02/11/2026
Mae cael golwg dda yn hanfodol i’ch helpu i yrru’n ddiogel. Dyma ein prif awgrymiadau i’ch helpu chi i weld yn glir wrth yrru.
Pryd i weld eich optometrydd
Dylech ymweld â’ch optometrydd os byddwch chi yn sylwi ar unrhyw newidiadau. Hyd yn oed os nad ydych chi’n sylwi ar unrhyw newidiadau yn eich golwg, rydym yn argymell archwiliadau llygaid rheolaidd i wneud yn siŵr bod eich llygaid yn iach a’ch bod yn gweld mor glir a chyfforddus â phosibl. I’r rhan fwyaf o bobl, rydym yn argymell archwiliad llygaid o leiaf bob dwy flynedd.
Y safonau
Y llinell ar siart prawf golwg yr optometrydd y mae’n rhaid i chi allu ei darllen yw’r llinell 6/12. Bydd eich optometrydd yn gallu dweud wrthych a allwch ei ddarllen, ac a oes angen i chi wisgo’ch sbectol i wneud hynny. Yr ail brawf y mae’n rhaid i chi ei basio i allu gyrru yw darllen plât rhif (yn yr arddull a gyflwynwyd yn 2001) o 20 metr i ffwrdd. Gallwch wirio hyn eich hun gartref. Rhaid i chi ddweud wrth y DVLA os: Na allwch fodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru mwyach, neu os yw cyflwr neu anabledd wedi gwaethygu ers i chi gael eich trwydded www.gov.uk/driving-medical-conditions Mae gyrru pan nad ydych yn addas yn feddygol i wneud hynny yn drosedd a gallech wynebu dirwy o hyd at £1,000. Gallech fod yn peryglu eich hun neu eraill.
Darllen mwy>
26/10/2026
Cafodd 21 o bobl eu harestio a 12 cerbyd eu hadfeddu ledled ardal de Cymru wrth i swyddogion gymryd rhan mewn wythnos genedlaethol o weithredu i dargedu troseddau cerbydau. Roedd y gwaith hwn yn rhan o Ymgyrch Alliance, sef ymgyrch cydgysylltiedig ar draws y Deyrnas Unedig gyda’r bwriad o fynd i'r afael â rhwydweithiau troseddu cyfundrefnol sy'n gyfrifol am ddwyn cerbydau a throseddau cysylltiedig.
Yn ystod yr ymgyrch, llwyddodd swyddogion o Heddlu De Cymru i adfeddiannu dyfeisiau electronig a ddefnyddir i ddwyn cerbydau di-allwedd ac eiddo roedd swyddogion yn amau ei fod wedi cael ei ddwyn, gan gynnwys ffyn golff a gitarau. Cafodd dyn 39 oed o Abertawe ei arestio a'i gyhuddo o ddau achos o ddwyn cerbyd yn ystod yr ymgyrch. Cafodd dyn 27 oed o Gaerdydd ei arestio a'i gyhuddo o bedwar achos o ddwyn cerbyd modur hefyd, ymhlith canlyniadau eraill.
Roedd gweithgareddau Heddlu De Cymru yn rhan o ymdrech genedlaethol sylweddol rhwng 32 o heddluoedd a phartneriaid o bob cwr o'r Deyrnas Unedig. Yn ystod yr wythnos, gweithredwyd mwy na 100 o warantau, arestiwyd dros 285 o bobl, a daethpwyd o hyd i 319 o gerbydau wedi'u dwyn gwerth rhyw £2.6 miliwn. Llwyddwyd hefyd i gau 8 o siopau anghyfreithlon sy’n gwerthu rhannau ceir, a elwir yn "chop shops", a tharfu ar 20 o grwpiau troseddu cyfundrefnol oedd yn gysylltiedig â throseddau fel byrgleriaeth, cyffuriau ac arfau tanio. Dywedodd arweinydd Heddlu De Cymru ar gyfer troseddau cerbydau, y Ditectif Brif Arolygydd Chris Williams: "Mae'r ymgyrch llwyddiannus hwn yn dangos bod Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael â throseddau cerbydau.
Darllen mwy>
21/04/2026
Mae swyddogion plismona cymdogaeth ym Mlaenau Gwent wedi gorffen pythefnos o ymgyrchu llwyddiannus i ymdrin â chynnydd mewn achosion o droseddau cerbydau a dwyn yn y fwrdeistref.
Lansiwyd Ymgyrch Barium mewn ymateb i gynnydd mewn adroddiadau am ddwyn tanwydd a throseddau cerbydau ar hyd ffyrdd A, ystadau diwydiannol a safleoedd adeiladu yng Nglynebwy a Thredegar.
Nododd swyddogion fod troseddwyr yn bachu ar gyfle, yn aml yn chwilio strydoedd, busnesau ac ardaloedd preswyl am ddrysau anniogel i adeiladau a cherbydau.
Darllen mwy>
16/04/2026
Cynnwys y prif erthygl Fe wnaeth swyddogion heddlu yng Ngogledd Cymru stopio bron i 50 o yrwyr fel rhan o ymdrech barhaus i wella diogelwch ar rai o ffyrdd prysuraf y rhanbarth.
Cymerodd swyddogion o'r Uned Troseddau Ffyrdd ran yn Ymgyrch Tramline, menter plismona ffyrdd cenedlaethol sy'n defnyddio cerbyd nwyddau trwm heb ei farcio wedi ei ddarparu gan Briffyrdd Cenedlaethol. Mae'r uned HGV arbenigol yn cael ei defnyddio gan heddluoedd ledled y DU i batrolio rhwydweithiau ffyrdd allweddol, gan dargedu pob modurwr, gan gynnwys gyrwyr cerbydau masnachol.
Mae safle uchel y cab HGV yn rhoi golwg glir i swyddogion hyfforddedig o gerbydau sy'n pasio, gan ganiatáu iddynt ganfod ymddygiad gyrru peryglus. Mae troseddau yn cael eu dal ar gamera mewn amser real a'u trosglwyddo i gydweithwyr mewn cerbydau heddlu wedi'u marcio a heb eu marcio. Yna, maent yn stopio'r gyrwyr ac yn delio â'r troseddau fel bo'r galw.
Darllen mwy>
23/02/2026
Fe wnaeth swyddogion heddlu yng Ngogledd Cymru stopio bron i 50 o yrwyr -gan gynnwys gyrwyr lorïau a faniau, dros bum diwrnod yr wythnos ddiwethaf fel rhan o ymgyrch sy’n parhau i warchod modurwyr ar ffyrdd prysuraf y rhanbarth. Gan ddefnyddio cerbyd nwyddau trwm heb ei farcio, mi roedd swyddogion o’r Uned Troseddau Ffyrdd yn cymryd rhan yn Ymgyrch Tramline. Mae hon yn ymgyrch blismona genedlaethol sy’n defnyddio cerbyd nwyddau trwm sydd wedi’i ddarparu gan yr asiantaeth Priffyrdd Cenedlaethol.
Mae’r cerbyd yn cael ei ddefnyddio gan heddluoedd ar draws y wlad er mwyn patrolio’r rhwydwaith ffyrdd a thargedu gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a cherbydau masnachol. Mae lleoliad uchel caban y lori yn caniatáu swyddogion hyfforddedig weld yr hyn roedd gyrwyr yn ei wneud yn rhwydd, a roedd y troseddau’n cael eu cofnodi ar gamera.
Wedi i’r troseddau gael eu nodi, mae swyddogion yr Uned Troseddau Ffyrdd yn stopio’r cerbydau ar ochr y ffordd, neu maen nhw’n cael eu tynnu draw i fan saff er mwyn cael sgwrs.
Darllen mwy>
15/08/2022
Cynhaliwyd ymgyrch diogelwch ffyrdd yn ardal Penrhyn Llŷn ddydd Llun, 1 Awst, lle cafodd sawl tocyn cosb eu rhoi am droseddau gwregys diogelwch.
Gwnaeth swyddogion o’r Uned Plismona Ffyrdd stopio a siarad hefo sawl modurwr yn ardaloedd Abersoch, Pwllheli a Morfa Bychan fel rhan o ymdrechion parhaus i wella diogelwch ffyrdd.
Bu swyddogion yn gwirio cerbydau ac fe gafodd 30 o docynnau cosb eu rhoi i yrwyr a oedd yn gyrru heb wisgo gwregys diogelwch. Cafodd tocynnau cosb eraill eu dosbarthu am droseddau megis golau a theiars diffygiol, gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol a cheir heb blatiau rhif.
Darllen mwy>
27/05/2021
Ydych chi bob amser yn gwisgo gwregys diogelwch wrth deithio mewn cerbyd? Rydych chi ddwywaith yn fwy tebygol o farw os byddwch chi’n rhan o wrthdrawiad ac nad ydych chi’n gwisgo’ch gwregys.
Gall peidio â defnyddio gwregys fod yn benderfyniad angheuol, hyd yn oed ar siwrneiau byr, cyfarwydd pan nad ydych chi’n mynd yn gyflym. Mae’n rhaid ichi wisgo gwregys diogelwch os oes un wedi'i ffitio yn eich sedd: dim ond ychydig o eithriadau sydd. Byddwch yn ymwybodol hefyd mai dim ond un person sy’n cael bod ym mhob sedd sydd â gwregys diogelwch.
Plant
Y gyrrwr sy’n gyfrifol am sicrhau bod teithwyr o dan 14 oed yn gwisgo gwregys diogelwch neu'n defnyddio'r ataliad plentyn cywir ar gyfer taldra ac oed y plentyn.
Darllen mwy>
24/05/2021
Gwahoddir pobl ifanc hyd at 18 oed i ddylunio poster a fydd yn annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio llesol yn ddiogel, yn hybu manteision terfynau cyflymder 20 mya i gymunedau neu’n annog gyrwyr i ymddwyn yn fwy diogel ledled Cymru. Bydd Partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru yn rhannu’r cynigion buddugol ar eu sianeli yn y cyfryngau cymdeithasol.
Canllawiau’r Gystadleuaeth
- Yn ddelfrydol, dylai’r posteri fod yn A4 o ran eu maint a hynny â’r llun ar draws ac nid ar i fyny.
- Cewch greu’ch gwaith celf gan ddefnyddio fformatau digidol neu fformatau eraill.
- Dim ond un cynnig yr un sy’n cael ei ganiatáu.
- Dylech anfon eich cynigion at Diogelwch Ffyrdd Cymru, 2 Cwrt-y-Parc, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GH neu communication@roadsafetywales.org.uk.
- Rhaid i’r holl waith celf fod yn wreiddiol, rhaid iddo beidio â dod o dan gyfreithiau hawlfraint na gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolyn, cwmni neu sefydliad.
- Caiff y cynigion buddugol eu beirniadu ar sail gwreiddioldeb, creadigrwydd, effaith a’r neges sy’n cael ei chyfleu.
Bydd y cynigion buddugol yn ennill siec am £50 gan Diogelwch Ffyrdd Cymru a chaiff hyd at 5 o fuddugwyr eu dewis ar ôl i’r gystadleuaeth gau ddydd Gwener 25 Mehefin 2021.
Edrychwn ymlaen at weld eich cynnig.
Darllen mwy>
08/04/2021
Roedd cerbydau dros eu pwysau, teiars diffygiol, oriau gyrwyr a gyrru ar gyffuriau yn rhai o’r troseddau a gafodd eu datgelu yn ystod ymgyrch diogelwch y ffyrdd wythnos o hyd a gynhaliwyd.
Bu swyddogion o’r Uned Plismona Ffyrdd, yr Uned Cerbydau Masnachol, Uned Diogelwch Ffyrdd yr Heddlu Gwirfoddol a’r DVSA (Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau) yn cymryd rhan yn Ymgyrch Blue Yawn. Cafodd dros 100 o gerbydau, y rhan fwyaf ohonynt yn gerbydau masnachol, eu hebrwng i’r tri safle.
Yn ystod yr wythnos gwelwyd nifer o droseddau gan gynnwys:
Darllen mwy>