Newyddion

08/02/2021

Canlyniadau Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru a Gyrru ar Gyffuriau dros y Nadolig

Mae dros 100 o arestiadau wedi cael eu gwneud ar draws gogledd Cymru fel rhan o Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru a Gyrru ar Gyffuriau dros gyfnod y Nadolig.

Roedd yr ymgyrch mis o hyd o 1 Rhagfyr 2020 hyd at 1 Ionawr 2021, yn rhan o ymgyrch cenedlaethol gan CCPSH (Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu). Yng ngogledd Cymru cafodd 129 o fodurwyr eu harestio gyda 47 yn methu prawf anadl a 82 yn rhoi prawf positif am gyffuriau.

Dywed y Prif Arolygydd Jon Aspinall, o Wasanaethau Cefnogi Gweithredol yr Heddlu, “Er bod llai o bobl wedi cael eu dal yn yfed a gyrru neu’n gyrru ar gyffuriau dros gyfnod Nadolig 2020, mae’n rhaid cydnabod fod y pandemig coronafeirws yn ffactor yn hyn.

Darllen mwy>


20/01/2021

Bu dros 100 o arestiadau gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ym mis Rhagfyr

Arestiodd Heddlu Gwent 109 o bobl ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn rhan o ymgyrch Nadolig diogelwch ar y ffyrdd yr heddlu.

Ymunodd swyddogion o Heddlu Gwent â heddluoedd ledled Cymru, a'r DU, i gynnal archwiliadau cerbydau dan arweiniad cudd-wybodaeth ar ffyrdd o fewn ardal yr heddlu rhwng dydd Mawrth 1 Rhagfyr a dydd Iau 31 Rhagfyr.

Yn ystod cyfnod yr ymgyrch, roedd mwy na hanner y modurwyr a gafodd eu harestio am droseddau gyrru oedd yn gysylltiedig â chyffuriau o dan 30 oed, ac roedd mwyafrif y modurwyr hŷn – dros 30 oed – wedi’u harestio am yfed a gyrru.

Darllen mwy>


14/01/2021

Heddlu Dyfed-Powys i lansio ymgyrch Genedlaethol ‘5 Angeuol’ fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar Ddiogelwch Ffyrdd

Ddydd Mawrth 19eg Ionawr 2021, bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn yn cynnal diwrnod ymgysylltu cymunedol rhithiol a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar Ddiogelwch Ffyrdd, lle bydd Heddlu Dyfed-Powys yn lansio ymgyrch genedlaethol, 5 Angeuol.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn arwain ar lefel genedlaethol ar yr ymgyrch 5 Angeuol, sy'n canolbwyntio ar y pum llinyn sy'n ymwneud â'r prif ffactorau sy’n dueddol o arwain at wrthdrawiadau angheuol a gwrthrawiadau lle ceir anafiadau difrifol, sef yfed a gyrru / cyffuriau; goryrru; ddim yn gwisgo gwregys diogelwch; defnyddio ffôn symudol; gyrru diofal.

Bydd yr Ymgyrch yn cael ei lansio gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn fyw ar Facebook, yn ystod ei ddarllediad byw cyntaf o’r flwyddyn, ddydd Mawrth Ionawr 19eg lle bydd ACC Mark Travis o Heddlu De Cymru yn ymuno ag ef, sef Arweinydd Strategol ar gyfer Plismona Ffyrdd yng Nghymru, a Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GoSafe.

Darllen mwy>


07/12/2020

Cadwch yn ddiogel wrth deithio y Nadolig hwn drwy ddilyn rheolau'r ffyrdd

Nid oes dianc rhag y ffaith fod 2020 wedi bod yn anodd – gyda chyfyngiadau symud lleol a chenedlaethol a chyfyngiadau ar deithio – i bawb. Er y bydd y Nadolig yn teimlo'n wahanol eleni, mae rheolau'r ffordd yn dal i fod yr un fath.

Mae Heddlu Gwent yn atgoffa modurwyr i gadw'n ddiogel drwy barhau i ddilyn rheolau'r ffordd – a fydd yn dal i fod yr un fath – y Nadolig hwn.

Er efallai y bydd y ffyrdd yn dawelach nag arfer, disgwylir y bydd prif ffyrdd ac is-ffyrdd yn brysurach rhwng dydd Mercher 23 Rhagfyr a dydd Sul 27 Rhagfyr wrth i bobl deithio o amgylch Cymru a'r DU yn ehangach i ymweld â'u teuluoedd ar gyfer y Nadolig.

Darllen mwy>


21/09/2020

Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid

Mae Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid yn cael ei chynnal rhwng 21 a 27 Medi 2020, a nod yr wythnos yw hybu pwysigrwydd iechyd y llygaid a’r angen am brofion llygaid rheolaidd.

Mae golwg dda yn hanfodol wrth ichi ddefnyddio’r ffordd, waeth beth fo’ch oedran. Rhaid i yrwyr a beicwyr modur allu darllen plât cofrestru cerbyd o bellter o 20 metr (neu 20.5 metr os cafodd y cerbyd ei gofrestru cyn Medi 2001) gan wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd os oes eu hangen.

Os ydych yn ei chael yn anodd darllen arwyddion ffordd, yn enwedig y rhai â thestun arnynt, gallai hynny fod yn arwydd bod eich golwg wedi dirywio ac y gall fod angen lensys i gywiro’ch golwg. Os ydych yn ei chael yn anos gweld yn glir yn y tywyllwch, fe allai hynny hefyd olygu bod angen ichi wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd.

Darllen mwy>


14/05/2020

Cystadleuaeth Cyfryngau Cymdeithasol

I hyrwyddo neges y Pump Peryglus, gwahoddir ysgolion, colegau a mudiadau ieuenctid i greu, perfformio a recordio ffilm fer a fydd yn rhybuddio pobl o beryglon a chanlyniadau yfed a gyrru/gyrru ar gyffuriau, gyrru'n rhy gyflym, gyrru'n ddiofal, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a defnyddio ffôn symudol wrth yrru. Bydd y ffilmiau byr buddugol yn cael eu rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r Pump Peryglus. 
 
Canllawiau’r Gystadleuaeth

1. Dylai aelodau'r tîm fod rhwng 11 a 25 oed. 

2. Rhaid i'r cyflwyniad bara am lai na 30 eiliad a gall gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
- Perfformiad cerddorol
- Drama/Sgetsh
- Barddoniaeth/Anerchiad
- Animeiddio
- Rhaglen ddogfen
- Comedi
- Dawnsio  

Darllen mwy>