07/05/2026
Bwriedir i lwybr cerdded newydd sbon ar lan yr afon ar gyfer cerddwyr a beicwyr gael ei ddatblygu fel rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn trafnidiaeth yn Abertawe.
Mae'r cynlluniau ar gyfer glannau afon Tawe'n rhan o becyn o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn trafnidiaeth a fydd yn helpu i greu llwybrau trafnidiaeth newydd, yn gwella diogelwch ar y ffyrdd, yn gwella cysylltiadau cludiant cyhoeddus yn ogystal â rhoi hwb i isadeiledd ar gyfer cerbydau trydan, ac yn datblygu cynlluniau atal llifogydd ar ffyrdd sy'n dioddef o lifogydd ynysig yn rheolaidd.
Bydd £6.7 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn Abertawe yn 2026/27 gyda chyllid pellach wedi'i sicrhau ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol. Un o'r prif gynlluniau a fydd yn elwa o'r buddsoddiad yw datblygu Llwybr Glannau Afon Tawe newydd sbon a fydd yn cynnwys llwybr cerdded a beicio milltir o hyd a adeiladwyd at y diben ar hyd glannau'r afon rhwng canol y ddinas a Stadiwm Swansea.com.
Darllen mwy>
13/03/2026
Bydd dau ar bymtheg o gysgodfannau beiciau newydd yn cael eu gosod ledled Caerdydd i helpu trigolion i barcio eu beiciau yn ddiogel heb orfod dod â nhw i'w cartrefi.
Bydd y cysgodfannau, sy’n yn darparu lle i chwe beic wrth gymryd lle hanner man parcio’n unig, yn cael eu gosod ar strydoedd preswyl yn Nhreganna, Glan-yr-afon, Plasnewydd, Cathays a'r Sblot yn ddiweddarach y mis hwn. Nod y cynllun yw gwneud parcio beiciau yn fwy cyfleus a diogel, fel y gall trigolion gael mynediad i'w beiciau yn haws, er mwyn annog pobl i feicio, yn hytrach na defnyddio eu car preifat.
Ar ôl ymgynghori â thrigolion ym mis Awst 2025, nodwyd 17 lleoliad o restr gychwynnol o 50 o safleoedd posib. Cynhaliwyd ymgysylltu pellach rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Ionawr 2025, gan ganiatáu i drigolion godi cwestiynau a phryderon, sydd bellach wedi'u datrys. Gwnaed penderfyniad i fwrw ymlaen â cham cyntaf y cynllun.
Darllen mwy>
17/02/2026
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gofyn i breswylwyr ac ymwelwyr roi’u hadborth ynghylch gwelliannau arfaethedig i lwybrau cerdded, olwyno a seiclo ar draws Sandfields ac ardal glan y môr yn Aberafan.
Am y Prosiect
Nod y Prosiect Gwelliannau i Deithio Llesol a Mannau Cyhoeddus yn Sandfields, sy’n 4.7km o faint, yw gwneud teithiau beunyddiol, fel mynd i’r ysgol, i’r siopau, i’r gwaith neu i’r traeth, yn haws a mwy diogel heb fod angen car.
Bydd y cynllun yn creu llwybr parhaus, hygyrch i gysylltu glan y môr â Llwybr 4 o’r Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol ar ffordd ddeuol Ffordd Afan, gan ffurfio llwybr cylchol.
Darllen mwy>
16/02/2026
Disgwylir i'r gwaith lledu llwybrau troed yn Llandrindod a Llangatwg, a gyflwynir fel rhan o'r fenter Teithio Llesol, ddechrau ddydd Llun 23 Chwefror 2026.
Yn Llandrindod, bydd y gwaith yn digwydd ar hyd Ffordd Wellington (yr A483), gan ddechrau ychydig y tu hwnt i ystâd Ridgbourne ac yn ymestyn i'r gilfan ar ochr ddwyreiniol y ffordd. Mae'r cam hwn o'r cynllun yn ffurfio cam nesaf y Cynllun Teithio Llesol o Landrindod i Hawy, sy'n cael ei gyflawni ar ran Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru. Ar ôl ei gwblhau, ni fydd unrhyw golled o lefydd parcio ar y stryd a dim lleihad yn lled y ffordd.
Yn Llangatwg, bydd y gwaith yn digwydd o ymyl ogleddol Pentref Llangatwg i Bont Crucywel. Mae'r cynllun yn rhan o gynllun teithio llesol ehangach sy'n anelu rhwng Ysgol Uwchradd Crucywel a Llangatwg. Ar hyn o bryd, nid yw'r gwaith yn cynnwys unrhyw rannau pellach ym mhentref Llangatwg.
Darllen mwy>
14/01/2026
Mae Cyngor Abertawe'n ceisio barn preswylwyr am osod unedau storio beiciau diogel ar draws y ddinas.
Gan ddefnyddio arian grant o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, mae'r cyngor yn bwriadu gosod nifer o storfeydd beiciau mewn ardaloedd preswyl, lle mae'r angen mwyaf amdanynt.
Mae'r storfeydd beiciau Cyclehoop blaengar a diogel eisoes yn cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o'r DU ac maent yn darparu dewis arall ar gyfer beicwyr sy'n cael trafferth dod o hyd i le storio yn eu cartrefi. Mae pob storfa wedi'i wneud o ddur solet a gall storio hyd at chwe beic. Bydd preswylwyr yn gallu cofrestru a rhentu lle ar gyfer eu beic. Mae ymgynghoriad bellach wedi dechrau a gall preswylwyr yn y ddinas gymryd rhan rhwng nawr a 25 Ionawr 2026.
Darllen mwy>
28/11/2025
Datganiad Ysgrifenedig: Ymgynghoriad ar ganllawiau diwygiedig y Ddeddf Teithio Llesol Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Rwy'n cyhoeddi ein Canllawiau Deddf Teithio Llesol wedi'u diweddaru ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Rydym yn adolygu'r canllawiau hyn i wella ansawdd cynlluniau cerdded, olwyno a beicio, gan sicrhau eu bod yn hygyrch ac wedi'u cynllunio gyda chynhwysiant wrth eu gwraidd.
Mae ein dull o ddiweddaru'r canllawiau yn cyd-fynd â'n huchelgeisiau a nodir yn "Teithio i Bawb", gyda'r nod o wneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth. Mae'r canllawiau diwygiedig drafft yn adlewyrchu adborth a gasglwyd gennym gan ddefnyddwyr y canllawiau cyfredol, tystiolaeth newydd, yn ogystal â newidiadau polisi a rheoleiddiol ers ei gyhoeddi yn wreiddiol.
Darllen mwy>
12/11/2025
Bydd Ymgynghoriad Map Rhwydwaith Teithio Egnïol (ATNM) yn rhedeg tan 2025 a 2026 Rydym am ddarparu rhwydwaith i Fro Morgannwg sy'n caniatáu i gerdded, teithio ar olwynion a beicio ddod yn ffordd fwyaf naturiol a normal o deithio o gwmpas ar gyfer siwrneiau lleol. A thrwy wneud hynny, hyrwyddo iechyd a lles pawb a gwneud ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd mwy bywiog.
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu llwybrau cerdded, teithio ar olwynion a beicio yn rheolaidd. Cymeradwywyd ein map presennol gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022, ac mae'n bryd nawr adlewyrchu'r newidiadau a'r gwelliannau a wnaed dros y tair blynedd diwethaf.
Rydym yn adolygu ac yn mireinio'r ATNM i gynnwys:
Darllen mwy>
22/10/2025
Mae Trafnidiaeth Cymru, tîm Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Llywodraeth Cymru a Chynghorau Bwrdeistref Sirol Torfaen a Sir Fynwy yn cydweithio i ddarparu llwybr newydd diogel a hygyrch y gall pawb yn y gymuned ei ddefnyddio i gerdded, olwynio neu feicio i gyrchfannau rhwng Pont-y-pŵl yn Nhorfaen drwodd i Frynbuga yn Sir Fynwy.
Mae Trafnidiaeth Cymru am glywed gan drigolion ac ymwelwyr â'r ardal am eu barn ar y dyluniad a'r llwybr arfaethedig fel ei fod yn diwallu anghenion pawb sydd am ei ddefnyddio, cyn belled ag y bo modd.
Bydd yr arolwg ar agor tan 27 Hydref 2025. dweudeichdweud.trc.cymru/pont-y-pwl-brynbuga
Darllen mwy>
06/10/2025
Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer Pont Teithio Llesol Llan-ffwyst i Ddolydd y Castell. Mae’r cadarnhad hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn uchelgeisiau’r cyngor i alluogi pobl i gerdded, olwyno a seiclo yn hytrach na defnyddio’u car rhwng Llan-ffwyst a chanol tref y Fenni.
Gyda buddsoddiad o £10.4 miliwn o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, mae’r cyngor wedi penodi Balfour Beatty fel y prif gontractwr i ddechrau cyflenwi’r cynllun.
Er bod cost cynllun strategol llawn, gwreiddiol y Fenni wedi’i amcangyfrif yn oddeutu £20 miliwn, mae’r prosiect wedi’i gynllunio i ganolbwyntio ar gyflawni’r groesfan Teithio Llesol, blaenoriaeth glir i’r gymuned sy’n cyd-fynd â’r cyllid presennol sydd ar gael.
Darllen mwy>
25/04/2025
Mae fideo 3D newydd o’r awyr wedi cael ei gynhyrchu gan Gyngor Sir Ceredigion i ddangos sut fydd y cynigion ar gyfer cynllun Teithio Llesol Waunfawr i IBERS yn cysylltu cymunedau Penrhyn-coch a Bow Street drwy Gomins Coch.
Bydd y cynllun yn darparu dolen gyswllt ‘Campws i Gampws’ ar gyfer staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a hynny rhwng campws Penglais a champws newydd Arloesi a Menter Aberystwyth (AIEC) ym Mhlas Gogerddan.
Mae’r fideo hefyd yn dangos cynigion eraill sydd wrthi’n cael eu datblygu ar gyfer Llwybrau’r Dyfodol, gyda’r nod o gysylltu â’r Llwybrau Presennol rhwng canol tref Aberystwyth a’r cymunedau cyfagos. Mae’n rhoi trosolwg o’r rhwydwaith ehangach ar gyfer cerdded a beicio, a’n gweledigaeth ni o gysylltu pobl gyda gwasanaethau a lleoliadau addysg a gwaith yn Aberystwyth.
Darllen mwy>