Gwybod y gwahaniaeth rhwng e-feic a beic modur trydan
Yn dilyn ton o gipio beiciau ac arestio pobl ledled y wlad, hoffai Diogelwch Ffyrdd Cymru egluro'r gwahaniaeth rhwng beiciau trydan, sy’n cael eu nabod yn gyffredin fel e-feiciau, a beiciau modur trydan, gan fod y rhain yn ddulliau teithio pur wahanol.
Beic pedlo â chymorth trydan (EAPC) yw e-feic ac mae ganddo fodur trydan i helpu reidiwr wrth bedlo. Yn ôl y gyfraith nid yw’r modur yn cael gyrru'r beiciwr ar ei ben ei hun. Os yw'n gwneud hynny, mae'n cael ei ddosbarthu fel beic modur neu foped.
I reidio e-feic, rhaid i berson fod yn 14 oed o leiaf. Ond, does dim angen trwydded yrru arnoch a does dim angen i e-feic gael ei gofrestru, ei drethu na'i yswirio.
Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: "Gall e-feic fod yn hynod ddefnyddiol, p'un a ydyn nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer siwrneiau lleol mewn trefi a dinasoedd, neu wrth fentro ymhellach i ffwrdd – yn enwedig wrth fynd i'r afael â rhai o'r bryniau a'r mynyddoedd heriol rydyn ni’n enwog amdanyn nhw yng Nghymru! Gan ei bod yn dal yn ofynnol i'r reidiwr bedlo, mae'r manteision iechyd yn dal yn llawer mwy na theithio mewn cerbyd ac mae'n golygu y gall beicio fod ar gael i bron pob aelod o'r gymuned, yn enwedig gan fod e-feiciau ar gael i'w llogi erbyn hyn mewn sawl man ledled y wlad.
"Os yw beic yn bodloni gofynion EAPC, mae'n cael ei ddosbarthu yn yr un modd fel beic pedlo arferol. Mae hyn yn golygu bod modd ei reidio ar lwybrau beicio ac unrhyw le arall lle mae beic pedlo’n cael ei ganiatáu."
"Y cyfan rydyn ni’n ei wneud yw gofyn i'r cyhoedd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith ac nad ydyn nhw’n rhoi defnyddwyr eraill y ffyrdd mewn perygl."

Mae'n bwysig bod beicwyr yn deall bod rhaid i fodur e-feic gael allbwn pŵer nad yw’n fwy na 250 watt ac na ddylai’r modur allu gyrru'r beic wrth deithio ar fwy na 15.5mya. Os bydd modur e-feic yn gyflymach na hyn, byddwch yn ymwybodol nad yw'n gyfreithlon ar y ffordd.
Er y gall y gofynion technegol swnio ychydig yn gymhleth, gallwn ni’ch sicrhau y bydd manwerthwyr parchus yn gallu dweud wrthoch chi os yw'r beic rydych chi'n bwriadu ei brynu yn gwbl gyfreithlon ar y ffordd.
Dywedodd Arolygydd Shane Underwood, o Uned Plismona Ffyrdd a Gweithrediadau Arbenigol Heddlu Gwent:
“Mae unrhyw feic trydan nad yw’n bodloni rheolau EAPC yn cael ei ystyried i fod yn yr un dosbarth â beic modur neu moped, ac mae angen ei gofrestru a’i drethu.
“Mae’n hanfodol bod gan bobl y drwydded yrru a’r yswiriant cywir i ddefnyddio un a rhaid iddyn nhw wisgo helmed.
“Rydyn ni’n gofyn i bobl sy’n prynu e-feic sicrhau ei fod yn gwbl gyfreithiol i’w ddefnyddio ar y ffyrdd ac rydyn ni hefyd yn atgoffa pawb mai dim ond pobl 14 oed a hŷn sy’n cael defnyddio e-feic yn gyfreithiol.
“Byddwn yn cymryd camau cadarn yn erbyn unrhyw un sy’n cael ei ddal yn defnyddio e-feic sydd wedi cael ei addasu i alluogi i’r modur fynd yn gyflymach na 15.5mya, sydd ag allbwn o dros 250 watt neu sy’n cael ei reidio heb bedalu.”
Mae cymunedau ledled y wlad wedi wynebu nifer o ddigwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyrru peryglus gydag e-feiciau wedi'u haddasu, beiciau modur trydan a beiciau modur oddi ar y ffordd. Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn llwyr gefnogi’n cydweithwyr yn yr Heddlu wrth gipio'r cerbydau hyn sy’n cael eu reidio’n anghyfreithlon ac erlyn reidwyr sy'n peryglu aelodau diniwed o'r cyhoedd.
