Hybu ymddygiad mwy diogel wrth yrru yn ymyl ceffylau
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn tanlinellu mor agored i niwed yw ceffylau a'u marchogion drwy ymgyrch sy'n atgoffa gyrwyr am eu cyfrifoldebau wrth rannu lle ar y ffordd gyda defnyddwyr ffyrdd sydd â cheffylau.
Ers dechrau'r fenter yn Sir Gaerfyrddin, mae posteri newydd yr ymgyrch sy’n cyd-fynd a'r fersiwn diweddaraf o Reolau’r Ffordd Fawr, wedi'u darparu bellach i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd y bartneriaeth, "Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn ddiolchgar i Gyngor Sir Gâr am ysgogi ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymysg gyrwyr a all gael ei rhoi ar waith bellach ledled Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
"Diolch hefyd i Gymdeithas Ceffylau Prydain am ddarparu data amhrisiadwy drwy'r adran riportio digwyddiadau ar eu gwefan nhw bhs.org.uk. Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod modd gosod y cyngor yn y fan lle mae'r angen mwyaf, mewn mannau lle mae llawer o ddigwyddiadau yn ogystal ag ar lwybrau sy'n cael eu defnyddio'n aml gan gymuned y ceffylau."
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod o Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Drafnidiaeth, Gwastraff a Gwasanaethau Seilwaith: "Rwy'n falch iawn fod yr ymgyrch yma, gafodd ei lansio yn Sir Gaerfyrddin yr haf diwethaf, yn cael ei hymestyn ledled Cymru erbyn hyn.
"Mae'n bwysig bod gyrwyr, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf gwledig yng Nghymru, yn ymwybodol bod ceffylau yn debygol o fod ar y ffordd a'u bod nhw'n eu trin nhw gyda pharch drwy beidio gyrru'n rhy gyflym a rhoi digon o le iddyn nhw."

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Julie James: "Yn aml, mae angen atgoffa modurwyr am y peryglon sy'n cael eu creu i geffylau a marchogion, yn enwedig wrth yrru ar ffyrdd cefn gwlad yn ystod y tymor gwyliau ac rwy'n ddiolchgar i Diogelwch Ffyrdd Cymru am gyflwyno'r ymgyrch bwysig iawn yma."
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn annog pobl i roi gwybod am ddigwyddiadau a damweiniau o hyd er mwyn ehangu’r gronfa wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cynnwys ceffylau. Bydd sicrhau data mwy cywir ar amlder a difrifoldeb digwyddiadau yn helpu i adnabod tueddiadau a gall gael ei ddefnyddio i amlygu a thaclo’r risg sy'n wynebu defnyddwyr ffyrdd sydd â cheffylau yn fwy effeithiol.
Mae modd rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn gyflym ac yn hawdd hefyd drwy ddefnyddio ffôn neu dabled, drwy gyfrwng ap di-dâl y BHS Horse i.
