19/04/2021
Mae rhagor o waith wedi cael ei wneud ar gynllun teithio llesol dros dro yn Llangollen.
Yn rhan o’r cynllun yng nghanol y dref, mae llinellau gwyn wedi cael eu paentio naill ochr i’r cyrbau a bolardiau rwber dros dro i’w gwneud nhw’n fwy amlwg.
Cafodd y cynllun dros dro ei gyflwyno er mwyn hwyluso mesurau cadw pellter cymdeithasol a’i gwneud hi’n haws i bobl deithio’n llesol yng nghanol y dref.
Darllen mwy>
13/04/2021
Mae gwaith diogelwch ffyrdd wedi dechrau ar draws pont mewn cymuned yn Abertawe mewn ymgais i atal damweiniau.
Mae pont y rheilffordd sy'n croesi Pentre Road ger Pontarddulais, pont a berchnogir gan Network Rail, ar gau i draffig ar hyn o bryd wrth iddynt gwblhau gwaith cynnal a chadw.
Mae Cyngor Abertawe wedi bod mewn trafodaethau â Network Rail ers hynny ac wedi datblygu cynllun diogelwch ffyrdd i osod palmant ar draws y bont i helpu cerddwyr i'w chroesi'n ddiogel pan fydd yn ailagor.
Darllen mwy>
23/03/2021
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn lansio cynllun peilot mewn ysgol yn y Rhyl i wella diogelwch ar y ffyrdd a lleihau llygredd aer.
Yn y prosiect Strydoedd Ysgol bydd y ffordd ar gau dros dro y tu allan i Ysgol Llywelyn rhwng 8.30am a 9.15am a rhwng 2.30pm a 3.30pm.
Bydd hyn yn digwydd rhwng Mawrth 22 a 26 a rhwng Ebrill 12 ac 16 a bydd y gostyngiad mewn traffig a phroblemau parcio’r tu allan i giatiau’r ysgol yn gwella diogelwch a’r ansawdd aer o amgylch safle’r ysgol.
Darllen mwy>
20/03/2021
Bydd cynlluniau teithio llesol a gyhoeddwyd heddiw yn derbyn hwb ariannol o fwy na £53 miliwn eleni fel rhan o ymdrechion pellach i annog teithio iach - gyda mwy nag £20 miliwn i ddilyn.
Mae'r gyllideb bwrpasol ar gyfer teithio llesol wedi codi o £5 miliwn ers dechrau'r tymor hwn gan Lywodraeth Cymru, y mae Lee Waters wedi'i ddisgrifio fel tystiolaeth o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni'r weledigaeth yn ei strategaeth drafnidiaeth newydd.
Bydd 44 o gynlluniau mwy a phecynnau o gynlluniau mewn awdurdodau lleol yn cael eu hariannu drwy gyfran gyntaf y Gronfa Teithio Llesol eleni, gwerth £47 miliwn. Yn y swm hwn mae hefyd 'dyraniad craidd' gwerth £14 miliwn a rennir ymhlith yr holl awdurdodau lleol.
Darllen mwy>
10/03/2021
Bydd gwaith i ehangu'r llwybr ar Ffordd Llanidloes yn Y Drenewydd i'r coleg a'r theatr yn cychwyn wythnos nesaf, 15 Mawrth 2021.
Trwy nawdd gan Lywodraeth Cymru, bydd y gwaith hyn yn gorffen y prif lwybrau Teithio Llesol yn y dref a enwyd yn flaenorol yn dilyn ymgynghoriadau â thrigolion, busnesau a chymunedau lleol. Bydd y llwybrau Teithio Llesol hyn yn Y Drenewydd yn creu rhwydwaith diogel o lwybrau i bawb gan gynnwys cerbydau, cerddwyr a seiclwyr.
Fel rhan o'r gwaith gwella, bydd y llwybr dan Bont Nantoer yn cael ei lledu a fydd yn lleihau'r risg i gerddwyr a seiclwyr yn sylweddol (yn arbennig pobl ifanc sy'n cerdded i'r coleg ac yn ôl).
Darllen mwy>
19/02/2021
Mae cynlluniau ar gyfer terfyn cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr ar ffyrdd Cymru wedi symud gam yn nes wrth i wyth ardal beilot i dreialu'r newid gael eu cadarnhau.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, y bydd y symud yn lleihau damweiniau ac yn achub bywydau.
Bydd yr ardaloedd peilot yn cael cychwyn fesul cam o'r haf hwn tan ddiwedd y flwyddyn. Maent i ddod cyn cyflwyno'r cynllun cenedlaethol yn Ebrill 2023, a byddant yn helpu i ddatblygu trefniadau gorfodi a goresgyn unrhyw faterion annisgwyl cyn eu cyflwyno'n llawn.
Darllen mwy>
18/02/2021
Mae Ymgynghoriad Map Rhwydwaith Teithio Llesol Ynys Môn nawr ar agor - Helpwch ni i nodi rhwystrau a gwelliannau i’r llwybrau cerdded a beicio llesol.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ymgynghori ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol fel rhan o’i ddyletswyddau dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Pwrpas cam hwn yr ymgynghoriad yw ceisio awgrymiadau gan y cyhoedd er mwyn nodi rhwystrau a gwelliannau i’r rhwydwaith beicio a cherdded er mwyn cael mynediad at waith, addysg a gwasanaethau allweddol fydd yn cynyddu’r newid mewn dulliau teithio tuag at deithio mwy cynaliadwy. Er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw’r Ddeddf Teithio Llesol yn cynnwys llwybrau sydd at ddefnydd hamdden yn unig.
Darllen mwy>
15/02/2021
Bydd gwaith yn dechrau i gyflwyno cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yng Nghilfynydd – er mwyn symud croesfan i gerddwyr, gwella troedffyrdd mewn sawl lleoliad a chyflwyno terfyn cyflymder o 20mya trwy'r pentref.
Bydd gwaith i gyflawni'r cynllun, sy'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru trwy grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, yn dechrau ddydd Llun, 15 Chwefror, a bydd y gwaith yn para hyd at wyth wythnos. Mae'n dilyn ymgynghoriad y Cyngor â thrigolion, gafodd ei gynnal rhwng mis Rhagfyr a mis Ionawr. Mae modd gweld rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cynlluniau manwl o'r cynigion, ar wefan y Cyngor.
Mae'r cynllun yn cynnwys tair prif elfen, sef:
Darllen mwy>
09/02/2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu pecyn cyllido gwerth £55 miliwn i Gynghorau i annog pobl i deithio’n iachach ar gyfer teithiau lleol byr.
Mae’r hwb ariannol digynsail yn fuddsoddiad un-ar-ddeg gwaith yn fwy na’r buddsoddiad mewn Teithio Llesol yn y bum mlynedd ddiwethaf.
Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, “Rydyn ni am ei gwneud yn haws i bobl deithio bob dydd mewn ffyrdd sy’n helpu’r amgylchedd.”
Darllen mwy>
28/01/2021
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dechrau gosod technoleg ddigyffwrdd ar chwe chroesfan brysur i gerddwyr, yn rhan o gynllun peilot sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi mesurau trafnidiaeth gynaliadwy wrth ymateb i COVID-19.
Bydd y cynllun newydd yn golygu y bydd modd i gerddwyr roi llaw o dan synhwyrydd ar y croesfannau yma yn lle gwthio botwm. Mae'r dechnoleg synhwyro yma'n fwy dibynadwy ac effeithlon na'r system gwasgu botwm gyfredol, a bydd yn helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu yn ystod y pandemig.
Bydd cynllun peilot y dechnoleg yma'n para am gyfnod o bedair wythnos. Bydd y cyfnod yn dechrau ddydd Llun 25 Ionawr. Bydd sticeri ac arwyddion yn cael eu gosod wrth bob croesfan i wneud cerddwyr yn effro i'r dechnoleg newydd. Bydd y rhain yn cael eu gosod cyn y bydd modd defnyddio'r dechnoleg - erbyn diwedd yr wythnos gobeithio. Os na fydd unrhyw broblemau'n codi yn y cyfnod yma, mae'n bosibl bydd y dechnoleg yn cael ei gosod ar bob croesfan wedi'i rheoli drwy signal yn Rhondda Cynon Taf.
Darllen mwy>