19/10/2016
Yn dilyn adolygiad o derfynau cyflymder ar ffyrdd yn y sir, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cyflwyno terfynau cyflymder newydd mewn 80 lleoliad.
Mae’r adolygiad yn defnyddio cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru a meini prawf a ddefnyddir gan y Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru. Nod y newidiadau yw gwneud ein ffyrdd yn fwy ddiogel a lleihau y nifer o anafiadau ar ein ffyrdd o fewn y sir, gan sicrhau bod terfynau cyflymder yn addas ac yn gwneud synnwyr i yrwyr.
Mae’r terfynau cyflymder yma yn cydbwyso gofynion yr holl ddefnyddwyr ar y ffordd a chymryd i ystyriaeth rhwystredigaethau potensial gyrwyr gyda gormod o gyfyngiadau a all arwain at leihad mewn diogelwch ffordd. Mae nifer o’r newidiadau yn ateb i ddymuniadau a cheisiadau gan gymunedau lleol, ac mae pob un wedi deillio o ymgynghoriad statudol.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Amgylcheddol, Asedau, Trafnidiaeth a Rheoli Carbon: “Dwi’n falch iawn i weld y newidiadau yma sydd yn ateb nifer o geisiadau trigolion, yn enwedig o gwmpas ysgolion. Mae ymchwil yn dango bod lleihau terfynau cyflymder yn lleihau anafiadau, a dyma pam gofynnais i’r gwaith gael ei flaenoriaethu. Mewn blynyddoedd i ddod, bydd pobl yn fyw ac mewn iechyd da na fyddai oni bai am y newidiadau yma.”
Darllen mwy>
18/10/2016
Erfynir ar fodurwyr yn Sir Gaerfyrddin i fod yn ofalus trwy archwilio teiars eu ceir yn rheolaidd.
Mis Hydref yw Mis Cenedlaethol Diogelwch Teiars ac mae’r uned diogelwch ffyrdd yn y Cyngor yn annog gyrwyr i archwilio’u teiars, yn enwedig cyn siwrneiau hir. Mae’r neges yn syml: Peidiwch â mentro – ewch ati i archwilio!
Dylai gyrwyr wneud yn siŵr bod y pwysedd aer yn eu teiars yn gywir a’u newid pan fyddant wedi gwisgo neu wedi’u difrodi.
Darllen mwy>
04/10/2016

Ni fydd yr oedi cyn dechrau’r ymchwiliad cyhoeddus ar Brosiect arfaethedig ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, a achoswyd o ganlyniad i weithredu gan Lywodraeth Prydain, yn cael effaith ar ddyddiad cwblhau y prosiect yn 2021, addawodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith heddiw.
Mae swyddogion Llywodraeth Prydain yn yr Adran Drafnidiaeth, wedi cyflwyno dull newydd o gynnal eu rhagolygon twf newydd, newid annisgwyl nad oeddent wedi ei rannu ymlaen llaw â Llywodraeth Cymru, sydd wedi golygu bod oedi cyn dechrau’r ymchwiliad.
Darllen mwy>
15/08/2016
Amcangyfrifir bod blinder yn cyfrannu at 20% o wrthdrawiadau traffig y ffyrdd. Mae’r mathau hyn o wrthdrawiadau yn dueddol o fod yn wrthdrawiadau cyflymder uwch sy’n arwain at farwolaethau neu anafiadau difrifol, oherwydd ni all gyrrwr sydd wedi syrthio i gysgu frecio neu wyro.
Mae cysgadrwydd yn lleihau amser ymateb, sy’n elfen hollbwysig o yrru diogel, ac mae’n lleihau effrogarwch a chanolbwyntio. Amharir ar y gallu i gyflawni gweithgareddau sy’n seiliedig ar sylw, megis gyrru neu reidio, a gellir effeithio’n ddifrifol ar y gallu i wneud penderfyniadau oherwydd nid oes modd i rywun sydd wedi blino brosesu gwybodaeth yn gyflym.
Dywedodd Susan Storch, Cadeirydd Diogelwch y Ffyrdd Cymru, “Bydd gyrwyr a beicwyr modur yn ymwybodol eu bod nhw’n teimlo’n gysglyd, a rhaid iddynt wneud penderfyniad ymwybodol i stopio am seibiant. Mae anwybyddu neu amcangyfrif yn rhy isel beryglon parhau â thaith pan fyddwch wedi blino yn naïf ac anghyfrifol.”
Darllen mwy>
11/08/2016
Dros 9,000 o brofion anadl a dros 190 o brofion cyffuriau’n cael eu cynnal yn ystod Ymgyrch Cymru Gyfan
Cynhaliwyd yr ymgyrch o ddydd Gwener 10 Mehefin tan ddydd Sul 10 Gorffennaf, dan arweiniad Heddlu Dyfed-Powys. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gweinyddwyd 9,532 prawf anadl yng Nghymru, ac roedd 313 o’r profion hynny’n bositif, neu roedd y rhai a stopiwyd wedi gwrthod neu fethu darparu sampl. Cynhaliwyd 199 prawf cyffuriau, gyda 131 yn profi’n bositif ar gyfer cyffuriau.
Mae’r drosedd o yfed alcohol neu gymryd cyffuriau a gyrru’n un o’r “5 angheuol”; y pum trosedd sy’n medru arwain at farwolaeth neu anaf difrifol ar ein ffyrdd. Y gweddill yw gyrru diofal, goryrru, peidio â gwisgo gwregys, a defnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Darllen mwy>
01/06/2016
Gyrrwr ifanc o Gwmbrân yw enillydd lwcus £250 gan Pass Plus Cymru ar ôl cymryd cwrs gyrru uwch i wella ei sgiliau. Fe wnaeth Lauren Dockree deunaw oed o Groesyceiliog basio ei phrawf gyrru yn 2015 a dilyn cwrs Pass Plus Cymru i ennill profiad ychwanegol.
Mae'r cwrs ar gael i yrwyr 17 oed - 25 oed, gyda'r bwriad o helpu gyrwyr ifanc i fod yn fwy diogel ar y ffyrdd.
Mae'n canolbwyntio ar dechnegau gyrru uwch fel gyrru yn y nos, ar y draffordd, drwy lonydd gwledig neu drefi prysur.
Darllen mwy>
18/04/2016
Mae Cyngor Sir Powys yn annog gyrwyr y sir i gario cerdyn syn cynnwys gwybodaeth a allai achub eu bywyd pe byddent ewn damwain. Mae Uned Diogelwch ar y ffyrdd y cyngor am i yrwyr fod yn rhan o’i fenter ddiweddaraf, sef cynllun y ‘Triongl Melyn’. Mae dwy elfen i’r cynllun, cerdyn ‘Eich Manylion’ a sticer triongl melyn.
Bydd y cerdyn ‘Eich Manylion’ yn cael ei lenwi gan y gyrrwr ac yn cynnwys gwybodaeth am eu perthynas agosaf, unrhyw gyflwr meddygol perthnasol, alergeddau a meddyginiaethau er mwyn helpu’r gwasanaethau brys mewn argyfwng.
Bydd triongl melyn yn dod gyda’r cerdyn. Rhaid arddangos hwn ar waelod y ffenestr flaen yn y gornel chwith mewn man lle na fydd yn amharu ar allu’r gyrrwr i weld trwy’r ffenestr.
Darllen mwy>
24/03/2016
Cynhaliwyd ymgyrch er mwyn gwirio ysgolion gyrru, ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a’r DVSA Driving School Car(Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau), yn ardal Bangor ddoe (dydd Mercher, Mawrth 23ain).
Yn ystod gwiriadau ochr y ffordd, cafodd cerbydau gyda phlatiau ‘L’ neu ‘D’ a cherbydau ysgolion gyrru eu stopio er mwyn gwirio cymwysterau’r tiwtoriaid gyrru.
Cafodd un dyn ei arestio ar amheuaeth o dwyll ac am gymryd tâl am weithio fel tiwtor heb fod ganddo’r cymwysterau cywir na chaniatâd gan y DVSA. Mae eisoes wedi derbyn rhybudd.
Darllen mwy>
25/01/2016
Cynhaliwyd yr ymgyrch gan y Bartneriaeth Diogelwch y Ffyrdd y tu allan i Ysgol Llechyfedach, Tymbl Uchaf, o 11 i 15 Ionawr. Cafodd yr ymgyrch ei chynnal gan Uned Plismona’r Ffyrdd Sir Gaerfyrddin, Partneriaeth Camerâu Diogelwch GanBwyll a Thîm Plismona Bro Cross Hands, a dreuliodd wythnos y tu allan i’r ysgol ar amserau allweddol. Darparodd swyddogion bresenoldeb amlwg y tu allan i’r ysgol, gan gynnal mesurau ataliol ynghyd â gorfodi ac addysgu modurwyr.
Dywedodd Ian Price, Rhingyll Plismona’r Ffyrdd Sir Gaerfyrddin, “Roedd hon yn ymgyrch llwyddiannus a oedd yn canolbwyntio ar leihau anafiadau. Ymdriniwyd â materion diogelwch y ffyrdd yn gadarnhaol gan roi hyder i’r gymuned a rhieni bod plant ysgol yr ardal yn medru cerdded i’r ysgol ac yn ôl yn fwy diogel o wybod bod camau gweithredu cadarnhaol wedi’u cymryd i addysgu modurwyr. Bwriedir cynnal ymgyrchoedd tebyg yn Sir Gaerfyrddin dros yr wythnosau nesaf.”
Cynhaliwyd y gweithgaredd yn dilyn pryderon cymunedol ynghylch canlyniadau arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, a oedd yn dangos bod modurwyr yn anwybyddu’r cyfyngiad cyflymder o 20mya. Cafwyd bod oddeutu 85% o fodurwyr yn gyrru’n gynt na 30mya. Cofnodwyd y cyflymderau hyn yn ystod oriau brig ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
Darllen mwy>
06/01/2016
Mae’r Arolygydd Gary Jones yn parhau â’i gyngor ar gyfer gyrru adeg y gaeaf. Mae pawb ohonom wedi profi glaw trwm dros yr wythnosau diwethaf, a disgwylir i hyn barhau ar gyfer gweddill yr wythnos hon. Os gwelwch chi’n dda, darllenwch y cyngor isod.
Gall gyrru adeg glaw trwm fod yn beryglus.
Cyn cychwyn:
Darllen mwy>