llawer o sylw yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, ac roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn anghytuno ag ef.
Ar ôl ystyried yr holl adborth yn ofalus, cytunodd Cabinet y Cyngor i dynnu'r naw safle croesfannau ysgolion yn ôl o'r arbedion cyllidebol arfaethedig mewn cyfarfod arbennig y Cyngor fis diwethaf.
Bydd Ysgol Gynradd Crymlyn Lefel Uchaf, Ysgol Gynradd Cefn Fforest, Ysgol Gynradd Brynawel, Ysgol Gynradd Tynewydd, Ysgol Gynradd Ty’n-y-wern, Ysgol Gynradd Fochriw, Ysgol Gynradd Ystrad Mynach, Ysgol Gymraeg Bro Allta ac Ysgol Gynradd y Rhosyn Gwyn i gyd yn parhau i ddarparu gwasanaeth hebryngwyr croesfannau ysgol. Cafodd gwasanaeth Ysgol Gynradd Machen ei dynnu yn ôl o'r rhestr arfaethedig cyn i'r ymgynghoriad ddod i ben oherwydd ailasesu.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, "Rydw i’n siŵr y bydd y gymuned yn croesawu'r penderfyniad hwn, sy'n dangos yn glir ein bod ni wedi gwrando ar yr adborth a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad. Ar ôl ystyried yr adborth yn ofalus, rydyn ni wedi cytuno i gadw'r hebryngau croesfannau ysgolion ym mhob ysgol gynradd".
"Byddwn i’n annog trigolion i barhau i gymryd rhan yn ein gweithgaredd ymgynghori wrth i ni lywio ein ffordd drwy heriau ariannol digynsail, sy'n gofyn am rai penderfyniadau anodd iawn," ychwanegodd.
Darllen mwy>
02/09/2024
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn atgoffa gyrwyr am eu cyfrifoldebau wrth ddod ar draws Hebryngwyr Croesfannau Ysgol.
Mae Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn rhan annatod o'r gymuned mewn llawer rhan o Gymru; yn aml maen nhw wedi cynorthwyo plant, a hyd yn oed wyrion ac wyresau, y rhai oedd yn yr un ysgol flynyddoedd lawer yn ôl. Maen nhw'n wyneb cyfeillgar sydd bob amser yn ein cyfarch wrth gyrraedd yr ysgol ac yn ffarwelio â ni wrth inni droi am adre.
Maen nhw’n aelodau ymroddgar a gwerthfawr iawn o gymuned yr ysgol a'r gymuned ehangach sy'n troi allan, er gwaethaf y tywydd, i'n cadw ni i gyd yn ddiogel wrth groesi'r ffordd.
Darllen mwy>
18/06/2024
Dathlodd Ysgol Gynradd Pentyrch garreg filltir wych yn ddiweddar, wrth i Hazel Davies ddathlu 50 mlynedd o wasanaeth fel hebryngydd croesfan ysgol.
Yn adnabyddus am ddweud "Safe Journey Home" mae Hazel wedi rhoi ei bywyd i sicrhau diogelwch plant a'u teuluoedd ar y ffyrdd, a beth bynnag fo'r tywydd, mae wedi bod yn bresenoldeb cadarn a pharhaus yn yr ysgol.
Yn ystod ei chyfnod fel Swyddog Croesi Ysgol i Gyngor Caerdydd, dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Hazel am ei gwasanaethau ac mae ei hymrwymiad a'i hysbryd ysbrydoledig wedi ei gwneud yn ffigwr annwyl yn y gymuned. Mae hi wedi addysgu cenedlaethau ar ddiogelwch ar y ffyrdd ac mae hi hyd yn oed wedi ysbrydoli ei merch a'i gŵr, John, i ymgymryd â'r rôl.
Darllen mwy>
04/12/2020
Mae Gwobrau Diogelwch Ffyrdd Cymru yn cydnabod unigolion, grwpiau a sefydliadau sydd wedi gwneud ymrwymiad gwirioneddol i ddiogelwch ar y ffyrdd, a hynny uwchlaw a thu hwnt i'r hyn a ddisgwylid ganddynt fel arfer.
Yn draddodiadol, byddem yn gwahodd ein henillwyr i Gynhadledd flynyddol Diogelwch Ffyrdd Cymru i gasglu eu gwobr ond yn anffodus rydym wedi methu cynnal digwyddiad eleni.
Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, "Er gwaethaf blwyddyn anodd i bawb, mae Diogelwch Ffyrdd Cymru’n falch iawn o allu cydnabod cynifer o bobl haeddiannol sydd wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i fywydau pobl yn eu cymuned.
Darllen mwy>
03/01/2020
Mae nifer o swyddogion croesfannau ffordd Cyngor Bro Morgannwg wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Diogelwch Ffyrdd y Fro, yn Swyddfa’r Dociau yn y Barri.
Mae’r gwobrau blynyddol, a drefnir gan Dîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor y Fro, yn rhan o’r grŵp Datblygu Priffyrdd a Thrafnidiaeth, yn cydnabod a gwobrwyo cyfraniad y sawl sy’n gweithio fel hebryngwyr croesfannau ffordd ledled y sir.
Aeth y brif wobr ar gyfer Hebryngwyr Croesfannau’r Flwyddyn i Nicholas Latham, aelod poblogaidd o gymuned Ysgol San Helen. Mae Nicholas yn help disgyblion ar ran brysur o’r ffordd fawr ar Fryn Tynewydd.
Darllen mwy>
21/08/2019
Ar 10 Gorffennaf, yng nghynhadledd flynyddol Diogelwch Ffyrdd Cymru, dyfarnwyd gwobr Diogelwch Ffyrdd Cymru i Dawn Davies am ei gwasanaeth maith a'i hymroddiad fel Swyddog Hebryngwr Croesfannau Ysgol yn Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant am fwy na thair blynedd ar ddeg.
Enwebwyd Dawn Davies gan ei chydweithwyr yn y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer y wobr hon. Erbyn hyn, mae Dawn wedi rhoi’r gorau i’w swydd er mwyn dechrau pennod newydd yn ei bywyd.
Dywedodd Kayleigh Tonkins, aelod o Dîm Diogelwch ar y Ffyrdd, "Diolch yn fawr i Dawn gan ei holl gydweithwyr yn y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda hi a bydd y cyn ddisgyblion a’r disgyblion presennol yn gweld ei heisiau’n fawr. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth fach yn unig o’i gwaith caled a'i hymroddiad i sicrhau diogelwch disgyblion Ysgol Padarn Sant, boed law neu hindda.”
Darllen mwy>
17/01/2019
Mae Sandrea Howells, menyw lolipop boblogaidd o Stop and Call yng Ngwdig, wedi cadw ei siaced weladwy ar ôl pedwar degawd bron o gynorthwyo plant i groesi’r ffordd yn Abergwaun.
Ers 1981, mae Mrs Howells wedi cynorthwyo rhai cannoedd o blant ysgol i groesi Vergam Terrace oddi allan i Ysgol Gynradd Gatholig yr Enw Sanctaidd.
Cyflwynwyd anrhegion a chardiau i’r swyddog patrôl ysgol ymroddedig gan ddisgyblion a staff mewn cyfarfod arbennig yr wythnos ddiwethaf, a diolchodd Abigail Davies y pennaeth iddi am ei gwaith caled ers llawer blwyddyn.
Darllen mwy>